Neidio i'r prif gynnwy

Adroddiad 2022 i 2023 ar gynnydd i wella hygyrchedd cyfraith Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf: 1 Tachwedd 2023
Diweddarwyd ddiwethaf: 2 Tachwedd 2023

Adroddiad blynyddol

A thrwy gyngor a chytundeb y doethion a ddaeth yno, archwiliwyd yr hen gyfreithiau, gadawyd rhai ohonynt i barhau, diwygiwyd eraill, a dilëwyd eraill yn gyfan gwbl, a gosodwyd rhai eraill o’r newydd.

Llyfr Iorwerth 1240

Diben yr adroddiad

1. Dyma’r ail adroddiad blynyddol i’w lunio o dan adran 2(7) o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019. Mae’n disgrifio’r cynnydd a wnaed o dan raglen y Llywodraeth i wella hygyrchedd cyfraith Cymru: Dyfodol cyfraith Cymru: Rhaglen ar gyfer 2021 i 2026, rhwng 15 Hydref 2022 a 30 Medi 2023.

2. Roedd yr adroddiad blynyddol yn ymdrin â’r cyfnod rhwng 21 Medi 2021 (pan osodwyd y rhaglen) a 14 Hydref 2022. Yn y dyfodol bwriedir i adroddiadau blynyddol ymdrin â’r flwyddyn o ddechrau mis Hydref hyd ddiwedd mis Medi, er cysondeb.

Cefndir y rhaglen

3. Rhaid i bob rhaglen sy’n cael ei llunio o dan Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 gynnwys prosiectau sy’n:

  1. cyfrannu at broses barhaus o gydgrynhoi a chodeiddio cyfraith Cymru
  2. cynnal ffurf cyfraith Cymru (wedi iddi gael ei chodeiddio)
  3. hybu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o gyfraith Cymru
  4. hwyluso defnydd o’r Gymraeg.

4. Gosodwyd y rhaglen gyntaf o dan Ddeddf 2019 gerbron y Senedd ar 21 Medi 2021 ac mae’n cynnwys cyfuniad o brosiectau deddfwriaethol ac anneddfwriaethol a gynlluniwyd i gyflawni’r gofyniad hwn. Cyhoeddwyd yr adroddiad blynyddol cyntaf ar y rhaglen ar 7 Tachwedd 2022.

5. Mae’r ail adroddiad blynyddol hwn yn rhoi diweddariad pellach ar y prosiectau hyn drwy gyfeirio at ein nodau hollgynhwysol o ran:

  1. dosbarthu cyfraith Cymru
  2. cydgrynhoi cyfraith Cymru
  3. codeiddio cyfraith Cymru, a
  4. chyfathrebu cyfraith Cymru.

6. Mae’r adroddiad hwn hefyd yn cynnwys adolygiad o Ddeddf 2019, fel y cytunwyd â Phwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol (bryd hynny) a Phwyllgor Cyllid y Pumed Senedd, wrth iddynt graffu ar Fil Deddfwriaeth (Cymru). Yn ogystal â hynny, cyfeiriwyd at ymrwymiad y Llywodraeth i adolygu Deddf 2019 mewn tystiolaeth gan y Cwnsler Cyffredinol i Bwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad y Senedd hon. Mae’r adolygiad hwn wedi ei gynnal hanner ffordd drwy dymor y Senedd hon, fel y cytunwyd yn wreiddiol, ac mae i’w weld yn yr Atodiad i’r adroddiad hwn.

Dosbarthu cyfraith Cymru

Ymrwymiadau’r rhaglen

Yn ystod tymor y Senedd hon bydd y Llywodraeth yn:

  1. adolygu a diwygio’r dacsonomeg ddrafft bresennol o bynciau (a luniwyd ac yr ymgynghorwyd arni yn wreiddiol yn 2019) er mwyn canfod pa ddeddfiadau ym meysydd datganoledig y gyfraith a ddylai berthyn i bob haen o’r dacsonomeg.
  2. gweithio gyda’r tîm sy’n gyfrifol am legislation.gov.uk yn yr Archifau Gwladol i ddarparu swyddogaethau ychwanegol ar y safle hwnnw fel y gall defnyddwyr gyrchu cyfraith Cymru yn ôl pwnc.

Cynnydd yn ystod y cyfnod adrodd

7. Nid yw wedi bod yn bosibl bwrw ymlaen â’r gwaith ar setlo’r dacsonomeg y tu hwnt i’r Codau cyfraith Cymru a nodwyd i ddechrau a’r gwaith rhagarweiniol yr adroddwyd arno yn yr adroddiad blynyddol cyntaf. Bydd yn dal o fudd i’r dacsonomeg gael ei phrofi gan ddefnyddwyr, a chaiff hyn ei wneud pan fydd yr Archifau Gwladol yn gallu cydweithio â ni ar drefnu cyfraith Cymru yn well ar wefan legislation.gov.uk.

8. Fel y nodwyd yn yr adroddiad blynyddol diwethaf, mae’r Archifau Gwladol wedi blaenoriaethu gwaith ar wella swyddogaeth gwefan legislation.gov.uk fel y gellir dangos diwygiadau i gyfraith Cymru yn eu cyd-destun yn y Gymraeg (gweler isod).

Cydgrynhoi cyfraith Cymru

Ymrwymiadau’r rhaglen

Yn ystod tymor y Senedd hon bydd y Llywodraeth yn datblygu:

  1. Bil cydgrynhoi sy’n dod â’r gyfraith ar yr amgylchedd hanesyddol ynghyd.
  2. Bil cydgrynhoi sy’n symleiddio ac yn moderneiddio’r gyfraith ym maes cynllunio.
  3. Bil cydgrynhoi sy’n diddymu neu’n datgymhwyso darpariaethau deddfwriaethol sydd wedi darfod, wedi dod i ben, neu nad ydynt bellach o ddefnydd ymarferol yng Nghymru o bob cwr o’r llyfr statud.

Byddwn hefyd yn:

  1. adolygu’r ddeddfwriaeth bresennol mewn nifer o feysydd er mwyn nodi dau brosiect cydgrynhoi arall i weithio arnynt yn ystod tymor y Senedd hon.
  2. datblygu’r pecyn o is-ddeddfwriaeth y disgwylir y bydd ei angen i weithredu Bil yr amgylchedd hanesyddol.
  3. ymgymryd â phrosiect graddol o gydgrynhoi is-ddeddfwriaeth cynllunio gwlad a thref allweddol.
  4. ail-wneud a diweddaru’r rheolau ar gyfer cynnal etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru.
  5. llunio ‘Gorchymyn Cynrychiolaeth y Bobl’ yn ddwyieithog cyn yr etholiad cyffredinol i’r Senedd yn 2026.

Cynnydd yn ystod y cyfnod adrodd

Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 ac is-ddeddfwriaeth ategol

9. Cafodd prosiect cydgrynhoi cyntaf Llywodraeth Cymru – sef Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) – ei gymeradwyo’n unfrydol gan aelodau’r Senedd ar 28 Mawrth 2023. Penododd y Pwyllgor Busnes y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad i fod yn gyfrifol am graffu ar y Bil ar ei hynt drwy Senedd Cymru, a gymerodd gyfnod o ddeng mis. Ymysg pethau eraill, ystyriodd y Pwyllgor:

  1. a oedd cwmpas y cydgrynhoi yn briodol
  2. a oedd deddfiadau perthnasol wedi eu cynnwys
  3. a oedd deddfiadau wedi eu cydgrynhoi’n gywir a’u heffaith wedi ei chadw, ac
  4. a oedd y gyfraith wedi ei chydgrynhoi’n eglur ac yn gyson.

10. Wrth graffu ar y ddeddfwriaeth, derbyniodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gomisiwn y Gyfraith yn ogystal â rhanddeiliaid perthnasol ym maes yr amgylchedd hanesyddol. Yn ei adroddiad ar yr ystyriaeth gychwynnol o’r Bil, nododd y Pwyllgor fod rhanddeiliaid yn ymateb yn gadarnhaol i’r Bil cydgrynhoi yn gyson, ac yn gytûn ei fod yn gwella hygyrchedd y gyfraith. Yn wir, pan ymddangosodd tri chynrychiolydd o Gomisiwn y Gyfraith gerbron y Pwyllgor ar 26 Medi 2022, dywedodd Cadeirydd y Comisiwn, Syr Nicholas Green:

…fel unigolion rydym yn meddwl ei fod yn waith trawiadol… rydym yn meddwl ei fod yn waith o safon uchel iawn.

11. Tynnodd y Pwyllgor sylw at “bwysigrwydd y Bil fel y cyntaf o’i fath i’r Senedd ac i gyfraith Cymru” ac roedd yn cydnabod y buddion a ddeuai yn sgil cydgrynhoi. Cafodd y ddeddfwriaeth y Cydsyniad Brenhinol ar 14 Mehefin 20232 ac erbyn hyn mae modd trafod y buddion hyn mewn termau mwy pendant. Bydd y Ddeddf yn trawsnewid hygyrchedd y gyfraith i berchnogion a meddianwyr henebion cofrestredig ac adeiladau rhestredig, grwpiau’r trydydd sector, awdurdodau lleol ac eraill. Am y tro cyntaf, mae’n dod â’r brif ddeddfwriaeth ar gyfer yr amgylchedd hanesyddol at ei gilydd mewn un lle, yn ei datgan ar gyfer Cymru’n benodol heb unrhyw gyfeiriadau dryslyd at awdurdodaethau eraill, ac yn cyflwyno’r gyfraith a’i dogfennau ategol i gyd yn y ddwy iaith. At hynny, mae’r gyfraith wedi ei had-drefnu a’i hailddatgan mewn iaith glir, bobdydd fel ei bod yn haws i bawb ei deall a’i defnyddio. Lluniwyd cyfres fwy helaeth o ddogfennau ategol i helpu defnyddwyr i ddeall y ddeddfwriaeth newydd a llywio’u ffordd drwyddi, ac mae’r rhain ar gael ochr yn ochr â’r ddeddfwriaeth a’r nodiadau esboniadol ar legislation.gov.uk. Mae’r dogfennau dwyieithog hyn yn cynnwys tablau tarddiadau a chyrchfannau, sy’n helpu’r defnyddiwr drwy ddangos y berthynas rhwng darpariaethau’r Ddeddf newydd a’r ddeddfwriaeth sydd wedi ei chydgrynhoi, a nodiadau’r drafftwyr, sy’n egluro’r penderfyniadau a wnaed wrth gydgrynhoi.

12. Mae’r Ddeddf hefyd yn ffurfio rhan ddiamwys o God cyfraith Cymru, sy’n arwydd o’r ffaith fod cydgrynhoi a chodeiddio wedi eu nodi yn Dyfodol cyfraith Cymru fel dau ddull sylfaenol o wneud cyfraith Cymru yn fwy eglur a threfnus. Bydd y Ddeddf, ynghyd â’r is-ddeddfwriaeth newydd a wneir i’w hategu, yn ffurfio Cod o gyfraith ar gyfer yr amgylchedd hanesyddol a chaiff y cyfan ei gyhoeddi gyda’i gilydd. Os bydd angen newidiadau i’r gyfraith yn y dyfodol, fe’u gwneir drwy ddiwygio’r Cod yn hytrach na thrwy wneud deddfiadau annibynnol newydd, oni bai fod rheswm da iawn dros wneud hynny. Bydd hyn yn diogelu’r drefn a osodwyd ar gyfraith yr amgylchedd hanesyddol yng Nghymru yn sgil yr ymarfer cydgrynhoi.

13. Er bod Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 bellach yn gyfraith, ni chaiff ei chychwyn tan yn ddiweddarach yn 2024, ar ôl i’r is-ddeddfwriaeth sydd ei hangen i’w hategu gael ei dwyn i rym. Cafodd llawer iawn o is-ddeddfwriaeth a oedd wedi ei hen sefydlu ei hymgorffori yn y Ddeddf, ond mae angen ailddatgan llawer o hyd mewn sawl set o reoliadau sy’n ymdrin ag ystod o faterion gweithdrefnol a materion eraill sy’n effeithio ar henebion cofrestredig ac adeiladau rhestredig. Mae’r gwaith hwn ar y gweill a byddwn yn adrodd ar gynnydd o ran gwneud y rheoliadau hyn mewn adroddiadau pellach. Byddwn yn ymdrin â’r is-ddeddfwriaeth yn yr un modd ag yr ymdriniwyd â’r cydgrynhoi, sef gwella hygyrchedd y gyfraith drwy ei hailddatgan a’i had-drefnu, gan gadw ei heffaith. Bydd pob set o reoliadau hefyd yn ffurfio rhan o God y gyfraith ar gyfer amgylchedd hanesyddol Cymru.

Symleiddio a moderneiddio cyfraith gynllunio (gan gynnwys is-ddeddfwriaeth)

14. Gwnaed cryn gynnydd yn ystod y cyfnod adrodd ar gydgrynhoi’r prif Ddeddfau sy’n darparu’r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer system reoli cynllunio Cymru:

  1. Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990
  2. Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004, Rhannau 3 i 6
  3. Deddf Cynllunio 2008, Rhan 11.

15. Mae gwaith hefyd ar y gweill i gydgrynhoi darpariaethau sydd i’w canfod yn awr mewn Deddfau eraill sy’n berthnasol i gynllunio, er mwyn gwella hygyrchedd ac eglurdeb. Mae’r rhain yn cynnwys darpariaethau yn:

  1. Deddf Iechyd y Cyhoedd 1936
  2. Deddf Llywodraeth Leol 1972
  3. Deddf Cynllunio a Digolledu 1991
  4. Deddf yr Amgylchedd 1995
  5. Deddf Cynllunio (Cymru) 2015.

16. Rhagwelir y bydd yr ymarfer cydgrynhoi yn rhoi cyfle i ymgorffori darpariaethau perthnasol mewn is-ddeddfwriaeth yn y Ddeddf, lle bo hynny’n briodol. Efallai y gwneir hynny os yw’r is-ddeddfwriaeth wedi ei hen sefydlu ac nad yw’n debygol y bydd angen ei diwygio’n aml, neu os yw’n addasu’r ddeddfwriaeth sylfaenol – dyna a wnaed wrth gydgrynhoi cyfraith yr amgylchedd hanesyddol.

