Neidio i'r prif gynnwy

A thrwy gyngor a chytundeb y doethion a ddaeth yno, archwiliwyd yr hen gyfreithiau, gadawyd rhai ohonynt i barhau, diwygiwyd eraill, a dilëwyd eraill yn gyfan gwbl, a gosodwyd rhai eraill o’r newydd.

Llyfr Iorwerth 1240

Diben yr adroddiad

1. Dyma’r ail adroddiad blynyddol i’w lunio o dan adran 2(7) o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019. Mae’n disgrifio’r cynnydd a wnaed o dan raglen y Llywodraeth i wella hygyrchedd cyfraith Cymru: Dyfodol cyfraith Cymru: Rhaglen ar gyfer 2021 i 2026, rhwng 15 Hydref 2022 a 30 Medi 2023.

2. Roedd yr adroddiad blynyddol yn ymdrin â’r cyfnod rhwng 21 Medi 2021 (pan osodwyd y rhaglen) a 14 Hydref 2022. Yn y dyfodol bwriedir i adroddiadau blynyddol ymdrin â’r flwyddyn o ddechrau mis Hydref hyd ddiwedd mis Medi, er cysondeb.

Cefndir y rhaglen

3. Rhaid i bob rhaglen sy’n cael ei llunio o dan Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 gynnwys prosiectau sy’n:

  1. cyfrannu at broses barhaus o gydgrynhoi a chodeiddio cyfraith Cymru
  2. cynnal ffurf cyfraith Cymru (wedi iddi gael ei chodeiddio)
  3. hybu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o gyfraith Cymru
  4. hwyluso defnydd o’r Gymraeg.

4. Gosodwyd y rhaglen gyntaf o dan Ddeddf 2019 gerbron y Senedd ar 21 Medi 2021 ac mae’n cynnwys cyfuniad o brosiectau deddfwriaethol ac anneddfwriaethol a gynlluniwyd i gyflawni’r gofyniad hwn. Cyhoeddwyd yr adroddiad blynyddol cyntaf ar y rhaglen ar 7 Tachwedd 2022.

5. Mae’r ail adroddiad blynyddol hwn yn rhoi diweddariad pellach ar y prosiectau hyn drwy gyfeirio at ein nodau hollgynhwysol o ran:

  1. dosbarthu cyfraith Cymru
  2. cydgrynhoi cyfraith Cymru
  3. codeiddio cyfraith Cymru, a
  4. chyfathrebu cyfraith Cymru.

6. Mae’r adroddiad hwn hefyd yn cynnwys adolygiad o Ddeddf 2019, fel y cytunwyd â Phwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol (bryd hynny) a Phwyllgor Cyllid y Pumed Senedd, wrth iddynt graffu ar Fil Deddfwriaeth (Cymru). Yn ogystal â hynny, cyfeiriwyd at ymrwymiad y Llywodraeth i adolygu Deddf 2019 mewn tystiolaeth gan y Cwnsler Cyffredinol i Bwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad y Senedd hon. Mae’r adolygiad hwn wedi ei gynnal hanner ffordd drwy dymor y Senedd hon, fel y cytunwyd yn wreiddiol, ac mae i’w weld yn yr Atodiad i’r adroddiad hwn.

Dosbarthu cyfraith Cymru

Ymrwymiadau’r rhaglen

Yn ystod tymor y Senedd hon bydd y Llywodraeth yn:

  1. adolygu a diwygio’r dacsonomeg ddrafft bresennol o bynciau (a luniwyd ac yr ymgynghorwyd arni yn wreiddiol yn 2019) er mwyn canfod pa ddeddfiadau ym meysydd datganoledig y gyfraith a ddylai berthyn i bob haen o’r dacsonomeg.
  2. gweithio gyda’r tîm sy’n gyfrifol am legislation.gov.uk yn yr Archifau Gwladol i ddarparu swyddogaethau ychwanegol ar y safle hwnnw fel y gall defnyddwyr gyrchu cyfraith Cymru yn ôl pwnc.

Cynnydd yn ystod y cyfnod adrodd

7. Nid yw wedi bod yn bosibl bwrw ymlaen â’r gwaith ar setlo’r dacsonomeg y tu hwnt i’r Codau cyfraith Cymru a nodwyd i ddechrau a’r gwaith rhagarweiniol yr adroddwyd arno yn yr adroddiad blynyddol cyntaf. Bydd yn dal o fudd i’r dacsonomeg gael ei phrofi gan ddefnyddwyr, a chaiff hyn ei wneud pan fydd yr Archifau Gwladol yn gallu cydweithio â ni ar drefnu cyfraith Cymru yn well ar wefan legislation.gov.uk.

8. Fel y nodwyd yn yr adroddiad blynyddol diwethaf, mae’r Archifau Gwladol wedi blaenoriaethu gwaith ar wella swyddogaeth gwefan legislation.gov.uk fel y gellir dangos diwygiadau i gyfraith Cymru yn eu cyd-destun yn y Gymraeg (gweler isod).

Cydgrynhoi cyfraith Cymru

Ymrwymiadau’r rhaglen

Yn ystod tymor y Senedd hon bydd y Llywodraeth yn datblygu:

  1. Bil cydgrynhoi sy’n dod â’r gyfraith ar yr amgylchedd hanesyddol ynghyd.
  2. Bil cydgrynhoi sy’n symleiddio ac yn moderneiddio’r gyfraith ym maes cynllunio.
  3. Bil cydgrynhoi sy’n diddymu neu’n datgymhwyso darpariaethau deddfwriaethol sydd wedi darfod, wedi dod i ben, neu nad ydynt bellach o ddefnydd ymarferol yng Nghymru o bob cwr o’r llyfr statud.

Byddwn hefyd yn:

  1. adolygu’r ddeddfwriaeth bresennol mewn nifer o feysydd er mwyn nodi dau brosiect cydgrynhoi arall i weithio arnynt yn ystod tymor y Senedd hon.
  2. datblygu’r pecyn o is-ddeddfwriaeth y disgwylir y bydd ei angen i weithredu Bil yr amgylchedd hanesyddol.
  3. ymgymryd â phrosiect graddol o gydgrynhoi is-ddeddfwriaeth cynllunio gwlad a thref allweddol.
  4. ail-wneud a diweddaru’r rheolau ar gyfer cynnal etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru.
  5. llunio ‘Gorchymyn Cynrychiolaeth y Bobl’ yn ddwyieithog cyn yr etholiad cyffredinol i’r Senedd yn 2026.

