Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Lynne Neagle, y bydd elusennau sy’n cefnogi pobl drwy brofedigaeth yn elwa ar £3 miliwn o gyllid dros y tair blynedd nesaf.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Mawrth 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn anffodus, mae profedigaeth yn rhywbeth a fydd yn cyffwrdd â bywydau pob un ohonom ac mae elusennau a sefydliadau’r trydydd sector ledled Cymru yn darparu cymorth hanfodol.

Ym mis Hydref y llynedd, amlinellodd y Dirprwy Weinidog y Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Darparu Gofal mewn Profedigaeth yng Nghymru, a oedd yn seiliedig ar grant cymorth gwerth £1 miliwn y flwyddyn i elusennau a grwpiau cymorth wneud cais amdano.

Bydd 21 elusen yn cael cyllid drwy’r grant dros y tair blynedd nesaf. Mae’r sefydliadau y dyfarnwyd y cyllid grant iddyn nhw’n ymdrin ag ystod o feysydd a byddan nhw’n darparu cyllid ar gyfer amrywiaeth o gymorth. Mae hyn yn cynnwys darparu cymorth i blant a phobl ifanc sydd wedi colli rhywun annwyl iddyn nhw a chyllido hyfforddiant i wirfoddolwyr i’w helpu i gefnogi’r rheini sy’n galaru.

Fe wnaeth y Dirprwy Weinidog ymweld â’r elusen 2Wish i ddysgu mwy am sut y byddan nhw’n defnyddio’r cyllid grant ar gyfer prosiect cymorth Cymru gyfan. Bydd y prosiect yn sicrhau bod cymorth yn cael ei gynnig ar unwaith i unigolion yr effeithir arnyn nhw gan farwolaeth sydyn plentyn neu berson ifanc.

Dywedodd Rhian Mannings MBE, sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol 2Wish:

Yn dilyn llwyddiant ein deiseb ac ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gynnig cymorth ar unwaith i deuluoedd, bydd y cyllid hwn yn ein helpu i sicrhau bod ein gwasanaeth ar gael i bawb. Mae’n hanfodol, ar adeg mor anodd, bod cymorth ar gael ar unwaith.

Yma yn 2Wish, rydym wedi bod yn gweithio ers dros ddegawd i gefnogi teuluoedd yng Nghymru sydd wedi colli plentyn. Rydym wedi gweld yn uniongyrchol y trawma y mae’r teuluoedd hyn yn mynd drwyddo a’r cymorth sydd ei angen yn fawr arnyn nhw yn ystod y cyfnod argyfyngus hwn. Felly, mae’n wych gweld bod y Gweinidog yn cyhoeddi’r cyllid grant hwn, fel y gallwn ni, ac elusennau fel ni, barhau â’r gwaith hanfodol hwn a chynnig cymorth a chwnsela ar unwaith.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Lynne Neagle:

Rwy’n gobeithio y bydd y cyllid rwy’n ei gyhoeddi heddiw yn galluogi elusennau a sefydliadau i ddarparu rhagor o gysur i’r rheini sy’n galaru. Mae gwaith pob un o’r 21 sefydliad y dyfarnwyd y cyllid iddyn nhw mor hanfodol a hoffwn dalu teyrnged i’r gwaith y maen nhw’n ei wneud. Mae profedigaeth yn effeithio ar bob un ohonom mewn ffyrdd gwahanol, ac mae’n bwysig bod y cyllid o £3 miliwn yn mynd i drawstoriad o sefydliadau a fydd yn defnyddio’r arian yn eu ffyrdd eu hunain i ddarparu cymorth, cyngor a chefnogaeth emosiynol.

Y sefydliadau y dyfarnwyd cyllid Grant Cymorth Profedigaeth iddyn nhw yw:

  • Sandy Bear Children’s Bereavement Charity
  • Hosbis Tŷ’r Eos
  • Sefydliad Paul Sartori
  • Hosbis Plant Tŷ Hafan
  • Sands (Cymdeithas Marw-enedigaethau a Marwolaethau Newyddanedigion)
  • Aberystwyth and District Hospice at Home Volunteers (HAHAV)
  • Mind Canolbarth a Gogledd Powys
  • Hosbisau Plant Tŷ Gobaith a Hope House
  • Platfform
  • Cymorth Iechyd Meddwl BAME
  • Cruse Bereavement Support
  • Marie Curie
  • Diverse Cymru
  • Age Cymru
  • City Hospice, Caerdydd
  • Cymdeithas Ponthafren
  • 2Wish
  • ACE – Gweithredu yng Nghaerau a Threlái
  • Llamau
  • Sefydliad DPJ
  • Options Pregnancy Crisis and Post Abortion Service (IPAC Options)