17. Er nad yw ffurf a chynnwys terfynol y Bil wedi ei ddatblygu eto, disgwylir iddo ymdrin â’r canlynol:

  1. awdurdodau cynllunio
  2. cynlluniau datblygu
  3. rheoli datblygu
  4. tystysgrifau cyfreithlondeb defnydd tir presennol a defnydd tir arfaethedig
  5. gorfodi’r drefn rheoli datblygu
  6. hysbysiadau digolledu a phrynu
  7. caffael a meddiannu tir at ddibenion cynllunio
  8. ymrwymiadau cynllunio a’r Ardoll Seilwaith Cymunedol
  9. cynllunio ar gyfer mwynau a gwastraff
  10. ymgymerwyr statudol
  11. priffyrdd (a effeithir gan ddatblygu)
  12. rheoli hysbysebu awyr agored
  13. coed a choetiroedd
  14. cynnal a chadw tir diolwg
  15. tir malltod.

18. Mae disgwyl i’r elfennau hyn, ynghyd â’r darpariaethau cyffredinol, a darpariaethau canlyniadol, trosiannol ac arbed, arwain at ryw 450 tudalen o ddeddfwriaeth yn y naill iaith a’r llall.

19. O ystyried maint a chymhlethdod y gwaith cydgrynhoi ein nod ar hyn o bryd yw cyflwyno’r Bil i’r Senedd yn ystod haf 2024; rydym yn cadw golwg ar hyn ac fe fyddwn yn rhoi diweddariad i’r Aelodau maes o law.

20. Bydd gwaith ar yr is-ddeddfwriaeth i weithredu’r Bil yn dechrau ar ôl iddo gael ei gymeradwyo gan y Senedd a derbyn y Cydsyniad Brenhinol.

Bil y cyfeiriwyd ato fel Bil Cyfraith Statud (Diddymiadau) (Cymru) gynt

21. Lansiwyd yr ymgynghoriad ar fersiwn drafft o Fil Cyfraith Statud (Diddymiadau) (Cymru) ar 7 Hydref 2022 (fel y nodwyd yn yr adroddiad blynyddol diwethaf), ac yn dilyn hynny cyhoeddodd y Llywodraeth adroddiad cryno ar yr ymatebion a ddaeth i law.

22. Dim ond ychydig o ymatebion a ddaeth i law ac roedd y rhan fwyaf o’r rheini yn gwneud sylwadau am un neu ddau o faterion yn unig. Roedd y rhan fwyaf o’r sylwadau yn y meysydd hynny o blaid gwneud y diwygiadau a’r diddymiadau arfaethedig. O’r pryderon a’r sylwadau a ddaeth i law, roedd amryw yn ymwneud â mân faterion technegol a drafftio. Mae’r holl sylwadau ac ymatebion a ddaeth i law wedi eu hystyried ymhellach wrth i’r gwaith ar y Bil fynd yn ei flaen yn ystod 2023.

23. Mae ystyriaeth bellach yn cael ei rhoi i enw byr y ddeddfwriaeth arfaethedig, er mwyn mynegi bwriad yr hyn y bydd y Bil yn ei gyflawni mewn ffordd fwy modern. Disgwylir i’r Bil gael ei gyflwyno pan fydd amser yn caniatáu yn ystod Blwyddyn 3 o raglen ddeddfwriaethol y Llywodraeth (yn ystod hanner cyntaf 2024, fwy na thebyg).

Pennu cwmpas meysydd pwnc eraill

24. Fel y nodwyd yn ymateb y Llywodraeth i’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad  ar Fil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru), ystyriwyd cydgrynhoi rhannau perthnasol o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 wrth lunio’r Bil. Byddai gwneud hynny yn arwain at leihau cymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru, fodd bynnag, oherwydd y cyfyngiadau o ran cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

25. Fel y nodwyd yn yr adroddiad cyntaf, caiff gwaith ar bennu cwmpas prosiectau sydd i’w cwblhau yn y dyfodol ei wneud yn ddiweddarach yn ystod y rhaglen hon.

Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007

26. Mae gwaith wedi cychwyn ar gydgrynhoi ac ail wneud Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007, cyn etholiadau’r Senedd ym mis Mai 2026. Mae Gorchymyn 2007 dros 270 tudalen o hyd ac ar gael yn Saesneg yn unig (ar wahân i’r ffurflenni yn yr Atodlenni) ond bydd y Gorchymyn newydd yn gwbl ddwyieithog ac yn ymgorffori’r holl newidiadau angenrheidiol o’r prosiectau i Ddiwygio’r Senedd a’r drefn Etholiadol, sydd ar y gweill ar hyn o bryd. Cynhelir ymgynghoriad ar fersiwn ddrafft o’r Gorchymyn, fel sail ar gyfer gwaith pellach.

Codeiddio cyfraith Cymru

Ymrwymiadau’r rhaglen

Nid oedd unrhyw gynigion i godeiddio cyfraith Cymru ar unwaith yn y rhaglen, ond bydd hyn yn cael ei adolygu’n rheolaidd.

Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023

27. Canlyniad cydgrynhoi cyfraith yr amgylchedd hanesyddol yw bod Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 yn ffurfio rhan o God y gyfraith ar gyfer amgylchedd hanesyddol Cymru. Bydd y Cod hwn hefyd yn cynnwys yr is-ddeddfwriaeth a wneir o dan Ddeddf 2023 (gweler paragraffau 9 i 13 o’r adroddiad hwn).

Codeiddio cyfraith gynllunio

28. Yn ogystal â chreu Cod y gyfraith ar gyfer yr amgylchedd hanesyddol bwriadwn greu cod y gyfraith ar gyfer cynllunio yng Nghymru hefyd, drwy gydgrynhoi cyfraith gynllunio. Er bod cynnwys terfynol y Cod hwnnw eto i’w bennu, bwriedir i ddatganiad o’r statws hwn helpu pobl sydd â diddordeb yn y gyfraith ar faes penodol – cynllunio gwlad a thref yn yr achos hwn – ddod o hyd iddi a’i dosbarthu y rhwyddach. Bydd y Cod hwn ar gyfraith gynllunio hefyd yn cynnwys is-ddeddfwriaeth.

Newidiadau i’r Rheolau Sefydlog

29. Pan roddodd y Cwnsler Cyffredinol dystiolaeth i’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ar Fil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) (fel yr oedd bryd hynny), pwysleisiodd yr ymrwymiadau blaenorol i ymgynghori â’r Llywydd am newidiadau posibl i’r Rheolau Sefydlog o ran Codau’r gyfraith. Yn y dyfodol disgwylir y bydd newidiadau i’r gyfraith sy’n ffurfio rhan o God yn cael eu gwneud drwy ddiwygio neu amnewid y deddfiadau yn hytrach na thrwy wneud darpariaethau gwahanol, annibynnol, a fyddai’n arwain unwaith eto at liaws cymhleth o ddeddfiadau.

30. Bydd yr adroddiad blynyddol nesaf yn nodi’r cynnydd o ran hyn.

Cyfathrebu cyfraith Cymru

Ymrwymiadau’r rhaglen

Yn ystod tymor y Senedd hon bydd y Llywodraeth yn:

  1. gweithio gyda’r tîm sy’n gyfrifol am legislation.gov.uk i sicrhau bod Deddfau ac Offerynnau Statudol dwyieithog ar gael ar ffurf gyfoes yn y ddwy iaith.
  2. ehangu a gwella cynnwys gwefan Cyfraith Cymru/Law Wales yn sylweddol er mwyn creu ‘siop un stop’ i gyrchu a deall cyfraith Cymru.
  3. archwilio ffyrdd o symud draw o fodel cyhoeddi deddfwriaeth yr 20fed ganrif, sy’n seiliedig ar fersiynau print, i system ddigidol fodern.
  4. datblygu’r ffordd yr ydym yn llunio deddfwriaeth ddwyieithog, gan ddefnyddio technoleg iaith i’w llawn botensial.
  5. archwilio’r potensial ar gyfer defnyddio dysgu peirianyddol a deallusrwydd artiffisial i wneud cyfraith Cymru yn fwy hygyrch.

Cynnydd yn ystod y cyfnod adrodd

Sicrhau bod cyfraith Cymru ar gael ar ffurf gyfoes ar wefan legislation.gov.uk

31. Fel y nodwyd yn yr adroddiad cyntaf, mae’r tîm golygyddol yn adran Gwasanaethau Deddfwriaeth yr Archifau Gwladol wedi datblygu swyddogaethau gwefan legislation.gov.uk fel bod modd gwneud diwygiadau i destunau Cymraeg deddfwriaeth.

32. Ers i’r system newydd ddechrau cael ei defnyddio ym mis Hydref 2022 mae criw bychan yn Swyddfa Codau Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru wedi bod yn cyflwyno diwygiadau wedi eu hanodi i destunau Cymraeg a Saesneg cyfraith Cymru ar y safle. Felly yn ogystal â bod testunau dwyieithog Deddfau, Mesurau ac Offerynnau Statudol yn cael eu diweddaru, mae’r anodiad sy’n egluro pob effaith hefyd ar gael yn ddwyieithog i’r rheini sy’n darllen cyfraith Cymru, am y tro cyntaf erioed.

33. Mae cyfanswm o fwy na 104,000 o “effeithiau” (newidiadau y mae angen eu gwneud er mwyn cyflwyno deddfwriaeth a ddiwygiwyd ar ffurf gyfoes, ac egluro’r hyn sydd wedi digwydd) wedi eu gwneud i ddeddfwriaeth Cymru er 1999. Erbyn diwedd Medi 2023 roedd bron i 60% o’r rhain wedi eu cymhwyso. Tîm golygyddol yr Archifau Gwladol ei hun oedd yn arfer delio â diwygiadau i’r testun Saesneg, ond erbyn hyn mae’r Swyddfa Codau Deddfwriaethol wedi bod yn delio â’r holl destunau Cymraeg ynghyd â nifer o ddiwygiadau i’r testunau Saesneg. Yn ystod deuddeg mis cyntaf y prosiect, mae tua 40,000 o effeithiau wedi eu cymhwyso.

34. Mae’r pwyslais wedi bod ar ddiweddaru deddfwriaeth sylfaenol, ond wrth i’r gwaith hwnnw ddechrau dod i ben rydym hefyd wedi dechrau diweddaru grwpiau penodol o offerynnau statudol. Rydym wedi bod yn blaenoriaethu’r rheini sy’n ymwneud â’r Deddfau Rhentu Cartrefi a pheth deddfwriaeth ym maes llywodraeth leol. Bellach rydym yn targedu’r ddeddfwriaeth sy’n cael ei chyrchu amlaf ar legislation.gov.uk, mewn perthynas â chymorth i fyfyrwyr a diogelwch bwyd, er enghraifft.

35. Y sefyllfa ar hyn o bryd yw bod:

  1. 96% o Ddeddfau a Mesurau Cymru wedi eu diweddaru yn y ddwy iaith. Ein blaenoriaeth yn awr yw sicrhau bod y rhain yn dal i gael eu diweddaru wrth iddynt gael eu diwygio gan ddeddfwriaeth a wneir naill ai gan Senedd Cymru neu gan Senedd y Deyrnas Unedig.
  2. 43% o Offerynnau Statudol Cymru (y mae mwy na 6,100 ohonynt) wedi eu diweddaru yn y ddwy iaith, gydag ychydig dros 40,000 o effeithiau i’w cymhwyso (rhyw 29,000 i destunau Cymraeg a rhyw 11,000 i destunau Saesneg).

36. Er bod cynnydd aruthrol wedi ei wneud yn y flwyddyn gyntaf, mae graddau’r gwaith sydd eto i’w gwblhau - yn enwedig o ran testunau Cymraeg - yn golygu bod hwn yn brosiect hirdymor ac yn un lle mae’r gorwel yn symud drwy’r amser: er inni ddelio â 40,000 o effeithiau yn ystod y deuddeg mis cyntaf, dim ond 10,000 yw’r gostyngiad yn y gwaith sydd wedi cronni, oherwydd yn ystod yr un cyfnod ychwanegwyd 30,000 o effeithiau i’r system ar gyfer eu cymhwyso. Yn ogystal â hynny, nid yw nifer yr effeithiau yn adlewyrchiad realistig o’r ymdrech: er enghraifft, wrth gwblhau gwaith ar Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 yn ddiweddar roedd angen gwneud 436 o anodiadau a diwygiadau gwahanol er mwyn cwblhau un dasg.

37. Mae’r Swyddfa Codau Deddfwriaethol yn parhau i gydweithio’n agos â’r Archifau Gwladol i ganfod a datrys unrhyw faterion annisgwyl sy’n codi o ran y broses olygyddol. Mae’r berthynas waith agos hon wedi bod yn allweddol o ran sicrhau’r cynnydd sylweddol a welwyd hyd yma. 

38. Mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi gwneud Datganiadau Ysgrifenedig ar gynnydd i’r Aelodau yn ystod blwyddyn gyntaf y rhaglen anodi; yn y dyfodol disgwylir y bydd diweddariadau yn cael eu cyflwyno mewn adroddiadau blynyddol dilynol.

Ehangu a gwella gwefan Cyfraith Cymru/Law Wales

39. Yn ystod y flwyddyn dechreuwyd datblygu adran fawr newydd o wefan Cyfraith Cymru/Law Wales o’r enw “Deddfwriaeth yng Nghymru”. Mae’n rhestru pob darn o ddeddfwriaeth sylfaenol a wnaed yng Nghymru ers datganoli yn ôl blwyddyn, a phan fydd yr adran yn gyflawn, bydd gan bob Deddf neu Fesur dudalen benodol. Hyd yn hyn, cyhoeddwyd y tudalennau ar gyfer pob Deddf rhwng Ionawr 2019 a Mai 2023, ac fe ddylai gweddill y tudalennau fod ar gael erbyn diwedd 2023.

40. Mae’r dudalen benodol ar gyfer pob Deddf yn cynnwys:

  1. crynodeb o’r hyn mae’r Ddeddf yn ei wneud
  2. dolen i’r Ddeddf ei hun ar legislation.gov.uk
  3. dolenni i’r Nodiadau Esboniadol a’r Memorandwm Esboniadol
  4. dyddiadau allweddol gan gynnwys y Cydsyniad Brenhinol a phryd y daeth i rym
  5. gwybodaeth allweddol am gyflwyno’r Bil
  6. ystyriaeth y Senedd o’r Bil a dolenni i wefan y Senedd i gael manylion pellach
  7. rhestr o’r holl is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf, gan gynnwys dolenni i’r ddeddfwriaeth ar legislation.gov.uk a’r Memorandwm Esboniadol (os yw ar gael) neu ddolenni i’r is-ddeddfwriaeth berthnasol a wnaed ar ffurf heblaw offeryn statudol ar wefan gov.wales
  8. erthyglau, canllawiau neu wybodaeth ategol.

