Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Roedd y Panel Arbenigol am sicrhau bod eu hadroddiad yn seiliedig ar anghenion cenedlaethau’r dyfodol ac roeddent o'r farn fod rhaglenni plant yn faes sy’n cyfiawnhau ymchwiliad pellach i’w gynnwys yn eu hadroddiad. Gofynnodd y Panel Arbenigol am gyngor gan grŵp ehangach o unigolion i helpu i ddarparu mewnbwn arbenigol fel rhan o’r cam casglu tystiolaeth. Dyma’r cwestiynau allweddol maen nhw eisiau eu harchwilio: ‘a oes angen gwasanaeth cyhoeddus mwy diffiniedig ar gyfer plant mewn darlledu yng Nghymru?’ ac os oes ei angen, ‘sut byddai’n cael ei reoleiddio?’.

Gofynnwyd i Kids Industries ddyfeisio a chyflwyno barn arbenigol wedi’i dilysu yn canolbwyntio ar sut mae dyfodol cyfryngau plant yn datblygu a lle gallai fod angen cymorth rheoleiddiol. Daw llawer o’r pwyntiau data sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad hwn o Astudiaeth Deuluol Fyd-eang KI. Casglodd yr astudiaeth hon ymatebion 20,147 o unigolion mewn 10 gwlad. Roedd cynrychiolaeth gyfrannol o’r DU. Cyfeirir at amrywiol ffynonellau eraill yn y ddogfen drwyddi draw. Mae’r crynodeb hwn yn darparu synthesis o wybodaeth gyfunol Kids Industries ac ymchwil desg sy’n canolbwyntio ar ddefnydd plant o gyfryngau.

Cynnwys ac agweddau brodorol

Gwahaniaethau amlwg yng Nghymru o ran defnydd plant o gyfryngau 

Mae Adroddiad Ofcom ar Agweddau a Defnydd Plant a Rhieni o Gyfryngau (2022) yn nodi rhai gwahaniaethau o ran agweddau rhieni Cymru tuag at ddefnydd eu plant o gyfryngau o’i gymharu â gweddill y DU. Mae’n ymddangos bod rhieni yng Nghymru yn poeni mwy am agweddau penodol ar ddefnydd eu plant o gyfryngau na rhieni yng ngwledydd eraill y DU, er enghraifft, plant yn rhoi manylion personol i bobl ar-lein neu’n gweld cynnwys amhriodol i’w hoedran ar-lein neu ar y teledu. Roedd rhieni yng Nghymru yn fwy tebygol o fod yn bryderus iawn am y canlynol:

  • bod eu plentyn yn rhoi manylion personol i bobl amhriodol
  • bod eu plentyn yn cael ei fwlio ar-lein
  • bod eu plentyn yn gwneud drwg i’w enw da nawr neu yn y dyfodol
  • bod eu plentyn yn gweld unrhyw fath o gynnwys nad yw’n briodol ar gyfer eu hoedran (o ran trais, iaith anweddus, cynnwys annymunol, ac yn y blaen)
  • bod eu plentyn yn gweld cynnwys sy’n ei annog i frifo neu niweidio ei hun
  • bod safbwyntiau eithafol ar-lein yn dylanwadu ar eu plentyn
  • a’r pwysau sydd ar eu plentyn i wario arian ar-lein

O ran chwarae gemau yn benodol, roedd rhieni yng Nghymru yn fwy tebygol na gwledydd eraill o boeni am y canlynol:

  • y posibilrwydd y bydd eu plentyn yn siarad â phobl ddieithr wrth chwarae gemau
  • y posibilrwydd y bydd eu plentyn yn cael ei fwlio gan chwaraewyr eraill
  • cynnwys y gemau y mae eu plentyn yn eu chwarae
  • y pwysau sydd ar eu plentyn i brynu pethau o fewn gêm

Roedd rhieni yng Nghymru hefyd yn poeni mwy am bwy mae eu plentyn yn cysylltu â nhw pan fyddan nhw’n defnyddio eu ffôn, a’r posibilrwydd y byddan nhw’n cael eu bwlio ar eu ffôn symudol.

Roedd plant yng Nghymru hefyd yn fwy tebygol na chyfartaledd y DU o deimlo pwysau i fod yn boblogaidd ar gyfryngau cymdeithasol.

