Neidio i'r prif gynnwy

“A thrwy gyngor a chytundeb y doethion a ddaeth yno, archwiliwyd yr hen gyfreithiau, gadawyd rhai ohonynt i barhau, diwygiwyd eraill, a dilëwyd eraill yn gyfan gwbl, a gosodwyd rhai eraill o’r newydd.”

Llyfr Iorwerth 1240

Rhagair

Image
Mick Antoniw AS, Y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad

Yn 2019 cymerodd Llywodraeth Cymru a’r Senedd gam pwysig ar ein taith i ddatblygu casgliad o gyfreithiau modern, hygyrch a dwyieithog ar gyfer Cymru drwy basio Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019. O dan y Ddeddf hon rhaid i’r Llywodraeth lunio rhaglen sy’n disgrifio’r camau y bydd yn eu cymryd dros gyfnod o bum mlynedd tuag at y nod o wneud y gyfraith yn fwy hygyrch, yn arbennig drwy gydgrynhoi a chodeiddio’r gyfraith sy’n bodoli.

Pleser o’r mwyaf yw cyflwyno’r rhaglen ar gyfer 2021 i 2026.

Gwyddom nad tasg hawdd sydd o’n blaenau, ac na fydd hyn yn digwydd dros nos, ond rhaid inni gychwyn yn rhywle, a chychwyn fel y bwriadwn barhau. Mae’r rhaglen hon yn cynnwys tri Bil i gydgrynhoi’r gyfraith (dod â hi ynghyd), ac yn nes ymlaen yn ystod tymor y Senedd hon rwy’n bwriadu diweddaru’r rhaglen i gynnwys Biliau cydgrynhoi pellach. Nid dim ond ymarfer tacluso cyfreithiol yw cydgrynhoi’r gyfraith, fel sy’n digwydd ar hyn o bryd ym maes cynllunio. Bydd hyn yn dod â manteision ymarferol go iawn drwy wneud cymhwyso’r gyfraith, er enghraifft gweithdrefnau gweinyddol, yn fwy effeithiol ac eglur. Ac yn y bôn mae’n helpu dinasyddion Cymru i ddeall eu hawliau cyfreithiol a’u rhwymedigaethau cyfreithiol.

Yr un mor bwysig yw’r prosiectau ehangach i wella’r ffordd y mae pobl yn cyrchu’r gyfraith, a’u dealltwriaeth ohoni drwy well dulliau cyhoeddi a darparu mwy o ddeunyddiau esboniadol. Bwriad prosiectau fel gwefan Cyfraith Cymru/Law Wales yw helpu pobl i ddod o hyd i’r gyfraith sy’n gymwys iddyn nhw a’u helpu i’w deall.

Rwyf hefyd yn hynod falch y bydd y gwaith hwn yn golygu y bydd mwy o’r gyfraith ar gael yn ddwyieithog. Mae llunio mwy o gyfreithiau yn Gymraeg, yn ogystal â deunyddiau esboniadol ac ategol, yn ei gwneud yn haws i bobl ddefnyddio’r Gymraeg ym maes y gyfraith ac mewn gweinyddiaeth gyhoeddus yng Nghymru.

Crynodeb

Bydd y rhaglen gyntaf i wella hygyrchedd cyfraith Cymru yn cynnwys prosiectau i:

  1. Paratoi tacsonomeg o bynciau cyfraith Cymru.
  2. Ehangu ymarferoldeb gwefan legislation.gov.uk fel y gall defnyddwyr gyrchu cyfraith Cymru yn ôl pwnc.
  3. Drafftio Biliau cydgrynhoi i ddod â’r gyfraith ar y pynciau canlynol ynghyd mewn statudau unigol:
    1. Yr Amgylchedd Hanesyddol
    2. Cynllunio
  4. Gweithredu’r is-ddeddfwriaeth sydd ei hangen i gefnogi’r gwaith o gydgrynhoi’r gyfraith ar yr amgylchedd hanesyddol a chynllunio.
  5. Paratoi Bil cydgrynhoi i ddileu darpariaethau sydd wedi darfod, wedi dod i ben, neu nad ydynt bellach o ddefnydd ymarferol yng Nghymru.
  6. Pennu cwmpas meysydd pwnc ychwanegol gyda’r bwriad o nodi o leiaf ddau brosiect cydgrynhoi arall i’w drafftio yn ystod tymor y Senedd hon.
  7. Sicrhau bod cyfraith Cymru ar gael ar ffurf gyfoes ar wefan legislation.gov.uk, a sicrhau bod modd gweld testunau Cymraeg a Saesneg deddfwriaeth Cymru ochr yn ochr arni.
  8. Ehangu a gwella gwefan Cyfraith Cymru/Law Wales.
  9. Nodi cyfleoedd i wella hygyrchedd digidol deddfwriaeth.
  10. Adolygu’r ffordd y mae’r Llywodraeth yn datblygu deddfwriaeth ddwyieithog.
  11. Archwilio’r potensial ar gyfer defnyddio dysgu peirianyddol a deallusrwydd artiffisial i wneud cyfraith Cymru yn fwy hygyrch.
  12. Diweddaru canllawiau ar ddrafftio deddfwriaeth, yn ôl yr angen, yn ogystal â llunio a chyhoeddi canllawiau ychwanegol ar y prosesau a’r gweithdrefnau sy’n gysylltiedig â llunio Biliau cydgrynhoi.

Datblygu’r rhaglen

Tua diwedd 2019 cyhoeddodd y Llywodraeth ymgynghoriad, Dyfodol Cyfraith Cymru, a oedd yn nodi’r ffordd y bwriadwn fynd ati i wella hygyrchedd y gyfraith. Roedd yn esbonio bod angen cymryd y camau canlynol ar yr un pryd er mwyn gwneud cynnydd:

  1. dosbarthu deddfwriaeth yn ôl pwnc fel bod gennym strwythur ar gyfer gwaith yn y dyfodol a dull i ddefnyddwyr ddod o hyd i ddeddfwriaeth a’i defnyddio
  2. cydgrynhoi’r gyfraith bresennol: mae hyn yn cymryd llawer o amser ac yn gymhleth, ond bydd yn gwneud y cyfraniad mwyaf arwyddocaol at wneud y gyfraith yn hygyrch;
  3. bydd codeiddio’r gyfraith yn cynnal y drefn a sefydlir gennym drwy ddosbarthu a chydgrynhoi
  4. bydd egluro a chyfathrebu’r gyfraith yn arwain at gyhoeddi effeithiol, testunau cyfredol, esboniadau, canllawiau a deunyddiau eglurhaol.

Cymeradwyodd y Senedd uchelgais y Llywodraeth drwy basio Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019.

O dan y Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru a’r Cwnsler Cyffredinol lunio a gosod rhaglen i wella hygyrchedd cyfraith Cymru.

Rhaid i bob rhaglen wneud darpariaeth i gydgrynhoi a chodeiddio cyfraith Cymru, cynnal cyfraith wedi’i chodeiddio, hybu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o gyfraith Cymru, a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg.

Y rhaglen

Rydym wedi ystyried ymrwymiadau presennol wrth lunio’r rhaglen – er enghraifft i gydgrynhoi’r gyfraith ar yr amgylchedd hanesyddol, ac i symleiddio a moderneiddio cyfraith gynllunio – ac wedi ceisio nodi prosiectau pellach sy’n bodloni un neu ragor o’r meini prawf a ganlyn:

  1. mae’r prosiect yn ymwneud ag un o feysydd y gyfraith y mae angen ei gydgrynhoi fwyaf am fod y gyfraith yn y maes mor gymhleth
  2. byddai’r prosiect yn cael effaith sylweddol ar y dinesydd oherwydd natur y gyfraith dan sylw
  3. mae’r prosiect yn ymarferol o ystyried yr hyn y gellir ei gyflawni yng nghyd-destun blaenoriaethau deddfwriaethol sy’n cystadlu â’i gilydd, yr adnoddau sydd ar gael a’r setliad datganoli presennol
  4. mae’r prosiect yn amserol neu’n gysylltiedig mewn rhyw ffordd â gwaith disgwyliedig y Llywodraeth yn ystod tymor nesaf y Senedd.

Nodir manylion pob prosiect yn y rhaglen isod.