41. Wrth weithio ar hyn daeth i’r amlwg nad yw tudalennau’r Biliau ar wefan y Senedd bob amser yn cynnwys y fersiwn terfynol o’r Memorandwm Esboniadol i Fil (sydd fel arfer yn cael ei ddiweddaru ar ôl i’r Bil gael ei basio, a’u cyhoeddi ar wefan gov.wales). Byddwn yn darparu’r fersiynau a ddiweddarwyd ddiwethaf o Femoranda Esboniadol i Filiau i’r Senedd yn y dyfodol, er mwyn sicrhau bod gwefan y Senedd yn dangos yr wybodaeth lawn, a bydd tudalennau’r Deddfau ar Cyfraith Cymru/Law Wales yn cysylltu â’r fersiynau diweddaraf hynny.

42. Disgwylir i’r tudalennau newydd hyn gryfhau hygyrchedd y gyfraith yng Nghymru gan mai dyma fydd yr unig adnodd ar gael sy’n dangos yr holl is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan Ddeddf mewn un lle – rhywbeth y gwyddom fod rhanddeiliaid wedi gofyn amdano yn y gorffennol. Bydd cynnwys yr is-ddeddfwriaeth a wnaed ar ffurf heblaw offeryn statudol (fel cyfarwyddydau, cynlluniau, canllawiau a datganiadau) hefyd yn ehangu’r wybodaeth sydd ar gael i ddefnyddwyr.

43. Ychwanegwyd darnau gan gyfranwyr allanol i’r safle hefyd (cwmnïau cyfreithiol sy’n gweithio yng Nghymru, yn bennaf), ar ffurf erthyglau.

44. Yn ddiweddar comisiynodd Cyngor Cyfraith Cymru, a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru yn dilyn adroddiad y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru, ymchwil ar addysg ym maes y gyfraith gyhoeddus yng Nghymru. Er nad yw’r adroddiad hwnnw ar gael eto, cyfeiriwyd at y defnydd o wefan Cyfraith Cymru/Law Wales, a’i pherthnasedd, mewn sesiwn gasglu tystiolaeth gyda darparwyr a rhwydweithiau cynghori, academyddion ac eraill, a gynhaliwyd yn ystod haf 2023. Roedd galwadau hefyd i gryfhau a datblygu’r wybodaeth ar y safle.

Nodi cyfleoedd i wella hygyrchedd digidol deddfwriaeth

45. Rhaid inni gydweithio ag Argraffydd y Brenin a swyddogion yn yr Archifau Gwladol er mwyn cyflawni rhai o ymrwymiadau’r rhaglen o ran hygyrchedd digidol. Fel y nodwyd yn yr adroddiad blaenorol ac yn gynharach, maent wedi parhau i flaenoriaethu’r gwaith o anodi testunau Cymraeg cyfraith Cymru yn ystod y flwyddyn a aeth heibio. Maent yn parhau i fod wedi ymrwymo i weithio gyda ni er mwyn parhau i ddatblygu a gwella hygyrchedd digidol deddfwriaeth, ond roeddem wedi gobeithio gwneud rhagor o gynnydd.

46. Gweler paragraffau 61 a 62 hefyd ar ffurf a strwythur deddfwriaeth Cymru.

Cryfhau’r trefniadau ar gyfer cofrestru, cyhoeddi a chadw is-ddeddfwriaeth

47. Dechreuwyd ar y gwaith o ddatblygu opsiynau i gryfhau’r trefniadau ar gyfer cofrestru, cyhoeddi a chadw is-ddeddfwriaeth a wneir gan Weinidogion Cymru (gan gynnwys offerynnau statudol ac is-ddeddfwriaeth heb fod ar ffurf offeryn statudol). Rhagwelir y bydd hyn yn parhau yn ystod y deuddeg mis nesaf, os bydd adnodd staffio ar gael. Bydd diweddariad ar y gwaith yn yr adroddiad blynyddol nesaf.

Adolygu’r ffordd y mae’r Llywodraeth yn llunio deddfwriaeth ddwyieithog

48. Mae Gwasanaeth Cyfieithu Llywodraeth Cymru wedi cwblhau’r broses o gaffael meddalwedd cof cyfieithu a rheoli terminoleg newydd. Cynhaliwyd gwaith profi dros yr haf a chyflwynwyd y system newydd yn llawn ar 18 Medi 2023. Rhagwelir y bydd y system newydd yn gwneud y broses gyfieithu yn fwy effeithlon a chywir, ac yn golygu y bydd modd mabwysiadu ffyrdd mwy effeithlon o ymchwilio i derminoleg, safoni termau ac ymgynghori arnynt.

49. Mae’r prosesau safoni termau arferol sy’n gysylltiedig â phrosiectau Biliau wedi parhau yn ystod y flwyddyn. Er enghraifft, dilynwyd y broses safoni ar gyfer deddfwriaeth ym maes democratiaeth, ar gyfer Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) a Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) (Cymru). Bydd y termau hyn hefyd yn werthfawr ar gyfer gwaith deddfwriaethol pellach yn y maes hwn. Mae’r gwaith ar ddeddfwriaeth ym maes democratiaeth yn golygu bod 95 o dermau newydd, termau wedi eu diwygio neu dermau wedi eu cadarnhau yng nghronfa ddata BydTermCymru.

50. Yn ystod y cyfnod adrodd cynhaliwyd adolygiad o’r deunyddiau cyfeirio deddfwriaethol sydd ar gael ar BydTermCymru. O ganlyniad i’r adolygiad, a thrafodaethau parhaus rhwng y Gwasanaeth Cyfieithu, Swyddfa’r Cwnsleriaid Deddfwriaethol a’r Adran Gwasanaethau Cyfreithiol, cafodd cyfanswm o 38 o gofnodion eu hychwanegu neu eu diweddaru rhwng mis Hydref 2022 a mis Medi 2023.

51. Mae’r Gwasanaeth Cyfieithu hefyd wedi cynnal sesiynau cynefino ar gyfer aelodau newydd o Swyddfa’r Cwnsleriaid Deddfwriaethol, a oedd yn canolbwyntio ar y ffordd y mae’r broses gyfieithu yn gallu helpu i wella’r testun yn y ddwy iaith. Cyfrannwyd hefyd at sesiwn wybodaeth ar gyfer holl staff yr Adran Gwasanaethau Cyfreithiol, gan ganolbwyntio ar gydweithio rhwng Uned Cyfieithu Deddfwriaeth ac Adran Gwasanaethau Cyfreithiol Llywodraeth Cymru.

52. Fel rhan o broses gaffael i sefydlu Cytundeb Fframwaith newydd i ddarparu gwasanaethau cyfieithu a chyfieithu-ar-y-pryd i Lywodraeth Cymru, sefydlwyd is-lot penodol ar gyfer deddfwriaeth. Rhagwelir y bydd hyn yn rhoi cyfle i feithrin arbenigedd pellach yn y maes ymysg cyflenwyr allanol.

53. Cyhoeddwyd Polisi Seilwaith Ieithyddol y Gymraeg ddiwedd mis Mehefin 2023. Un o nodau’r Polisi oedd sefydlu Uned newydd o fewn Llywodraeth Cymru i fod yn gyfrifol am seilwaith ieithyddol y Gymraeg. Mae’r uned honno wedi ei sefydlu bellach. Nod arall oedd creu gwefan newydd i farchnata a hyrwyddo’r adnoddau sydd ar gael, fel geiriaduron a therminoleg, i’w gwneud yn haws i bobl eu defnyddio a dod o hyd i atebion yn y Gymraeg. Yn y pen draw bydd y gwasanaeth hwn yn helpu i sicrhau bod terminoleg ddeddfwriaethol safonedig ar gael yn eang. Bydd hefyd yn codi proffil y gwaith sydd eisoes yn digwydd yn y maes hwn.

54. Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cyllid i’r Uned Technolegau Iaith ym Mhrifysgol Bangor i ddatblygu cyfres o adnoddau technoleg iaith. Roedd hyn yn cynnwys sefydlu teclyn cyfieithu peiriant parth-benodol ar gyfer maes y gyfraith. Bellach gall pobl sy’n gweithio ym maes cyfiawnder a’r gyfraith ddefnyddio teclyn cyfieithu peiriant newydd a gynlluniwyd yn benodol gan ddefnyddio data deddfwriaethol. Nod y teclyn yw darparu cyfieithiadau mwy manwl-gywir na’r rheini a ddarperir gan offer cyfieithu peiriant cyffredinol, a dangosodd profion cychwynnol a gynhaliwyd ym mis Mawrth 2023 (drwy fesur y gwahaniaeth rhwng cyfieithu awtomatig a chyfieithiadau cyfeirio a grëwyd gan bobl o’r un brawddegau ffynhonnell) lefel gywirdeb anarferol o uchel. Mae hyn yn addawol iawn o safbwynt y defnydd ymarferol o’r teclyn yn y dyfodol.

55. Wrth gwrs, rhaid i’r testun sy’n cael ei greu gan y peiriant gael ei olygu gan gyfieithydd neu olygydd cymwys wedyn, cyn iddo gael ei gyhoeddi. Wrth i dechnoleg cyfieithu peiriant ddod yn fwy a mwy soffistigedig a dibynadwy, mae rôl y cyfieithydd yn dechrau esblygu, felly, i fod yn fwy o swyddogaeth olygu arbenigol, gan ganiatáu i gyfieithwyr ganolbwyntio ar wneud gwell defnydd o’u sgiliau ieithyddol. Rydym hefyd yn ystyried sut y gallai’r datblygiadau hyn alluogi cwnsleriaid deddfwriaethol i gynhyrchu rhagor o’r testun yn gyfochrog, yn amodol ar adolygiad golygyddol o’r ddwy iaith.

56. Mae’r teclyn ar gael drwy fynd i Cyfieithu Peiriant parth-benodol (techiaith.cymru) a dewis y tab Deddfwriaeth.

Diweddaru canllawiau a llunio canllawiau ychwanegol

57. Mae’r gwaith o adolygu canllawiau drafftio Swyddfa’r Cwnsleriaid Deddfwriaethol, Drafftio Deddfau i Gymru, wedi dechrau a rhagwelir y bydd fersiwn ddiwygiedig yn cael ei chyhoeddi yn ystod y cyfnod adrodd nesaf. Mae’r gwaith hwn yn digwydd ochr yn ochr â’r cyfarfodydd mewnol rheolaidd y bydd Cwnsleriaid Deddfwriaethol yn eu cynnal i drafod a chytuno ar ffyrdd o ymdrin â mân bwyntiau. Sefydlwyd grŵp defnyddwyr hefyd i rannu arferion da a gwneud y defnydd gorau o’r feddalwedd ddrafftio, Legislative Workbench 360.

Prosiectau eraill

Ymrwymiadau’r rhaglen

Yn ystod tymor y Senedd hon, bydd y Llywodraeth yn parhau i weithio gyda Chomisiwn y Gyfraith.

Cynnydd yn ystod y cyfnod adrodd

Gweithio gyda Chomisiwn y Gyfraith

58. Mae Comisiwn y Gyfraith Cymru a Lloegr eto i gyhoeddi ei gynigion ar gyfer ei Bedwaredd Rhaglen ar Ddeg i Ddiwygio’r Gyfraith, ond mae’n dal i fod wedi ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid yng Nghymru i ddod o hyd i brosiectau addas sy’n ymwneud â’r gyfraith.

59. Bydd Gweinidogion Cymru yn parhau i ddefnyddio eu pwerau i gyfeirio materion at Gomisiwn y Gyfraith er gwybodaeth ac i gael ei gyngor. Yn y gorffennol mae atgyfeiriadau o’r fath wedi arwain at gwblhau prosiectau y mae Llywodraeth Cymru yn awr yn bwrw ymlaen â hwy – gosododd Gweinidogion Cymru eu hwythfed adroddiad blynyddol ar weithredu cynigion Comisiwn y Gyfraith gerbron y Senedd ar 15 Chwefror 2023.

60. Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder a Swyddfa’r Twrnai Cyffredinol wedi gofyn i Gomisiwn y Gyfraith adolygu’r gyfraith ar ddirmyg troseddol a dirmyg sifil. Mae Comisiwn y Gyfraith yn gobeithio cyhoeddi papur ymgynghori yn fuan yn 2024, yn gwahodd barn ar eu cynigion drafft ar gyfer diwygio. Ym mis Medi 2023 gofynnodd y Prif Weinidog i Gomisiwn y Gyfraith gynnwys tribiwnlysoedd datganoledig yn y prosiect hwn.

Ffurf a strwythur deddfwriaeth Cymru

61. Yn 2021 ysgrifennodd y Cwnsler Cyffredinol at y Llywydd ynglŷn â rhai newidiadau arfaethedig i ffurf a strwythur Deddfau ac Offerynnau Statudol Cymru. Rhagwelwyd y byddai’r Senedd yn ystyried y materion hyn, ond gan nad oes gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad y capasiti i wneud hynny ar hyn o bryd, mae’r Llywodraeth yn bwriadu ymgynghori ar y materion hyn ei hun, gyda golwg ar gytuno ar unrhyw newidiadau terfynol â’r Llywydd (pan fo’r newidiadau hyn yn effeithio ar ffurf Biliau’r Senedd), Argraffydd y Brenin, y Llyfrfa, yr Archifau Gwladol (pan fo’r newidiadau yn debygol o effeithio ar argraffu a chyhoeddi deddfwriaeth Cymru), ac eraill fel y bo’n briodol.

62. Ar hyn o bryd rhagwelir y bydd yr ymgynghoriad yn ymdrin â’r canlynol:

  1. a oes angen cynnwys enw ‘hir’ yn ogystal ag enw ‘byr’ i Fil/Deddf y Senedd
  2. darpariaethau trosolwg ym Miliau/Deddfau’r Senedd
  3. symleiddio neu hepgor y geiriau deddfu yn Neddfau’r Senedd
  4. y defnydd o ddyddiadau yn Neddfau’r Senedd (o ran dyddiad y Cydsyniad Brenhinol, er enghraifft)
  5. mabwysiadu cymhorthion llywio yn Neddfau’r Senedd, ac o bosibl mewn Offerynnau Statudol hefyd, megis ychwanegu penynnau at y ddogfen i ddangos y Rhan neu’r Atodlen berthnasol
  6. y ffurfdeip a ddefnyddir yn Neddfau’r Senedd ac mewn Offerynnau Statudol
  7. mabwysiadu dulliau sy’n helpu i wella hygyrchedd digidol ac argraffedig fel ei gilydd.