Ystyriaethau o ran dyfodol defnyddio cynnwys i blant

Dyma rai o’r tueddiadau sy’n newid ym marn Kids Industries ac a fydd yn berthnasol yn y tymor byr i’r tymor canolig o ran effeithio ar y modd y mae plant yn defnyddio cynnwys:

  • Cydgrynhoi cynnwys: mae swmp enfawr y cynnwys sydd ar gael heddiw gyda’r llu o wasanaethau ffrydio yn cyfrannu at orlwytho cynulleidfaoedd. Mae tystiolaeth yn awgrymu bod cynulleidfaoedd yn teimlo eu bod yn cael eu llethu ac mae’n bosibl y bydd symudiad tuag at gydgrynhoi gwasanaethau tanysgrifio fideo ar-alw.
  • Gwrthwynebu ras i’r gwaelod: mae llwyfannau cyfryngau cymdeithasol sy’n canolbwyntio ar gynnwys ffurf sy’n fyrrach fyth yn debygol o gyfrannu at leihau rhychwantau sylw ymysg plant, wrth i ddyluniadau’r llwyfannau siapio disgwyliadau cynnwys. Lledaenu y mae fideos ysgogol iawn ar TikTok, sy’n cynnwys sgriniau hollt, gyda nifer o wahanol ffenestri cynnwys. Mae’r fideos hyn wedi cael eu galw’n gynnwys ‘slwtsh’ (‘sludge’), ac mae’n bosibl y byddan nhw’n cael effaith niweidiol ar blant. Mae’n debygol y bydd adwaith parhaus gan rieni yn erbyn y mathau o gynnwys isel ei werth y mae plant yn gallu cael gafael arno ar-lein a’r llwyfannau maen nhw’n cael gwasanaeth arnyn nhw (Sludge content is consuming TikTok. Why aren't we talking about it? | CBC News).
  • Profiadau adloniant ymgolli: mae llwyfannau fel Roblox, lle mae plant yn byw bywyd ar-lein, yn enghreifftiau o’r Metafyd sy’n datblygu. Mae’r profiadau digidol ymgolli hyn yn boblogaidd iawn ymysg plant, ac maen nhw’n debygol o ailddiffinio adloniant yn y dyfodol. Mae brandiau fel Nickelodeon yn creu mwy a mwy o fydoedd adloniant ar Roblox – sy’n nodi newid radical oddi wrth y defnydd goddefol o fideos, tuag at brofiadau llawer mwy rhyngweithiol a chydweithredol (Understanding Kids in the Metaverse | CMC 2022 | Sessions | The Children's Media Conference (CMC) (thechildrensmediaconference.com)).
  • Dyfeisiau newydd a realiti newydd: dangosodd Arolwg Teuluol Byd-eang Kids Industries fod cynnydd yn y defnydd o dechnoleg glyfar ymysg plant. Mae’n bosibl y gallai hyn effeithio ar y modd y mae brandiau adloniant yn adrodd straeon i blant, gyda mwy o botensial ar gyfer profiadau cynnwys wedi’u teilwra’n fwy personol a mwy o ryngweithio.

Dathlu ieithoedd brodorol drwy’r cynnwys

Mae nifer o wledydd wedi buddsoddi arian i ddiogelu ieithoedd brodorol drwy ddarparu cynnwys i blant:

Mae’n ymddangos mai eithaf arbenigol yw cynnwys sy’n canolbwyntio ar gadw ieithoedd a diwylliant brodorol, ac mai bach yw’r gynulleidfa. Mae enghreifftiau’n cynnwys:

  • Pukana (1999 - ymlaen) - Rhaglen o Seland Newydd sy’n cymryd awgrymiadau diwylliannol plant cyfoes, ac sy’n cynnwys sioeau gemau, triciau, chwilio am dalent a cherddoriaeth. Mae’n pwysleisio iaith y ‘stryd’ yn hytrach nag iaith y ‘marae’. Mae wedi ennill tair gwobr am y sioe orau yn ei chategori, a dau enwebiad ar gyfer rhaglenni plant (Pūkana | Series | Television | NZ On Screen).
  • Wapos Bay (2005 -2012) - Cyfres deledu gomedi drama deuluol animeiddiedig ‘stopio a symud’ o Ganada. Cafodd ei darlledu ledled Canada gan Rwydwaith Teledu Pobloedd Aborigineaidd (fel rhan o APTN Kids) ac yn yr Unol Daleithiau ar Rwydwaith Profiad y Cenhedloedd Cyntaf (FNX). Cafodd ei darlledu yn ieithoedd Cree, Saesneg, Ffrangeg ac Inuktitut.

