Neidio i'r prif gynnwy
Dyfed Edwards

Dirprwy Gadeirydd, Awdurdod Cyllid Cymru.

Ym mis Medi 2018, penodwyd Dyfed Edwards yn Ddirprwy Gadeirydd, ar ôl bod yn Aelod Anweithredol o Fwrdd Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) ers mis Hydref 2017. Ar hyn o bryd mae'n cadeirio Pwyllgor Pobl ACC. Mae Dyfed yn gyn-Arweinydd Cyngor Gwynedd a bu’n Is-lywydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, yn ogystal ag yn gynrychiolydd ar Is-grŵp Cyllid Llywodraeth Cymru/CLlLC. Bu Dyfed yn llefarydd Llywodraeth Leol Cymru ar bynciau amrywiol yn ystod y cyfnod hwn a chafodd ei enwi'n Wleidydd Llywodraeth Leol y flwyddyn yn 2009. Mae Dyfed hefyd yn Gyfarwyddwr Anweithredol Iechyd Cyhoeddus Cymru lle mae'n cadeirio'r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu Corfforaethol. Yn y gorffennol bu Dyfed yn gwasanaethu fel aelod o Grŵp Arbenigol Llywodraeth Cymru ar Ddarparu Tai i Boblogaeth sy'n Heneiddio a'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen Cymunedau Cymraeg. Mae hefyd wedi gwasanaethu ar amryw o sefydliadau yng Ngwynedd ac mae ganddo brofiad yn y sector Busnesau Bach a Chanolig, gan gynnwys gyda busnesau newydd. Mae gan Dyfed wybodaeth eang am addysg yng Nghymru. Mae'n gyn-athro ac yn llywodraethwr mewn ysgolion cynradd ac uwchradd. Mae hefyd wedi dal swydd Arweinydd Portffolio Addysg yng Ngwynedd.