Materion eraill

Cywiriadau i Offerynnau Statudol Cymru

63. Mae’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad wedi ysgrifennu at y Cwnsler Cyffredinol ddwywaith yn ystod y cyfnod sydd dan sylw yr adroddiad hwn, ynglŷn â chywiro Offerynnau Statudol Cymru. Mae’r Cwnsler Cyffredinol hefyd wedi ymateb i’r mater hwn fel rhan o ohebiaeth yn dilyn sesiynau tystiolaeth lafar i’r Pwyllgor.

64. Mae’r Llywodraeth yn sefydlu proses newydd i sicrhau bod Aelodau’r Senedd yn cael gwybod am unrhyw fân gywiriadau neu gywiriadau technegol a wneir cyn i offeryn drafft sy’n destun y weithdrefn gadarnhaol gael ei wneud.

Cynhadledd Ewrop 2023 y Commonwealth Association of Legislative Counsel

65. Ym mis Mai 2023, cyfrannodd swyddogion o Swyddfa’r Cwnsleriaid Deddfwriaethol at drefnu Cynhadledd Ewrop 2023 y Commonwealth Association of Legislative Counsel (CALC). Nod y gymdeithas hon yw hyrwyddo cydweithredu o ran materion sydd o ddiddordeb proffesiynol i’r rheini sy’n drafftio deddfwriaeth neu’n hyfforddi pobl i wneud hynny.

66. Cynhaliwyd cynhadledd Ewrop yn Stadiwm y Principality yng Nghaerdydd eleni, a pan ddaeth 140 o gynrychiolwyr at ei gilydd o bob cwr o’r byd. Roedd hygyrchedd y gyfraith ac eglurder wrth ddrafftio deddfwriaeth yn thema amlwg yn ystod y digwyddiad deuddydd, a oedd yn cynnwys:

  1. prif araith ar y diwrnod cyntaf gan y Gwir Barchedig a’r Gwir Anrhydeddus Ddr Rowan Williams, cyn Archesgob Caergaint, a rannodd ei fyfyrdodau ar y gyfraith a sofraniaeth a chwestiynau yn ymwneud â diffiniadau, a oedd yn deillio o’i rôl fel cyd-gadeirydd y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru
  2. prif araith ar yr ail ddiwrnod gan Eleanor Sharpston CB, cyn Adfocad Cyffredinol yn Llys Cyfiawnder Ewrop, a rannodd ei myfyrdodau ar ddrafftio deddfwriaeth yn amgylchedd amlieithog, amlddiwylliannol yr Undeb Ewropeaidd, a’r cyfaddawdu sy’n angenrheidiol wrth setlo ar destunau deddfwriaethol yn yr amgylchiadau hynny araith gan Dylan Hughes, Prif Gwnsler Deddfwriaethol y Llywodraeth, yn dwyn y pennawd Canon to confusion: what has happened to the law? Reflections on the statute book, the legal response to the pandemic and the rule of law, ble 
  3. rhannodd ei fyfyrdodau ar y profiad o ddeddfu’n ddwyieithog yng Nghymru yn ystod pandemig Covid-19, a’r ymdrech sylweddol a wnaed i sicrhau bod y cyhoedd yn deall y cyfyngiadau a oedd mewn grym ar unrhyw adeg
  4. amrywiaeth o sesiynau grŵp dan arweiniad swyddogion eraill o Lywodraeth Cymru, a oedd yn canolbwyntio’n benodol ar ddrafftio dwyieithog a diweddaru ac anodi deddfwriaeth yn Gymraeg ac yn Saesneg ar legislation.gov.uk.

Cyfarfodydd rhwng swyddfeydd i drafod dulliau o ymdrin â deddfwriaeth ar draws y Deyrnas Unedig

67. Ym mis Chwefror 2023 sefydlwyd grŵp cyfnod penodol i ystyried materion sy’n ymwneud â drafftio deddfwriaeth sy’n gyffredin ar draws y DU. Mae’r grŵp yn cynnwys cynrychiolwyr o’r pedair swyddfa ddrafftio yn y DU (Cymru, Lloegr/y DU, yr Alban a Gweriniaeth Iwerddon) ac o’r Archifau Gwladol. Ei gylch gorchwyl yw ystyried:

  1. a oes pethau y gallai’r pedair swyddfa ddrafftio gytuno i’w gwneud yn gyson neu egwyddorion y gallent i gyd eu dilyn wrth weithredu yn yr un meysydd (e.e. a ddylent fod yn ceisio creu testunau ar wahân, a ddylid osgoi testunau cyfochrog, etc.)
  2. a oes pethau y mae Swyddfa’r Cwnsleriaid Seneddol yn ei wneud yn Neddfau’r DU sy’n gwneud bywyd yn fwy cymhleth i’r swyddfeydd drafftio eraill (ac i’r gwrthwyneb).

68. Mae’r grŵp yn cyfarfod yn fisol ac mae’n bwriadu cyflwyno ei argymhellion i’w hystyried yng nghyfarfod nesaf Penaethiaid y Swyddfeydd Drafftio tua dechrau 2024.

Diwygio’r rhaglen

69. Mae adran 2(6) o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 yn caniatáu i Weinidogion Cymru a’r Cwnsler Cyffredinol ddiwygio’r rhaglen.

70. Bwriedir diwygio’r rhaglen er mwyn cynnwys:

  1. ymrwymiad i greu Cod y gyfraith ar gyfer cynllunio, ac i ddangos fod Cod ar gyfraith yr amgylchedd hanesyddol wedi ei greu 
  2. gwybodaeth am y prosiect i gryfhau’r ffordd y caiff is-ddeddfwriaeth ei chyhoeddi, ac 
  3. ymrwymiad i ymgynghori ar gynigion i wella ffurf a strwythur deddfwriaeth.

71. Caiff y rhaglen ddiwygiedig ei gosod gerbron y Senedd yn nes ymlaen eleni.

Materion i gloi

72. Ymysg uchafbwyntiau’r deuddeg mis diwethaf mae pasio Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 ym mis Mawrth 2023 (gan ffurfio’r Cod cyntaf o gyfraith Cymru), a’r cynnydd da a wnaed gan staff Llywodraeth Cymru yn cymhwyso diwygiadau wedi eu hanodi i destunau Cymraeg a Saesneg cyfraith Cymru ar safle legislation.gov.uk. Mae’r naill beth a’r llall yn gamau mawr ymlaen o ran trin y ddwy iaith yn gyfartal a datblygu’r Gymraeg fel iaith y gyfraith.

73. Mae’r Archifau Gwladol dal i fod yn bartner hanfodol o ran ein helpu i wella hygyrchedd y gyfraith – o ran y ffordd y caiff deddfwriaeth ei hargraffu a’i chyhoeddi, a’r ffordd y caiff ei darparu ar ffurf ddigidol y gellir ei chyrchu a’i defnyddio’n rhad ac am ddim. Fodd bynnag, oni bai a hyd nes y bydd yn gallu bwrw ymlaen â blaenoriaethau’r rhaglen i ddatblygu swyddogaeth y safle fel y gellir cyrchu deddfwriaeth Cymru yn ôl pwnc, nid oes fawr o gyfle i Lywodraeth Cymru fwrw ymlaen â’r prosiect hwn.

74. Drwyddi draw, deuwn i’r casgliad fod y rhaglen yn dal i fod ar y trywydd iawn ac rydym yn falch o roi gwybod am y cynnydd da a wnaed ac am y bwriad i ehangu’r rhaglen i adlewyrchu’r gwaith pellach sydd ar y gweill.

Yr atodiad

Crynodeb o’r Ddeddf

1. Pasiwyd Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (“Deddf 2019”) gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (ar y pryd) ar 16 Gorffennaf 2019 ac fe gafodd y Cydsyniad Brenhinol ar 10 Medi 2019. Mae Deddf 2019 yn gwneud darpariaeth ynghylch dehongli a gweithredu deddfwriaeth Cymru, ac yn ei gwneud yn ofynnol i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidogion Cymru wella hygyrchedd cyfraith Cymru:

  1. Mae Rhan 1 yn gosod dyletswyddau ar Gwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cymru a Gweinidogion Cymru yn ymwneud â hygyrchedd cyfraith Cymru.
  2. Mae Rhan 2 yn gwneud darpariaeth gyffredinol ynghylch dehongli a gweithredu Deddf 2019 ei hun a deddfwriaeth Cymru a ddeddfir ar ôl i Ran 2 ddod i rym.
  3. Mae Rhan 3 yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru ddisodli disgrifiadau o ddyddiadau yn neddfwriaeth Cymru ac i wneud is-ddeddfwriaeth mewn gwahanol ffurfiau, ac mae’n darparu ar gyfer cyfuno is-ddeddfwriaeth sy’n ddarostyngedig i wahanol weithdrefnau yn y Senedd (fel y’i gelwir erbyn hyn).
  4. Mae Rhan 4 yn cynnwys darpariaethau cyffredinol, gan gynnwys diwygiadau canlyniadol i ddeddfwriaeth arall a darpariaeth ynghylch pryd a sut y bydd Deddf 2019 yn dod i rym.

2. Mae Deddf 2019 yn rhan o raglen ehangach Llywodraeth Cymru i wella hygyrchedd cyfraith Cymru ac egluro a symleiddio’r ffordd y mae deddfwriaeth Cymru’n gweithredu.

Ymrwymiad i ddiwygio Deddf 2019

3. Pan gyflwynwyd y Bil, a fyddai’n dod yn Ddeddf 2019, i’r Cynulliad Cenedlaethol, ymrwymodd y Llywodraeth y byddai’r deddfwriaeth yn cael ei hadolygu yn 2026 ar ddiwedd y tymor Cynulliad cyntaf lle y byddai rhaglen o dan Ran 1 o Ddeddf 2019 wedi ei chyflwyno. Yn ystod y gwaith craffu ar y Bil, ystyriwyd yr ymrwymiad hwn gan y Pwyllgor a oedd yn gyfrifol am y Bil, sef y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol. Yn adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor hwnnw, argymhellwyd:

Argymhelliad 6

Ar yr amod bod y Bil yn cael Cydsyniad Brenhinol, dylai’r Cwnsler Cyffredinol ymrwymo i adolygu’r ddeddfwriaeth hanner ffordd drwy dymor cyntaf y Cynulliad pan ddaw’r ddeddfwriaeth i rym, h.y. erbyn diwedd 2023.

4. Derbyniodd y Cwnsler Cyffredinol, yr Aelod a oedd yn gyfrifol am y Bil, yr argymhelliad hwn, ynghyd ag argymhelliad cysylltiedig y dylid cyflwyno adroddiadau blynyddol (yn hytrach na rhai cyfnodol) ynglŷn â hynt y gwaith o dan raglen a luniwyd o dan Ran 1 o’r Bil. Yn ystod y ddadl ar Egwyddorion Cyffredinol y Bil a gynhaliwyd ar 2 Ebrill 2019, eglurodd y Cwnsler Cyffredinol y byddai’r Llywodraeth, fel rhan o’r broses adrodd flynyddol “yn adolygu effeithiolrwydd Rhan 1 y Bil hanner ffordd drwy dymor nesaf y Cynulliad.”

5. Cyflwynodd y Pwyllgor Cyllid hefyd adroddiad ar y Bil yn ystod ystyriaethau’r Cynulliad Cenedlaethol yng Nghyfnod 1. Ei argymhelliad oedd:

Argymhelliad 2

Mae’r Pwyllgor yn argymell bod gweithgarwch adolygu perthnasol sy’n gysylltiedig â’r Bil yn ystyried y goblygiadau ariannol a’r goblygiadau o ran adnoddau yn sgîl cyflawni amcanion y Bil.

6. Derbyniodd y Llywodraeth yr argymhelliad hwn hefyd.

7. Ar 18 Mehefin 2019, yn dilyn trafodion Cyfnod 2 ar y Bil, gosododd y Cwnsler Cyffredinol Femorandwm Esboniadol diwygiedig i’r Bil gerbron y Cynulliad Cenedlaethol. Ysgrifennodd hefyd at Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, gan nodi:

…byddai’r adolygiad canol tymor yn gwneud dau beth yn bennaf. Yn gyntaf, byddai’n adrodd ar gynnydd o ran gweithredu’r rhaglen i wella hygyrchedd cyfraith Cymru ac i ystyried a ddylid newid ei chynnwys arfaethedig. Yn ail (ac yn fwy cyffredinol), byddai’n darparu craffu ôl-ddeddfwriaethol ar y Bil ei hun, gan gynnwys Rhannau 2 a 3.

8. Yn ystod trafodion Cyfnod 2 gerbron y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, gwahoddwyd y Cwnsler Cyffredinol i ysgrifennu i’r Pwyllgor yn nodi barn y Llywodraeth ynghylch sut y gallai Aelodau’r Cynulliad ddylanwadu ar gynnwys yr adolygiad canol tymor. Roedd llythyr y Cwnsler Cyffredinol ar 18 Mehefin 2019 yn cynnig:

...gwasanaeth fy swyddogion i’r Pwyllgor … er mwyn deall beth fyddai’r Pwyllgor yn ystyried sy’n bwysig, ac i werthfawrogi’n well sut, ym marn yr Aelodau presennol, y gallai Cynulliad y dyfodol gymryd rhan yn y broses o gynnal yr adolygiad canol blwyddyn. Hyderaf y gallai’r sgyrsiau hyn helpu i siapio’r farn y gallai’r Pwyllgor hwn ddymuno ei throsglwyddo i’w olynydd wrth i gyfnod y Cynulliad hwn ddirwyn i ben.

9. Ni roddodd y Pwyllgor unrhyw farn ar y mater hwn wedyn i swyddogion y Llywodraeth, nac ychwaith mewn unrhyw adroddiad a gyhoeddwyd ar gyfer y Pwyllgor a’i holynodd. Fodd bynnag, yn y Senedd bresennol cyhoeddodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad adroddiad ar Gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24, ac argymhellodd:

Argymhelliad 4

Dylai’r Cwnsler Cyffredinol, erbyn diwedd mis Mawrth, ddarparu dadansoddiad ynghylch pa un a yw’r costau staffio ychwanegol a ragwelwyd i Lywodraeth Cymru sydd wedi’u nodi yn y Memorandwm Esboniadol i’r Bil Deddfwriaeth (Cymru) yn gywir.

10. Yn ei ymateb, eglurodd y Cwnsler Cyffredinol:

Yn y gorffennol mae’r Llywodraeth wedi ymrwymo i nodi manylion goblygiadau adnoddau ac ariannol cyflawni’r rhaglen gyntaf sy’n anelu at wella hygyrchedd cyfraith Cymru, a chostau eraill sy’n deillio o weithredu [Deddf 2019]. Rhoddwyd yr ymrwymiad hwn mewn ymateb i argymhellion a wnaed gan Bumed Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y Senedd a’r Pwyllgor Cyllid, yn dilyn eu gwaith craffu Cyfnod 1 ar Fil Deddfwriaeth (Cymru). Cytunodd y Llywodraeth i gynnwys y manylion hyn yn yr adroddiad blynyddol o dan adran 2(7) o Ddeddf 2019 a fyddai’n cael ei wneud yn 2023. Byddaf, felly, yn darparu’r wybodaeth hon yn yr adroddiad a ddisgwylir yn ddiweddarach eleni.

11. Felly, mae’r adroddiad hwn yn adolygu Rhannau 1 i 3 o Ddeddf 2019 ac yn ystyried goblygiadau’r Ddeddf o ran adnoddau.

Gweithredu Deddf 2019

Cychwyn

12. Cafodd Deddf 2019 y Cydsyniad Brenhinol ar 10 Medi 2019. Roedd adran 43 yn gwneud darpariaeth ynghylch pryd a sut y byddai’r Ddeddf yn dod i rym:

  1. Daeth Rhan 1 o’r Ddeddf i rym drannoeth y diwrnod y cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol, sef 11 Medi 2019. Fodd bynnag, ni chafodd adran 2 effaith uniongyrchol yn ymarferol, oherwydd mai’r tro cyntaf i’r ddyletswydd i lunio rhaglen godi oedd yn ystod tymor y Senedd a ddechreuodd ar ôl i’r adran ddod i rym (hynny yw, y Chweched Senedd a ddechreuodd ar ôl yr etholiad cyffredinol a gynhaliwyd ar 6 Mai 2021).
  2. Daeth darpariaethau Rhan 2 Deddf 2019 sy’n gymwys i ddehongli a gweithredu Deddf 2019 ei hun i rym ar 11 Medi 2019. Daeth y pŵer yn adran 5(2) a (3) i ddiwygio Atodlen 1 i rym y diwrnod ar ôl y Cydsyniad Brenhinol, rhag ofn bod angen diwygio’r Atodlen cyn iddi ddod i rym yn llawn. Nid oedd angen hyn yn y pen draw, er y gwnaed diwygiadau i Atodlen 1 ar ôl iddi ddod i rym yn llawn – gweler paragraff 20(f) isod.
  3. Gwnaed gorchymyn gan Weinidogion Cymru i ddod â Rhan 2 i rym mewn perthynas â Deddfau eraill gan y Cynulliad ac mewn perthynas ag is-offerynnau Cymreig. Disgwyliad y Llywodraeth yn ystod y gwaith o ddatblygu’r Bil oedd y byddai’r gorchymyn yn dod â Rhan 2 i rym yn llawn ar ddechrau blwyddyn galendr, fel y byddai modd gwybod oddi wrth y flwyddyn sydd wedi ei chynnwys yn nheitl Deddf neu offeryn ai Rhan 2 ynteu Deddf Dehongli 1978 sy’n gymwys. Cyflawnwyd y disgwyliad hwn, a daeth Gorchymyn Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (Cychwyn) 2019 â gweddill agweddau Rhan 2 i rym ar 1 Ionawr 2020.
  4. Daeth Rhannau 3 a 4 i rym hefyd drannoeth y diwrnod y cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol. Roedd hyn yn golygu y gellid dibynnu ar ddarpariaethau yn Rhan 3 mewn offerynnau statudol a wneid gan Weinidogion Cymru o’r dyddiad hwnnw ymlaen (neu a osodid ganddynt gerbron y Senedd ar ffurf drafft ar y dyddiad hwnnw neu ar ôl y dyddiad hwnnw, yn achos offerynnau sy’n ddarostyngedig i weithdrefn gadarnhaol ddrafft).

Pwerau Gweinidogion Cymru

13. Rhoddodd Deddf 2019 nifer cyfyngedig o bwerau i Weinidogion Cymru i wneud is-ddeddfwriaeth, y mae rhai ohonynt wedi eu harfer (gweler isod).

Pwerau i wneud is-ddeddfwriaeth a’r defnydd ohonynt

Adran 6(2)

Caiff Gweinidogion Cymru ychwanegu, dileu neu ddiwygio diffiniadau yn Atodlen 1 i’r Bil, yn ôl yr angen.

Defnydd - Rheoliadau Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (Diwygio Atodlen 1) 2020.

Adran 38(1)

Mae’r pŵer hwn yn galluogi Gweinidogion Cymru i ddiwygio deddfwriaeth sy’n disgrifio dyddiad neu amser fel ei bod yn nodi’r dyddiad neu’r amser gwirioneddol.

Defnydd - Fe’i defnyddiwyd gyntaf yng Ngorchymyn Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (Cychwyn) 2019 (ond gweler hefyd baragraff 20(b)).

Adran 42(1)

Mae’n galluogi Gweinidogion Cymru i wneud darpariaeth bellach o ganlyniad i’r Ddeddf, neu i roi effaith lawn iddi.

Defnydd - Heb ei ddefnyddio eto.

Adran 44(2)

Pŵer i ddod â’r darpariaethau dehongli statudol, i’r graddau y maent yn gymwys i is-offerynnau Cymreig ac i Ddeddfau’r Cynulliad ac eithrio Deddf 2019 ei hun, i rym ar ddyddiad penodol.

Defnydd - Gorchymyn Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (Cychwyn) 2019.

14. Roedd Deddf 2019 hefyd yn cynnwys dwy ddarpariaeth ynghylch arfer pwerau mewn deddfwriaeth arall:

  1. mae adran 39 yn galluogi Gweinidogion Cymru i arfer pwerau i wneud rheoliadau, rheolau neu orchmynion drwy wneud unrhyw un arall o’r ffurfiau hynny ar is-ddeddfwriaeth. 
  2. mae adran 40 yn ymwneud â chyfuno, mewn un offeryn statudol, isddeddfwriaeth a wneir gan Weinidogion Cymru a fyddai’n ddarostyngedig i weithdrefnau gwahanol yn y Cynulliad, ac yn sicrhau bod yr offeryn yn ddarostyngedig i’r weithdrefn fwyaf llym ohonynt.

Mae manylion am y defnydd dilynol o’r darpariaethau galluogi hyn wedi eu nodi o baragraff 38 ymlaen isod.

Canllawiau ar gyfer gweithredu

15. Ym mharagraff 205 o’r Memorandwm Esboniadol i’r Bil, nododd y Llywodraeth rai camau y gellid eu cymryd i helpu i weithredu’r hyn a fyddai’n dod yn Ddeddf 2019:

  1. Llunio a darparu canllawiau – nododd y Llywodraeth y byddai’n datblygu ac yn cyhoeddi canllawiau anstatudol i’r rhai sy’n drafftio is-ddeddfwriaeth. Llywodraeth Cymru fyddai’n ysgwyddo’r gost. Y bwriad oedd llunio’r canllawiau erbyn y byddai’r darpariaethau dehongli yn dod i rym. Câi’r costau paratoi eu cynnwys yn rhan o’r gwaith arferol, ond amcangyfrifwyd mai’r gost fyddai £5,000 (cost untro yn codi yn 2019/2020). Byddai’r canllawiau’n cael eu cyhoeddi ar-lein yn unig.
  2. Gwybodaeth am y newidiadau arfaethedig – nodwyd dau gam gweithredu posibl:
    1. Hysbysu – rhagwelid y byddai angen i ddrafftwyr Llywodraeth Cymru, awdurdodau Cymreig datganoledig eraill sy’n gwneud is-ddeddfwriaeth, gweithwyr cyfreithiol proffesiynol, y farnwriaeth ac ysgolion cyfraith yng Nghymru gael gwybod am y newidiadau mewn perthynas â dehongli statudol. Y bwriad gwreiddiol oedd rhoi gwybod i sefydliadau a chyrff perthnasol am y Ddeddf newydd, gan ddefnyddio gwefan Cyfraith Cymru/Law Wales o bosibl, a darparu gwybodaeth am y canllawiau i’r drafftwyr is-ddeddfwriaeth a grybwyllir uchod.
    2. Hyfforddiant – gallai cyrff fel Cymdeithas y Gyfraith neu Gyngor y Bar ddewis darparu hyfforddiant neu wybodaeth arall am y ddeddfwriaeth newydd i’w haelodau. Rhagwelid hefyd y byddai sesiynau gwybodaeth yn cael eu darparu’n fewnol yn Llywodraeth Cymru.

16. Ar 27 Mai 2020 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ‘Rhannau 2 a 3 o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019: Canllawiau ar baratoi deddfwriaeth Cymru’. Cyhoeddwyd y rhain yn hwyrach na’r disgwyl (a hynny’n rhannol er mwyn ystyried newidiadau a ddaeth yn sgil Deddf Senedd ac Etholiadau 2020 - mae canllawiau ar wahân wedi eu cyhoeddi hefyd ar oblygiadau Rhan 2 o Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 o ran drafftio deddfwriaeth), ond roedd drafft cynnar ar gael i’w ddefnyddio o fewn Llywodraeth Cymru hyd nes cyhoeddi’r canllawiau terfynol. Nid oedd unrhyw gostau, ar wahân i’r costau cyfle a oedd ynghlwm wrth yr amser a dreuliodd aelod o Swyddfa’r Cwnsleriaid Deddfwriaethol yn llunio’r cyngor. Mae’r canllawiau terfynol yn berthnasol yn bennaf i:

  1. cyfreithwyr a swyddogion Llywodraeth Cymru sy’n drafftio Biliau ac offerynnau statudol ar gyfer Gweinidogion Cymru
  2. swyddogion Llywodraeth Cymru sy’n llunio is-ddeddfwriaeth
  3. cyfreithwyr a swyddogion eraill sy’n drafftio is-ddeddfwriaeth ar gyfer awdurdodau Cymreig datganoledig (megis is-ddeddfau a chynlluniau a wneir gan gynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol).

17. Ers i’r canllawiau gael eu cyhoeddi, ni chafwyd unrhyw adborth sy’n golygu bod angen eu diweddaru, ac maent yn dal ar gael fel arweiniad defnyddiol.

18. Ym mis Hydref a mis Tachwedd 2019 cynhaliwyd dwy sesiwn hyfforddi wyneb yn wyneb, ar Rannau 2 a 3 o’r Ddeddf yn bennaf, ar gyfer cyfreithwyr drafftio yn Llywodraeth Cymru. Daeth oddeutu 100 o gyfreithwyr i’r ddau ddigwyddiad. Yn fwy diweddar cynhaliwyd sesiwn atodol fis Gorffennaf 2023, drwy MS Teams y tro hwn. Daeth oddeutu 70 o aelodau staff i’r sesiwn a gellir ei gwylio hefyd fel rhan o’r banc adnoddau sydd ar gael i gyfreithwyr y Llywodraeth. Nid oedd unrhyw gostau heblaw’r costau cyfle a oedd ynghlwm wrth baratoi a mynychu’r sesiwn.

19. Cyhoeddwyd gwybodaeth am Ddeddf 2019 ar wefan Cyfraith Cymru/Law Wales, a chafodd y fersiwn ddiwethaf o’r wybodaeth honno ei chyhoeddi fis Awst 2023. Mae elfen newydd o’r safle yn cael ei datblygu ar hyn o bryd, sef tudalen o wybodaeth am bob un o Ddeddfau’r Senedd, ynghyd â dolenni at unrhyw is-ddeddfwriaeth a wneir o dan y Ddeddf honno. Mae’r fersiwn ddiweddaraf o’r wybodaeth ar gyfer Deddf 2019 wedi ei chynnwys yn rhan o’r gwaith hwnnw. Bydd yr adroddiad hwn yn cael ei ychwanegu at y dudalen honno ar ôl iddo gael ei osod gerbron y Senedd.

Diwygiadau i Ddeddf 2019

20. Mae Deddf 2019 wedi ei diwygio sawl gwaith ers iddi gael ei deddfu. Cafwyd llawer o newidiadau yn rhannol oherwydd ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd ac nid ydym yn rhagweld y bydd y Ddeddf yn cael ei newid mor aml yn y dyfodol. Dyma’r newidiadau a wnaed:

