Dyfroedd ymdrochi: dynodiad arfaethedig o ddau gorff dŵr ymdrochi newydd yng Nghymru : crynodeb o ymatebion
Ymgynghoriad ar ddynodi cronfeydd dŵr Llys-faen a Llanisien (Caerdydd) a Phont Grog (afon Tywi, Llandeilo) yn ddyfroedd ymdrochi dynodedig a barn y cyhoedd ar ddiffinio trothwy ar gyfer nifer ‘fawr’ o ymdrochwyr.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Trosolwg
Cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar gynigion i ddynodi cronfeydd dŵr Llys-faen a Llanisien, a Phont Grog, Llandeilo, yn ddyfroedd ymdrochi o dan Reoliadau Dyfroedd Ymdrochi 2013. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng 7 Ionawr a 17 Chwefror 2025.
Gofynnodd yr ymgynghoriad i’r ymatebwyr a oeddent yn cefnogi’r cynigion i ddynodi cronfeydd dŵr Llys-faen a Llanisien, a Phont Grog, Llandeilo, yn ddyfroedd ymdrochi dynodedig ar gyfer 2025 a rhoi rhesymau/tystiolaeth i gefnogi eu barn.
Mae’r ddogfen hon yn rhoi crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad ac yn dangos sut mae Llywodraeth Cymru yn ymateb iddynt. Nid yw'n cynnig barn ar sylwadau unigol.
Cyd-destun
Amcan dynodi safle yn gorff dŵr ymdrochi yw diogelu iechyd ymdrochwyr rhag llygredd Escherichia coli (E. coli) ac Enterococcus a darparu gwybodaeth i’r cyhoedd i alluogi ymdrochwyr i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth ynghylch ble a phryd i ymdrochi.
Camau gweithredu gofynnol
Mae'r ddogfen hon er gwybodaeth yn unig.
Rhagor o wybodaeth a dogfennau cysylltiedig
Mae fersiynau print bras, Braille ac ieithoedd eraill o’r ddogfen hon ar gael trwy gais.
Manylion cyswllt
Cangen Dŵr
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: dŵr@llyw.cymru
Copïau ychwanegol
Cyhoeddir y crynodeb hwn o ymatebion a chopïau o’r holl ddogfennau ymgynghori ar ffurf electronig yn unig a gellir eu gweld ar wefan Llywodraeth Cymru.
Dolen i’r ddogfennaeth ymgynghori: https://www.llyw.cymru/adolygiad-o-ddyfroedd-ymdrochi-cymru-2025
Cyflwyniad
Mae’r ddogfen hon yn rhoi crynodeb o’r ymatebion a dderbyniwyd yn ystod ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ddynodiad arfaethedig cronfeydd dŵr Llys-faen a Llanisien a Phont Grog, Llandeilo, a safbwyntiau’r cyhoedd ar ddiffinio trothwy ar gyfer nifer ‘fawr’ o ymdrochwyr. Mae hefyd yn amlinellu ymateb Llywodraeth Cymru a’r camau nesaf yn dilyn yr ymgynghoriad.
Roedd yr ymgynghoriad yn gofyn am farn y cyhoedd a rhanddeiliaid ynghylch a ddylai’r lleoliadau hyn gael eu dynodi’n ddyfroedd ymdrochi ar gyfer tymor ymdrochi 2025 (rhwng 15 Mai a 30 Medi). Gofynnwyd i'r ymatebwyr a oeddent yn cytuno neu'n anghytuno â'r dynodiadau arfaethedig, neu nad oedd ganddynt unrhyw farn, ac fe'u hanogwyd i roi rhesymau am eu barn. Yn ogystal, roedd yr ymgynghoriad yn gwahodd adborth ar yr hyn sy’n gyfystyr â nifer ‘fawr’ o ymdrochwyr ar safleoedd ledled Cymru.
