Neidio i'r prif gynnwy

Mae gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru, Cadw, wedi camu i mewn i gynnal gwaith sefydlogi brys ar Gastell Rhuthun.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Mawrth 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r gwaith yn ymdrech dros dro i rwystro waliau’r Castell, yn ogystal â’r ffug-dyrau a’r twneli Fictorianaidd, rhag cwympo ymhellach, tan y gall Ymddiriedolaeth Cadwraeth Castell Rhuthun ddatblygu prosiect cadwraeth uchelgeisiol mawr a gwaith mynediad i’r cyhoedd. Gan bod yr adfeilion yn fregus mae’r gwaith yn cael ei wneud gan gontractwyr arbenigol ar raffau, ac maent wedi clirio llawer iawn o lysdyfiant trwm o’r waliau, gan ddatgelu’r heneb anhygoel hwn am y tro cyntaf mewn degawdau.  Mae’r gwaith wedi dechrau ar sefydlogi, cynnal, a rhwymo’r waliau sy’n dadfeilio i gadw cymaint â phosib o’r gwaith carreg.
Mae dyfodol y castell, sy’n 750 mlwydd oed, ac sydd heb amheuaeth y castell canoloesol pwysicaf yng Nghymru sydd heb ei gynnal a’i gadw, yn edrych yn llawer gwell.  Mae Ymddiriedolaeth Gadwraeth Castell Rhuthun – a grewyd y llynedd –bellach am fod yn gyfrifol am les yr heneb.  Cenhadaeth yr Ymddiriedolaeth yw annog, trafod ac ysbrydoli cymuned Rhuthun a thu hwnt i ymuno â’i gilydd i gefnogi’r gwaith o adfer a gwneud gwaith cadwraeth cynaliadwy ar Gastell Rhuthun a’r gerddi, y tir o’i amgylch ac adeiladau eraill, gan ddefnyddio ei nodweddion treftadaethol i greu amgylchedd hanesyddol, ar gyfer twristiaeth a hamdden.  Meddai archaeolegydd y sir, Fiona Gale: 
“Mae’n wych gweld gwaith yn cael ei wneud ar Gastell Rhuthun o’r diwedd, mae’r gwaith carreg yn anhygoel ond mae wedi bod mewn cyflwr gwael iawn am ddegawdau, a dwy flynedd yn ôl syrthiodd rhan bach o’r waliau.   Mae Cadw bellach yn cynnig arian i ddechrau’r prosiect gwych hwn ac i fynd i’r afael â’r rhannau sydd wedi dirywio fwyaf.  Mae’n wych gweld hyn yn digwydd ac yn wych i dref Rhuthun.”
Meddai Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates: 
“Rwy’n falch iawn bod cymaint o ewyllys da a brwdfrydedd ynghylch Castell Rhuthun ymysg y gymuned leol ac rwy’n dymuno’n dda i’r Ymddiriedolaeth yn eu gwaith yn y dyfodol o adrodd stori Castell Rhuthun.  Er bod gwneud gwaith brys ar ein henebion yn beth prin ac yn digwydd os nad oes ateb arall, bydd gwaith Cadw ar y safle yn rhwystro rhagor o ddirywiad ar y safle a bydd gobeithio yn denu rhagor o gyllid i’r Ymddiriedolaeth.”