  1. Pan gychwynnwyd Rhan 2 o Ddeddf 2019 drwy Orchymyn Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (Cychwyn) 2019, defnyddiodd Gweinidogion Cymru’r pŵer yn adran 38(1) o Ddeddf 2019. Felly, roedd y Gorchymyn yn diwygio’r darpariaethau yn Neddf 2019 sy’n cyfeirio at y diwrnod y daw Rhan 2 i rym, fel eu bod yn cyfeirio yn hytrach at 1 Ionawr 2020.
  2. Roedd Rhan 2 o Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 yn newid enw Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Senedd Cymru, a hynny o 6 Mai 2020. Roedd Atodlen 1 i’r Ddeddf honno yn diwygio Deddf 2019 i roi cyfeiriadau at Ddeddfau’r Senedd yn lle cyfeiriadau at Ddeddfau’r Cynulliad, ac i fewnosod diffiniadau yn Atodlen 1 i Ddeddf 2019 yn ymwneud â Senedd Cymru a Deddfau Senedd Cymru. 
  3. Roedd Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020 yn gweithredu’r Cytundeb Ymadael, fel y cytunwyd arno rhwng y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd. Roedd y Ddeddf yn ofynnol i roi’r Cytundeb Ymadael ar waith er mwyn iddo gael effaith gyfreithiol ddomestig ac i alluogi Llywodraeth y DU i gadarnhau’r Cytundeb Ymadael. O ganlyniad, diwygiodd y Ddeddf honno Ddeddf 2019 i fewnosod, disodli a diwygio cofnodion yn ymwneud â’r Cytundeb Ymadael ac, yn benodol, y cyfnod gweithredu.
  4. Roedd Deddf Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol) 2020 a Rheoliadau Deddf Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol) 2020 (Diwygiadau Canlyniadol) 2020 yn gwneud diwygiadau canlyniadol i Ddeddf 2019 (a deddfwriaeth arall sy’n ymwneud â dehongli cyfraith Cymru a chyfraith arall), i sicrhau bod deddfwriaeth yr UE a ymgorfforwyd mewn cyfraith ddomestig o dan Deddf Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol) 2020 yn cael ei thrin yn yr un modd â deddfwriaeth yr UE a ymgorfforwyd mewn cyfraith ddomestig o dan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.
  5. Roedd Deddf Pysgodfeydd 2020, ymhlith materion eraill, yn estyn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru er mwyn galluogi’r Senedd i wneud deddfwriaeth sylfaenol ar faterion pysgota, pysgodfeydd ac iechyd pysgod ym mharth Cymru. O ganlyniad, diwygiodd adran 46 o Ddeddf Pysgodfeydd 2020 Ddeddf 2019 i fewnosod diffiniad o “parth Cymru” yn Atodlen 1 ac i addasu cyfeiriadau yn Rhannau 1 a 3 o Ddeddf 2019 at is-ddeddfwriaeth yn ymwneud â Chymru er mwyn adlewyrchu’n gywir y disgrifiad newydd o “parth Cymru”. 
  6. Gwnaeth Gweinidogion Cymru Reoliadau Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (Diwygio Atodlen 1) 2020 a ddaeth i rym ar 27 Tachwedd 2020. Roedd y Rheoliadau hyn yn diwygio Atodlen 1 i Ddeddf 2019, i fewnosod darpariaethau ynghylch ystyr pedwar ymadrodd (“Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol”, “yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol”, “y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus”, a’r “Cod Dedfrydu”) ychwanegol ac i ddiwygio’r diffiniad o’r “graddfa safonol” o ddirwyon am droseddau diannod o ganlyniad i’r Cod Dedfrydu (yr ailddatganiad o’r ddeddfwriaeth ddedfrydu a nodir yn Neddf Dedfrydu 2020).
  7. Roedd Rheoliadau Ymadael â’r Undeb Ewropeaidd (Addasiadau Canlyniadol) (Ymadael â’r UE) 2020 yn diwygio Deddf 2019 (a deddfwriaeth ddehongli gysylltiedig) i fewnosod darpariaethau ynghylch effaith cyfeiriadau at offerynnau’r UE sy’n ffurfio rhan o gyfraith berthnasol ar y cytundeb gwahanu (fel y’i diffinnir yn Neddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018) ar neu ar ôl diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu. Diwedd y cyfnod o 11 mis o 31 Ionawr 2020 pan oedd y DU yn parhau i fod yn ddarostyngedig i reolau’r UE. (Roedd y cyfnod hwn yn cael ei adnabod yn y Cytundeb Ymadael rhwng y DU a’r UE fel y ‘cyfnod pontio).

21. Bydd newidiadau pellach yn cael eu gwneud i Ddeddf 2019 gan Ddeddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023. Bydd y Ddeddf hon, pan fydd mewn grym yn llawn, yn galluogi cyfraith yr UE a ddargedwir (a elwir yn “REUL”) i gael ei diwygio ac yn dileu’r nodweddion arbennig sydd ganddi yn system gyfreithiol y DU. Mae’n gwneud diwygiadau i Ddeddf 2019 i roi cyfeiriadau at “cyfraith a gymathwyd” (a thermau cysylltiedig) yn lle cyfeiriadau at “cyfraith yr UE a ddargedwir” (a thermau cysylltiedig). Mae’r diwygiadau’n cynnwys newidiadau i Atodlen 1 i Ddeddf 2019, a fydd yn disodli’r holl ddiwygiadau a wnaed i Ddeddf 2019 gan Ddeddf Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol) 2020.

Rhan 1 o Ddeddf 2019

22. I lywio’r broses o wneud cyfraith Cymru yn fwy hygyrch, mae adran 1(1) yn ei gwneud yn ofynnol i’r Cwnsler Cyffredinol (fel Swyddog y Gyfraith ar gyfer Cymru), adolygu hygyrchedd cyfraith Cymru yn rheolaidd. Mae Adran 2 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru a’r Cwnsler Cyffredinol ddatblygu rhaglen weithredu a gynlluniwyd i wella hygyrchedd cyfraith Cymru ar gyfer tymor pob Senedd gan ddechrau â’r tymor yn dilyn yr etholiad cyffredinol ar 6 Mai 2021. Er mai mater i Weinidogion Cymru a’r Cwnsler Cyffredinol fydd union gynnwys rhaglen, mae adran 2(3) yn ei gwneud yn ofynnol i bob rhaglen wneud darpariaeth ar gyfer mesurau y bwriedir iddynt gydgrynhoi a chodeiddio cyfraith Cymru, cynnal ffurf cyfraith sydd wedi ei chodeiddio, hybu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o gyfraith Cymru a hwyluso defnydd o’r Gymraeg.

23. Cafodd y rhaglen gyntaf, Dyfodol Cyfraith Cymru: rhaglen hygyrchedd 2021 i 2026, ei datblygu yn dilyn yr etholiad cyffredinol i’r Chweched Senedd a chytunodd Gweinidogion Cymru a’r Cwnsler Cyffredinol arni cyn iddi gael ei gosod gerbron y Senedd ar 21 Medi 2021.

24. Mae adran 2(7) o Ddeddf 2019 yn ei gwneud yn ofynnol i adroddiad blynyddol gael ei lunio ar hynt y gwaith yn unol â’r rhaglen. Gosodwyd yr adroddiad blynyddol cyntaf gerbron y Senedd ar 7 Tachwedd 2022. Mae’r adroddiad hwn yn rhan o’r ail adroddiad blynyddol sydd bellach yn cael ei osod gerbron y Senedd. Mae’r ddau adroddiad blynyddol yn crynhoi’r gwaith a gyflawnwyd yn unol â phob rhaglen (ac nad yw’n cael ei ailadrodd yma).

25. Nodir manylion ynghylch goblygiadau adnoddau’r rhaglen gyntaf hon yn ddiweddarach yn yr adroddiad hwn.

26. Prif bwrpas Rhan 1 oedd sicrhau ymrwymiad i wneud cyfraith Cymru yn fwy hygyrch. Roedd bwriad i hyn gael effaith fel addewid allanol i wneud hawliau a rhwymedigaethau pobl Cymru yn fwy eglur, yn ogystal ag fel dull o sicrhau bod gwella’r sefyllfa yn parhau i fod yn flaenoriaeth o fewn Llywodraeth Cymru. Hyd yn hyn credwn fod y Rhan wedi cael yr effaith a ddymunwyd. Mae codeiddio, yn arbennig, wedi ennyn cryn gefnogaeth gan randdeiliaid ac ymwybyddiaeth, ar ran gweinidogion a swyddogion, o’r anawsterau ymarferol a achosir gan ddeddfwriaeth anhygyrch.

27. Rhoddodd pandemig y coronafeirws yr ymrwymiad hwn ar brawf mewn ffordd nad oeddem erioed wedi ei disgwyl. Ar y naill law, arweiniodd y pandemig at arallgyfeirio rhai o’r adnoddau prin a neilltuwyd i’r prosiectau i wneud y gyfraith yn fwy hygyrch, ond ar y llaw arall roedd ymateb cyfreithiol y Llywodraeth – a seiliwyd ar gyfathrebu gofynion yn eglur â’r cyhoedd yng Nghymru – yn enghraifft o arfer dda a’r modd y gellid gwella pethau o ran pob deddfwriaeth yn y dyfodol. Sylweddolodd y Llywodraeth yn fuan iawn fod angen iddi wneud mwy i sicrhau bod y gyfraith ei hun ar gael yn rhwydd, ac i egluro effaith y gyfraith. Gwnaed cryn ymdrech, o ganlyniad, i gyhoeddi’r gyfraith yn gyflym ac wedi ei diweddaru yn y ddwy iaith, i lunio canllawiau ac i gyhoeddi negeseuon syml ar ffurf cwestiwn ac ateb. Canlyniad hyn, yn ôl astudiaeth gan King’s College, oedd bod pobl yn deall y cyfyngiadau yn well o lawer yng Nghymru nag yn Lloegr.

24. Mae adran 2(7) o Ddeddf 2019 yn ei gwneud yn ofynnol i adroddiad blynyddol gael ei lunio ar hynt y gwaith yn unol â’r rhaglen. Gosodwyd yr adroddiad blynyddol cyntaf gerbron y Senedd ar 7 Tachwedd 2022. Mae’r adroddiad hwn yn rhan o’r ail adroddiad blynyddol sydd bellach yn cael ei osod gerbron y Senedd. Mae’r ddau adroddiad blynyddol yn crynhoi’r gwaith a gyflawnwyd yn unol â phob rhaglen (ac nad yw’n cael ei ailadrodd yma).

25. Nodir manylion ynghylch goblygiadau adnoddau’r rhaglen gyntaf hon yn ddiweddarach yn yr adroddiad hwn.

26. Prif bwrpas Rhan 1 oedd sicrhau ymrwymiad i wneud cyfraith Cymru yn fwy hygyrch. Roedd bwriad i hyn gael effaith fel addewid allanol i wneud hawliau a rhwymedigaethau pobl Cymru yn fwy eglur, yn ogystal ag fel dull o sicrhau bod gwella’r sefyllfa yn parhau i fod yn flaenoriaeth o fewn Llywodraeth Cymru. Hyd yn hyn credwn fod y Rhan wedi cael yr effaith a ddymunwyd. Mae codeiddio, yn arbennig, wedi ennyn cryn gefnogaeth gan randdeiliaid ac ymwybyddiaeth, ar ran gweinidogion a swyddogion, o’r anawsterau ymarferol a achosir gan ddeddfwriaeth anhygyrch.

27. Rhoddodd pandemig y coronafeirws yr ymrwymiad hwn ar brawf mewn ffordd nad oeddem erioed wedi ei disgwyl. Ar y naill law, arweiniodd y pandemig at arallgyfeirio rhai o’r adnoddau prin a neilltuwyd i’r prosiectau i wneud y gyfraith yn fwy hygyrch, ond ar y llaw arall roedd ymateb cyfreithiol y Llywodraeth – a seiliwyd ar gyfathrebu gofynion yn eglur â’r cyhoedd yng Nghymru – yn enghraifft o arfer dda a’r modd y gellid gwella pethau o ran pob deddfwriaeth yn y dyfodol. Sylweddolodd y Llywodraeth yn fuan iawn fod angen iddi wneud mwy i sicrhau bod y gyfraith ei hun ar gael yn rhwydd, ac i egluro effaith y gyfraith. Gwnaed cryn ymdrech, o ganlyniad, i gyhoeddi’r gyfraith yn gyflym ac wedi ei diweddaru yn y ddwy iaith, i lunio canllawiau ac i gyhoeddi negeseuon syml ar ffurf cwestiwn ac ateb. Canlyniad hyn, yn ôl astudiaeth gan King’s College, oedd bod pobl yn deall y cyfyngiadau yn well o lawer yng Nghymru nag yn Lloegr.

Rhan 2 o Ddeddf 2019

28. Mae Rhan 2 o Ddeddf 2019 yn gwneud darpariaeth ynghylch dehongli a gweithredu deddfwriaeth a wneir gan y Senedd neu o dan bwerau y mae wedi eu rhoi, ac isddeddfwriaeth arall a wneir gan Weinidogion Cymru ac awdurdodau Cymreig datganoledig eraill.

29. Y sefyllfa cyn i Ran 2 ddod i rym oedd bod Deddf Dehongli 1978 (“Deddf 1978”) yn llywodraethu dehongli a gweithredu deddfwriaeth o’r mathau hyn. Mae Deddf 1978 yn parhau i fod yn gymwys i ddeddfwriaeth a wnaed cyn 1 Ionawr 2020 (pan ddaeth Rhan 2 i rym yn llawn). Mae Deddf 1978 hefyd yn parhau i fod yn gymwys i rai categorïau cyfyngedig iawn o offeryn a wneir gan Weinidogion Cymru ac awdurdodau Cymreig datganoledig eraill o dan bwerau penodol ar ôl 1 Ionawr 2020, os yw’r offerynnau hynny hefyd yn cynnwys darpariaethau a wneir gan gyrff nad ydynt yn awdurdodau Cymreig datganoledig neu ddarpariaethau sy’n gymwys heblaw mewn perthynas â Chymru. Mae Rhan 2 yn gymwys yn unig i ddeddfwriaeth a wnaed ar ôl y dyddiad hwnnw (ac i Ddeddf 2019 ei hun).

30. Mae Rhan 2, felly, wedi bod yn gymwys i 12 o Ddeddfau’r Senedd a ddeddfwyd ers 1 Ionawr 2020, ac i 1,176 o Offerynnau Statudol a wnaed gan Weinidogion Cymru, ynghyd â rhyw 270 o eitemau o is-ddeddfwriaeth a wnaed yn ystod y cyfnod hwn gan Weinidogion Cymru a deddfwriaeth bellach a wnaed gan gyrff eraill (nad yw’r Llywodraeth yn cadw manylion amdanynt) - am y cyfnod hyd at a chan gynnwys 30 Medi 2023.

31. Bwriedid i’r mwyafrif o’r darpariaethau yn Rhan 2 gael yr un effaith â’r darpariaethau yn Neddf 1978, hyd yn oed os cawsant eu mynegi mewn termau gwahanol. Er hynny, roedd rhai gwahaniaethau a nodwyd ac a ddisgrifiwyd yn y Nodiadau Esboniadol i Ddeddf 2019.

32. Un o’r prif wahaniaethau rhwng y ddwy Ddeddf yw nad yw Deddf 2019 yn cynnwys darpariaeth sy’n cyfateb i adran 11 o Ddeddf 1978. Mae’r adran honno’n darparu bod i ymadroddion a ddefnyddir mewn is-ddeddfwriaeth yr ystyr sydd iddynt yn y Ddeddf neu’r Mesur (neu ddeddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir) y gwneir yr is-ddeddfwriaeth oddi tani neu oddi tano. O ganlyniad mae angen i’r rheini sy’n drafftio offerynnau statudol Cymru ystyried sut orau i sicrhau bod i’r geiriau a ddefnyddir yn yr offeryn yr un ystyr ag yn y ddeddfwriaeth sylfaenol (os dyna’r bwriad). Mae Drafftio Deddfau i Gymru (canllawiau’r Llywodraeth ar ddrafftio deddfwriaeth) a’r canllawiau a gyhoeddwyd ar Ran 2 o Ddeddf 2019 yn ymdrin yn fwy manwl â hyn. Mae tystiolaeth o offerynnau statudol a wnaed ers pasio Deddf 2019 yn dangos bod amryw o ddulliau yn cael eu dilyn, yn dibynnu ar yr effaith sydd ei hangen a ffactorau eraill, megis a yw ystyr benodol yn deillio o gyfraith achos. Mae trafodaethau anecdotaidd â chyfreithwyr drafftio yn y Llywodraeth wedi dangos bod y canllawiau ar y mater hwn a chyd-destun yr offeryn sy’n cael ei baratoi i gyd yn dylanwadu ar y dull sy’n cael ei ddilyn, ac nad oes unrhyw ddull unigol yn cael ei ffafrio.