Cynnydd yn ystod y cyfnod adrodd

Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 ac is-ddeddfwriaeth ategol

9. Cafodd prosiect cydgrynhoi cyntaf Llywodraeth Cymru – sef Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) – ei gymeradwyo’n unfrydol gan aelodau’r Senedd ar 28 Mawrth 2023. Penododd y Pwyllgor Busnes y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad i fod yn gyfrifol am graffu ar y Bil ar ei hynt drwy Senedd Cymru, a gymerodd gyfnod o ddeng mis. Ymysg pethau eraill, ystyriodd y Pwyllgor:

  1. a oedd cwmpas y cydgrynhoi yn briodol
  2. a oedd deddfiadau perthnasol wedi eu cynnwys
  3. a oedd deddfiadau wedi eu cydgrynhoi’n gywir a’u heffaith wedi ei chadw, ac
  4. a oedd y gyfraith wedi ei chydgrynhoi’n eglur ac yn gyson.

10. Wrth graffu ar y ddeddfwriaeth, derbyniodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gomisiwn y Gyfraith yn ogystal â rhanddeiliaid perthnasol ym maes yr amgylchedd hanesyddol. Yn ei adroddiad ar yr ystyriaeth gychwynnol o’r Bil, nododd y Pwyllgor fod rhanddeiliaid yn ymateb yn gadarnhaol i’r Bil cydgrynhoi yn gyson, ac yn gytûn ei fod yn gwella hygyrchedd y gyfraith. Yn wir, pan ymddangosodd tri chynrychiolydd o Gomisiwn y Gyfraith gerbron y Pwyllgor ar 26 Medi 2022, dywedodd Cadeirydd y Comisiwn, Syr Nicholas Green:

…fel unigolion rydym yn meddwl ei fod yn waith trawiadol… rydym yn meddwl ei fod yn waith o safon uchel iawn.

11. Tynnodd y Pwyllgor sylw at “bwysigrwydd y Bil fel y cyntaf o’i fath i’r Senedd ac i gyfraith Cymru” ac roedd yn cydnabod y buddion a ddeuai yn sgil cydgrynhoi. Cafodd y ddeddfwriaeth y Cydsyniad Brenhinol ar 14 Mehefin 20232 ac erbyn hyn mae modd trafod y buddion hyn mewn termau mwy pendant. Bydd y Ddeddf yn trawsnewid hygyrchedd y gyfraith i berchnogion a meddianwyr henebion cofrestredig ac adeiladau rhestredig, grwpiau’r trydydd sector, awdurdodau lleol ac eraill. Am y tro cyntaf, mae’n dod â’r brif ddeddfwriaeth ar gyfer yr amgylchedd hanesyddol at ei gilydd mewn un lle, yn ei datgan ar gyfer Cymru’n benodol heb unrhyw gyfeiriadau dryslyd at awdurdodaethau eraill, ac yn cyflwyno’r gyfraith a’i dogfennau ategol i gyd yn y ddwy iaith. At hynny, mae’r gyfraith wedi ei had-drefnu a’i hailddatgan mewn iaith glir, bobdydd fel ei bod yn haws i bawb ei deall a’i defnyddio. Lluniwyd cyfres fwy helaeth o ddogfennau ategol i helpu defnyddwyr i ddeall y ddeddfwriaeth newydd a llywio’u ffordd drwyddi, ac mae’r rhain ar gael ochr yn ochr â’r ddeddfwriaeth a’r nodiadau esboniadol ar legislation.gov.uk. Mae’r dogfennau dwyieithog hyn yn cynnwys tablau tarddiadau a chyrchfannau, sy’n helpu’r defnyddiwr drwy ddangos y berthynas rhwng darpariaethau’r Ddeddf newydd a’r ddeddfwriaeth sydd wedi ei chydgrynhoi, a nodiadau’r drafftwyr, sy’n egluro’r penderfyniadau a wnaed wrth gydgrynhoi.

12. Mae’r Ddeddf hefyd yn ffurfio rhan ddiamwys o God cyfraith Cymru, sy’n arwydd o’r ffaith fod cydgrynhoi a chodeiddio wedi eu nodi yn Dyfodol cyfraith Cymru fel dau ddull sylfaenol o wneud cyfraith Cymru yn fwy eglur a threfnus. Bydd y Ddeddf, ynghyd â’r is-ddeddfwriaeth newydd a wneir i’w hategu, yn ffurfio Cod o gyfraith ar gyfer yr amgylchedd hanesyddol a chaiff y cyfan ei gyhoeddi gyda’i gilydd. Os bydd angen newidiadau i’r gyfraith yn y dyfodol, fe’u gwneir drwy ddiwygio’r Cod yn hytrach na thrwy wneud deddfiadau annibynnol newydd, oni bai fod rheswm da iawn dros wneud hynny. Bydd hyn yn diogelu’r drefn a osodwyd ar gyfraith yr amgylchedd hanesyddol yng Nghymru yn sgil yr ymarfer cydgrynhoi.

13. Er bod Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 bellach yn gyfraith, ni chaiff ei chychwyn tan yn ddiweddarach yn 2024, ar ôl i’r is-ddeddfwriaeth sydd ei hangen i’w hategu gael ei dwyn i rym. Cafodd llawer iawn o is-ddeddfwriaeth a oedd wedi ei hen sefydlu ei hymgorffori yn y Ddeddf, ond mae angen ailddatgan llawer o hyd mewn sawl set o reoliadau sy’n ymdrin ag ystod o faterion gweithdrefnol a materion eraill sy’n effeithio ar henebion cofrestredig ac adeiladau rhestredig. Mae’r gwaith hwn ar y gweill a byddwn yn adrodd ar gynnydd o ran gwneud y rheoliadau hyn mewn adroddiadau pellach. Byddwn yn ymdrin â’r is-ddeddfwriaeth yn yr un modd ag yr ymdriniwyd â’r cydgrynhoi, sef gwella hygyrchedd y gyfraith drwy ei hailddatgan a’i had-drefnu, gan gadw ei heffaith. Bydd pob set o reoliadau hefyd yn ffurfio rhan o God y gyfraith ar gyfer amgylchedd hanesyddol Cymru.

Symleiddio a moderneiddio cyfraith gynllunio (gan gynnwys is-ddeddfwriaeth)

14. Gwnaed cryn gynnydd yn ystod y cyfnod adrodd ar gydgrynhoi’r prif Ddeddfau sy’n darparu’r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer system reoli cynllunio Cymru:

  1. Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990
  2. Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004, Rhannau 3 i 6
  3. Deddf Cynllunio 2008, Rhan 11.

