Neidio i'r prif gynnwy

I nodi Dydd Gŵyl Dewi heddiw, dathliad nawddsant Cymru, mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ‘Cymru yn India’ i gryfhau cysylltiadau a chyfleoedd rhwng y ddwy wlad.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Mawrth 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ddoe, lansiodd y Prif Weinidog Mark Drakeford a’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Eluned Morgan y fenter blwyddyn o hyd mewn digwyddiadau Dydd Gŵyl Dewi yn Uchel Gomisiwn India Llundain ac ym Mumbai, ddoe.

Mae Cymru yn India yn gyfres 12 mis o ddigwyddiadau sy’n dathlu’r cysylltiadau rhwng y ddwy wlad, yn enwedig ar draws celf a diwylliant, addysg, iechyd, busnes a hawliau dynol.

Yn ogystal â chryfhau'r cysylltiadau rhwng Cymru ac India, bydd yn helpu i feithrin cyfleoedd masnachu a buddsoddi newydd, hyrwyddo cysylltiadau diwylliannol a chwaraeon a chadarnhau cydweithrediadau academaidd a gofal iechyd.

I roi hwb i'r rhaglen, mae Eluned Morgan yn arwain dirprwyaeth o Gymru i India.

Un ffocws allweddol ar gyfer ymweliad y Gweinidog yw polisïau blaengar ar hawliau LHDTC+ a brwydro yn erbyn trais ar sail rhywedd. Mae’n dechrau ei hymweliad wythnos o hyd trwy gwrdd ag aelodau o’r gymuned LHDTC+, gan gynnwys trefnwyr Pride, diplomyddion, gweithredwyr priodas cyfartal a Thywysog hoyw agored cyntaf India, Ei Uchelder Manvendra Singh Gohil.

Mae Cymru eisoes yn gweithio'n agos gyda llywodraeth talaith Maharashtra yn India, sy'n gartref i 114m o bobl. Mae’r wladwriaeth yn edrych ar sut y gall lunio ei fersiwn ei hun o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol - mae Cymru wedi cael ei chanmol gan y Cenhedloedd Unedig am fod yr unig wlad yn y byd i ddeddfu i sicrhau bod yn rhaid i Weinidogion a chyrff cyhoeddus ystyried yr effeithiau hirdymor o'u penderfyniadau.

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:

“Mae gennym ni gymaint o gysylltiadau rhyfeddol ag India a’r cymunedau Indiaidd niferus sy’n byw yng Nghymru. Drwy gydol y flwyddyn hon o Gymru yn India, byddwn yn dyfnhau ein gwerthfawrogiad a’n cyd-ddealltwriaeth, gan arddangos ein partneriaethau sydd wedi’u gwreiddio’n ddwfn a meithrin cysylltiadau newydd.

“Mae’r gyfres o ddigwyddiadau ac ymweliadau rydym wedi’u cynllunio yn anelu nid yn unig i dyfu masnach a buddsoddiad, ond i gryfhau ein cysylltiadau diwylliannol, academaidd, artistig a chwaraeon ac i ddatblygu ein huchelgeisiau gofal iechyd a llesiant.

“Mae Cymru yn India wir yn ddathliad o ddwy wlad o ddiwylliant ac arloesedd, ac edrychaf ymlaen at weld yr effeithiau cadarnhaol y bydd y rhaglen gyfoethog hon yn ei chael yn 2024 a thu hwnt.”

Dywedodd Ei Ardderchowgrwydd Mr Vikram Doraiswami, Uchel Gomisiynydd India i'r DU:

“Mae gan India berthynas hanesyddol ac aml-ddimensiwn â Chymru, gyda phartneriaethau sy’n parhau, sydd o fudd i’r ddwy ochr ac sy’n tyfu mewn busnes, addysg, diwylliant, teithio a chwaraeon. Yn wir, mae cymunedau Cymreig o darddiad Indiaidd wedi bod yn gyfranwyr pwysig at bresenoldeb egniol Indiaidd yng Nghymru.