33. Mae adran 35 o Ddeddf 2019 yn gwneud darpariaeth gyffredinol ynghylch effeithiau diddymu ac ailddeddfu deddfwriaeth bresennol. Mae’n seiliedig ar ddarpariaethau tebyg iawn yn adran 17(2) o Ddeddf 1978, ond fe ehangwyd rhai agweddau arni i hwyluso Deddfau cydgrynhoi’r Senedd (yn benodol, nid yw adran 35 wedi ei chyfyngu i achosion pan fo’r diddymu a’r ail-ddeddfu ill dau yn yr un Ddeddf, ac mae’n galluogi cyfeiriadau at ddeddfiad a ddiddymwyd i gael eu ddarllen fel “yn cynnwys” eu hailddatgan ar gyfer Cymru pan fo hynny’n briodol). Serch hynny, gwnaeth Rhan 1 o Atodlen 14 i Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 amryw o ddarpariaethau trosiannol ychwanegol yn delio gyda chyfeiriadau at y Ddeddf honno a’r Deddfau y mae’n eu disodli. Rydym yn ystyried a fyddai o gymorth i gael darpariaethau cyffredinol o’r math hwnnw, fel nad oes angen eu gwneud ar wahân ym mhob un o Ddeddfau’r Senedd sy’n ailddatgan deddfwriaeth bresennol.

34. Gan fod adran 35 yn darparu, pan fo Deddf y Senedd yn ailddatgan Deddf flaenorol, bod is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf gynharach yn parhau i gael effaith fel pe bai wedi ei gwneud o dan yr un gynharach. Gall hyn olygu bod rhaid trin is-ddeddfwriaeth yr oedd Deddf 1978 yn gymwys iddi fel pe bai’n ddarostyngedig i Ddeddf 2019 yn awr. Yn gyffredinol ni fydd hynny’n gwneud unrhyw wahaniaeth, o ystyried y tebygrwydd agos rhwng y ddwy Ddeddf a’r ffaith bod y rhan fwyaf o’u darpariaethau dehongli yn ddarostyngedig i unrhyw fwriad i’r gwrthwyneb yn y ddeddfwriaeth o dan sylw. Fodd bynnag, mewn cysylltiad â’r gwaith sy’n mynd rhagddo gan y Llywodraeth i gydgrynhoi’r gyfraith, rydym yn ystyried a oes unrhyw achosion pryd y gallai gael effeithiau nas dymunir.

35. Fel y nodwyd yn gynharach yn yr adroddiad hwn, mae Atodlen 1 i Ddeddf 2019 wedi ei diwygio sawl gwaith. Dim ond un o’r rhain sydd wedi bod yn destun arfer y pwerau yn adran 6(2) o Ddeddf 2019. Mae’r Llywodraeth yn bwriadu ystyried diwygiadau pellach i Atodlen 1 o dro i dro, i gynnwys diffiniadau newydd o dermau neu i ddiweddaru termau, yn ôl y galw.

Rhan 3 o Ddeddf 2019

36. Fel y nodwyd yn gynharach, mae Rhan 3 yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru newid disgrifiadau o ddyddiadau yn neddfwriaeth Cymru (adran 38); ac i wneud isddeddfwriaeth mewn gwahanol ffurfiau (adran 39). Mae hefyd yn darparu ar gyfer cyfuno is-ddeddfwriaeth sy’n ddarostyngedig i weithdrefnau gwahanol yn y Senedd (adran 40).

37. Cafodd y pŵer galluogi yn adran 38 ei ddefnyddio gyntaf yn y gorchymyn cychwyn a wnaed o dan Ddeddf 2019, a oedd yn diwygio’r Ddeddf ei hun. Mae’r pŵer wedi cael ei ddefnyddio wedyn mewn gorchymyn cychwyn arall: Gorchymyn Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2 a Diwygiadau Canlyniadol) 2022. Daeth y gorchymyn hwnnw â Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 i rym, i’r graddau nad oedd mewn grym yn barod, ar 1 Rhagfyr 2022. Yn ogystal, diwygiodd y gorchymyn 12 o offerynnau statudol i ddisodli cyfeiriadau at y diwrnod y daw adran 239 o’r Ddeddf i rym â chyfeiriad at 1 Rhagfyr 2022. Dyma’r union fath o newid a ragwelwyd pan grëwyd y pŵer galluogi. Mae’n sicrhau y gallai darllenwyr y 12 o offerynnau statudol hynny weld y dyddiad perthnasol heb orfod gwneud rhagor o ymchwil.

38. Mae adran 39 wedi ei defnyddio i wneud rheoliadau yn lle gorchmynion a rheolau – gweler er enghraifft, Rheoliadau Cynlluniau Pensiwn a Chynllun Digolledu’r Diffoddwyr Tân (Cymru) (Diwygio) 2020 a Rheoliadau Etholiadau Lleol (Diwygiadau Amrywiol a Chanlyniadol) (Cymru) 2022. Mae rheoliadau “Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân” yn enghraifft o paham y crëwyd y pŵer galluogi – mae’r oddeutu 20 o bwerau galluogi yr oedd eu hangen i wneud y rheoliadau hynny wedi eu nodi mewn sawl Deddf, ac mewn un achos (adran 34(4) o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004) rhagwelwyd yn wreiddiol y byddent yn cael eu harfer drwy orchymyn. Heb adran 39 o Ddeddf 2019, byddai wedi bod yn ofynnol gwneud dau offeryn ar wahân – sef un set o reoliadau a’r gorchymyn ar wahân. Roedd Adran 39 yn caniatáu gwneud offeryn cyfun, gan wneud y gyfraith yn fwy hygyrch i’r darllenydd.

39. Mae adran 39 hefyd wedi ei defnyddio i wneud gorchymyn, yn hytrach na rheoliadau – gweler Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Categorïau Cofrestru Ychwanegol) (Cymru) 2023. Roedd y Gorchymyn hwn hefyd yn dibynnu ar y pwerau yn adran 40 o Ddeddf 2019, sy’n caniatáu i is-ddeddfwriaeth sy’n ddarostyngedig i weithdrefnau gwahanol y Senedd gael eu cyfuno mewn un offeryn.

40. Mae adran 40 wedi cael ei defnyddio o leiaf 22 o weithiau ers i’r pŵer ddod i rym (gan gynnwys ar gyfer y Gorchymyn a grybwyllir yn union uchod). Diben yr adran hon yw hwyluso’r broses o gyfuno, mewn un offeryn statudol, ddarpariaethau sy’n ddarostyngedig i weithdrefnau gwahanol, p’un a ydynt yn cael eu gwneud o dan bwerau yn yr un Ddeddf neu mewn Deddfau gwahanol, ac osgoi unrhyw anawsterau gweithdrefnol a gâi eu hachosi drwy gyfuno darpariaethau yn y modd hwn. Mae’n sicrhau bod yr offeryn yn ddarostyngedig i’r gweithdrefnau mwyaf llym a fyddai’n gymwys fel arall. Gwnaed chwe offeryn wedi hynny o dan y weithdrefn gadarnhaol ‘gwnaed’ ac 16 o dan y weithdrefn gadarnhaol ddrafft.

41. Mae cyfeiriad at adran 40 wedi ei gynnwys gan amlaf fel troednodyn i destun rhagarweiniol yr Offeryn Statudol, ond mewn rhai achosion nid oedd hyn yn yr Offeryn Statudol. Yn hytrach cafodd ei dynnu at sylw’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn y Memoranda Esboniadol sy’n cyd-fynd ag Offerynnau Statudol adeg eu gosod. Mewn un achos, roedd yr offeryn a’r Memorandwm Esboniadol ill dau yn cynnwys cyfeiriad at adran 40. Mae’r Pwyllgor hefyd wedi nodi o leiaf un achos lle y dibynnwyd ar adran 40, ond na chyfeiriwyd at hyn yn yr offeryn nac yn y Memorandwm Esboniadol. Mae cyfreithwyr drafftio wedi cael eu hatgoffa am y canllawiau ynghylch cyfeirio at adran 40.

42. Mae trafodaethau anecdotaidd gyda chyfreithwyr sy’n drafftio o fewn y Llywodraeth wedi dangos bod adrannau 39 a 40 wedi eu defnyddio, ar y cyfan, i ddarparu safbwynt mwy rhesymegol a threfnus i’r rheini sy’n defnyddio deddfwriaeth neu oherwydd ei bod yn hwylus o safbwynt gweinyddol i wneud un offeryn yn hytrach na sawl offeryn.

Darparu adnoddau

Datblygu’r rhaglen, adrodd arni a’i diwygio o dan Ran 1 o Ddeddf 2019

43. Amcangyfrifwyd yn 2019 bod paratoi’r rhaglen yn gost cyfle o tua £12,000 (yn seiliedig ar 8 wythnos o weithgarwch amser llawn i un swyddog Gradd 7/Band Gweithredol 2). Gweler paragraff 139 a Thabl 4 o’r Memorandwm Esboniadol i Fil Deddfwriaeth (Cymru) (a osodwyd ar 18 Mehefin 2019)

44. Datblygwyd y rhaglen gyntaf yn ystod cyfnod o weithgarwch dwys i’r Swyddfa Codau Deddfwriaethol, yn ymwneud yn bennaf â pharatoi, cofrestru a chyhoeddi deddfwriaeth a oedd yn gysylltiedig â’r pandemig. Gwnaed gwaith ar y rhaglen ochr yn ochr â’r gweithgarwch arall hwnnw, ac nid oes modd pennu a oedd yn cyfateb i’r amcangyfrif gwreiddiol o amser.

45. Ochr yn ochr â’r adroddiadau blynyddol, rhagwelwyd hefyd mai digwyddiad achlysurol fyddai adrodd ar y rhaglen – er enghraifft, pan fyddai’r Cwnsler Cyffredinol yn ateb cwestiynau, yn gwneud datganiadau neu’n cymryd rhan mewn sesiynau tystiolaeth i Bwyllgorau. Nid oedd y costau sy’n gysylltiedig â hyn yn fesuradwy ond byddent yn gostau cyfle. Mae gweithgarwch o’r math hwn wedi digwydd ers i’r rhaglen gyntaf gael ei pharatoi. Fel rheol, mae gwybodaeth ar gyfer hyn yn cael ei pharatoi gan Bennaeth y Swyddfa Codau Deddfwriaethol fel rhan o ddyletswyddau eraill.

46. Yn 2019, amcangyfrifwyd bod cost cyfle paratoi’r adroddiad blynyddol yn rhyw £3,000 (sef pythefnos o weithgarwch amser llawn gan un swyddog ar radd Band Gweithredol 2). Gweler paragraff 140 o’r Memorandwm Esboniadol i Fil Deddfwriaeth (Cymru) (a osodwyd ar 18 Mehefin 2019). Mae dau adroddiad blynyddol wedi eu llunio hyd yn hyn. Yn y ddau achos, cawsant eu harwain gan un aelod ar radd Band Rheoli 1 yn y Swyddfa Codau Deddfwriaethol, a fu, fel rhan o ddyletswyddau eraill, yn casglu cyfraniadau o bob rhan o’r sefydliad ar hynt y gwaith o dan bob prosiect. Ni chyfrifwyd yr amser gwirioneddol ar gyfer y gwaith hwn, ond bernir bod yr amcangyfrif gwreiddiol yn llai na’r amser gwirioneddol a gymerwyd.

47. Yn 2019, amcangyfrifwyd y byddai cost cyfle adolygu’r rhaglen yn rhyw ddwy ran o dair o gost paratoi’r brif raglen. Gweler paragraff 141 o’r Memorandwm Esboniadol i Fil Deddfwriaeth (Cymru) (a osodwyd ar 18 Mehefin 2019). Hyd yn hyn nid yw’r rhaglen wedi cael ei hadolygu, felly nid oes unrhyw gostau o’r fath wedi codi.

Darparu’r rhaglen sy’n ofynnol o dan Ran 1 o Ddeddf 2019

48. Yn ystod hynt y Bil, gan gynnwys yn yr wybodaeth ategol megis y Memorandwm Esboniadol, pwysleisiwyd y byddai cost wirioneddol pob rhaglen unigol yn dibynnu ar raddfa’r gweithgarwch a fyddai’n rhan ohoni a’r adnodd a gâi ei neilltuo i’r gweithgarwch hwnnw. Nodwyd yr amcangyfrifon gorau o raglen ddangosol yn y Memorandwm Esboniadol (gweler paragraffau 144 i 147), a chynhwyswyd rhai costau yn ymwneud â’r staffio ychwanegol disgwyliedig y gallai fod ei angen i gynyddu capasiti drafftio a chyfieithu, yn ogystal â staff eraill i weithio ar y prosiectau anneddfwriaethol (gweler isod).

Amcangyfrif o gost flynyddol darparu rhaglen hygyrchedd fel y’i nodwyd yn y Memorandwm Esboniadol i’r Bil yn 2019

  • Cost adnodd drafftio sy’n gyfwerth â phedwar Cwnsler Deddfwriaethol: £376,900
  • Cost adnodd cyfieithu sy’n gyfwerth â dau Gyfieithydd Deddfwriaethol: £93,000
  • Cost un aelod staff Band Rheoli 2 a dau aelod staff Band Rheoli 3 yn cyflenwi rhaglen dreigl o brosiectau hygyrchedd: £118,500
  • Cyfanswm y costau a amcangyfrifir: £588,400

49. O ran y costau ar gyfer pob Bil cydgrynhoi, nodwyd yn glir yn y Memorandwm Esboniadol i’r Bil (paragraff 146):

Amcangyfrifon dangosol yw’r ffigurau a ddyfynnir [ar gyfer pob bil cydgrynhoi] i bob pwrpas, ac ni ddylid ystyried eu bod yn diffiniadol nac yn gynrychioliadol o unrhyw brosiectau cydgrynhoi nac o bob prosiect cydgrynhoi. Y rheswm dros hyn yw nad yw Llywodraeth Cymru wedi cynnal ymarferion cydgrynhoi o’r math a ragwelir; yn ail, bydd gan bob prosiect wahanol alwadau a gofynion yn seiliedig ar y gyfraith bresennol sy’n cael ei chydgrynhoi a’i chodeiddio.