15. Mae gwaith hefyd ar y gweill i gydgrynhoi darpariaethau sydd i’w canfod yn awr mewn Deddfau eraill sy’n berthnasol i gynllunio, er mwyn gwella hygyrchedd ac eglurdeb. Mae’r rhain yn cynnwys darpariaethau yn:

  1. Deddf Iechyd y Cyhoedd 1936
  2. Deddf Llywodraeth Leol 1972
  3. Deddf Cynllunio a Digolledu 1991
  4. Deddf yr Amgylchedd 1995
  5. Deddf Cynllunio (Cymru) 2015.

16. Rhagwelir y bydd yr ymarfer cydgrynhoi yn rhoi cyfle i ymgorffori darpariaethau perthnasol mewn is-ddeddfwriaeth yn y Ddeddf, lle bo hynny’n briodol. Efallai y gwneir hynny os yw’r is-ddeddfwriaeth wedi ei hen sefydlu ac nad yw’n debygol y bydd angen ei diwygio’n aml, neu os yw’n addasu’r ddeddfwriaeth sylfaenol – dyna a wnaed wrth gydgrynhoi cyfraith yr amgylchedd hanesyddol.

17. Er nad yw ffurf a chynnwys terfynol y Bil wedi ei ddatblygu eto, disgwylir iddo ymdrin â’r canlynol:

  1. awdurdodau cynllunio
  2. cynlluniau datblygu
  3. rheoli datblygu
  4. tystysgrifau cyfreithlondeb defnydd tir presennol a defnydd tir arfaethedig
  5. gorfodi’r drefn rheoli datblygu
  6. hysbysiadau digolledu a phrynu
  7. caffael a meddiannu tir at ddibenion cynllunio
  8. ymrwymiadau cynllunio a’r Ardoll Seilwaith Cymunedol
  9. cynllunio ar gyfer mwynau a gwastraff
  10. ymgymerwyr statudol
  11. priffyrdd (a effeithir gan ddatblygu)
  12. rheoli hysbysebu awyr agored
  13. coed a choetiroedd
  14. cynnal a chadw tir diolwg
  15. tir malltod.

18. Mae disgwyl i’r elfennau hyn, ynghyd â’r darpariaethau cyffredinol, a darpariaethau canlyniadol, trosiannol ac arbed, arwain at ryw 450 tudalen o ddeddfwriaeth yn y naill iaith a’r llall.

19. O ystyried maint a chymhlethdod y gwaith cydgrynhoi ein nod ar hyn o bryd yw cyflwyno’r Bil i’r Senedd yn ystod haf 2024; rydym yn cadw golwg ar hyn ac fe fyddwn yn rhoi diweddariad i’r Aelodau maes o law.

20. Bydd gwaith ar yr is-ddeddfwriaeth i weithredu’r Bil yn dechrau ar ôl iddo gael ei gymeradwyo gan y Senedd a derbyn y Cydsyniad Brenhinol.

Bil y cyfeiriwyd ato fel Bil Cyfraith Statud (Diddymiadau) (Cymru) gynt

21. Lansiwyd yr ymgynghoriad ar fersiwn drafft o Fil Cyfraith Statud (Diddymiadau) (Cymru) ar 7 Hydref 2022 (fel y nodwyd yn yr adroddiad blynyddol diwethaf), ac yn dilyn hynny cyhoeddodd y Llywodraeth adroddiad cryno ar yr ymatebion a ddaeth i law.

22. Dim ond ychydig o ymatebion a ddaeth i law ac roedd y rhan fwyaf o’r rheini yn gwneud sylwadau am un neu ddau o faterion yn unig. Roedd y rhan fwyaf o’r sylwadau yn y meysydd hynny o blaid gwneud y diwygiadau a’r diddymiadau arfaethedig. O’r pryderon a’r sylwadau a ddaeth i law, roedd amryw yn ymwneud â mân faterion technegol a drafftio. Mae’r holl sylwadau ac ymatebion a ddaeth i law wedi eu hystyried ymhellach wrth i’r gwaith ar y Bil fynd yn ei flaen yn ystod 2023.

23. Mae ystyriaeth bellach yn cael ei rhoi i enw byr y ddeddfwriaeth arfaethedig, er mwyn mynegi bwriad yr hyn y bydd y Bil yn ei gyflawni mewn ffordd fwy modern. Disgwylir i’r Bil gael ei gyflwyno pan fydd amser yn caniatáu yn ystod Blwyddyn 3 o raglen ddeddfwriaethol y Llywodraeth (yn ystod hanner cyntaf 2024, fwy na thebyg).

Pennu cwmpas meysydd pwnc eraill

24. Fel y nodwyd yn ymateb y Llywodraeth i’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad  ar Fil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru), ystyriwyd cydgrynhoi rhannau perthnasol o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 wrth lunio’r Bil. Byddai gwneud hynny yn arwain at leihau cymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru, fodd bynnag, oherwydd y cyfyngiadau o ran cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

25. Fel y nodwyd yn yr adroddiad cyntaf, caiff gwaith ar bennu cwmpas prosiectau sydd i’w cwblhau yn y dyfodol ei wneud yn ddiweddarach yn ystod y rhaglen hon.

Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007

26. Mae gwaith wedi cychwyn ar gydgrynhoi ac ail wneud Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007, cyn etholiadau’r Senedd ym mis Mai 2026. Mae Gorchymyn 2007 dros 270 tudalen o hyd ac ar gael yn Saesneg yn unig (ar wahân i’r ffurflenni yn yr Atodlenni) ond bydd y Gorchymyn newydd yn gwbl ddwyieithog ac yn ymgorffori’r holl newidiadau angenrheidiol o’r prosiectau i Ddiwygio’r Senedd a’r drefn Etholiadol, sydd ar y gweill ar hyn o bryd. Cynhelir ymgynghoriad ar fersiwn ddrafft o’r Gorchymyn, fel sail ar gyfer gwaith pellach.

Codeiddio cyfraith Cymru

Ymrwymiadau’r rhaglen

Nid oedd unrhyw gynigion i godeiddio cyfraith Cymru ar unwaith yn y rhaglen, ond bydd hyn yn cael ei adolygu’n rheolaidd.

Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023

27. Canlyniad cydgrynhoi cyfraith yr amgylchedd hanesyddol yw bod Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 yn ffurfio rhan o God y gyfraith ar gyfer amgylchedd hanesyddol Cymru. Bydd y Cod hwn hefyd yn cynnwys yr is-ddeddfwriaeth a wneir o dan Ddeddf 2023 (gweler paragraffau 9 i 13 o’r adroddiad hwn).

Codeiddio cyfraith gynllunio

28. Yn ogystal â chreu Cod y gyfraith ar gyfer yr amgylchedd hanesyddol bwriadwn greu cod y gyfraith ar gyfer cynllunio yng Nghymru hefyd, drwy gydgrynhoi cyfraith gynllunio. Er bod cynnwys terfynol y Cod hwnnw eto i’w bennu, bwriedir i ddatganiad o’r statws hwn helpu pobl sydd â diddordeb yn y gyfraith ar faes penodol – cynllunio gwlad a thref yn yr achos hwn – ddod o hyd iddi a’i dosbarthu y rhwyddach. Bydd y Cod hwn ar gyfraith gynllunio hefyd yn cynnwys is-ddeddfwriaeth.

Newidiadau i’r Rheolau Sefydlog

29. Pan roddodd y Cwnsler Cyffredinol dystiolaeth i’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ar Fil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) (fel yr oedd bryd hynny), pwysleisiodd yr ymrwymiadau blaenorol i ymgynghori â’r Llywydd am newidiadau posibl i’r Rheolau Sefydlog o ran Codau’r gyfraith. Yn y dyfodol disgwylir y bydd newidiadau i’r gyfraith sy’n ffurfio rhan o God yn cael eu gwneud drwy ddiwygio neu amnewid y deddfiadau yn hytrach na thrwy wneud darpariaethau gwahanol, annibynnol, a fyddai’n arwain unwaith eto at liaws cymhleth o ddeddfiadau.

30. Bydd yr adroddiad blynyddol nesaf yn nodi’r cynnydd o ran hyn.

Cyfathrebu cyfraith Cymru

Ymrwymiadau’r rhaglen

Yn ystod tymor y Senedd hon bydd y Llywodraeth yn:

  1. gweithio gyda’r tîm sy’n gyfrifol am legislation.gov.uk i sicrhau bod Deddfau ac Offerynnau Statudol dwyieithog ar gael ar ffurf gyfoes yn y ddwy iaith.
  2. ehangu a gwella cynnwys gwefan Cyfraith Cymru/Law Wales yn sylweddol er mwyn creu ‘siop un stop’ i gyrchu a deall cyfraith Cymru.
  3. archwilio ffyrdd o symud draw o fodel cyhoeddi deddfwriaeth yr 20fed ganrif, sy’n seiliedig ar fersiynau print, i system ddigidol fodern.
  4. datblygu’r ffordd yr ydym yn llunio deddfwriaeth ddwyieithog, gan ddefnyddio technoleg iaith i’w llawn botensial.
  5. archwilio’r potensial ar gyfer defnyddio dysgu peirianyddol a deallusrwydd artiffisial i wneud cyfraith Cymru yn fwy hygyrch.

Cynnydd yn ystod y cyfnod adrodd

Sicrhau bod cyfraith Cymru ar gael ar ffurf gyfoes ar wefan legislation.gov.uk

31. Fel y nodwyd yn yr adroddiad cyntaf, mae’r tîm golygyddol yn adran Gwasanaethau Deddfwriaeth yr Archifau Gwladol wedi datblygu swyddogaethau gwefan legislation.gov.uk fel bod modd gwneud diwygiadau i destunau Cymraeg deddfwriaeth.

32. Ers i’r system newydd ddechrau cael ei defnyddio ym mis Hydref 2022 mae criw bychan yn Swyddfa Codau Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru wedi bod yn cyflwyno diwygiadau wedi eu hanodi i destunau Cymraeg a Saesneg cyfraith Cymru ar y safle. Felly yn ogystal â bod testunau dwyieithog Deddfau, Mesurau ac Offerynnau Statudol yn cael eu diweddaru, mae’r anodiad sy’n egluro pob effaith hefyd ar gael yn ddwyieithog i’r rheini sy’n darllen cyfraith Cymru, am y tro cyntaf erioed.

33. Mae cyfanswm o fwy na 104,000 o “effeithiau” (newidiadau y mae angen eu gwneud er mwyn cyflwyno deddfwriaeth a ddiwygiwyd ar ffurf gyfoes, ac egluro’r hyn sydd wedi digwydd) wedi eu gwneud i ddeddfwriaeth Cymru er 1999. Erbyn diwedd Medi 2023 roedd bron i 60% o’r rhain wedi eu cymhwyso. Tîm golygyddol yr Archifau Gwladol ei hun oedd yn arfer delio â diwygiadau i’r testun Saesneg, ond erbyn hyn mae’r Swyddfa Codau Deddfwriaethol wedi bod yn delio â’r holl destunau Cymraeg ynghyd â nifer o ddiwygiadau i’r testunau Saesneg. Yn ystod deuddeg mis cyntaf y prosiect, mae tua 40,000 o effeithiau wedi eu cymhwyso.

34. Mae’r pwyslais wedi bod ar ddiweddaru deddfwriaeth sylfaenol, ond wrth i’r gwaith hwnnw ddechrau dod i ben rydym hefyd wedi dechrau diweddaru grwpiau penodol o offerynnau statudol. Rydym wedi bod yn blaenoriaethu’r rheini sy’n ymwneud â’r Deddfau Rhentu Cartrefi a pheth deddfwriaeth ym maes llywodraeth leol. Bellach rydym yn targedu’r ddeddfwriaeth sy’n cael ei chyrchu amlaf ar legislation.gov.uk, mewn perthynas â chymorth i fyfyrwyr a diogelwch bwyd, er enghraifft.

35. Y sefyllfa ar hyn o bryd yw bod:

  1. 96% o Ddeddfau a Mesurau Cymru wedi eu diweddaru yn y ddwy iaith. Ein blaenoriaeth yn awr yw sicrhau bod y rhain yn dal i gael eu diweddaru wrth iddynt gael eu diwygio gan ddeddfwriaeth a wneir naill ai gan Senedd Cymru neu gan Senedd y Deyrnas Unedig.
  2. 43% o Offerynnau Statudol Cymru (y mae mwy na 6,100 ohonynt) wedi eu diweddaru yn y ddwy iaith, gydag ychydig dros 40,000 o effeithiau i’w cymhwyso (rhyw 29,000 i destunau Cymraeg a rhyw 11,000 i destunau Saesneg).

