Neidio i'r prif gynnwy

Ein gweledigaeth

Ein gweledigaeth yw bod Cymru'n dod yn genedl wirioneddol amlieithog. Mae'n ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i 'ehangu dysgu ieithoedd tramor modern yn ein hysgolion'. Rydym am gynyddu nifer y dysgwyr sy'n astudio ieithoedd, beth bynnag fo'u cefndir neu eu hanghenion.

Mae Cymru'n genedl hyderus, sy'n edrych tua'r dyfodol, a byddwn yn cefnogi ein holl ddysgwyr i fod yn ddinasyddion yng Nghymru a’r byd. Rydym am i'n holl ddysgwyr gyrraedd eu potensial llawn a phrofi'r manteision niferus sy'n deillio o ddysgu ieithoedd rhyngwladol, gan gynnwys ehangu eu gorwelion drwy ddysgu am bobl a diwylliannau eraill a rhoi'r sgiliau ieithyddol iddynt gystadlu yn yr economi fyd-eang.

Ein strategaeth

Bydd y Cwricwlwm i Gymru yn chwyldroi ein system addysg ac yn darparu cyfleoedd cyffrous ar gyfer dysgu iaith ar draws ein holl ysgolion a lleoliadau. Bydd Llywodraeth Cymru, ynghyd â'n partneriaid Dyfodol Byd-eang, yn cynnig ein hamser, ein gwybodaeth a'n harbenigedd i'n hysgolion a'n hathrawon er mwyn cefnogi pob dysgwr i wneud cynnydd gyda dysgu iaith, yn ogystal â chyflawni pedwar diben y Cwricwlwm i Gymru.

Ein nodau

Ein nodau strategol ar gyfer y 3 blynedd nesaf yw:

  • cefnogi'r gwaith o ddatblygu a chyflwyno darpariaeth ieithoedd rhyngwladol ystyrlon yng Nghymru
  • rhoi'r sgiliau, yr wybodaeth a'r profiadau i ymarferwyr er mwyn iddynt allu cynllunio a chyflwyno darpariaeth ieithoedd rhyngwladol 
  • herio'r camsyniadau ynghylch dysgu iaith 

Cefnogir pob nod gan gamau gweithredu strategol, a fydd yn cael eu cyflawni gennym ni a'n partneriaid Dyfodol Byd-eang.

Cyd-destun

Bydd ‘Dyfodol Byd-eang: Cynllun i wella a hyrwyddo ieithoedd rhyngwladol yng Nghymru 2022 i 2025’ yn cefnogi ieithoedd rhyngwladol yn ein Cwricwlwm i Gymru (mae ieithoedd rhyngwladol yn cyfeirio at ieithoedd ar wahân i'r Gymraeg a Saesneg,  ac yn gallu cynnwys ieithoedd cymunedol, ieithoedd modern, ieithoedd clasurol ac Iaith Arwyddion Prydain) a'n hymrwymiad yn ein Rhaglen Lywodraethu i 'ehangu dysgu ieithoedd tramor modern yn ein hysgolion'.

Mae ein cynllun strategol yn nodi sut y bydd Llywodraeth Cymru a'n partneriaid Dyfodol Byd-eang yn parhau i godi proffil ieithoedd rhyngwladol a chefnogi ein hathrawon i gyflwyno eu darpariaeth a'n dysgwyr wrth iddynt ddatblygu tuag at bedwar diben y Cwricwlwm i Gymru.

Wrth i ysgolion gynllunio eu cwricwla eu hunain, rydym am iddynt ddeall y bydd darparu profiadau ieithyddol a diwylliannol ystyrlon yn ehangu gorwelion ac yn agor y byd i ddysgwyr beth bynnag fo'u cefndir neu eu hanghenion. Rydym am gefnogi ein dysgwyr i ymgysylltu'n weithredol â'r economi fyd-eang a ffynnu yn eu dewis o lwybr boed yn gweithio i fusnesau, fel entrepreneuriaid neu fel perfformwyr ac artistiaid.