50. Yr unig gostau y gellid eu meintioli bryd hynny oedd y costau drafftio a chyfieithu ychwanegol a ragwelid.

51. Mae’r profiad a gafwyd o gynhyrchu Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 a llunio dau Fil arall sy’n ymwneud â rhaglen hygyrchedd y gyfraith wedi dangos mai ychydig iawn o wahaniaeth sydd yn y radd neu’r math o staff sy’n gysylltiedig â Bil cydgrynhoi a Bil diwygio’r gyfraith. Mae angen gweithwyr polisi proffesiynol, cyfreithwyr pwnc, cyfieithwyr deddfwriaethol a chyfieithwyr cyffredinol, a chwnsleriaid drafftio. Mae’n gofyn am ymrwymiad sylweddol o ran amser ac arbenigedd gan bawb o dan sylw ac mae’n weithgarwch trawslywodraethol. Adlewyrchwyd hyn ym mhapur tystiolaeth y Cwnsler Cyffredinol i’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ar gyfer ei bresenoldeb ar 16 Ionawr 2023, lle’r esboniodd:

…mae ein gwaith i gyflawni’r rhaglen ddeddfwriaethol yn elfen o waith y Llywodraeth yn ei chyfanrwydd ac mae’r un peth yn wir am raglen hygyrchedd y gyfraith. Caiff cyfanswm y costau cyffredinol, gan gynnwys costau’r gwaith ar y Bil, eu talu gan ddefnyddio cyllid o sawl portffolio fel rhan o weithgarwch deddfwriaethol ehangach y sefydliad.

52. Er nad oes modd meintioli’r union gostau sy’n gysylltiedig â’r swyddogion polisi proffesiynol, y cyfreithwyr pwnc, y cyfieithwyr cyffredinol a’r swyddogion terminoleg proffesiynol o dan sylw, y mae’r mwyafrif ohonynt wedi bod yn gweithio ar faterion eraill ochr yn ochr â’u gwaith ar y prosiectau cydgrynhoi unigol, mae’n bosibl nodi’r adnodd drafftio a chyfieithu ychwanegol sydd wedi ei ddefnyddio ers mis Hydref 2021 pan ddechreuodd y rhaglen gyntaf (yn Nhabl 3 isod):

Niferoedd gwirioneddol Cwnsleriaid Deddfwriaethol a Chyfieithwyr Deddfwriaethol sy’n gweithio ar brosiectau cydgrynhoi
Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 1 x Cwnsler Deddfwriaethol Cynorthwyol
1 x Cwnsler Deddfwriaethol
1 x Uwch-gwnsler Deddfwriaethol
(gweler nodiadau A a D)
2 x Uwch-gyfieithydd Deddfwriaethol
(gweler nodyn E)
Bil Deddfwriaeth (Diddymiadau) (Cymru) 3 x Cwnsler Deddfwriaethol Cynorthwyol
1 x Uwch-gwnsler Deddfwriaethol
(gweler nodiadau B, D a G)
2 x Uwch-gyfieithydd Deddfwriaethol
(gweler nodyn F)
Bil Cynllunio (Cymru) 2 x Cwnsler Deddfwriaethol Cynorthwyol
1 x Cwnsler Deddfwriaethol
1 x Uwch-gwnsler Deddfwriaethol
(gweler nodiadau C, D a H)
2 x Uwch-gyfieithydd Deddfwriaethol
(gweler nodyn F)
Nodiadau
  1. Roedd y Cwnsleriaid Deddfwriaethol Cynorthwyol a neilltuwyd ar gyfer y prosiect hwn yn gweithio ar un agwedd ar y Bil ochr yn ochr â phrosiectau eraill; dyrchafwyd yr Uwch-gwnsler Deddfwriaethol i’r radd hon (o radd Cwnsler Deddfwriaethol) yn ystod y prosiect, ac ymunodd â’r prosiect ar gam diweddarach. Gweler hefyd Nodyn (c).
  2. Mae’r pedwar drafftiwr deddfwriaethol wedi gweithio ar y prosiect hwn yn achlysurol mewn cyfnodau tawelach yn eu prosiectau eraill, yn hytrach na’u bod i gyd yn gweithio ar hyn am gyfnod penodedig. Mae’r gwaith ar y prosiect hwn yn parhau a gallai’r adnodd drafftio newid yn y dyfodol.
  3. Mae gwaith ar y prosiect cynllunio wedi ei wneud gan rai o’r un Cwnsleriaid Deddfwriaethol a fu’n gweithio ar brosiect yr Amgylchedd Hanesyddol, ac yn ystod cyfnodau amser a oedd yn gorgyffwrdd. Mae’r gwaith ar y prosiect cynllunio yn parhau a gallai’r adnodd drafftio newid yn y dyfodol. Mae gwaith y Cwnsler Deddfwriaethol ar y prosiect hwn wedi digwydd yn ystod bylchau mewn prosiectau eraill.
  4. Mae gwaith cyfwerthedd deddfwriaethol wedi ei wneud gan sawl aelod o Swyddfa’r Cwnsleriaid Deddfwriaethol ar y tri Bil. Nid oes modd meintioli’r niferoedd na’r graddau (na chanran yr amser) a gymerwyd i wneud hyn
  5. Un Uwch-gyfieithydd Deddfwriaethol i wneud y cyfieithiad cychwynnol ac un i’w olygu. Cyfrannodd y ddau hefyd at y broses cyfwerthedd deddfwriaethol. Yn ogystal â hyn, daethpwyd â sawl aelod arall o’r Uned Cyfieithu Deddfwriaethol i mewn ar adegau allweddol o’r prosiect.
  6. Un Uwch-gyfieithydd Deddfwriaethol i wneud y cyfieithiad cychwynnol ac un i’w olygu. Bydd y ddau hefyd yn cyfrannu at y broses cyfwerthedd deddfwriaethol. Mae’r gwaith ar y prosiect hwn yn parhau a gallai’r adnodd cyfieithu newid yn y dyfodol.
  7. Mae "Bil Deddfwriaeth (Diddymiadau) (Cymru)" yn deitl byr dangosol a ddefnyddir i gyfeirio at Fil a fydd yn diddymu darpariaethau sydd wedi darfod ac wedi eu disbyddu mewn perthynas â Chymru.
  8. Mae "Bil Cynllunio (Cymru)" yn deitl byr dangosol a ddefnyddir i gyfeirio at gydgrynhoi cyfraith gynllunio yng Nghymru.

Prosiectau i wella is-ddeddfwriaeth

53. Nid oes modd meintioli’r union gostau sy’n gysylltiedig â’r swyddogion polisi, y cyfreithwyr pwnc a’r staff cyfieithu sy’n ymwneud â pharatoi’r prosiectau is-ddeddfwriaeth a nodir yn y rhaglen. Mae’r mwyafrif o’r staff hyn wedi bod yn gweithio, neu maent wrthi’n gweithio, ar faterion eraill ochr yn ochr â’r gwaith hwn, sy’n cael ei wneud fel rhan o’u dyletswyddau a’u cyfrifoldebau parhaus.

Prosiectau anneddfwriaethol o fewn y rhaglen

54. Mae’r Memorandwm Esboniadol i’r Bil yn nodi (paragraff 147):

Mae’n debygol y bydd gweithgareddau mewn rhaglen nad ydynt yn cynnwys cydgrynhoi neu godeiddio yn cynnwys y rhai a wneir i wella cyhoeddi ac esbonio Cyfraith Cymru. Er enghraifft, datblygu ymhellach gwefan Cyfraith Cymru/Law Wales, ymwneud ymhellach â chyhoeddi’r gyfraith ac ymchwilio i’r technolegau perthnasol sy’n dod i’r amlwg a’u defnyddio ar gyfer y tasgau hyn. Rhan o’r ffocws fyddai materion sy’n ymwneud â’r Gymraeg lle ceir diffygion sylweddol yn y systemau presennol, fel y nodir gan Gomisiwn y Gyfraith. Câi’r gweithgareddau hyn eu gwneud yn bennaf gan dîm o staff gweinyddol Llywodraeth Cymru ar fand rheoli 2 a 3 yn gweithio’n amser llawn. Amcangyfrifir mai cost hyn yw £118,500 y flwyddyn. Nodir y costau cyfunol ychwanegol (i Lywodraeth Cymru) o ddarparu rhaglen enghreifftiol yn Nhabl 5 isod.

(gweler hefyd linell 3 o Dabl 2 uchod)

55. Ffurfiwyd y Swyddfa Codau Deddfwriaethol ar ddiwedd 2019 yn dilyn deddfiad Deddf 2019. Mae dau ddiben i’r tîm hwn:

  1. goruchwylio ac, mewn rhai achosion, arwain ar brosiectau allweddol o fewn rhaglen hygyrchedd y Llywodraeth. Mae hyn yn cynnwys darparu adnoddau rheoli a llywodraethiant ar gyfer Biliau i gefnogi’r gwaith o gydgrynhoi a chodeiddio’r gyfraith, a
  2. sicrhau bod is-ddeddfwriaeth a wneir gan neu ar ran Gweinidogion Cymru yn cael ei gwneud, ei chofrestru a’i chyhoeddi’n gywir.

56. Defnyddiwyd adnoddau a oedd yn bodoli eisoes:

  1. un Swyddog Gradd 7 ac un Swyddog Gweithredol Uwch, a oedd wedi bod yn gweithio ar y Bil, ar Cyfraith Cymru ac ar brosiectau eraill yn ymwneud â hygyrchedd y gyfraith
  2. dau Swyddog Gweithredol, a oedd wedi ymwneud â gwneud a chofrestru isddeddfwriaeth.

57. At hynny, recriwtiwyd Swyddog Gweithredol Uwch a dau Swyddog Gweithredol arall (yr adnoddau a nodwyd yn y Memorandwm Esboniadol i’r Bil). Daeth un o’r swyddi Swyddog Gweithredol gwreiddiol yn wag drwy’r ymarfer recriwtio hwn ac fe’i tynnwyd o’r strwythur wedi hynny.

58. O ddechrau 2020 tan ddiwedd 2022, oherwydd y pandemig a’r paratoadau ynghylch ymadael â’r UE, bu cynnydd sylweddol yn nifer yr offerynnau statudol (yn enwedig) a oedd yn cael eu gwneud gan Weinidogion Cymru. Cafodd hyn effaith ar waith y Swyddfa Codau Deddfwriaethol, nid yn unig o ran prosesu’r offerynnau hyn ond hefyd am fod y tîm, mewn rhai achosion, yn rhan o’r gwaith o baratoi, cyhoeddi ac esbonio’r isddeddfwriaeth ei hun. Daethpwyd ag Uwch-swyddog Gweithredol a Swyddog Gweithredol Uwch i mewn i ychwanegu at adnodd y tîm.

59. Rhwng mis Medi 2021 a mis Awst 2022 ymunodd gwas sifil “Llwybr Carlam” â’r tîm, a bu’n gweithio, ymhlith materion eraill, ar y prosiect datblygiadau technolegol yr adroddwyd arno yn yr adroddiad blynyddol a osodwyd gerbron y Senedd yn 2022.

60. Dyma’r swyddi presennol o fewn y tîm sy’n ymwneud yn benodol â rheoli deddfwriaeth a hygyrchedd y gyfraith:

  • un Swyddog Gradd 7
  • un Uwch-swyddog Gweithredol
  • tri Swyddog Gweithredol Uwch
  • tri Swyddog Gweithredol

Noder: nid yw rhain yn swyddi amser llawn ac mae rhai deiliaid swyddi hefyd yn gweithio ar faterion heblaw rheoli deddfwriaeth a hygyrchedd y gyfraith, ac adeg ysgrifennu’r adroddiad hwn mae gan y tîm un swydd wag.

61. Mae’r prosiectau o fewn y rhaglen gyfredol sy’n rhan o waith y Swyddfa Codau Deddfwriaethol yn cynnwys:

  1. gwaith ar y Biliau cydgrynhoi, sydd ar hyn o bryd yn cynnwys Bil Deddfwriaeth (Diddymiadau) (Cymru), Bil Cynllunio (Cymru) a nodi prosiectau cydgrynhoi a chodeiddio pellach posibl
  2. anodi cyfraith Cymru a gyhoeddir ar legislation.gov.uk. Fel y nodwyd ym mhapur tystiolaeth y Cwnsler Cyffredinol i’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn gynharach eleni:
    Mae tri aelod o staff ar radd Swyddog Gweithredol ac un aelod o staff ar radd Swyddog Gweithredol Uwch wedi cael hyfforddiant i weithio ar anodi, ac maent yn gwneud y gwaith hwn ochr yn ochr â dyletswyddau eraill, gwaith sy’n gysylltiedig â llunio, cofrestru a chyhoeddi is-ddeddfwriaeth yn bennaf.
  3. cynnal a datblygu gwefan Cyfraith Cymru/Law Wales
  4. trefnu a chyhoeddi’r prosiectau cyfraith yn ehangach, sy’n cynnwys dosbarthu deddfwriaeth.

62. Ochr yn ochr â hyn, mae’r Swyddfa hefyd yn gweithredu fel prif bwynt cyswllt y Llywodraeth â Chomisiwn y Gyfraith.

Costau ychwanegol nad ydynt yn rhan o’r rhaglen ffurfiol

63. Er nad yw’n rhan o’r rhaglen ffurfiol i wella hygyrchedd cyfraith Cymru, rhoddodd y Cwnsler Cyffredinol yr wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad am waith sy’n cael ei wneud gan Brifysgol Bangor:

Mae swm dangosol o £350,000 [wedi ei ddyrannu] yn y Gyllideb Ddrafft ar gyfer 2023-24 i Ganolfan Bedwyr ym Mhrifysgol Bangor ar gyfer gwaith ar dechnoleg iaith, sy’n cynnwys cyfieithu peirianyddol. Defnyddir rhan o’r cyllid hwn i barhau i gasglu data ar hyfforddiant er mwyn datblygu technoleg cyfieithu peirianyddol parth-benodol ar gyfer y parth cyfiawnder - gwaith a ddechreuwyd gennym yn ystod blwyddyn ariannol 2022-23.