Crynodeb o'r ymatebion
Derbyniwyd 152 o ymatebion i’r ymgynghoriad. O'r rhain, derbyniwyd 148 trwy'r porth ar-lein a derbyniwyd pedwar ymateb pellach yn uniongyrchol trwy e-bost. Gallai cyfranogwyr ymateb am un safle neu'r ddau safle. Nid oedd yn ofynnol iddynt ateb pob cwestiwn a gallent ddewis y rhai mwyaf perthnasol i'w safle, gan sicrhau bod eu mewnbwn yn parhau i fod â ffocws ac yn ystyrlon i'r ymgynghoriad.
| Ymatebydd | Nifer yr ymatebion |
| Unigolion | 139 |
| Rheoleiddwyr | 1 |
| Cwmnïau dŵr | 1 |
| Cyngor tref / cynghorydd lleol / cyngor cymuned | 3 |
| Cyrff proffesiynol | 1 |
| Clybiau a sefydliadau sy’n defnyddio dyfroedd lleol | 3 |
| Corff amgylcheddol anllywodraethol | 4 |
| Cyfanswm | 152 |
*Mae rhestr lawn o’r sefydliadau a ymatebodd wedi’i chynnwys yn Atodiad A
Cynhaliwyd dadansoddiad thematig o'r ymatebion. Gwnaeth y dadansoddiad hwn gategoreiddio’r safbwyntiau, sylwadau, datganiadau a materion a godwyd gan yr ymatebwyr o dan themâu trosfwaol, a oedd yn cynnwys:
- Cefnogaeth i fanteision hybu ymdrochi a chynnal safonau ansawdd dŵr uchel.
- Pwyslais ar y manteision i iechyd a geir trwy nofio a threulio amser ym myd natur.
- Pwysigrwydd darparu mannau diogel a hygyrch ar gyfer nofio.
- Cydnabod y manteision i iechyd meddwl a geir trwy nofio yn yr awyr agored.
- Cydnabod y byddai monitro ansawdd dŵr yn rhoi gwybodaeth i ymdrochwyr wneud dewisiadau ar sail gwybodaeth ynghylch pryd i fynd i mewn i'r dŵr.
Cronfeydd dŵr Llys-faen a Llanisien
Derbyniwyd 26 o ymatebion i’r ymgynghoriad. Roedd 23 yn cefnogi’r cynnig i ddynodi cronfeydd dŵr Llys-faen a Llanisien yn ddyfroedd ymdrochi, roedd un yn anghytuno, a dywedodd dau nad oedd ganddynt unrhyw farn. Tynnwyd sylw gan gefnogwyr at ymdrechion hyrwyddo fel cyfryngau cymdeithasol, gwefan a hysbysebion lleol, ynghyd â rhyngweithio personol i annog ymdrochi. Roedd llawer hefyd yn gwerthfawrogi'r manteision i iechyd a geir trwy nofio yn yr awyr agored a phwysigrwydd cynnal safonau ansawdd dŵr mewn safle poblogaidd. Pwysleisiodd rhai yr angen am fesurau diogelwch, megis achubwyr bywydau, ac amddiffyn bywyd gwyllt lleol.
Cefnogodd Cyngor Cymuned Llys-faen y cynnig, gan alw ar Dŵr Cymru i sicrhau mesurau diogelwch priodol.
Roedd un sefydliad yn gwrthwynebu, gan fynegi pryderon bod y cynnig yn masnacheiddio'r safle ac y byddai angen talu i'w ddefnyddio.
Roedd grŵp rhanddeiliaid o blaid y cynnig, gan bwysleisio pwysigrwydd dyfroedd ymdrochi mewndirol i ddarparu mynediad ar gyfer cymunedau trefol.
Pont Grog, Llandeilo
Derbyniwyd 139 o ymatebion i’r ymgynghoriad. Roedd 123 yn cefnogi’r cynnig i ddynodi Pont Grog fel corff dŵr ymdrochi, roedd 14 yn anghytuno, a dywedodd dau nad oedd ganddynt unrhyw farn. Pwysleisiodd y cefnogwyr fanteision gwiriadau ansawdd dŵr rheolaidd, mwy o ddiogelwch i ymdrochwyr, a sicrwydd o ddŵr glanach. Tynnwyd sylw gan lawer at y manteision i iechyd a geir trwy nofio yn yr awyr agored a phwysigrwydd y safle fel amwynder cymunedol, yn enwedig yn absenoldeb cyfleusterau nofio amgen. Nodwyd y cyfryngau cymdeithasol a thrafodaeth ar lafar fel ffactorau hyrwyddo allweddol.