Dosbarthu cyfraith Cymru

Yn y ddogfen Dyfodol Cyfraith Cymru (2019), nododd y Llywodraeth ei bwriad i drefnu’r ddeddfwriaeth sy’n gymwys i Gymru yn ôl pwnc, a sefydlu ffordd i ddefnyddwyr ddefnyddio dulliau technolegol i ddod o hyd i ddeddfwriaeth Cymru. Mae dosbarthu’r gyfraith yn y modd hwn yn bwysig yn y lle cyntaf i helpu defnyddwyr i ddod o hyd i ddeddfwriaeth yn haws, ac yn ail, i darparu strwythur drefnus ar gyfer gwaith cydgrynhoi a chodeiddio yn y dyfodol.

Yn ystod tymor y Senedd hon byddwn yn:

  1. adolygu a diwygio’r dacsonomeg ddrafft bresennol o bynciau (a luniwyd ac yr ymgynghorwyd arni yn wreiddiol yn 2019) er mwyn canfod pa ddeddfiadau ym meysydd datganoledig y gyfraith a ddylai berthyn i bob haen o’r dacsonomeg.
  2. gweithio gyda’r tîm sy’n gyfrifol am legislation.gov.uk yn yr Archifau Gwladol i ddarparu swyddogaethau ychwanegol ar y safle hwnnw fel y gall defnyddwyr gyrchu cyfraith Cymru yn ôl pwnc.

Cydgrynhoi cyfraith Cymru

Diben cydgrynhoi deddfwriaeth yw diwygio deddfwriaeth sydd wedi dyddio a’i diwygio’n drwm, ac sydd felly’n anrhefnus. Mae’r ddeddfwriaeth ar y rhan fwyaf o bynciau wedi lluosogi dros amser ac mae’r ffaith fod cymaint o Ddeddfau ac Offerynnau ar y pwnc yn aml yn ei gwneud hi’n anodd dod o hyd iddi, heb sôn am ei deall. Mae cydgrynhoi’n golygu dod â’r holl ddeddfwriaeth (sylfaenol fel rheol) ar bwnc penodol, neu’r rhan fwyaf ohoni, ynghyd fel y gellir dod o hyd iddi’n hawdd, a’i gwneud yn haws ei deall a’i chymhwyso drwy foderneiddio ei ffurf a’r modd y’i drafftiwyd. Bydd cydgrynhoi yn aml yn dod â nifer o Ddeddfau presennol ar bwnc ynghyd, gan ddiweddaru a chysoni’r darpariaethau i greu un Ddeddf newydd ar y diwedd.

Mae’r Llywodraeth yn bwriadu llunio nifer o Filiau cydgrynhoi yn ystod tymor y Senedd hon, er mwyn i Senedd Cymru graffu arnynt; os cânt eu cymeradwyo byddant yn dod yn Ddeddfau Senedd Cymru. Byddwn yn datblygu:

  1. Bil cydgrynhoi sy’n dod â’r gyfraith ar yr amgylchedd hanesyddol ynghyd.

    Disgwylir y bydd y Bil hwn yn cydgrynhoi darpariaethau perthnasol o Ddeddf Adeiladau Hanesyddol a Henebion 1953; Deddf Henebion ac Ardaloedd Archeolegol 1979; Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990; a Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016.

    Mae’r ddeddfwriaeth bresennol wedi mynd yn fwy a mwy astrus yn ystod y blynyddoedd diwethaf oherwydd diwygiadau mynych (sy’n aml yn wahanol ar gyfer Cymru, Lloegr a’r Alban), ac mae bellach yn cyflwyno dipyn o her i berchennog heneb gofrestredig neu adeilad rhestredig, ac yn ddigon â drysu ambell weithiwr cyfreithiol proffesiynol hefyd. Yn ogystal â bod yn anodd eu dilyn, fodd bynnag, mae iaith y statudau weithiau’n hen ffasiwn, ceir rhai darpariaethau sydd wedi darfod, ac ar y cyfan, dim ond yn Saesneg y maent ar gael.

    Bydd cydgrynhoi’r gyfraith bresennol yn ffurfio corff trefnus o gyfraith ar gyfer amgylchedd hanesyddol Cymru. Y nod fydd gwneud y darpariaethau mor hygyrch a dealladwy â phosibl, a bydd y ddeddfwriaeth newydd yn gwbl ddwyieithog. Bydd hyn yn arwain at ddeddfwriaeth ar wahân ar gyfer Cymru, heb ddarpariaethau sy’n ymgorffori cyfeiriadau at Loegr a’r Alban.