Mae’n amlwg bod lle i wledydd llai berfformio’n well na’r disgwyl o ran cynhyrchu cynnwys, ond yn gyffredinol mae angen trosleisio cynnwys er mwyn ei ddosbarthu’n fyd-eang. Cafodd rhaglen deledu plant o Wlad yr Iâ, Lazy Town, er enghraifft, a elwir  yn Latibær mewn Islandeg, ei henwebu ar gyfer Gwobrau Rhyngwladol Plant Emmy yn y categori ‘Plant: Cyn-ysgol’. Cafodd y gyfres deledu addysgol ei chreu gan y cyn-hyrwyddwr gymnasteg ac arbenigwr ffitrwydd Magnús Scheving. Cafodd y sioe ei darlledu mewn mwy na 170 o wledydd a’i throsleisio i fwy nag ugain o ieithoedd.

Rôl rheoleiddio

Mae Ofcom yn rheoleiddio’r sectorau teledu a radio, telegyfathrebu llinellau sefydlog, ffonau symudol, gwasanaethau post a’r tonnau awyr y mae dyfeisiau diwifr yn eu defnyddio. Mae dyletswydd ar y rheoleiddiwr i ddiogelu plant rhag deunyddiau niweidiol neu amhriodol ar wasanaethau teledu, radio a fideo ar-alw (Amddiffyn plant - Ofcom).

Mae Cod Darlledu Ofcom yn rheoli’r hyn y gellir ei ddarlledu ar y teledu a’r radio. Mae adran gyfan o’r Cod Darlledu yn ymwneud yn benodol ag amddiffyn plant rhag cynnwys anaddas ar y teledu a’r radio, gan gynnwys rheolau am y trothwy 9pm ar y teledu.

Fel y nodwyd uchod, mae datblygu llwyfannau a chynnwys ar-lein wedi mynd y tu hwnt i reoleiddio. Yn 2020, ehangwyd cylch gwaith Ofcom i gynnwys rheoleiddio cynnwys niweidiol ar-lein. Dim ond yn ddiweddar y mae Ofcom wedi nodi ei 27 o gynlluniau i roi rheolau diogelwch ar-lein newydd ar waith. Mae’r map ar gael: Y mesur diogelwch ar-lein: Map ffordd Ofcom ar gyfer rheoleiddio.

Mae Kids Industries o'r farn y dylai unrhyw reoleiddiwr neu reoleiddiwr cysgodol ganolbwyntio ar lwyfannau ar-lein fel llwyfannau rhannu fideos, llwyfannau gemau a chyfryngau cymdeithasol, o ystyried eu potensial i achosi niwed amlwg i blant.

Geiriau i gloi

Ar ôl gweithio yn y gofod cyfryngau i blant ers 25 mlynedd, rydym wedi bod yn dyst i gyfradd o newid ac esblygiad sydd bron yn anghredadwy. Mae’n amlwg i ni nad yw’r cyrff rheoleiddio presennol a’r pwerau rheoleiddio sydd ganddynt yn addas i’r diben. Mae’r sefydliadau sydd â’r rôl o amddiffyn ein plant ac arwain y rhai sy’n creu’r cynnwys yn methu â chadw i fyny â chyfradd y newid ac, mewn gwirionedd, maent o leiaf ddwy flynedd ar ôl y plant. Nid oes ffordd foddhaol o amddiffyn plant rhag niwed posibl Roblox – gall plant weld cynnwys niweidiol o fewn ychydig o gliciau o’u hoff gemau a gallant gael eu hudo a’u bwlio ymhobman bron. Does dim amddiffyniad. Mae gennych chi gyfle i arwain y byd o ran rheoleiddio cyfryngau plant. Yr angen yw paratoi eich corff rheoleiddio ar gyfer yr hyn sydd i ddod yn y cyfryngau plant nid, fel sefyllfa druenus y DU gyfan, lle mae wedi bod. Mae’n her sylweddol ond gallwn weld i ble mae pethau’n mynd ac felly, does bosib bod modd, drwy ffocws a phenderfyniad, greu corff a fydd yn galluogi ac yn grymuso plant Cymru, sy’n ddigidol frodorol heddiw ac yfory, i ffynnu o ganlyniad i’w profiadau digidol.