Cododd ymatebwyr nifer o bryderon yn gwrthwynebu'r dynodiad. Gwnaeth rhai herio’r ffigurau defnyddio, gan ddadlau bod nifer yr ymdrochwyr yn y cais wedi’i chwyddo. Roedd rhai yn ansicr a oedd unrhyw afon yn y rhanbarth yn addas i ymdrochi ynddi, gan nodi risgiau diogelwch ac amgylcheddol megis llifogydd, trobyllau, llygredd o garthion a gwastraff anifeiliaid, ac absenoldeb goruchwyliaeth barhaol. Roedd gwrthwynebiadau ychwanegol yn cynnwys ymddygiad gwrthgymdeithasol fel taflu ysbwriel a defnyddio cyffuriau, llif cyflym yr afon, a diffyg cyfleusterau gerllaw.
Roedd pryderon amgylcheddol yn canolbwyntio ar y dirywiad posibl mewn stociau pysgod a dŵr ffo amaethyddol. Codwyd pryderon hefyd am anafiadau posib, tresmasu ar dir preifat lle saif y safle, a difrod cysylltiedig i gnydau a da byw.
Safbwynt ar yr effaith ar y Gymraeg
Cymysg oedd yr ymatebion ar effeithiau posibl y cynigion ar y Gymraeg. Roedd rhai ymatebwyr yn teimlo na fyddai unrhyw effaith sylweddol, tra oedd eraill yn awgrymu y gallai defnydd cynyddol o safleoedd gydag arwyddion Cymraeg godi ymwybyddiaeth a darparu mwy o gyfleoedd i siaradwyr Cymraeg. Roedd rhai ymatebwyr yn amlygu y byddai hyrwyddo arwyddion a chyfathrebu dwyieithog yn sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei thrin yn gyfartal â’r Saesneg, gan feithrin ymgysylltiad cymdeithasol mewn cymunedau Cymraeg eu hiaith.
Materion cysylltiedig eraill
Roedd adborth ychwanegol yn canolbwyntio'n bennaf ar safle Llandeilo, gan amlygu pryderon am iechyd afon Tywi. Cyfeiriodd ymatebwyr at faterion yn ymwneud â newid hinsawdd, y straen ar gyfleusterau trin dŵr, ac ansawdd dŵr, gan awgrymu rhoi gwiriadau rheolaidd ac arwyddion cyhoeddus ar waith. Mynegodd rhai ddiddordeb mewn cymryd rhan mewn prosiectau samplu dŵr dan arweiniad dinasyddion i leihau costau. Roedd pryderon amgylcheddol yn cynnwys llygredd o silwair a dŵr ffo gwrtaith, gostyngiad mewn niferoedd pysgod, ac addasrwydd yr afon ar gyfer nofio. Er bod rhai'n ofni y gallai hyrwyddo'r ardal ar gyfer nofio gwyllt arwain at niwed pellach, roedd eraill yn teimlo bod y pryderon hyn yn cael eu gorliwio. Roedd nifer o blaid arwyddion dwyieithog a mesurau diogelwch.
Mynegwyd pryderon ynghylch dilysrwydd yr ymgynghoriad ynghylch Pont Grog, Llandeilo, gan nodi dylanwad posibl cyflwyniadau dyblyg lluosog o ganlyniad i ymgyrchoedd gan grwpiau o randdeiliaid. Amlygwyd y defnydd o atebion enghreifftiol a’u potensial i effeithio ar amrywiaeth ymatebion unigol.
Codwyd pryderon hefyd am brofi ansawdd dŵr yng nghronfeydd dŵr Llys-faen a Llanisien, gan gwestiynu a oedd yn briodol o ystyried defnydd diwydiannol y safle.
