Neidio i'r prif gynnwy

Adran 1: Pa gamau gweithredu y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried a pham?

Mater a chamau a gynigir

Gwnaeth y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Ddatganiad Ysgrifenedig ar 22 Gorffennaf 2022 yn ymwneud â darparu codiad cyflog i Feddygon SAS (Arbenigedd ac Arbenigwyr Cyswllt) ar gyfer 2022/23.

Dulliau hirdymor ac ataliol

Gan mai codiad cyflog blynyddol i’r grŵp meddygon a deintyddion SAS yw hwn, nid ydym yn rhagweld y bydd yn atal nac yn mynd i'r afael ag unrhyw fesurau tymor hwy. Aethpwyd i’r afael â mesurau hirdymor ar gyfer y grŵp hwn o feddygon wrth weithredu contract newydd, a gytunwyd mewn partneriaeth gymdeithasol, yn 2021.

Mae cyflog blynyddol staff y GIG yng Nghymru yn cael ei ystyried a’i gyhoeddi gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn dilyn argymhellion gan ddau o gyrff adolygu cyflogau'r GIG, oni bai bod cytundebau diwygio contractau aml-flwyddyn yn cael eu cytuno mewn partneriaeth â chyflogwyr ac undebau llafur a bod cyflog yn cael ei gynnwys fel rhan o'r pecyn diwygio.

Gan fod y cynnig yn godiad cyflog blynyddol i feddygon a deintyddion SAS, nid yw'n fwriad ganddo fod yn ataliol yn y tymor hir.

Cydweithredu a chyfranogiad

Fel rhan o broses codiad cyflog 2022/2023 gofynnodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol am argymhelliad annibynnol gan y Corff Adolygu Meddygon a Deintyddion (DDRB).

Fel rhan o'r broses adolygu cyflogau roedd gan Lywodraeth Cymru, ynghyd â Chyflogwyr y GIG ac Undebau Llafur y gallu i gyflwyno tystiolaeth i'w hystyried gan y DDRB wrth wneud eu hargymhelliad.

Ar gyfer proses 2022/23, cyflwynodd Cymdeithas Feddygol Prydain dystiolaeth yn seiliedig ar eu profiad gyda'u haelodau. Ystyriwyd y dystiolaeth hon gan y Corff Adolygu Meddygon a Deintyddion.

Yn eu 50fed adroddiad ar gyfer 2022/23 gwnaeth y DDRB argymhelliad am gynnydd o 4.5 y cant i gyflogau cenedlaethol meddygon a deintyddion SAS nad ydynt yn symud i'r contractau diwygiedig.

Er nad oedd o fewn cylch gwaith y DDRB i roi barn ar argymhellion ar gyfer y rhai sydd eisoes â chytundebau aml-flwyddyn, sy'n cynnwys y rhai o dan gontract diwygiedig 2021, fe wnaethant annog y llywodraethau'n gryf i ystyried y cyd-destun unigryw o ran yr economi a’r gweithlu eleni, yr angen i ddiogelu safle cymharol cyflogau staff ar gytundebau aml-flwyddyn, a materion yn ymwneud â recriwtio, cadw a chymhelliant.

O ganlyniad i hyn, penderfynodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wneud taliad anghyfunol untro o £1,400 i'r rheini â chytundeb aml-flwyddyn o dan y contract meddygon a deintyddion arbenigol newydd (2021). Roedd y penderfyniad hwn yn sicrhau na fydd y rhai sydd wedi symud i’r contract newydd, neu sydd wrthi'n trosglwyddo iddo, yn cael eu hannog i beidio â gwneud hynny o safbwynt cyflog yn unig o ystyried y pwysau digynsail ar gyflogau ar ôl didyniadau eleni.

Ystyriwyd bod y ffigwr o £1,400 yn briodol gan mai dyma'r swm a argymhellwyd gan Gorff Adolygu Cyflogau’r GIG (NHSPRB) ar gyfer staff y GIG ar delerau ac amodau yr Agenda ar gyfer Newid. Argymhellir hwn yn hytrach na thaliad anghyfunol o 4.5% o ystyried bod contractau diwygiedig 2021 eisoes wedi derbyn buddsoddiad ar gyfer cyflogau gyda'r cytundeb cyflog tair blynedd.

