Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r ymchwil hon yn adrodd ar ganfyddiadau arolwg o nofwyr dