Neidio i'r prif gynnwy

A thrwy gyngor a chytundeb y doethion a ddaeth yno, archwiliwyd yr hen gyfreithiau, gadawyd rhai ohonynt i barhau, diwygiwyd eraill, a dilëwyd eraill yn gyfan gwbl, a gosodwyd rhai eraill o’r newydd.

Llyfr Iorwerth 1240

Rhagarweiniad

1. Gosodwyd rhaglen gyntaf y Llywodraeth i wella hygyrchedd cyfraith Cymru, Dyfodol cyfraith Cymru: Rhaglen ar gyfer 2021 i 2026, gerbron y Senedd ar 21 Medi 2021. Caniateir diwygio’r rhaglen o dan adran 2(6) o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 ac o wneud hynny, rhaid ei gosod gerbron y Senedd.

2. Mae Gweinidogion Cymru a’r Cwnsler Cyffredinol wedi diwygio’r rhaglen yn awr i ddangos:

  1. bod y ddeddfwriaeth sylfaenol ar gyfer cod cyfraith yr amgylchedd hanesyddol bellach yn ei lle, a bod gwaith pellach ar is-ddeddfwriaeth yn mynd rhagddo
  2. ymrwymiad newydd i greu cod ar gyfer cyfraith gynllunio
  3. manylion am brosiect newydd i wella trefniadau cyhoeddi is-ddeddfwriaeth
  4. ymrwymiad i foderneiddio ffurf a strwythur deddfwriaeth, a
  5. bod rhai elfennau o’r rhaglen wedi eu cwblhau.

Crynodeb

3. Mae’r rhaglen ddiwygiedig hon i wella hygyrchedd cyfraith Cymru yn cynnwys prosiectau i:

  1. Paratoi tacsonomeg o bynciau cyfraith Cymru.
  2. Ehangu ymarferoldeb gwefan legislation.gov.uk fel y gall defnyddwyr gyrchu cyfraith Cymru yn ôl pwnc.
  3. Drafftio Bil cydgrynhoi i ddod â’r gyfraith ar gynllunio yng Nghymru ynghyd.
  4. Gweithredu’r is-ddeddfwriaeth sydd ei hangen i gefnogi’r gwaith o gydgrynhoi’r gyfraith ar yr amgylchedd hanesyddol a chynllunio.
  5. Paratoi Bil i ddileu darpariaethau sydd wedi darfod, wedi dod i ben, neu nad ydynt bellach o ddefnydd na budd ymarferol yng Nghymru.
  6. Pennu cwmpas meysydd pwnc ychwanegol gyda’r bwriad o nodi prosiectau cydgrynhoi eraill.
  7. Sicrhau bod cyfraith Cymru ar gael ar ffurf gyfoes ar wefan legislation.gov.uk, a sicrhau bod modd gweld testunau Cymraeg a Saesneg deddfwriaeth Cymru ochr yn ochr arni.
  8. Ehangu a gwella gwefan Cyfraith Cymru/Law Wales.
  9. Nodi cyfleoedd i wella hygyrchedd digidol deddfwriaeth.
  10. Adolygu’r ffordd y mae’r Llywodraeth yn datblygu deddfwriaeth ddwyieithog.
  11. Diweddaru canllawiau ar ddrafftio deddfwriaeth, yn ôl yr angen, yn ogystal â llunio a chyhoeddi canllawiau ychwanegol ar y prosesau a’r gweithdrefnau sy’n gysylltiedig â llunio Biliau cydgrynhoi.

4. Caiff y prosiectau o’r rhaglen wreiddiol sydd wedi eu cwblhau eu rhestru ar y diwedd.

Datblygu’r rhaglen

5. Ar ddiwedd 2019 cyhoeddodd y Llywodraeth ymgynghoriad, “Dyfodol Cyfraith Cymru”, a oedd yn nodi’r ffordd y bwriadwn fynd ati i wella hygyrchedd y gyfraith. Roedd yn esbonio bod angen cymryd y camau canlynol ar yr un pryd er mwyn gwneud cynnydd:

  1. dosbarthu deddfwriaeth yn ôl pwnc fel bod gennym strwythur ar gyfer gwaith yn y dyfodol a dull i ddefnyddwyr ddod o hyd i ddeddfwriaeth a’i defnyddio
  2. cydgrynhoi’r gyfraith bresennol: mae hyn yn cymryd llawer o amser ac yn gymhleth, ond bydd yn gwneud y cyfraniad mwyaf arwyddocaol at wneud y gyfraith yn hygyrch
  3. bydd codeiddio’r gyfraith yn cynnal y drefn a sefydlir gennym drwy ddosbarthu a chydgrynhoi
  4. bydd egluro a chyfathrebu’r gyfraith yn arwain at gyhoeddi effeithiol, testunau cyfredol, esboniadau, canllawiau a deunyddiau eglurhaol.