Rydym am i'n hysgolion a'n lleoliadau wybod bod cymorth ar gael gan ein partneriaid Dyfodol Byd-eang, a byddwn yn eu hannog i feithrin cysylltiadau cryfach â'n partneriaid.

Bydd ein strategaeth yn ceisio cefnogi a llywio cynllunio strategol a dysgu proffesiynol er mwyn galluogi ysgolion i ehangu'r dewisiadau sydd ar gael i ddysgwyr wrth iddynt ddod yn ddinasyddion byd-eang yng Nghymru a'r byd.

Mae'r cynllun hwn yn nodi fframwaith ar gyfer ein gwaith dros y 3 blynedd nesaf. Rydym wedi osgoi gosod targedau penodol yn y cynllun strategol yn fwriadol. Os yw dysgu ieithoedd rhyngwladol i ffynnu, rhaid iddynt fod yn rhan o gynllunio cyfannol ysgolion a pheidio cael eu gwthio i’r cyrion. Byddwn yn cyhoeddi fersiwn manylach o'r cynllun hwn, yn amlinellu'n glir y gweithgareddau y byddwn ni a'n partneriaid yn ymgymryd â hwy i gyflawni'r camau hyn, yn ddiweddarach eleni.

Nod strategol 1: cefnogi'r gwaith o ddatblygu a chyflwyno darpariaeth ieithoedd rhyngwladol ystyrlon yng Nghymru

Bydd y cwricwlwm newydd yn rhoi dysgu iaith yn y Maes Dysgu a Phrofiad (MDPh) ar gyfer Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu. Rydym eisiau sicrhau ein bod yn cyd-fynd ag ethos y cwricwlwm newydd, sy’n canolbwyntio ar ystod ehangach o gyfleoedd a phrofiadau i ddysgwyr.

Gan y bydd ein dysgwyr yn profi ieithoedd rhyngwladol o Gam Cynnydd 2 ac yn dysgu o leiaf un iaith ryngwladol o Gam Cynnydd 3 ymlaen, mae'n hanfodol ein bod yn darparu'r cymorth a'r negeseuon angenrheidiol i'n lleoliadau, ein hysgolion a'n darparwyr addysg gychwynnol i athrawon (AGA) wrth iddynt gynllunio eu darpariaeth ar gyfer ieithoedd rhyngwladol.

Mae'r camau strategol canlynol yn nodi sut y byddwn yn cyflawni'r nod hwn.

Cam strategol 1

  • Darparu egwyddorion a chodi ymwybyddiaeth ar draws pob lleoliad addysg o bwysigrwydd amlieithrwydd a blaenoriaethu ieithoedd ac ehangu dewisiadau dysgwyr.

Cam strategol 2

  • Cefnogi ysgolion a lleoliadau i gynllunio eu darpariaeth ieithoedd rhyngwladol.

Cam strategol 3

  • Parhau i adeiladu ar weithgarwch mewn ysgolion cynradd, er mwyn paratoi ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru.

Cam strategol 4

  • Parhau i fynd i'r afael â'r her o ran y nifer sy’n dewis astudio ieithoedd tramor modern mewn ysgolion uwchradd gyda chymorth ein partneriaid Dyfodol Byd-eang.

Nod strategol 2: rhoi'r sgiliau, yr wybodaeth a'r profiadau i ymarferwyr er mwyn iddynt allu cynllunio a chyflwyno darpariaeth ieithoedd rhyngwladol

Rhan hanfodol o godi dyheadau a mynd i'r afael â bylchau gwahanol mewn cyrhaeddiad yw sicrhau bod pob dysgwr yn cael ystod eang o gyfleoedd drwy gwricwlwm eang a chytbwys. Rydym am roi'r hyder i'n hathrawon gyflwyno ieithoedd rhyngwladol yn y Cwricwlwm i Gymru drwy gyfleoedd hyfforddi a ddatblygwyd ochr yn ochr â'n partneriaid. Mae meysydd fel pontio o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd a chynllunio ysgol gyfan hefyd yn feysydd y mae angen eu hystyried yn ofalus er mwyn sicrhau bod dysgwyr yn cael y cyfle i wneud cynnydd ar hyd y continwwm dysgu iaith o fewn y Cwricwlwm i Gymru. Bydd angen cyfrifoldebau, cydweithredu ac adnoddau clir ar gyfer pawb sy'n gysylltiedig â chyflwyno ieithoedd rhyngwladol mewn ysgolion cynradd o fewn y Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu. Byddwn yn parhau i feithrin gallu ac i gefnogi'r gwaith o gyflwyno ieithoedd rhyngwladol yn effeithiol yn ein hysgolion cynradd. Byddwn hefyd yn ymgysylltu â'n darparwyr AGA i gefnogi athrawon y dyfodol.

