Neidio i'r prif gynnwy

Annwyl Gydweithwyr,

Rwy’n ymwybodol bod sawl Awdurdod Cynllunio Lleol yn pryderu fwyfwy ynghylch y dyddiad y bydd eu Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) yn dod i ben a goblygiadau hynny ar y gallu i wneud penderfyniadau rhesymegol a chyson ar lefel leol. Mae yna hefyd gwestiynau ynghylch y gallu i godi Ardoll Seilwaith Cymunedol, i gymhwyso Canllawiau Cynllunio Atodol a’r ansicrwydd cynyddol y bydd hynny’n ei achosi i’ch cymunedau a’ch rhanddeiliaid.

Diwygiwyd Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol (PCPA) 2004 drwy Deddf Cynllunio (Cymru) 2015. Mae’r Ddeddf, ymhlith materion eraill, yn cyflwyno darpariaethau sy’n pennu’r cyfnod y mae’r cynllun yn cael effaith ac yn darparu y bydd yn dod i ben ar ddiwedd y cyfnod penodedig.

Mae cynllunio yn cael ei ystyried yn fwy fel arf pwysig i adfer yn sgil feirws Covid-19, gan greu cymdeithas fwy teg yn gymdeithasol a gwyrddach nag o’r blaen sy’n canolbwyntio ar Greu Lleoedd a chynaliadwyedd. I gyflawni’r nod hwn, mae system sy’n seiliedig ar gynllun yn hanfodol.

Gyda llawer o CDLlau yn agosáu at ddiwedd eu cyfnod, yn enwedig o 2021 ymlaen, canfyddir na fyddant yn bodoli ar ôl iddynt ddod i ben. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i egluro’r sefyllfa.

Cafodd y darpariaethau yn Neddf Cynllunio (Cymru) 2015 ynghylch y cyfnod y mae cynllun yn cael effaith eu cychwyn ar 4 Ionawr 2016. Nid yw effaith y darpariaethau hyn yn ôl-weithredol. Mae hyn yn golygu nad yw’r darpariaethau yn berthnasol i CDLlau a fabwysiadwyd cyn y dyddiad hwn. Bydd cynlluniau a fabwysiadwyd cyn 4 Ionawr 2016 yn parhau ar gyfer penderfynu ynghylch ceisiadau cynllunio hyd nes y bydd CDLl pellach yn eu disodli. O ran y CDLlau a fabwysiadwyd ar ôl 4 Ionawr 2016, bydd y CDLl yn dod i ben ar ddiwedd y cyfnod a bennwyd yn y cynllun.

Bydd y CDLl cyntaf yn dod i ben ar 1 Ionawr 2026 o dan y darpariaethau hyn. Mae’r cyfnod hwn o ychydig dros 5 mlynedd i 2026 yn rhoi cyfle i edrych ymhellach ar y sefyllfa ac ystyried a oes angen deddfwriaeth bellach. 

O ran y ddau Awdurdod Cynllunio Lleol nad ydynt eto wedi elwa ar GDLl sydd wedi’i fabwysiadu, ond sydd â Chynllun Datblygu Unedol, nid yw’r darpariaethau ynghylch y cyfnod y mae cynllun yn cael effaith yn berthnasol. Bydd y ddau Gynllun Datblygu Unedol yn parhau hyd nes y cânt eu disodli gan eu CDLl priodol.

Yn gywir,

Julie James AS/MS 
Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol 
Minister for Housing and Local Government