36. Er bod cynnydd aruthrol wedi ei wneud yn y flwyddyn gyntaf, mae graddau’r gwaith sydd eto i’w gwblhau - yn enwedig o ran testunau Cymraeg - yn golygu bod hwn yn brosiect hirdymor ac yn un lle mae’r gorwel yn symud drwy’r amser: er inni ddelio â 40,000 o effeithiau yn ystod y deuddeg mis cyntaf, dim ond 10,000 yw’r gostyngiad yn y gwaith sydd wedi cronni, oherwydd yn ystod yr un cyfnod ychwanegwyd 30,000 o effeithiau i’r system ar gyfer eu cymhwyso. Yn ogystal â hynny, nid yw nifer yr effeithiau yn adlewyrchiad realistig o’r ymdrech: er enghraifft, wrth gwblhau gwaith ar Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 yn ddiweddar roedd angen gwneud 436 o anodiadau a diwygiadau gwahanol er mwyn cwblhau un dasg.

37. Mae’r Swyddfa Codau Deddfwriaethol yn parhau i gydweithio’n agos â’r Archifau Gwladol i ganfod a datrys unrhyw faterion annisgwyl sy’n codi o ran y broses olygyddol. Mae’r berthynas waith agos hon wedi bod yn allweddol o ran sicrhau’r cynnydd sylweddol a welwyd hyd yma. 

38. Mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi gwneud Datganiadau Ysgrifenedig ar gynnydd i’r Aelodau yn ystod blwyddyn gyntaf y rhaglen anodi; yn y dyfodol disgwylir y bydd diweddariadau yn cael eu cyflwyno mewn adroddiadau blynyddol dilynol.

Ehangu a gwella gwefan Cyfraith Cymru/Law Wales

39. Yn ystod y flwyddyn dechreuwyd datblygu adran fawr newydd o wefan Cyfraith Cymru/Law Wales o’r enw “Deddfwriaeth yng Nghymru”. Mae’n rhestru pob darn o ddeddfwriaeth sylfaenol a wnaed yng Nghymru ers datganoli yn ôl blwyddyn, a phan fydd yr adran yn gyflawn, bydd gan bob Deddf neu Fesur dudalen benodol. Hyd yn hyn, cyhoeddwyd y tudalennau ar gyfer pob Deddf rhwng Ionawr 2019 a Mai 2023, ac fe ddylai gweddill y tudalennau fod ar gael erbyn diwedd 2023.

40. Mae’r dudalen benodol ar gyfer pob Deddf yn cynnwys:

  1. crynodeb o’r hyn mae’r Ddeddf yn ei wneud
  2. dolen i’r Ddeddf ei hun ar legislation.gov.uk
  3. dolenni i’r Nodiadau Esboniadol a’r Memorandwm Esboniadol
  4. dyddiadau allweddol gan gynnwys y Cydsyniad Brenhinol a phryd y daeth i rym
  5. gwybodaeth allweddol am gyflwyno’r Bil
  6. ystyriaeth y Senedd o’r Bil a dolenni i wefan y Senedd i gael manylion pellach
  7. rhestr o’r holl is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf, gan gynnwys dolenni i’r ddeddfwriaeth ar legislation.gov.uk a’r Memorandwm Esboniadol (os yw ar gael) neu ddolenni i’r is-ddeddfwriaeth berthnasol a wnaed ar ffurf heblaw offeryn statudol ar wefan gov.wales
  8. erthyglau, canllawiau neu wybodaeth ategol.

41. Wrth weithio ar hyn daeth i’r amlwg nad yw tudalennau’r Biliau ar wefan y Senedd bob amser yn cynnwys y fersiwn terfynol o’r Memorandwm Esboniadol i Fil (sydd fel arfer yn cael ei ddiweddaru ar ôl i’r Bil gael ei basio, a’u cyhoeddi ar wefan gov.wales). Byddwn yn darparu’r fersiynau a ddiweddarwyd ddiwethaf o Femoranda Esboniadol i Filiau i’r Senedd yn y dyfodol, er mwyn sicrhau bod gwefan y Senedd yn dangos yr wybodaeth lawn, a bydd tudalennau’r Deddfau ar Cyfraith Cymru/Law Wales yn cysylltu â’r fersiynau diweddaraf hynny.

42. Disgwylir i’r tudalennau newydd hyn gryfhau hygyrchedd y gyfraith yng Nghymru gan mai dyma fydd yr unig adnodd ar gael sy’n dangos yr holl is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan Ddeddf mewn un lle – rhywbeth y gwyddom fod rhanddeiliaid wedi gofyn amdano yn y gorffennol. Bydd cynnwys yr is-ddeddfwriaeth a wnaed ar ffurf heblaw offeryn statudol (fel cyfarwyddydau, cynlluniau, canllawiau a datganiadau) hefyd yn ehangu’r wybodaeth sydd ar gael i ddefnyddwyr.

43. Ychwanegwyd darnau gan gyfranwyr allanol i’r safle hefyd (cwmnïau cyfreithiol sy’n gweithio yng Nghymru, yn bennaf), ar ffurf erthyglau.

44. Yn ddiweddar comisiynodd Cyngor Cyfraith Cymru, a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru yn dilyn adroddiad y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru, ymchwil ar addysg ym maes y gyfraith gyhoeddus yng Nghymru. Er nad yw’r adroddiad hwnnw ar gael eto, cyfeiriwyd at y defnydd o wefan Cyfraith Cymru/Law Wales, a’i pherthnasedd, mewn sesiwn gasglu tystiolaeth gyda darparwyr a rhwydweithiau cynghori, academyddion ac eraill, a gynhaliwyd yn ystod haf 2023. Roedd galwadau hefyd i gryfhau a datblygu’r wybodaeth ar y safle.

Nodi cyfleoedd i wella hygyrchedd digidol deddfwriaeth

45. Rhaid inni gydweithio ag Argraffydd y Brenin a swyddogion yn yr Archifau Gwladol er mwyn cyflawni rhai o ymrwymiadau’r rhaglen o ran hygyrchedd digidol. Fel y nodwyd yn yr adroddiad blaenorol ac yn gynharach, maent wedi parhau i flaenoriaethu’r gwaith o anodi testunau Cymraeg cyfraith Cymru yn ystod y flwyddyn a aeth heibio. Maent yn parhau i fod wedi ymrwymo i weithio gyda ni er mwyn parhau i ddatblygu a gwella hygyrchedd digidol deddfwriaeth, ond roeddem wedi gobeithio gwneud rhagor o gynnydd.