  2. Bil cydgrynhoi sy’n symleiddio ac yn moderneiddio’r gyfraith ym maes cynllunio.

    Mae’r Bil hwn yn rhan bwysig o welliannau ehangach, mwy hirdymor, sydd eu hangen ar y system gynllunio. Mae angen y Bil ers tro byd, fel y dangoswyd yn glir pan ddaeth adroddiad Comisiwn y Gyfraith ar Gyfraith Cynllunio yng Nghymru i’r casgliad ei fod yn faes o’r gyfraith sydd angen sylw brys. Tynnodd yr adroddiad sylw at effeithiau niweidiol ac aneffeithlonrwydd diffyg hygyrchedd, diffyg ansawdd a chymhlethdod y gyfraith ar weithrediad y system gynllunio. Derbyniwyd yr angen i gydgrynhoi’r maes hwn o’r gyfraith a chwmpas bwriedig y Bil gan Lywodraeth flaenorol Cymru yn ei hymateb interim i’r Adroddiad a gyhoeddwyd ym mis Mai 2019 (Ymateb dros dro i adroddiad Comisiwn y Gyfraith ar y Gyfraith Gynllunio yng Nghymru), a chyhoeddwyd ymateb manwl ym mis Tachwedd 2020 yn amlinellu safbwynt y Llywodraeth ar bob un o’r 192 o argymhellion yn yr Adroddiad (Ymateb manwl i adroddiad Comisiwn y Gyfraith ar gyfraith cynllunio yng Nghymru).

    Bydd y Bil cydgrynhoi yn dod â darpariaethau sy’n ymwneud â chynllunio ynghyd o nifer o Ddeddfau, gan gynnwys Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990; Deddf Cynllunio a Digolledu 1991; Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994; Deddf yr Amgylchedd 1995; Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004; Deddf Cynllunio 2008; Deddf Lleoliaeth 2011; a Deddf Cynllunio (Cymru) 2015.

    Bydd symleiddio a chydgrynhoi cyfraith gynllunio drwy’r Bil hwn yn creu system gynllunio fwy effeithlon ac effeithiol sydd wedi’i chynllunio ar gyfer anghenion penodol Cymru. Gwneir hyn drwy greu fframwaith cynllunio sy’n galluogi’r holl randdeiliaid sy’n gweithredu, yn defnyddio neu’n cymryd rhan yn y system i gyrchu a deall y gyfraith sy’n effeithio’n uniongyrchol arnynt. Mae’n bwysig nodi hefyd y bydd yn ei gwneud yn haws i gyrff cyhoeddus a’r sector preifat ddefnyddio’r amrywiaeth o bwerau a dulliau sydd ar gael iddynt drwy ddeddfwriaeth cynllunio defnydd tir i hybu adferiad economaidd sy’n seiliedig ar werthoedd yn dilyn y pandemig.

  3. Bil cydgrynhoi sy’n diddymu neu’n datgymhwyso darpariaethau deddfwriaethol sydd wedi darfod, wedi dod i ben, neu nad ydynt bellach o ddefnydd ymarferol yng Nghymru o bob cwr o’r llyfr statud.

    Weithiau gelwir Biliau fel hyn yn Filiau ‘diddymu cyfraith statud’ ac maent wedi nodweddu deddfwriaeth Senedd y DU o dro i dro; disgwylir y bydd Bil o’r math hwn yn ymddangos yn y rhan fwyaf o raglenni i wella hygyrchedd cyfraith Cymru. Bydd y Bil hwn yn helpu i foderneiddio a symleiddio’r gyfraith. Mae dileu darpariaethau diangen yn helpu i dacluso’r llyfr statud, ac mae diwygio’r darpariaethau hyn fel nad ydynt bellach yn gymwys i Gymru yn helpu i greu eglurder ynghylch pa rannau o’r Statud sy’n gymwys (ac nad ydynt yn gymwys) i Gymru.

Bydd y Llywodraeth yn adolygu’r ddeddfwriaeth bresennol mewn nifer o feysydd er mwyn nodi dau brosiect cydgrynhoi arall i weithio arnynt yn ystod tymor y Senedd hon. Mae’r meysydd posibl ar gyfer eu cydgrynhoi sy’n cael eu hystyried yn cynnwys:

  1. Rhandiroedd
  2. Rheoliadau Adeiladu
  3. Cynllunio sylweddau peryglus
  4. Tai
  5. Iechyd y cyhoedd

Byddwn hefyd yn ystyried y meysydd hynny o’r gyfraith yr effeithiwyd arnynt fwyaf gan ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd, er mwyn nodi pynciau lle mae’r angen mwyaf i gysoni cyfraith ddomestig a chyfraith yr UE a ddargedwir.