“Mae blwyddyn Cymru yn India 2024 yn dathlu ein perthynas fodern ac yn anelu at gysylltu ein pobl yn fwy effeithiol yn y dyfodol.

“Wrth edrych ymlaen, rydym yn croesawu partneriaethau dyfnach a chryfach er budd y ddwy ochr, gan feithrin ysbryd cydweithio mewn ymchwil ac arloesi yn enwedig mewn sectorau sy’n dod i’r amlwg.”

Dywedodd y Gweinidog Morgan:

Yr wythnos hon rwyf wedi cadarnhau perthynas gyda'n ffrindiau Indiaidd sy'n gweithio i greu byd teg, egwyddor sy'n llywio ein holl waith llywodraeth yng Nghymru.

“Rwy’n edrych ymlaen at gydweithio â’n ffrindiau Maharashtrian i ddylanwadu ar Ddeddf Cenedlaethau’r Dyfodol, a’r gymuned LHDTC+ Indiaidd a’r Tywysog Manvendra Singh Gohil ar hyrwyddo hawliau hoyw, yn ogystal â chefnogi gwaith i atal trais ar sail rhywedd.

“Yfory byddaf yn ymweld â thalaith Kerala i weld sut y gallwn gydweithio ar fargen iechyd sydd o fudd i’r ddwy ochr i ddarparu cyfleoedd lleoliad gwaith i nyrsys yn ein GIG yng Nghymru. Rwy’n gobeithio gwneud cyhoeddiad ar hyn yn y dyddiau nesaf.”

Dywedodd Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, sydd wedi ymuno â’r Gweinidog Morgan ar ei hymweliad ag India:

“Mae Cymru’n falch o’i Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ac o ddifrif ynglŷn â’r rhwymedigaeth y mae’n ei rhoi arnom i fod yn genedl o hynafiaid da.

“Mae angen mwy o wledydd ar y byd i ddeddfu er budd cenedlaethau’r dyfodol, os ydym am atal dinistr hinsawdd ar y cyd ac amddiffyn y bobl hynny sydd ar ben eithaf ei effeithiau.

“Bydd y genhadaeth hon a rennir gyda Maharashtra yn ystod Blwyddyn Cymru yn India yn caniatáu i’r ddwy wlad weithio gyda’i gilydd er mwyn pobl sydd heb eu geni eto, i rannu’r hyn a ddysgwyd ar weithredu Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig a chefnogi arweinwyr presennol ac arweinwyr y dyfodol i weithredu nawr ar gyfer gwell yfory.”

Dywedodd Siân Lewis, Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru, sy’n rhan o ddirprwyaeth y Gweinidog Morgan i hyrwyddo Her Future Coalition, elusen sy’n gweithio i frwydro yn erbyn trais ar sail rhywedd:

“Rydym yn falch iawn o fod yn cychwyn ar y daith hon gyda Her Future Coalition, gan fod eu hymrwymiad diwyro i ferched ifanc bregus yn wirioneddol ysbrydoledig. Lansiwyd ein prosiect #FelMerch am y tro cyntaf i rymuso merched ifanc Cymru, ac rydym yn llwyr gefnogi gwaith Her Future Coalition i greu newid parhaol yn India.

“Ugain mlynedd yn ôl, sefydlodd yr Urdd bartneriaeth gyda dinas ac elusennau Kolkata. Edrychwn ymlaen at ailafael yn ein rhaglenni gwirfoddoli rhyngwladol drwy fynd â grŵp o lysgenhadon ifanc i India yn ddiweddarach eleni i gefnogi rhaglenni a mentrau Her Future Coalition. Rydyn ni nid yn unig yn mynd i India i rannu gwybodaeth, ond hefyd i ddysgu a chael ein hysbrydoli gan eu gwytnwch, eu positifrwydd a'u creadigrwydd a sut, yn wyneb adfyd, maen nhw'n creu llwybrau hunangynhaliol ar gyfer eu dyfodol.”

I gael y newyddion diweddaraf a diweddariadau ar Gymru yn India, dilynwch @WalesInIndia ar X a Wales in India ar LinkedIn.