6. Cymeradwyodd y Senedd uchelgais y Llywodraeth drwy basio Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (“Deddf 2019”). O dan Ddeddf 2019, rhaid i Weinidogion Cymru a’r Cwnsler Cyffredinol lunio a gosod rhaglen i wella hygyrchedd cyfraith Cymru.

7. Rhaid i bob rhaglen wneud darpariaeth i gydgrynhoi a chodeiddio cyfraith Cymru, cynnal cyfraith wedi’i chodeiddio, hybu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o gyfraith Cymru, a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg.

8. Fel y nodwyd yn y rhagarweiniad i’r rhaglen ddiwygiedig hon, mae adran 2(6) o Ddeddf 2019 yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru a’r Cwnsler Cyffredinol ddiwygio’r rhaglen unrhyw bryd, ac o wneud hynny, rhaid i’r Cwnsler Cyffredinol osod copi o’r rhaglen ddiwygiedig gerbron y Senedd. Dyma’r rhaglen ddiwygiedig gyntaf.

Y Rhaglen

9. Rydym wedi ystyried ymrwymiadau presennol wrth lunio’r rhaglen wreiddiol a’r rhaglen ddiwygiedig – er enghraifft i gydgrynhoi’r gyfraith ar yr amgylchedd hanesyddol, ac i symleiddio a moderneiddio cyfraith gynllunio – ac wedi ceisio nodi prosiectau pellach sy’n bodloni un neu ragor o’r meini prawf a ganlyn:

  1. mae’r prosiect yn ymwneud ag un o feysydd y gyfraith y mae angen ei gydgrynhoi fwyaf am fod y gyfraith yn y maes mor gymhleth;
  2. byddai’r prosiect yn cael effaith sylweddol ar y dinesydd oherwydd natur y gyfraith dan sylw
  3. mae’r prosiect yn ymarferol o ystyried yr hyn y gellir ei gyflawni yng nghyd-destun blaenoriaethau deddfwriaethol sy’n cystadlu â’i gilydd, yr adnoddau sydd ar gael a’r setliad datganoli presennol
  4. mae’r prosiect yn amserol neu’n gysylltiedig mewn rhyw ffordd â gwaith disgwyliedig y Llywodraeth yn ystod tymor y Senedd hon.

10. Nodir manylion pob prosiect yn y rhaglen isod.

Dosbarthu cyfraith Cymru

11. Yn y ddogfen Dyfodol Cyfraith Cymru (2019), nododd y Llywodraeth ei bwriad i drefnu’r ddeddfwriaeth sy’n gymwys i Gymru yn ôl pwnc, a sefydlu ffordd i ddefnyddwyr ddefnyddio dulliau technolegol i ddod o hyd i ddeddfwriaeth Cymru. Mae dosbarthu’r gyfraith yn y modd hwn yn bwysig yn y lle cyntaf i helpu defnyddwyr i ddod o hyd i ddeddfwriaeth yn haws, ac yn ail, i ddarparu strwythur trefnus ar gyfer gwaith cydgrynhoi a chodeiddio yn y dyfodol.

12. Yn ystod tymor y Senedd hon byddwn yn:

  1. adolygu a diwygio’r dacsonomeg ddrafft bresennol o bynciau (a luniwyd ac yr ymgynghorwyd arni yn wreiddiol yn 2019) er mwyn canfod pa ddeddfiadau ym meysydd datganoledig y gyfraith a ddylai berthyn i bob haen o’r dacsonomeg.
  2. gweithio gyda’r tîm sy’n gyfrifol am legislation.gov.uk yn yr Archifau Gwladol i ddarparu swyddogaethau ychwanegol ar y safle hwnnw fel y gall defnyddwyr gyrchu cyfraith Cymru yn ôl pwnc.

Cydgrynhoi cyfraith Cymru

13. Diben cydgrynhoi deddfwriaeth yw diwygio deddfwriaeth sydd wedi dyddio a’i diwygio’n drwm, ac sydd felly’n anhrefnus. Mae’r ddeddfwriaeth ar y rhan fwyaf o bynciau wedi lluosogi dros amser ac mae’r ffaith fod cymaint o Ddeddfau ac Offerynnau ar y pwnc yn aml yn ei gwneud hi’n anodd dod o hyd iddi, heb sôn am ei deall. Mae cydgrynhoi’n golygu dod â’r holl ddeddfwriaeth (sylfaenol fel rheol) ar bwnc penodol, neu’r rhan fwyaf ohoni, ynghyd fel y gellir dod o hyd iddi’n hawdd, a’i gwneud yn haws ei deall a’i chymhwyso drwy foderneiddio ei ffurf a’r modd y’i drafftiwyd. Bydd cydgrynhoi yn aml yn dod â nifer o Ddeddfau presennol ar bwnc ynghyd, gan ddiweddaru a chysoni’r darpariaethau i greu un Ddeddf newydd ar y diwedd.

14. Mae’r ddeddfwriaeth sylfaenol ar gyfer y prosiect cydgrynhoi cyntaf (ar gyfraith yr amgylchedd hanesyddol) wedi ei chwblhau. Mae’r Llywodraeth yn bwriadu llunio Biliau cydgrynhoi pellach yn ystod tymor y Senedd hon, er mwyn i Senedd Cymru graffu arnynt; os cânt eu cymeradwyo byddant yn dod yn Ddeddfau Senedd Cymru.

15. Byddwn yn datblygu Bil cydgrynhoi sy’n symleiddio ac yn moderneiddio’r gyfraith ym maes cynllunio:

Mae’r Bil hwn yn rhan bwysig o welliannau ehangach, mwy hirdymor, sydd eu hangen ar y system gynllunio. Mae angen y Bil ers tro byd, fel y dangoswyd yn glir pan ddaeth adroddiad Comisiwn y Gyfraith ar Gyfraith Cynllunio yng Nghymru i’r casgliad ei fod yn faes o’r gyfraith sydd angen sylw brys. Tynnodd yr adroddiad sylw at effeithiau niweidiol ac aneffeithlonrwydd diffyg hygyrchedd, diffyg ansawdd a chymhlethdod y gyfraith ar weithrediad y system gynllunio. Derbyniwyd yr angen i gydgrynhoi’r maes hwn o’r gyfraith a chwmpas bwriedig y Bil gan Lywodraeth flaenorol Cymru yn ei hymateb interim i’r adroddiad a gyhoeddwyd ym mis Mai 2019 a chyhoeddwyd ymateb manwl ym mis Tachwedd 2020 yn amlinellu safbwynt y Llywodraeth ar bob un o’r 192 o argymhellion yn yr adroddiad.

Bydd y Bil cydgrynhoi yn dod â darpariaethau sy’n ymwneud â chynllunio ynghyd o nifer o Ddeddfau, gan gynnwys Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990; Deddf Cynllunio a Digolledu 1991; Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1972; Deddf yr Amgylchedd 1995; Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004; Deddf Cynllunio 2008; Deddf Cynllunio (Cymru) 2015; Deddf Iechyd y Cyhoedd 1936; yn ogystal â darpariaethau perthnasol o is-ddeddfwriaeth, pan fo hynny’n briodol.

Bydd symleiddio a chydgrynhoi cyfraith gynllunio drwy’r Bil hwn yn creu system gynllunio fwy effeithlon ac effeithiol sydd wedi’i chynllunio ar gyfer anghenion penodol Cymru. Gwneir hyn drwy greu fframwaith cynllunio sy’n galluogi’r holl randdeiliaid sy’n gweithredu, yn defnyddio neu’n cymryd rhan yn y system i gyrchu a deall y gyfraith sy’n effeithio’n uniongyrchol arnynt. Mae’n bwysig nodi hefyd y bydd yn ei gwneud yn haws i gyrff cyhoeddus a’r sector preifat ddefnyddio’r amrywiaeth o bwerau a dulliau sydd ar gael iddynt drwy ddeddfwriaeth cynllunio defnydd tir i hybu adferiad economaidd sy’n seiliedig ar werthoedd yn dilyn y pandemig.