Bydd dau brosiect arall hefyd i ategu’r Biliau i gydgrynhoi cyfraith yr amgylchedd hanesyddol a chynllunio:

  1. disgwylir y bydd angen pecyn o is-ddeddfwriaeth i weithredu Bil yr amgylchedd hanesyddol.

    Bwriedir gwneud hyn ar ôl i unrhyw Fil gael ei basio gan y Senedd.

  2. prosiect graddol o gydgrynhoi is-ddeddfwriaeth cynllunio gwlad a thref allweddol.

    Mae angen cydgrynhoi rhywfaint o’r ddeddfwriaeth hon oherwydd ei hoed (sy’n golygu bod angen moderneiddio’r iaith a’r fformat), ond hefyd oherwydd nifer y diwygiadau a wnaed iddi dros y blynyddoedd sy’n effeithio ar ei hygyrchedd. Cynhelir dadansoddiad llawnach ar ôl gorffen drafftio’r Bil cydgrynhoi, ond mae’r blaenoriaethau presennol yn cynnwys:

    1. Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Dosbarthiadau Defnydd) 1987
    2. Rheoliadau Cyffredinol Cynllunio Gwlad a Thref 1992
    3. Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Rheoli Hysbysebion) 1992
    4. Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995
    5. Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Coed) 1999, a
    6. Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012

Fel rhan o waith tymor y Senedd hon, byddwn hefyd yn ceisio nodi cyfleoedd eraill i gydgrynhoi a diweddaru is-ddeddfwriaeth. Er enghraifft:

  1. ail-wneud a diweddaru’r rheolau ar gyfer cynnal etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru.

    Bydd y prosiect hwn yn cynnwys tynnu’r darpariaethau ar gyfer Cymru allan o Reolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Cymru a Lloegr) 2006 a Rheolau Etholiadau Lleol (Plwyfi a Chymunedau) (Cymru a Lloegr) 2006, a diweddaru’r darpariaethau i adlewyrchu newidiadau a wnaed drwy Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Bydd hyn yn arwain at ddwy eitem o ddeddfwriaeth ddwyieithog, benodol i Gymru, ar gynnal etholiadau lleol yng Nghymru.

  2. llunio ‘Gorchymyn Cynrychiolaeth y Bobl’ yn ddwyieithog cyn yr etholiad cyffredinol i’r Senedd yn 2026.

    Ar hyn o bryd mae Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007, offeryn uniaith Saesneg, yn nodi’r modd y cynhelir yr etholiad a’r ymgyrch etholiadol ac yn cynnwys darpariaeth ar gyfer her gyfreithiol. Fe’i diwygiwyd dro ar ôl tro ac nid oes fersiwn wedi’i diweddaru ar gael yn rhwydd i’r cyhoedd. Caiff y ddeddfwriaeth hon ei chydgrynhoi a’i hail-wneud yn ddwyieithog cyn etholiad y Senedd.

Codeiddio

Pan fyddwn wedi categoreiddio cyfraith Cymru drwy’r broses ddosbarthu, ac wedi gwneud cynnydd o ran cydgrynhoi rhai o feysydd y gyfraith, mae’n bwysig cadw’r drefn a fydd wedi’i sefydlu. I wneud hyn rydym yn bwriadu codeiddio’r gyfraith. Mae Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 yn esbonio bod ‘codeiddio cyfraith Cymru’ yn cynnwys:

  1. mabwysiadu strwythur ar gyfer cyfraith Cymru sy’n gwella ei hygyrchedd
  2. trefnu a chyhoeddi cyfraith Cymru sydd wedi’i chydgrynhoi yn ôl y strwythur hwnnw.

Yn ymarferol, mae codeiddio yn golygu cyhoeddi’r gyfraith ar bynciau penodol gyda’i gilydd mewn un lle a chymryd camau i ddiogelu strwythur y ddeddfwriaeth ar bwnc penodol unwaith y bydd wedi’i rhoi mewn trefn. Felly, os oes gennym un Ddeddf ar bwnc penodol, naill ai am ei bod wedi’i chydgrynhoi neu am fod y gyfraith yn y maes hwnnw wedi’i diwygio drwyddi draw, dylem barhau i fod ag un Ddeddf. Os oes bwriad i newid y gyfraith ar y pwnc, dylid gwneud y newid hwnnw drwy ddiwygio’r Ddeddf honno, nid drwy wneud un newydd ochr yn ochr â hi, oni bai bod rheswm da iawn dros beidio â gwneud hynny.