46. Gweler paragraffau 61 a 62 hefyd ar ffurf a strwythur deddfwriaeth Cymru.

Cryfhau’r trefniadau ar gyfer cofrestru, cyhoeddi a chadw is-ddeddfwriaeth

47. Dechreuwyd ar y gwaith o ddatblygu opsiynau i gryfhau’r trefniadau ar gyfer cofrestru, cyhoeddi a chadw is-ddeddfwriaeth a wneir gan Weinidogion Cymru (gan gynnwys offerynnau statudol ac is-ddeddfwriaeth heb fod ar ffurf offeryn statudol). Rhagwelir y bydd hyn yn parhau yn ystod y deuddeg mis nesaf, os bydd adnodd staffio ar gael. Bydd diweddariad ar y gwaith yn yr adroddiad blynyddol nesaf.

Adolygu’r ffordd y mae’r Llywodraeth yn llunio deddfwriaeth ddwyieithog

48. Mae Gwasanaeth Cyfieithu Llywodraeth Cymru wedi cwblhau’r broses o gaffael meddalwedd cof cyfieithu a rheoli terminoleg newydd. Cynhaliwyd gwaith profi dros yr haf a chyflwynwyd y system newydd yn llawn ar 18 Medi 2023. Rhagwelir y bydd y system newydd yn gwneud y broses gyfieithu yn fwy effeithlon a chywir, ac yn golygu y bydd modd mabwysiadu ffyrdd mwy effeithlon o ymchwilio i derminoleg, safoni termau ac ymgynghori arnynt.

49. Mae’r prosesau safoni termau arferol sy’n gysylltiedig â phrosiectau Biliau wedi parhau yn ystod y flwyddyn. Er enghraifft, dilynwyd y broses safoni ar gyfer deddfwriaeth ym maes democratiaeth, ar gyfer Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) a Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) (Cymru). Bydd y termau hyn hefyd yn werthfawr ar gyfer gwaith deddfwriaethol pellach yn y maes hwn. Mae’r gwaith ar ddeddfwriaeth ym maes democratiaeth yn golygu bod 95 o dermau newydd, termau wedi eu diwygio neu dermau wedi eu cadarnhau yng nghronfa ddata BydTermCymru.

50. Yn ystod y cyfnod adrodd cynhaliwyd adolygiad o’r deunyddiau cyfeirio deddfwriaethol sydd ar gael ar BydTermCymru. O ganlyniad i’r adolygiad, a thrafodaethau parhaus rhwng y Gwasanaeth Cyfieithu, Swyddfa’r Cwnsleriaid Deddfwriaethol a’r Adran Gwasanaethau Cyfreithiol, cafodd cyfanswm o 38 o gofnodion eu hychwanegu neu eu diweddaru rhwng mis Hydref 2022 a mis Medi 2023.

51. Mae’r Gwasanaeth Cyfieithu hefyd wedi cynnal sesiynau cynefino ar gyfer aelodau newydd o Swyddfa’r Cwnsleriaid Deddfwriaethol, a oedd yn canolbwyntio ar y ffordd y mae’r broses gyfieithu yn gallu helpu i wella’r testun yn y ddwy iaith. Cyfrannwyd hefyd at sesiwn wybodaeth ar gyfer holl staff yr Adran Gwasanaethau Cyfreithiol, gan ganolbwyntio ar gydweithio rhwng Uned Cyfieithu Deddfwriaeth ac Adran Gwasanaethau Cyfreithiol Llywodraeth Cymru.

52. Fel rhan o broses gaffael i sefydlu Cytundeb Fframwaith newydd i ddarparu gwasanaethau cyfieithu a chyfieithu-ar-y-pryd i Lywodraeth Cymru, sefydlwyd is-lot penodol ar gyfer deddfwriaeth. Rhagwelir y bydd hyn yn rhoi cyfle i feithrin arbenigedd pellach yn y maes ymysg cyflenwyr allanol.

53. Cyhoeddwyd Polisi Seilwaith Ieithyddol y Gymraeg ddiwedd mis Mehefin 2023. Un o nodau’r Polisi oedd sefydlu Uned newydd o fewn Llywodraeth Cymru i fod yn gyfrifol am seilwaith ieithyddol y Gymraeg. Mae’r uned honno wedi ei sefydlu bellach. Nod arall oedd creu gwefan newydd i farchnata a hyrwyddo’r adnoddau sydd ar gael, fel geiriaduron a therminoleg, i’w gwneud yn haws i bobl eu defnyddio a dod o hyd i atebion yn y Gymraeg. Yn y pen draw bydd y gwasanaeth hwn yn helpu i sicrhau bod terminoleg ddeddfwriaethol safonedig ar gael yn eang. Bydd hefyd yn codi proffil y gwaith sydd eisoes yn digwydd yn y maes hwn.

54. Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cyllid i’r Uned Technolegau Iaith ym Mhrifysgol Bangor i ddatblygu cyfres o adnoddau technoleg iaith. Roedd hyn yn cynnwys sefydlu teclyn cyfieithu peiriant parth-benodol ar gyfer maes y gyfraith. Bellach gall pobl sy’n gweithio ym maes cyfiawnder a’r gyfraith ddefnyddio teclyn cyfieithu peiriant newydd a gynlluniwyd yn benodol gan ddefnyddio data deddfwriaethol. Nod y teclyn yw darparu cyfieithiadau mwy manwl-gywir na’r rheini a ddarperir gan offer cyfieithu peiriant cyffredinol, a dangosodd profion cychwynnol a gynhaliwyd ym mis Mawrth 2023 (drwy fesur y gwahaniaeth rhwng cyfieithu awtomatig a chyfieithiadau cyfeirio a grëwyd gan bobl o’r un brawddegau ffynhonnell) lefel gywirdeb anarferol o uchel. Mae hyn yn addawol iawn o safbwynt y defnydd ymarferol o’r teclyn yn y dyfodol.

55. Wrth gwrs, rhaid i’r testun sy’n cael ei greu gan y peiriant gael ei olygu gan gyfieithydd neu olygydd cymwys wedyn, cyn iddo gael ei gyhoeddi. Wrth i dechnoleg cyfieithu peiriant ddod yn fwy a mwy soffistigedig a dibynadwy, mae rôl y cyfieithydd yn dechrau esblygu, felly, i fod yn fwy o swyddogaeth olygu arbenigol, gan ganiatáu i gyfieithwyr ganolbwyntio ar wneud gwell defnydd o’u sgiliau ieithyddol. Rydym hefyd yn ystyried sut y gallai’r datblygiadau hyn alluogi cwnsleriaid deddfwriaethol i gynhyrchu rhagor o’r testun yn gyfochrog, yn amodol ar adolygiad golygyddol o’r ddwy iaith.