16. Nododd y rhaglen wreiddiol y byddem hefyd yn datblygu Bil cydgrynhoi i ddiddymu neu ddatgymhwyso darpariaethau deddfwriaethol sydd wedi darfod, wedi dod i ben, neu nad ydynt bellach o ddefnydd na budd ymarferol yng Nghymru o bob cwr o’r llyfr statud. Mae’r Bil hwn yn  parhau i fod yn ymrwymiad ar gyfer y rhaglen hon ond ni chaiff ei gyflwyno fel Bil cydgrynhoi bellach - yn hytrach, caiff ei gyflwyno fel Bil ‘diwygio’r gyfraith’ (newid technegol yw hwn sy’n berthnasol i Reolau Sefydlog y Senedd, yn hytrach na newid i’r ymrwymiad i gyflwyno deddfwriaeth).

17. Weithiau gelwir Biliau fel hyn yn Filiau ‘diddymu cyfraith statud’ ac maent wedi nodweddu deddfwriaeth Senedd y DU o dro i dro; disgwylir y bydd Bil o’r math hwn yn ymddangos yn y rhan fwyaf o raglenni i wella hygyrchedd cyfraith Cymru. Bydd y Bil hwn yn helpu i foderneiddio a symleiddio’r gyfraith. Mae dileu darpariaethau diangen yn helpu i dacluso’r llyfr statud, ac mae diwygio’r darpariaethau hyn fel nad ydynt bellach yn gymwys i Gymru yn helpu i greu eglurder ynghylch pa rannau o’r Statud sy’n gymwys (ac nad ydynt yn gymwys) i Gymru.

18. Bydd y Llywodraeth yn adolygu’r ddeddfwriaeth bresennol mewn nifer o feysydd er mwyn nodi prosiectau cydgrynhoi eraill i gael eu datblygu yn y dyfodol. Mae’r meysydd posibl ar gyfer eu cydgrynhoi sy’n cael eu hystyried yn cynnwys:

  1. Rhandiroedd
  2. Rheoliadau Adeiladu
  3. Cynllunio sylweddau peryglus
  4. Tai
  5. Iechyd y cyhoedd

19. Byddwn yn seilio ein hystyriaeth ar y meysydd hynny o’r gyfraith yr effeithiwyd arnynt fwyaf gan ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd, er mwyn nodi pynciau lle mae’r angen i gysoni cyfraith ddomestig a chyfraith yr UE a ddargedwir yn fwyaf taer.

20. Bydd dau brosiect arall hefyd i ategu Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 a’r Bil i gydgrynhoi’r gyfraith ym maes cynllunio:

  1. pecyn o is-ddeddfwriaeth sydd ei angen i weithredu Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023.

    Er bod Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 bellach yn gyfraith, ni chaiff ei chychwyn tan yn ddiweddarach yn 2024, ar ôl i’r is-ddeddfwriaeth sydd ei hangen i’w hategu gael ei dwyn i rym. Ymgorfforwyd llawer iawn o is-ddeddfwriaeth a oedd wedi’i hen sefydlu yn y Ddeddf, ond mae angen ailddatgan llawer o hyd mewn sawl set o reoliadau sy’n ymdrin ag ystod o faterion gweithdrefnol a materion eraill sy’n effeithio ar henebion ac adeiladau rhestredig.

  2. prosiect graddol o gydgrynhoi is-ddeddfwriaeth cynllunio gwlad a thref allweddol.

    Mae angen cydgrynhoi rhywfaint o’r ddeddfwriaeth hon oherwydd ei hoed (sy’n golygu bod angen moderneiddio’r iaith a’r fformat), ond hefyd oherwydd nifer y diwygiadau a wnaed iddi dros y blynyddoedd sy’n effeithio ar eu hygyrchedd. Cynhelir dadansoddiad llawnach ar ôl gorffen drafftio’r Bil cydgrynhoi, ond mae’r blaenoriaethau presennol yn cynnwys:

    1. Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Dosbarthiadau Defnydd) 1987
    2. Rheoliadau Cyffredinol Cynllunio Gwlad a Thref 1992
    3. Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Rheoli Hysbysebion) 1992
    4. Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995
    5. Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Coed) 1999, a
    6. Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu)(Cymru) 2012.

Fel rhan o waith tymor y Senedd hon, byddwn hefyd yn ceisio nodi cyfleoedd eraill i gydgrynhoi a diweddaru is-ddeddfwriaeth. Er enghraifft, llunio ‘Gorchymyn Cynrychiolaeth y Bobl’ yn ddwyieithog cyn yr etholiad cyffredinol i’r Senedd yn 2026.

22. Ar hyn o bryd mae Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007, offeryn uniaith Saesneg, yn nodi’r modd y cynhelir yr etholiad a’r ymgyrch etholiadol ac yn cynnwys darpariaeth ar gyfer her gyfreithiol. Fe’i diwygiwyd dro ar ôl tro ac nid oes fersiwn wedi’i diweddaru ar gael yn rhwydd i’r cyhoedd. Caiff y ddeddfwriaeth hon ei chydgrynhoi a’i hail-wneud yn ddwyieithog cyn etholiad y Senedd.

Codeiddio

23. Pan fyddwn wedi categoreiddio cyfraith Cymru drwy’r broses ddosbarthu, ac wedi gwneud cynnydd o ran cydgrynhoi rhai o feysydd y gyfraith, mae’n bwysig cadw’r drefn a fydd wedi’i sefydlu. I wneud hyn rydym yn bwriadu codeiddio’r gyfraith. Mae Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 yn esbonio bod ‘codeiddio cyfraith Cymru’ yn cynnwys:

  1. mabwysiadu strwythur ar gyfer cyfraith Cymru sy’n gwella ei hygyrchedd
  2. trefnu a chyhoeddi cyfraith Cymru sydd wedi’i chydgrynhoi yn ôl y strwythur hwnnw.

24. Yn ymarferol, mae codeiddio yn golygu cyhoeddi’r gyfraith ar bynciau penodol gyda’i gilydd mewn un lle a chymryd camau i ddiogelu strwythur y ddeddfwriaeth ar bwnc penodol unwaith y bydd wedi’i rhoi mewn trefn. Felly, os oes gennym un Ddeddf ar bwnc penodol, naill ai am ei bod wedi’i chydgrynhoi neu am fod y gyfraith yn y maes hwnnw wedi’i diwygio drwyddi draw, dylem barhau i fod ag un Ddeddf. Os oes bwriad i newid y gyfraith ar y pwnc, dylid gwneud y newid hwnnw drwy ddiwygio’r Ddeddf honno, nid drwy wneud un newydd ochr yn ochr â hi, oni bai bod rheswm da iawn dros beidio â gwneud hynny.

25. Mae cydgrynhoi cyfraith yr amgylchedd hanesyddol yn golygu bod Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 yn ffurfio rhan o god cyfraith yr amgylchedd hanesyddol yng Nghymru. Bydd y cod hwn hefyd yn cynnwys yr is-ddeddfwriaeth a wneir o dan Ddeddf 2023 (gweler paragraff 20.a).

26. Yn ogystal â hynny, yn ystod tymor y Senedd hon rydym yn bwriadu creu cod ar gyfer cynllunio yng Nghymru drwy gydgrynhoi’r gyfraith ym maes cynllunio. Er bod cynnwys terfynol y cod hwnnw eto i’w bennu, bwriedir i’r datganiad o’r statws hwn helpu’r rheini sydd â diddordeb yn y gyfraith yn y maes hwn ddod o hyd iddi a’i dosbarthu’n rhwyddach. Bydd y cod hwn ar gyfraith gynllunio hefyd yn cynnwys is-ddeddfwriaeth.

Cyfathrebu ac egluro

27. Ail-wneud y gyfraith y mae’r prosiectau a nodir uchod, ond mae technegau cyfathrebu modern, ynghyd â disgwyliadau defnyddwyr deddfwriaeth, yn golygu bod y gyfraith ei hun yn cael ei hategu fel mater o drefn gan wybodaeth ychwanegol sy’n helpu i egluro effaith ac ystyr y gyfraith.

28. Yn ystod tymor y Senedd hon byddwn yn ceisio gwella’r modd y caiff y gyfraith a gwybodaeth am y gyfraith eu cyhoeddi yn rhad ac am ddim. Byddwn yn:

  1. Gweithio gyda’r tîm sy’n gyfrifol am legislation.gov.uk i sicrhau bod Deddfau ac Offerynnau Statudol dwyieithog ar gael ar ffurf gyfoes yn y ddwy iaith.

    Gan fod swyddogaeth safle legislation.gov.uk bellach wedi ei uwchraddio fel bod modd diweddaru testunau deddfwriaeth yn Gymraeg ac yn Saesneg, byddwn yn parhau i weithio gyda thîm legislation.gov.uk i sicrhau bod testunau cyfraith Cymru ar y safle, yn y naill iaith a’r llall, yn cynnwys unrhyw ddiwygiadau a wnaed i’r ddeddfwriaeth ar ôl iddi gael ei gwneud yn wreiddiol.

  2. Ehangu a gwella cynnwys gwefan Cyfraith Cymru/Law Wales yn sylweddol er mwyn creu ‘siop un stop’ i gyrchu a deall cyfraith Cymru.

    Fel rhan o’r gwaith hwn byddwn hefyd yn archwilio’r gwersi a ddaeth i’r amlwg wrth ddeddfu yn ystod pandemig y coronafeirws i wella’r ffordd yr ydym yn egluro’r gyfraith, er enghraifft drwy weithio ochr yn ochr ag arbenigwyr cyfathrebu i gynhyrchu canllawiau penodol a sicrhau eu bod yn cael eu diweddaru wrth i ddeddfwriaeth newid; drwy sicrhau bod fersiynau wedi’u diweddaru o ddeddfwriaeth allweddol (gan gynnwys nodiadau esboniadol) yn cael eu cyhoeddi’n ddwyieithog ar-lein; drwy gyhoeddi dogfennau “cwestiwn ac ateb”, rhai wedi’u hanelu at grwpiau rhanddeiliaid penodol, gan sicrhau bod negeseuon syml, cyson a chyfreithiol gywir yn cael eu cyfleu.

  3. Archwilio ffyrdd o symud draw o fodel cyhoeddi deddfwriaeth yr 20fed ganrif, sy’n seiliedig ar fersiynau print, i system ddigidol fodern. Bydd hyn yn cynnwys ystyried datrysiadau technolegol ar gyfer gweld a dehongli deddfwriaeth ddwyieithog a symud i ffwrdd o fformat brint, colofn ddeuol Offerynnau Statudol.  Rydym yn awyddus i bwysleisio bod deddfwriaeth yn cael ei gwneud yn ddwyieithog yng Nghymru, a bod statws cyfartal i’r naill destun a’r llall.
  4. Ceisio cryfhau’r trefniadau sy’n cael eu mabwysiadu gan Lywodraeth Cymru i gyhoeddi (yn electronig) is-ddeddfwriaeth a wneir gan neu ar ran Gweinidogion Cymru, ar ffurf heblaw Offeryn Statudol. Gallai hyn gynnwys trefniadau newydd ar gyfer catalogio, rhestru a chadw’r ddeddfwriaeth er mwyn sicrhau ei bod yn parhau i fod ar gael, fel bod defnyddwyr yn ymwybodol o’r gyfraith a oedd mewn grym ar unrhyw adeg benodol.
  5. Datblygu’r ffordd y mae’r Llywodraeth yn llunio deddfwriaeth ddwyieithog, gan ddefnyddio technoleg iaith i’w llawn botensial wrth inni geisio gwella effeithlonrwydd, parhau i sicrhau cywirdeb a defnyddio cystrawen naturiol ac ‘iaith glir’. Byddwn yn parhau i:
    1. cyflymu’r broses o gyhoeddi terminoleg ddeddfwriaethol Gymraeg safonedig ychwanegol ar TermCymru
    2. nodi sut y gall system gyfieithu a chyfieithu peirianyddol newydd y Llywodraeth ein galluogi i weithio’n fwy effeithlon, tynnu sylw at welliannau y gellir eu gwneud i’r testun gwreiddiol, a hwyluso gwell ymgynghori ar dermau technegol
    3. adolygu’r canllawiau arddull mewnol i nodi cyfleoedd i wneud y testun yn gliriach ac yn fwy naturiol yn y ddwy iaith
    4. cytuno ar brosesau i gyfieithwyr deddfwriaethol a chwnsleriaid deddfwriaethol gydweithio i wella’r drafft gwreiddiol yn ogystal â sicrhau bod y cyfieithiad yn gywir, a
    5. mireinio sgiliau golygyddol drwy rannu arbenigedd rhwng cyfieithwyr deddfwriaethol a chwnsleriaid deddfwriaethol.
  6. Parhau i archwilio’r potensial ar gyfer defnyddio dysgu peirianyddol a deallusrwydd artiffisial i wneud cyfraith Cymru yn fwy hygyrch.

29. Mae’r Llywodraeth eisoes wedi paratoi canllawiau ar ddatblygu deddfwriaeth sylfaenol. Er mai canllawiau mewnol ar gyfer Gwasanaeth Sifil Llywodraeth Cymru yw’r rhain, fe’u cyhoeddwyd i helpu pobl i ddeall y broses ddeddfu a’r ffordd y caiff deddfwriaeth ei datblygu a’i drafftio. Yn ystod tymor y Senedd hon mae’r Llywodraeth yn bwriadu adolygu a diweddaru, yn ôl yr angen:

  1. Y Llawlyfr Deddfwriaeth ar Filiau’r Senedd a’r Llawlyfr Deddfwriaeth ar Is-ddeddfwriaeth
  2. Datrysiadau Deddfwriaethol Cyffredin (canllawiau sy’n helpu swyddogion cyhoeddus i ddeall materion sy’n codi’n fynych a dysgu o’r hyn a wnaed yn y gorffennol i’w datrys)
  3. Drafftio Deddfau i Gymru (canllawiau drafftio deddfwriaethol Swyddfa’r Cwnsleriaid Deddfwriaethol).

Byddwn hefyd yn llunio ac yn cyhoeddi canllawiau ychwanegol ar y prosesau a’r gweithdrefnau sy’n gysylltiedig â llunio Biliau cydgrynhoi.

Prosiectau eraill

Gweithio gyda Chomisiwn y Gyfraith

30. Byddwn yn parhau i weithio gyda Chomisiwn y Gyfraith Cymru a Lloegr i nodi un neu fwy o brosiectau sy’n ymwneud â chyfraith Cymru i’w cynnwys mewn rhaglenni gwaith pellach.

31. Mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu cyfeirio prosiect at Gomisiwn y Gyfraith i gefnogi symleiddio a moderneiddio’r gyfraith ym maes amaethyddiaeth yng Nghymru.

Ffurf a strwythur deddfwriaeth Cymru

32. Rydym yn bwriadu ymgynghori ar rai newidiadau arfaethedig i ffurf a strwythur deddfwriaeth Cymru, gyda golwg ar gytuno ar unrhyw newidiadau terfynol gyda’r Llywydd (pan fo’r newidiadau hynny’n effeithio ar ffurf Biliau’r Senedd), Argraffydd Deddfau Seneddol y Brenin, y Llyfrfa, yr Archifau Gwladol (pe byddai’r newidiadau yn effeithio ar argraffu a chyhoeddi deddfwriaeth Cymru), ac eraill fel y bo’n briodol.

33. Rhagwelir y bydd yr ymgynghoriad yn ymdrin â’r canlynol:

  1. a oes angen enw ‘hir’ ac enw ‘byr’ ar Fil/Deddf y Senedd
  2. darpariaethau trosolwg ym Miliau/Deddfau’r Senedd
  3. symleiddio neu hepgor y geiriau deddfu yn Neddfau’r Senedd
  4. y defnydd a’r disgrifiadau o ddyddiadau yn Neddfau’r Senedd (er enghraifft, mewn perthynas â dyddiad y Cydsyniad Brenhinol)
  5. mabwysiadu cymhorthion llywio yn Neddfau’r Senedd, ac Offerynnau Statudol Cymru hefyd o bosibl, megis ychwanegu penynnau at y ddogfen i ddangos y Rhan neu’r Atodlen berthnasol
  6. y ffurfdeip a ddefnyddir yn Neddfau’r Senedd ac yn Offerynnau Statudol Cymru
  7. mabwysiadu dulliau sy’n cefnogi gwella hygyrchedd digidol ar argraffedig.

Adrodd ar y rhaglen

34. O dan Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019, mae’n ofynnol i’r Cwnsler Cyffredinol adrodd yn flynyddol i’r Senedd ar gynnydd y rhaglen. Mae’r ddau adroddiad blynyddol cyntaf wedi eu cyhoeddi a chaiff yr adroddiad nesaf ei gyhoeddi yn yr hydref 2024.

Prosiectau sydd wedi eu cwblhau

35. Mae’r prosiectau a ganlyn o’r rhaglen wreiddiol wedi eu cwblhau:

  1. Drafftio Bil cydgrynhoi i ddod â’r gyfraith ym maes yr Amgylchedd Hanesyddol ynghyd mewn un statud.

    Mae’r ymrwymiad hwn wedi ei gyflawni yn sgil pasio Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 ar 28 Mawrth 2023, a’r Ddeddf yn cael y Cydsyniad Brenhinol ar 14 Mehefin 2023.

  2. Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 yn ffurfio cod y gyfraith.

    Mae’r ymrwymiad hwn wedi ei gyflawni (gweler adran 1(1) o Ddeddf 2023). Caiff offerynnau deddfwriaethau pellach eu cynnwys yn y cod maes o law –gweler uchod ar gyfer ymrwymiadau o ran is-ddeddfwriaeth.

  3. Ailwneud a diweddaru’r rheolau ar gyfer cynnal etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru.

    Mae’r ymrwymiad hwn wedi ei gyflawni yn sgil gwneud Rheolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Cymru) 2021, Rheolau Etholiadau Lleol (Cymunedau)(Cymru) 2021 a Rheoliadau Etholiadau Lleol (Diwygiadau Amrywiol a Chanlyniadol) (Cymru) 2022. Cafodd y Rheolau, a’r rheoliadau dilynol, eu defnyddio i gynnal etholiadau lleol yng Nghymru ym mis Mai 2022.

  4. Archwilio’r potensial ar gyfer defnyddio dysgu peirianyddol a deallusrwydd artiffisial i wneud cyfraith Cymru yn fwy hygyrch.

    Cynhaliwyd prosiect cyfnod penodol yn 2021-22 i archwilio i ba raddau y mae deallusrwydd artiffisial yn cael ei ddefnyddio i lunio deddfwriaeth, a hynny o fewn Llywodraeth Cymru a thu hwnt. Daeth y prosiect i’r casgliad nad oedd deallusrwydd artiffisial, yn ei gyflwr presennol, yn ddigon datblygedig i gael ei ddefnyddio yn y ffordd hon. Gan fod y maes hwn yn datblygu mor gyflym, fodd bynnag, rydym wedi ymrwymo i wneud gwaith pellach sy’n canolbwyntio ar agweddau o’r hyn a ddysgwyd o’r ymchwil gynnar hon, os a phryd y bydd adnodd ar gael.

  5. Datblygu’r ffordd y mae’r Llywodraeth yn datblygu deddfwriaeth ddwyieithog. Mae rhai agweddau o’r gwaith hwn wedi eu cwblhau, fel a ganlyn:
    1. prosiect i gymharu’r termau deddfwriaethol yng nghronfa ddata terminoleg ar-lein y Gwasanaeth Cyfieithu, TermCymru, â’r Eirfa Ddrafftio, er mwyn sicrhau cysondeb llwyr rhwng y ddwy gronfa dermau
    2. gweithdai a gynhaliwyd gan y Gwasanaeth Cyfieithu yn canolbwyntio ar gydweithredu rhwng cyfieithwyr a chyfreithwyr a’r modd y gall y broses gyfieithu helpu i wella’r testun dwyieithog
    3. parhad y prosesau safoni termau sy’n gysylltiedig â phrosiectau Biliau
    4. caffael meddalwedd cof cyfieithu a rheoli terminoleg newydd, a’r system honno’n dod yn gwbl weithredol yn mis Medi 2023
    5. adolygiad llawn o’r deunyddiau cyfeirio deddfwriaethol sydd ar gael ar BydTermCymru
    6. sefydlu is-lot penodol ar gyfer deddfwriaeth fel rhan o Gytundeb Fframwaith cyfieithu newydd Llywodraeth Cymru
    7. cyhoeddi Polisi Seilwaith Ieithyddol y Gymraeg ym mis Medi 2023
    8. sefydlu uned newydd yn Llywodraeth Cymru i fod yn gyfrifol am seilwaith ieithyddol y Gymraeg
    9. datblygu offer cyfieithu peiriant parth-benodol ar gyfer cyfiawnder a’r gyfraith gan Ganolfan Bedwyr ym Mhrifysgol Bangor, wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.

Mae ein hymrwymiad i’n hymdrechion i hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg o fewn deddfwriaeth a’r gyfraith mor gryf ag erioed a byddwn yn parhau i adrodd ar y gwaith hwn mewn adroddiadau blynyddol pellach.