Gan mai hon yw’r rhaglen gyntaf i wella hygyrchedd cyfraith Cymru, nid oes unrhyw fwriad i godeiddio cyfraith Cymru ar unwaith. Wrth i’r prosiectau i ddosbarthu a chydgrynhoi’r gyfraith ddwyn ffrwyth, bydd modd dechrau codeiddio’r gyfraith. Serch hynny, byddwn yn adolygu’r meysydd deddfwriaeth lle’r ydym eisoes wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran datgan y gyfraith ar bwnc (fel gofal cymdeithasol) er mwyn pennu pa waith ychwanegol sydd ei angen i godeiddio’r gyfraith. Caiff y rhaglen ei diweddaru yn ôl yr angen yn ystod tymor y Senedd.

Cyfathrebu ac egluro

Ail-wneud y gyfraith y mae’r prosiectau a nodir uchod, ond mae technegau cyfathrebu modern, ynghyd â disgwyliadau defnyddwyr deddfwriaeth, yn golygu bod y gyfraith ei hun yn cael ei hategu fel mater o drefn gan wybodaeth ychwanegol sy’n helpu i egluro effaith ac ystyr y gyfraith.

Yn ystod tymor y Senedd hon byddwn yn ceisio gwella’r modd y caiff y gyfraith a gwybodaeth am y gyfraith eu cyhoeddi yn rhad ac am ddim. Byddwn yn:

  1. Gweithio gyda’r tîm sy’n gyfrifol am legislation.gov.uk i sicrhau bod Deddfau ac Offerynnau Statudol dwyieithog ar gael ar ffurf gyfoes yn y ddwy iaith.

    Ar hyn o bryd dim ond testunau Saesneg y mae’r wefan yn gallu eu diweddaru, ond byddwn yn gweithio gyda hwy i sicrhau bod testunau cyfraith Cymru yn y naill iaith a’r llall yn cynnwys unrhyw ddiwygiadau a wnaed i’r ddeddfwriaeth ar ôl iddi gael ei gwneud yn wreiddiol.

  2. Ehangu a gwella cynnwys gwefan Cyfraith Cymru/Law Wales yn sylweddol er mwyn creu ‘siop un stop’ i gyrchu a deall cyfraith Cymru.

    Fel rhan o’r gwaith hwn byddwn hefyd yn archwilio’r gwersi a ddaeth i’r amlwg wrth ddeddfu yn ystod pandemig y coronafeirws i wella’r ffordd yr ydym yn egluro’r gyfraith, er enghraifft drwy weithio ochr yn ochr ag arbenigwyr cyfathrebu i gynhyrchu canllawiau penodol a sicrhau eu bod yn cael eu diweddaru wrth i ddeddfwriaeth newid; drwy sicrhau bod fersiynau wedi’u diweddaru o ddeddfwriaeth allweddol (gan gynnwys nodiadau esboniadol) yn cael eu cyhoeddi’n ddwyieithog ar-lein; drwy gyhoeddi dogfennau “cwestiwn ac ateb”, rhai wedi’u hanelu at grwpiau rhanddeiliaid penodol, gan sicrhau bod negeseuon syml, cyson a chyfreithiol gywir yn cael eu cyfleu.

  3. Archwilio ffyrdd o symud draw o fodel cyhoeddi deddfwriaeth yr 20fed ganrif, sy’n seiliedig ar fersiynau print, i system ddigidol fodern. Bydd hyn yn cynnwys ystyried datrysiadau technolegol ar gyfer gweld a dehongli deddfwriaeth ddwyieithog a symud i ffwrdd o fformat brint, colofn ddeuol Offerynnau Statudol. Rydym yn awyddus i bwysleisio bod deddfwriaeth yn cael ei gwneud yn ddwyieithog yng Nghymru, a bod statws cyfartal i’r naill destun a’r llall.
  4. Datblygu’r ffordd y mae’r Llywodraeth yn llunio deddfwriaeth ddwyieithog, gan ddefnyddio technoleg iaith i’w llawn botensial wrth inni geisio gwella effeithlonrwydd, parhau i sicrhau cywirdeb a defnyddio cystrawen naturiol ac ‘iaith glir’. Byddwn yn:

    1. cyflymu’r broses o gyhoeddi terminoleg ddeddfwriaethol Gymraeg safonedig ychwanegol ar TermCymru
    2. nodi sut y gall system gyfieithu a chyfieithu peirianyddol newydd arfaethedig y Llywodraeth ein galluogi i weithio’n fwy effeithlon, tynnu sylw at welliannau y gellir eu gwneud i’r testun gwreiddiol, a hwyluso gwell ymgynghori ar dermau technegol
    3. adolygu’r canllawiau arddull mewnol i nodi cyfleoedd i wneud y testun yn gliriach ac yn fwy naturiol yn y ddwy iaith
    4. cytuno ar brosesau i gyfieithwyr deddfwriaethol a chwnsleriaid deddfwriaethol gydweithio i wella’r drafft gwreiddiol yn ogystal â sicrhau bod y cyfieithiad yn gywir, a
    5. mireinio sgiliau golygyddol drwy rannu arbenigedd rhwng cyfieithwyr deddfwriaethol a chwnsleriaid deddfwriaethol.
  5. Archwilio’r potensial ar gyfer defnyddio dysgu peirianyddol a deallusrwydd artiffisial i wneud cyfraith Cymru yn fwy hygyrch. Bydd hyn yn golygu cydweithio â Phrifysgol Abertawe ac eraill i archwilio’r cyfleoedd i ddefnyddio technoleg i wella a chyflymu’r broses o wneud y gyfraith yn fwy hygyrch.

Mae’r Llywodraeth eisoes wedi paratoi canllawiau ar ddatblygu deddfwriaeth sylfaenol. Er mai canllawiau mewnol ar gyfer Gwasanaeth Sifil Llywodraeth Cymru yw’r rhain, fe’u cyhoeddwyd i helpu pobl i ddeall y broses ddeddfu a’r ffordd y caiff deddfwriaeth ei datblygu a’i drafftio. Yn ystod tymor y Senedd hon mae’r Llywodraeth yn bwriadu adolygu a diweddaru, yn ôl yr angen:

  1. Y Llawlyfr Deddfwriaeth ar Filiau’r Senedd
  2. Common Legislative Solutions (canllawiau sy’n helpu swyddogion cyhoeddus i ddeall materion sy’n codi’n fynych a dysgu o’r hyn a wnaed yn y gorffennol i’w datrys)
  3. Drafftio Deddfau i Gymru (canllawiau drafftio deddfwriaethol Swyddfa’r Cwnsleriaid Deddfwriaethol).

Byddwn hefyd yn llunio ac yn cyhoeddi canllawiau ychwanegol ar y prosesau a’r gweithdrefnau sy’n gysylltiedig â llunio Biliau cydgrynhoi.

Prosiectau eraill

Byddwn yn parhau i weithio gyda Chomisiwn y Gyfraith Cymru a Lloegr i nodi un neu fwy o brosiectau sy’n ymwneud â chyfraith Cymru i’w cynnwys yn ei Bedwaredd Rhaglen ar Ddeg o Ddiwygio’r Gyfraith a fydd yn dechrau yn 2022. Gallai hyn gynnwys prosiectau diwygio’r gyfraith neu adolygiadau o feysydd technegol y gyfraith, megis y gyfraith etholiadol sy’n sail i etholiadau lleol ac etholiadau’r Senedd, neu’r gyfraith sy’n llywodraethu cyhoeddi statudau ac offerynnau statudol ar-lein. Dim ond enghreifftiau yw’r rhain o feysydd o’r gyfraith ble y gallai Comisiwn y Gyfraith gefnogi uchelgais y Llywodraeth i symleiddio a moderneiddio’r gyfraith. Caiff y rhaglen hon ei diweddaru i gynnwys prosiectau perthnasol Comisiwn y Gyfraith ynddi, os bydd angen.

Adrodd ar y rhaglen

O dan Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019, mae’n ofynnol i’r Cwnsler Cyffredinol adrodd yn flynyddol i’r Senedd ar gynnydd y rhaglen. Caiff yr adroddiad cyntaf ei gyflwyno yn 2022.