56. Mae’r teclyn ar gael drwy fynd i Cyfieithu Peiriant parth-benodol (techiaith.cymru) a dewis y tab Deddfwriaeth.

Diweddaru canllawiau a llunio canllawiau ychwanegol

57. Mae’r gwaith o adolygu canllawiau drafftio Swyddfa’r Cwnsleriaid Deddfwriaethol, Drafftio Deddfau i Gymru, wedi dechrau a rhagwelir y bydd fersiwn ddiwygiedig yn cael ei chyhoeddi yn ystod y cyfnod adrodd nesaf. Mae’r gwaith hwn yn digwydd ochr yn ochr â’r cyfarfodydd mewnol rheolaidd y bydd Cwnsleriaid Deddfwriaethol yn eu cynnal i drafod a chytuno ar ffyrdd o ymdrin â mân bwyntiau. Sefydlwyd grŵp defnyddwyr hefyd i rannu arferion da a gwneud y defnydd gorau o’r feddalwedd ddrafftio, Legislative Workbench 360.

Prosiectau eraill

Ymrwymiadau’r rhaglen

Yn ystod tymor y Senedd hon, bydd y Llywodraeth yn parhau i weithio gyda Chomisiwn y Gyfraith.

Cynnydd yn ystod y cyfnod adrodd

Gweithio gyda Chomisiwn y Gyfraith

58. Mae Comisiwn y Gyfraith Cymru a Lloegr eto i gyhoeddi ei gynigion ar gyfer ei Bedwaredd Rhaglen ar Ddeg i Ddiwygio’r Gyfraith, ond mae’n dal i fod wedi ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid yng Nghymru i ddod o hyd i brosiectau addas sy’n ymwneud â’r gyfraith.

59. Bydd Gweinidogion Cymru yn parhau i ddefnyddio eu pwerau i gyfeirio materion at Gomisiwn y Gyfraith er gwybodaeth ac i gael ei gyngor. Yn y gorffennol mae atgyfeiriadau o’r fath wedi arwain at gwblhau prosiectau y mae Llywodraeth Cymru yn awr yn bwrw ymlaen â hwy – gosododd Gweinidogion Cymru eu hwythfed adroddiad blynyddol ar weithredu cynigion Comisiwn y Gyfraith gerbron y Senedd ar 15 Chwefror 2023.

60. Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder a Swyddfa’r Twrnai Cyffredinol wedi gofyn i Gomisiwn y Gyfraith adolygu’r gyfraith ar ddirmyg troseddol a dirmyg sifil. Mae Comisiwn y Gyfraith yn gobeithio cyhoeddi papur ymgynghori yn fuan yn 2024, yn gwahodd barn ar eu cynigion drafft ar gyfer diwygio. Ym mis Medi 2023 gofynnodd y Prif Weinidog i Gomisiwn y Gyfraith gynnwys tribiwnlysoedd datganoledig yn y prosiect hwn.

Ffurf a strwythur deddfwriaeth Cymru

61. Yn 2021 ysgrifennodd y Cwnsler Cyffredinol at y Llywydd ynglŷn â rhai newidiadau arfaethedig i ffurf a strwythur Deddfau ac Offerynnau Statudol Cymru. Rhagwelwyd y byddai’r Senedd yn ystyried y materion hyn, ond gan nad oes gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad y capasiti i wneud hynny ar hyn o bryd, mae’r Llywodraeth yn bwriadu ymgynghori ar y materion hyn ei hun, gyda golwg ar gytuno ar unrhyw newidiadau terfynol â’r Llywydd (pan fo’r newidiadau hyn yn effeithio ar ffurf Biliau’r Senedd), Argraffydd y Brenin, y Llyfrfa, yr Archifau Gwladol (pan fo’r newidiadau yn debygol o effeithio ar argraffu a chyhoeddi deddfwriaeth Cymru), ac eraill fel y bo’n briodol.

62. Ar hyn o bryd rhagwelir y bydd yr ymgynghoriad yn ymdrin â’r canlynol:

  1. a oes angen cynnwys enw ‘hir’ yn ogystal ag enw ‘byr’ i Fil/Deddf y Senedd
  2. darpariaethau trosolwg ym Miliau/Deddfau’r Senedd
  3. symleiddio neu hepgor y geiriau deddfu yn Neddfau’r Senedd
  4. y defnydd o ddyddiadau yn Neddfau’r Senedd (o ran dyddiad y Cydsyniad Brenhinol, er enghraifft)
  5. mabwysiadu cymhorthion llywio yn Neddfau’r Senedd, ac o bosibl mewn Offerynnau Statudol hefyd, megis ychwanegu penynnau at y ddogfen i ddangos y Rhan neu’r Atodlen berthnasol
  6. y ffurfdeip a ddefnyddir yn Neddfau’r Senedd ac mewn Offerynnau Statudol
  7. mabwysiadu dulliau sy’n helpu i wella hygyrchedd digidol ac argraffedig fel ei gilydd.

Materion eraill

Cywiriadau i Offerynnau Statudol Cymru

63. Mae’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad wedi ysgrifennu at y Cwnsler Cyffredinol ddwywaith yn ystod y cyfnod sydd dan sylw yr adroddiad hwn, ynglŷn â chywiro Offerynnau Statudol Cymru. Mae’r Cwnsler Cyffredinol hefyd wedi ymateb i’r mater hwn fel rhan o ohebiaeth yn dilyn sesiynau tystiolaeth lafar i’r Pwyllgor.

64. Mae’r Llywodraeth yn sefydlu proses newydd i sicrhau bod Aelodau’r Senedd yn cael gwybod am unrhyw fân gywiriadau neu gywiriadau technegol a wneir cyn i offeryn drafft sy’n destun y weithdrefn gadarnhaol gael ei wneud.

Cynhadledd Ewrop 2023 y Commonwealth Association of Legislative Counsel

65. Ym mis Mai 2023, cyfrannodd swyddogion o Swyddfa’r Cwnsleriaid Deddfwriaethol at drefnu Cynhadledd Ewrop 2023 y Commonwealth Association of Legislative Counsel (CALC). Nod y gymdeithas hon yw hyrwyddo cydweithredu o ran materion sydd o ddiddordeb proffesiynol i’r rheini sy’n drafftio deddfwriaeth neu’n hyfforddi pobl i wneud hynny.

