Neidio i'r prif gynnwy

Mae’n swyddogol bod gan Gymru rhai o’r dyfroedd ymdrochi gorau yn Ewrop gyda 84 o ardaloedd yn cael eu graddio’n “ardderchog”.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Tachwedd 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rhyddhawyd ystadegau 2016 ar ddyfroedd ymdrochi heddiw ac mae 84 o’r 103 o ardaloedd ymdrochi wedi’u graddio fel rhai “ardderchog” ac mae hynny’n galonogol. Mae’r rhain yn cynnwys cyrchfannau sy’n boblogaidd gyda thwristiaid megis:

  • Trecco Bay ym Mhorthcawl, 
  • Bae Oxwich yn y Gŵyr, 
  • Abersoch yng Ngwynedd,
  • Bae Colwyn yng Nghonwy.

Gwnaeth cyfanswm o 102 o ddyfroedd ymdrochi dynodedig yng Nghymru gyrraedd safon Ewropeaidd sy’n ddigonol neu’n fwy. Mae hynny’n gosod Cymru ymhlith un o’r gwledydd sy’n perfformio orau yn Ewrop o safbwynt glendid dŵr.

Gwnaeth Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig groesawu’r ffigurau. Dywedodd:

“Mae gan Gymru’r arfordir mwyaf godidog yn y byd i gyd. Mae ein traethau a’n hardaloedd ymdrochi eraill yn denu ymwelwyr o bell ac agos. Maent hefyd yn boblogaidd iawn gyda’r cymunedau lleol.

“Mae’r ffaith bod cynifer o’n dyfroedd wedi’u cydnabod fel rhai sydd o safon mor uchel yn newyddion ardderchog. Mae’r rhain wedi’u lleoli yng Nghymru ben baladr, o ardaloedd trefol y de-orllewin i gyrchfannau twristiaeth, glan môr yn y gorllewin a’r gogledd.

“Mae amgylchedd iach yn cynnal ein heconomi ac yn gwella ansawdd ein bywyd. Yn sgil dyfroedd ymdrochi glân, bydd ein harfordir a’n amgylchedd naturiol yn parhau i sicrhau manteision anferth i’r bobl sy’n byw yng Nghymru â’n hymwelwyr.  

“Nid trwy ddamwain y sicrhawyd y ffigurau hyn. Maent yn ganlyniad uniongyrchol i  waith caled pobl leol, awdurdodau lleol a sefydliadau megis Cyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru. Ers 2001, maent wedi buddsoddi mwy na £1 biliwn mewn trin carthffosiaeth a gwella’r rhwydwaith.

Dywedodd Emyr Roberts, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru:

“Dyma ail flwyddyn safonau newydd, llym yr Undeb Ewropeaidd ac mae’n newyddion arbennig bod 102 o’r 103 o ddyfroedd ymdrochi yng Nghymru wedi sicrhau’r safon gyfeiriol, sef digonol. Mae 94% o’n traethau wedi sicrhau statws da neu ardderchog, ac yn sgil hynny mae traethau Cymru gyda rhai o’r traethau gorau yn Ewrop.  

“Byddwn yn parhau i gydweithio â’r rheini sy’n byw ac yn gweithio yn y cymunedau lleol, ynghyd â Dŵr Cymru a’r awdurdodau lleol i gynnal a gwella canlyniadau ein dyfroedd ymdrochi yng Nghymru.”