Roedd grŵp rhanddeiliaid yn cefnogi dynodi dyfroedd ymdrochi swyddogol i wella ansawdd dŵr ac ymwybyddiaeth y cyhoedd ond argymhellwyd gwelliannau i’r drefn brofi ar gyfer monitro ansawdd dŵr trwy gydol y flwyddyn i adlewyrchu defnyddwyr dŵr amrywiol, ac awgrymwyd diwygio darpariaethau llygredd tymor byr er mwyn sicrhau mwy o dryloywder.
Barn y cyhoedd ar niferoedd yr ymdrochwyr
Roedd yr ymgynghoriad yn gofyn am farn ar ddiffinio trothwy ar gyfer nifer ‘fawr’ o ymdrochwyr. Roedd yr ymatebion i gwestiynau ynghylch beth yw nifer ‘fawr’ o ymdrochwyr ar gyfer safleoedd arfordirol a mewndirol yn ystod diwrnod prysur yn amrywio’n sylweddol. Ar gyfer safleoedd arfordirol, roedd y farn yn amrywio o 0 i gynifer â 10,000 o ymdrochwyr, gyda dros hanner y 150 o ymatebion heb nodi nifer benodol na unrhyw amrediad clir. Yn yr un modd, wrth ystyried y nifer gyfartalog addas o ymdrochwyr y dydd ar draws y tymor ymdrochi cyfan ar safleoedd arfordirol, roedd yr ymatebion yn amrywio o 1 i 100,000, gyda bron i hanner yr atebion heb nodi nifer benodol.
Pan ofynnwyd iddynt ystyried a oedd pobl yn ystyried bod nifer ‘fawr’ o ymdrochwyr yr un fath ar gyfer safleoedd arfordirol a mewndirol, atebodd y mwyafrif nad ydynt yn disgwyl i’r nifer hon fod yr un fath.
Wrth ystyried nifer ‘fawr’ o ymdrochwyr ar gyfer safleoedd mewndirol, roedd yr ymatebion yn amrywio o 1 i 2,000 o ymdrochwyr. Yr ateb mwyaf poblogaidd oedd llai na 100 o ymdrochwyr ar gyfer safleoedd mewndirol, er nad oedd dros draean yr ymatebion yn nodi nifer. Yn yr un modd, ar gyfer nifer gyfartalog o ymdrochwyr y dydd ar safleoedd mewndirol, roedd y nifer yn amrywio o 0 i 5,000. Llai na 100 oedd yr ateb mwyaf poblogaidd a roedd mwy na thraean yn methu â nodi nifer.
Er y gofynnwyd i ymatebwyr nodi nifer yn unig, roedd rhai ymatebion yn cynnwys manylion pellach sy’n awgrymu bod ffactorau y tu hwnt i nifer yr ymdrochwyr yn unig yn cael eu hystyried ar gyfer dynodi corff dŵr ymdrochi, gan gynnwys lleoliad, mynediad, ystyriaethau amgylcheddol a chyflwr y safle. Mae'r rhain yn parhau y tu allan i gylch gwaith y rheoliadau presennol.
Ymateb y llywodraeth
Wrth benderfynu ar ddynodi corff dŵr ymdrochi, y brif ystyriaeth o dan Reoliadau Dyfroedd Ymdrochi 2013 yw'r disgwyliad y bydd nifer fawr o ymdrochwyr. Rydym yn asesu tystiolaeth o ddefnydd cyfredol sylweddol, a ddarparwyd gan y data arolwg fel rhan o'r cais, gan gynnwys nofwyr a phobl yn padlo. Cyflawnir hyn drwy ymgynghoriad cyhoeddus. Rydym hefyd yn ystyried tueddiadau hanesyddol, seilwaith neu gyfleusterau sydd ar gael, ac unrhyw fesurau a gymerwyd i hyrwyddo ymdrochi, fel yr amlinellir yn y rheoliadau, i asesu'r tebygolrwydd y bydd y nifer fawr o ymdrochwyr yn cael eu cynnal neu’n cynyddu yn nhymhorau'r dyfodol.
