Neidio i'r prif gynnwy

Daeth yr ymgynghoriad i ben 15 Ebrill 2015.

Cyfnod ymgynghori:
22 Ionawr 2015 i 15 Ebrill 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Manylion am y canlyniad

Crynodeb o'r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 371 KB

PDF
371 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Ymgynghoriad gwreiddiol

Mae'r papur gwyn hwn yn holi barn am gynigion Llywodraeth Cymru i newid y ddeddfwriaeth ar y cynlluniau Hawl i Brynu a Hawl i Gaffael.

Disgrifiad o'r ymgynghoriad

Dros oddeutu'r tri-deg mlynedd diwethaf mae'r cynlluniau Hawl i Brynu a Hawl i Gaffael wedi caniatáu i nifer o denantiaid tai cymdeithasol brynu eu cartrefi gan eu Hawdurdod Lleol neu eu Cymdeithas Dai. O ganlyniad bu gostyngiad sylweddol yn ein stoc tai cymdeithasol. Mae'r gostyngiad yn y tai rhent sydd ar gael i helpu pobl sydd ar y rhestrau aros yn ychwanegu at y pwysau ar y cyflenwad tai ac ar allu pobl i ddod o hyd i gartref y gallant ei fforddio. 

Yn yr hinsawdd ariannol presennol o fewn y maes tai mae elfennau economaidd ac elfennau eraill wedi cyfuno i roi pwysau sylweddol ar y cyflenwad tai.  Mae'r pwysau yn cael effaith ar nifer o bobl ond mae'r effaith yn arbennig o amlwg ar y bobl hynny lle nad yw'n bosib i'r farchnad dai fodloni eu hanghenion.  Nid yw rhai pobl yn gallu fforddio prynu tŷ na rhentu tŷ gan landlord preifat. Maent yn dibynnu ar dai cymdeithasol neu ddarpariaeth arall sydd â chymhorthdal. Mae tai cymdeithasol yn gymorth hynod bwysig. 

Mae'r papur gwyn hwn yn cyflwyno dau gynnig ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus. Mae'r ddau wedi'u hanelu at amddiffyn y stoc tai cymdeithasol rhag lleihau ymhellach:

  • Newid deddfwriaeth bresennol – a fydd yn lleihau'r gostyngiad mwyaf sydd ar gael i denant sy'n gwneud cais i brynu eu tŷ gan y cyngor neu landlord cymdeithas tai
  • Datblygu deddfwriaeth newydd – a fydd os y caiff ei basio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn dod â'r cynlluniau Hawl i Brynu a Hawl i Gaffael i ben.  

Dogfennau ymgynghori

Dogfen ymgynghori , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 233 KB

PDF
233 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Asesiad o'r Effaith ar Hawliau Plant (Saesneg yn unig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.