Neidio i'r prif gynnwy

Mae Julie James, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio, wedi penodi Dyfarnwr Annibynnol newydd ar gyfer Awdurdodau Lleol yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Ebrill 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, cyhoeddodd Julie James AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio, fod Beverley Smith wedi ei phenodi’n Ddyfarnwr Annibynnol Awdurdodau Lleol Cymru.

Mae Dyfarnwr Annibynnol yn unigolyn annibynnol a benodir gan Lywodraeth Cymru i ystyried ceisiadau oddi wrth weithwyr a gyflogir gan awdurdodau lleol sy'n dymuno gwneud cais i gael eu heithrio rhag cyfyngiadau gwleidyddol.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:

Mae Dyfarnwr Annibynnol Awdurdodau Lleol Cymru yn chwarae rôl hanfodol, a dw i’n edrych ymlaen yn fawr at weld cyfraniad Bev i'r swydd hon.

Mae gan Bev gefndir cadarn o weithio ym maes gwasanaethau cyhoeddus, ac mae'n gadeirydd ac yn aelod bwrdd profiadol sydd wedi gweithio mewn llywodraeth leol ers dros bum mlynedd ar hugain.

Fel prif weithredwr awdurdod lleol a swyddog canlyniadau sydd â phrofiad helaeth ar lefelau lleol a rhanbarthol, mae ganddi wybodaeth fanwl o’r fframwaith deddfwriaethol a gweithrediadau awdurdodau lleol o ddydd i ddydd.

Ar hyn o bryd, Bev yw Cadeirydd Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru, ac mae hefyd yn aelod o Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ac yn aelod anweithredol o fwrdd yr Awdurdod Glo gyda ffocws penodol ar Gymru. Mae hefyd yn un o'r adolygwyr arweiniol sy'n gweithio gyda Llywodraeth y DU ar y rhaglen i adolygu cyrff cyhoeddus.

Bydd y penodiad hwn yn dechrau ar 1 Mai 2024 ac yn parhau tan 31 Rhagfyr 2027. Mae cydnabyddiaeth ariannol y swydd yn cael ei dalu fesul achos, £200 y dydd a £100 am bob hanner diwrnod pro rata yn ôl yr angen i ddelio ag achosion unigol.