Mae'n bwysig bod ysgolion yn cydnabod bod gallu siarad un neu fwy o ieithoedd rhyngwladol ar y cyd â sgiliau eraill yn helpu dysgwyr i agor drysau i bosibiliadau gwaith cyffrous yn ogystal â chyfoethogi bywydau personol.

Mae'r camau strategol canlynol yn nodi sut y byddwn yn cefnogi ein hysgolion a'n lleoliadau yn y meysydd hyn.

Cam strategol 5

  • Consortia addysg rhanbarthol a phartneriaethau i barhau i ddarparu cymorth i ysgolion cynradd ac uwchradd ar draws eu rhanbarthau i baratoi ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru.

Cam strategol 6

  • Cynyddu'r cyfleoedd i ddysgwyr brofi ieithoedd yn yr ysgol gynradd, ac yn yr ysgol uwchradd mewn cyrsiau arholiad neu ochr yn ochr â nhw.

Cam strategol 7

  • Darparu cymorth uniongyrchol i athrawon cynradd drwy raglen ‘TEachers Learning to Teach Languages’ (TELT) y Brifysgol Agored sy'n uwchsgilio athrawon mewn addysgeg ieithoedd cynradd ac addysgu naill ai Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg neu Mandarin yn y lleoliad cynradd.

Cam strategol 8

  • Darparu cymorth uniongyrchol i ysgolion uwchradd drwy’r Cynllun Mentora Myfyrwyr Ieithoedd Tramor Modern ar gyfer 2022 i 2025 a arweinir gan Brifysgol Caerdydd.

Cam strategol 9

  • Gweithio gyda'n cydweithwyr yn y sefydliadau iaith i dynnu sylw at yr ystod eang o gymorth sydd ar gael i ysgolion gan gynnwys cymwysterau, arbenigedd a chymorth yn yr ystafell ddosbarth.

Cam strategol 10

  • Ymestyn aelodaeth grŵp llywio Dyfodol Byd-eang i gynyddu cyrhaeddiad y rhaglen a rhoi mwy o amlygrwydd i’r negeseuon ynghylch ieithoedd rhyngwladol.

Nod strategol 3: herio'r camsyniadau ynghylch dysgu iaith

Mae amrywiaeth o gamsyniadau ynghylch dysgu iaith ryngwladol. Mae diffyg dealltwriaeth o'u gwerth ar gyfer gwaith a bywyd personol wedi cyfrannu at ddirywiad ar draws y DU yn y nifer sy'n dewis eu hastudio. Nid yw'r dirywiad hwn yn adlewyrchu ein dyheadau ar gyfer ieithoedd rhyngwladol yn y Cwricwlwm i Gymru a'n proffil ar y llwyfan byd-eang.

Mae'r camau strategol canlynol yn nodi sut y byddwn yn herio hyn.

Cam strategol 11

  • Ehangu’r gwaith a wnawn ar y cyd â phartneriaid Dyfodol Byd-eang i sicrhau bod negeseuon cyson yn cael eu lledaenu i godi proffil ieithoedd rhyngwladol.

Cam strategol 12

  • Darparu negeseuon a chyfathrebu cadarnhaol sy'n herio canfyddiadau negyddol o ddysgu iaith.
  • Hyrwyddo brand Dyfodol Byd-eang i bob ysgol ar draws Cymru er mwyn sicrhau mynediad cyfartal i gymorth i bob dysgwr ac ymarferydd.