Rydym yn cydnabod bod rhai ymatebwyr wedi mynegi pryderon yn ymwneud â materion y tu allan i gwmpas y Rhaglen Dyfroedd Ymdrochi a sail penderfyniadau fel y’i disgrifiwyd yn Rheoliadau Dyfroedd Ymdrochi 2013, gan adlewyrchu pryderon ehangach y gymuned am lygryddion yn effeithio ar iechyd afonydd, diogelu'r amgylchedd a rheoli diogelwch ffisegol. Er bod y pryderon hyn yn bwysig, maent y tu allan i gylch gwaith y Rheoliadau Dyfroedd Ymdrochi ac ymdrinnir â hwy eisoes drwy ddulliau deddfwriaethol eraill nad yw’r rheoliadau’n eu cwmpasu’n benodol.
Diben y rheoliadau hyn yw sicrhau diogelwch ansawdd dŵr ar gyfer ymdrochwyr, yn seiliedig ar y disgwyliad y bydd nifer ‘fawr’ o ymdrochwyr yn defnyddio’r safle, ni waeth beth yw perchnogaeth neu fodel gweithredol y safle.
Mae Rheoliadau Dyfroedd Ymdrochi 2013 yn sefydlu dyletswyddau cyfreithiol Cyfoeth Naturiol Cymru, Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol, ac yn canolbwyntio’n benodol ar ansawdd dŵr ac iechyd y cyhoedd mewn dyfroedd ymdrochi. Nid ydynt yn mynd i'r afael â materion ehangach.
Cronfeydd dŵr Llys-faen a Llanisien
Ar ôl ystyried yn llawn yr holl ymatebion a ddaeth i law a’r wybodaeth a’r dystiolaeth a ddarparwyd, mae Gweinidogion Cymru yn fodlon bod cronfeydd dŵr Llys-faen a Llanisien wedi bodloni’r meini prawf a nodir yn Rheoliadau Dyfroedd Ymdrochi 2013. Felly mae Gweinidogion Cymru wedi penderfynu nodi cronfeydd dŵr Llys-faen a Llanisien, Caerdydd, fel corff dŵr ymdrochi ar gyfer tymor ymdrochi 2025.
Pont Grog, Llandeilo
Er bod cefnogaeth gref i’r dynodiad oherwydd manteision monitro ansawdd dŵr a nofio yn yr awyr agored, diben y rheoliadau hyn yw sicrhau diogelwch ansawdd dŵr ar gyfer ymdrochwyr, yn seiliedig ar y disgwyliad y bydd nifer ‘fawr’ o ymdrochwyr yn defnyddio’r safle. Dyma’r unig faen prawf ar gyfer ei ddynodi o dan y rheoliadau presennol.
Mynegwyd pryderon gan randdeiliaid a’r cyhoedd ynghylch a oedd y cais yn adlewyrchu gwir nifer yr ymdrochwyr sy’n defnyddio’r safle. Gan mai’r prif faen prawf y bydd angen i Weinidogion Cymru ei ystyried yn y rheoliadau fydd a oes disgwyliad y bydd nifer fawr o ymdrochwyr. O ystyried y dystiolaeth a gyflwynwyd gan yr ymgeisydd, ynghyd â’r ymatebion i’r ymgynghoriad, ni allaf ddatgan fod y prawf rheoliadol wedi’i fodloni. Rwyf felly am neilltuo’r cais hwn tan 31 Hydref, i roi amser i’r ymgeisydd a’r rhanddeiliaid perthnasol gyflwyno rhagor o dystiolaeth.
Niferoedd ymdrochwyr
Datgelodd yr ymgynghoriad ystod eang o safbwyntiau ar yr hyn sy'n cyfrif fel nifer 'fawr' o ymdrochwyr, heb unrhyw ffigur unigol yn dod i'r amlwg fel meincnod dibynadwy. Nid oedd dros hanner yr ymatebwyr yn gallu nodi nifer penodol, ac roedd y trothwyon a awgrymwyd yn amrywio'n sylweddol. Fodd bynnag, roedd consensws clir y dylid disgwyl i ddyfroedd ymdrochi mewndirol fod â niferoedd is o ymdrochwyr na safleoedd arfordirol.
Bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried ymhellach beth yw nifer ‘fawr’ ar gyfer dynodiadau dyfroedd ymdrochi yn y dyfodol yng Nghymru ar gyfer safleoedd mewndirol ac arfordirol, a bydd yn cyhoeddi canllawiau diwygiedig maes o law.
Y camau nesaf
Bydd Gweinidogion Cymru yn hysbysu CNC o’r penderfyniad i nodi cronfeydd dŵr Llys-faen a Llanisien fel corff dŵr ymdrochi dynodedig o ddechrau tymor ymdrochi 2025 ac yn gofyn iddynt baratoi proffil dŵr ymdrochi ac adolygu’r proffil yn gyson.
Mae CNC yn gyfrifol am fonitro ansawdd dyfroedd ymdrochi mewn safleoedd dynodedig yng Nghymru. Pan ddynodir corff dŵr wyneb yn gorff dŵr ymdrochi, rhaid i CNC lunio proffil dŵr ymdrochi manwl a rhaglen fonitro, fel sy’n cael ei wneud ar gyfer pob safle a nodir. Bydd monitro yn dechrau ym mis Mai 2025.
Mae proffiliau dŵr ymdrochi yn cynnwys disgrifiad o’r safle a’r ardal o’i amgylch, unrhyw afonydd a nentydd sy’n bwydo iddo, a mesurau i reoli llygredd. Maent hefyd yn amlinellu cydymffurfedd â safonau ansawdd dŵr dyfroedd ymdrochi ac ymdrechion CNC ar y cyd â phartneriaid – gan gynnwys cwmnïau dŵr, y sector amaethyddol ac awdurdodau lleol – i nodi a mynd i’r afael â materion ansawdd dŵr.
Yn ystod y tymor ymdrochi, rhaid i awdurdodau lleol y safle sicrhau bod gwybodaeth fanwl am y corff dŵr ymdrochi ar gael mewn man hygyrch gerllaw'r corff dŵr ymdrochi yn ystod y tymor ymdrochi.
Ni fydd dynodi dŵr ymdrochi yn diwygio, yn newid nac yn disodli unrhyw amddiffyniadau cyfreithiol, rhwymedigaethau neu ofynion rheoliadol presennol. Mae hyn yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt, yr holl ddeddfwriaethau amgylcheddol, cadwraeth a defnydd tir perthnasol, gan felly sicrhau bod safonau, dyletswyddau a rhwymedigaethau cyfreithiol cyfredol yn parhau i fod yn gwbl weithredol. Yn ogystal, bydd unrhyw gyfrifoldebau presennol unigolion preifat a chyhoeddus, endidau, a chyrff corfforaethol, fel y'u sefydlwyd o dan gyfraith berthnasol, yn aros heb eu newid ac heb eu heffeithio gan y dynodiad.
Bydd Llywodraeth Cymru yn cysylltu â’r ymgeisydd ar gyfer Pont Grog, Llandeilo, i drafod y pryderon ynghylch nifer yr ymdrochwyr.
Atodiad A: rhestr o sefydliadau a ymatebodd
Nid yw'r rhestr hon o sefydliadau a ymatebodd yn hollgynhwysfawr ac mae'n seiliedig ar y rhai a ddatganodd eu sefydliad. Gall hyn gynnwys ymatebion gan unigolion sy’n aelodau o sefydliadau penodol ac felly nid yw o reidrwydd yn adlewyrchu barn y sefydliad hwnnw. Nid yw'r rhestr hon ychwaith yn cynnwys y rhai a ofynnodd i'w hymateb gael ei gadw'n gyfrinachol neu'r rhai nad oedd yn cynnwys enw'r sefydliad. Roedd pum sefydliad yn dymuno cadw eu hymatebion yn ddienw.
- Dyfroedd Cymru
- Cyngor Cymuned Llys-faen
- Curium Pharma UK Ltd
- Clwb Triathlon Caerfyrddin
- Surfers Against Sewage
- Cyfoeth Naturiol Cymru
- Dŵr Cymru
- Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru
- Nifer o ymatebion unigol