66. Cynhaliwyd cynhadledd Ewrop yn Stadiwm y Principality yng Nghaerdydd eleni, a pan ddaeth 140 o gynrychiolwyr at ei gilydd o bob cwr o’r byd. Roedd hygyrchedd y gyfraith ac eglurder wrth ddrafftio deddfwriaeth yn thema amlwg yn ystod y digwyddiad deuddydd, a oedd yn cynnwys:

  1. prif araith ar y diwrnod cyntaf gan y Gwir Barchedig a’r Gwir Anrhydeddus Ddr Rowan Williams, cyn Archesgob Caergaint, a rannodd ei fyfyrdodau ar y gyfraith a sofraniaeth a chwestiynau yn ymwneud â diffiniadau, a oedd yn deillio o’i rôl fel cyd-gadeirydd y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru
  2. prif araith ar yr ail ddiwrnod gan Eleanor Sharpston CB, cyn Adfocad Cyffredinol yn Llys Cyfiawnder Ewrop, a rannodd ei myfyrdodau ar ddrafftio deddfwriaeth yn amgylchedd amlieithog, amlddiwylliannol yr Undeb Ewropeaidd, a’r cyfaddawdu sy’n angenrheidiol wrth setlo ar destunau deddfwriaethol yn yr amgylchiadau hynny araith gan Dylan Hughes, Prif Gwnsler Deddfwriaethol y Llywodraeth, yn dwyn y pennawd Canon to confusion: what has happened to the law? Reflections on the statute book, the legal response to the pandemic and the rule of law, ble 
  3. rhannodd ei fyfyrdodau ar y profiad o ddeddfu’n ddwyieithog yng Nghymru yn ystod pandemig Covid-19, a’r ymdrech sylweddol a wnaed i sicrhau bod y cyhoedd yn deall y cyfyngiadau a oedd mewn grym ar unrhyw adeg
  4. amrywiaeth o sesiynau grŵp dan arweiniad swyddogion eraill o Lywodraeth Cymru, a oedd yn canolbwyntio’n benodol ar ddrafftio dwyieithog a diweddaru ac anodi deddfwriaeth yn Gymraeg ac yn Saesneg ar legislation.gov.uk.

Cyfarfodydd rhwng swyddfeydd i drafod dulliau o ymdrin â deddfwriaeth ar draws y Deyrnas Unedig

67. Ym mis Chwefror 2023 sefydlwyd grŵp cyfnod penodol i ystyried materion sy’n ymwneud â drafftio deddfwriaeth sy’n gyffredin ar draws y DU. Mae’r grŵp yn cynnwys cynrychiolwyr o’r pedair swyddfa ddrafftio yn y DU (Cymru, Lloegr/y DU, yr Alban a Gweriniaeth Iwerddon) ac o’r Archifau Gwladol. Ei gylch gorchwyl yw ystyried:

  1. a oes pethau y gallai’r pedair swyddfa ddrafftio gytuno i’w gwneud yn gyson neu egwyddorion y gallent i gyd eu dilyn wrth weithredu yn yr un meysydd (e.e. a ddylent fod yn ceisio creu testunau ar wahân, a ddylid osgoi testunau cyfochrog, etc.)
  2. a oes pethau y mae Swyddfa’r Cwnsleriaid Seneddol yn ei wneud yn Neddfau’r DU sy’n gwneud bywyd yn fwy cymhleth i’r swyddfeydd drafftio eraill (ac i’r gwrthwyneb).

68. Mae’r grŵp yn cyfarfod yn fisol ac mae’n bwriadu cyflwyno ei argymhellion i’w hystyried yng nghyfarfod nesaf Penaethiaid y Swyddfeydd Drafftio tua dechrau 2024.

Diwygio’r rhaglen

69. Mae adran 2(6) o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 yn caniatáu i Weinidogion Cymru a’r Cwnsler Cyffredinol ddiwygio’r rhaglen.

70. Bwriedir diwygio’r rhaglen er mwyn cynnwys:

  1. ymrwymiad i greu Cod y gyfraith ar gyfer cynllunio, ac i ddangos fod Cod ar gyfraith yr amgylchedd hanesyddol wedi ei greu 
  2. gwybodaeth am y prosiect i gryfhau’r ffordd y caiff is-ddeddfwriaeth ei chyhoeddi, ac 
  3. ymrwymiad i ymgynghori ar gynigion i wella ffurf a strwythur deddfwriaeth.

71. Caiff y rhaglen ddiwygiedig ei gosod gerbron y Senedd yn nes ymlaen eleni.

Materion i gloi

72. Ymysg uchafbwyntiau’r deuddeg mis diwethaf mae pasio Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 ym mis Mawrth 2023 (gan ffurfio’r Cod cyntaf o gyfraith Cymru), a’r cynnydd da a wnaed gan staff Llywodraeth Cymru yn cymhwyso diwygiadau wedi eu hanodi i destunau Cymraeg a Saesneg cyfraith Cymru ar safle legislation.gov.uk. Mae’r naill beth a’r llall yn gamau mawr ymlaen o ran trin y ddwy iaith yn gyfartal a datblygu’r Gymraeg fel iaith y gyfraith.

73. Mae’r Archifau Gwladol dal i fod yn bartner hanfodol o ran ein helpu i wella hygyrchedd y gyfraith – o ran y ffordd y caiff deddfwriaeth ei hargraffu a’i chyhoeddi, a’r ffordd y caiff ei darparu ar ffurf ddigidol y gellir ei chyrchu a’i defnyddio’n rhad ac am ddim. Fodd bynnag, oni bai a hyd nes y bydd yn gallu bwrw ymlaen â blaenoriaethau’r rhaglen i ddatblygu swyddogaeth y safle fel y gellir cyrchu deddfwriaeth Cymru yn ôl pwnc, nid oes fawr o gyfle i Lywodraeth Cymru fwrw ymlaen â’r prosiect hwn.

74. Drwyddi draw, deuwn i’r casgliad fod y rhaglen yn dal i fod ar y trywydd iawn ac rydym yn falch o roi gwybod am y cynnydd da a wnaed ac am y bwriad i ehangu’r rhaglen i adlewyrchu’r gwaith pellach sydd ar y gweill.