Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r cyllid blynyddol ar gyfer un o raglenni Llywodraeth Cymru, sy’n helpu i wella iechyd y geg ymysg pobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal, wedi cael ei ddyblu i hanner miliwn o bunnoedd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Rhagfyr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bellach bydd yn bosibl cynnig y rhaglen i bob cartref gofal yng Nghymru o 2020/21. 

Ar hyn o bryd, mae’r rhaglen Gwên am Byth (A Lasting Smile) sy’n gweithio i wella iechyd y geg mewn dros 52% o gartrefi gofal ar draws y saith bwrdd iechyd. Bydd y buddsoddiad newydd yn golygu y bydd holl gartrefi gofal Cymru yn cael eu gwahodd i ymuno â’r rhaglen o’r flwyddyn nesaf. 

Mae iechyd y geg llawer o’r preswylwyr yn wael neu’n annigonol pan maent yn symud gyntaf i’w cartref gofal, yn aml o ganlyniad i iechyd sy’n gwaethygu ac anawsterau symudedd yn ystod y blynyddoedd cyn hynny. 

Mae’r rhaglen wedi  helpu i wella iechyd y geg ymysg pobl hŷn, ac wedi helpu’r rheini sydd â dementia nad ydynt wedi gallu dweud wrth eraill bod ganddynt boen yn eu dannedd. 

Bydd y cyllid ychwanegol hefyd yn helpu staff y rhaglen i chwilio am ffyrdd o roi rhagor o gymorth i bobl hŷn agored i niwed sy’n byw yn eu cartrefi eu hunain. 

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething:

Mae gofalu am ein dannedd yn flaenoriaeth drwy gydol ein bywyd. Mae sicrhau bod iechyd y geg yn foddhaol yn gallu rhoi hwb i iechyd a lles pobl. O ganlyniad i’r cyllid ychwanegol a gafodd ei gyhoeddi heddiw, bydd bod pobl hŷn o bob rhan o Gymru yn cael y cyfle i elwa ar y rhaglen. Fel gwlad sy’n deall dementia, mae’n dda gen i glywed bod y cynllun yn sicrhau gwelliant ar gyfer rhai o’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas.