Neidio i'r prif gynnwy

Mae adroddiad sy'n darparu asesiad manwl a rhagolygon y farchnad lafur ar gyfer y DU, Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon a rhanbarthau Lloegr.

Mae’n ystyried patrymau o ran cyflogaeth a chynhyrchiant yn unol â thueddiadau hanesyddol ac amcanestyniadau ar gyfer y dyfodol ynghylch twf a dirywiad diwydiannau a galwedigaethol. Mae hefyd yn ystyried goblygiadau hyn oll o ran sgiliau.

Mae’r amcanestyniadau manwl yn cyflwyno safbwynt sydd wedi’i ystyried yn ofalus ynghylch y dyfodol, gan gymryd yn ganiataol y bydd patrymau blaenorol o ran ymddygiad a pherfformiad yn parhau dros y tymor hwy. Dylid ystyried y canlyniadau fel rhai sy’n dangos tueddiadau cyffredinol ac ni ddylid eu trin fel rhai penodol.

Mae’r canlyniadau wedi’u hanelu at bawb sydd â diddordeb yn y cyflenwad o sgiliau ac yn y galw amdanynt. Mae’r bobl hyn yn cynnwys unigolion, cyflogwyr, darparwyr addysg a darparwyr hyfforddiant ynghyd â’r rhai sy’n darparu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad ynghylch gyrfaoedd.

Cyswllt

James Carey

Rhif ffôn: 0300 025 3811

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.