Mae'r penderfyniad hwn hefyd yn cefnogi nod polisi Llywodraeth Cymru i sicrhau y gellir gwireddu buddion contract newydd 2021 yn llawn, gan gynnwys sicrhau gwell telerau ac amodau i feddygon, gan arwain at well gwasanaethau a phrofiad i gleifion, yn ogystal â mynd i'r afael â phryderon diogelwch a lles hirsefydlog ar gyfer y grŵp hwn o feddygon. Mae parhau i annog meddygon i symud i gontract 2021 hefyd yn mynd i'r afael â'r pryderon ynghylch cydraddoldeb a gwahaniaethu yng nghontract 2008. Cytunwyd ar gontract diwygiedig 2021 mewn partneriaeth gymdeithasol a chytunodd pob plaid ar fuddion ehangach y polisi.

Ystyriodd y Gweinidog hefyd ganlyniad anfwriadol dyfarniad cyflog o 4.5% ar yr hen gontract meddygon arbenigol (2008) gan fod hyn bellach yn golygu y bydd hen bwynt cyflog uchaf y contract hyd yn oed yn uwch na'r contract newydd, gan ei fod ar hyn o bryd £296 yn uwch.

Felly, penderfynodd y Gweinidog y dylid rhewi'r cyflog uchaf ar gytundeb 2008 er mwyn sicrhau uniondeb contract newydd a graddfeydd cyflog 2021.

Er mwyn lliniaru'r effaith negyddol ar gyfer y meddygon hynny sydd ar y pwynt cyflog uchaf ar hyn o bryd, penderfynwyd y dylent dderbyn taliad anghyfunol o 4.5% er mwyn lliniaru unrhyw ganlyniadau negyddol o beidio â chael dyfarniad cyflog blynyddol, o ystyried yr argyfwng costau byw

Costau ac Arbedion 

Mae'r gost hon eisoes wedi cael ei chynnwys o fewn cyllidebau 2022/23 pan gyhoeddwyd y dyfarniad cyflog ar gyfer holl staff y GIG ar gyfer 2022/23.

Mecanwaith

Nid oes angen deddfwriaeth ar gyfer y cynnig hwn.

Adran 8: Casgliad

Sut y mae'r bobl y mae'r cynnig yn fwyaf tebygol o effeithio arnynt wedi'u cynnwys yn y gwaith o'i ddatblygu?

Ar gyfer proses codiad cyflog 2022/2023 anfonodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol lythyr cylch gwaith i'r Corff Adolygu Meddygon a Deintyddion (DDRB) i ofyn am eu hargymhellion o ran cyflogau'r GIG.

Cyn i'r Gweinidog gyhoeddi'r llythyr cylch gwaith, siaradodd â'r undeb llafur sy'n cynrychioli meddygon a deintyddion SAS, sef Cymdeithas Feddygol Prydain, i egluro ei bwriad ar gyfer y broses hon.

Fel rhan o'r broses adolygu cyflogau roedd gan Lywodraeth Cymru, ynghyd â Chyflogwyr y GIG ac Undebau Llafur y gallu i gyflwyno tystiolaeth i'w hystyried gan y DDRB wrth wneud eu hargymhelliad.

Un o flaenoriaethau’r penderfyniad dyfarniad cyflog i Feddygon Arbenigol oedd peidio â thanseilio symud o gontract 2008 i gontract 2021 i fynd i'r afael â'r pryderon cydraddoldeb a gwahaniaethu sy'n cael eu cydnabod yng nghytundeb 2008.

Cafodd pob Undeb Llafur gyfle i gyflwyno tystiolaeth i'r Cyrff Adolygu Cyflogau. Yna cafodd y tystiolaeth a gyflwynwyd ei hystyried wrth benderfynu ar argymhellion.

Beth yw'r effeithiau cadarnhaol a negyddol mwyaf arwyddocaol?

Gan fod y cynnig yn godiad cyflog i feddygon a deintyddion SAS, does dim effeithiau arwyddocaol heblaw darparu codiad i’w cyflog. Rhaid hefyd ystyried fforddiadwyedd a'r effaith y mae cyflog yn ei chael ar recriwtio a chadw staff.

Yn sgil yr effeithiau a nodwyd, sut y bydd y cynnig:

  • yn sicrhau'r cyfraniad mwyaf posibl at ein hamcanion llesiant a'r saith nod llesiant; a/neu

  • yn osgoi, yn lleihau neu'n lliniaru unrhyw effeithiau negyddol?

Nid yw'r cynnig yn effeithio ar y saith nod llesiant gan mai pwrpas y cynnig yw gweithredu codiad cyflog i feddygon a deintyddion SAS yng Nghymru.

Sut y caiff effaith y cynnig ei monitro a'i gwerthuso wrth i’r cynnig fynd rhagddo ac ar ôl iddo gael ei gwblhau?   

Gan fod y cynnig yn godiad cyflog blynyddol does dim cynlluniau gwerthuso yn eu lle.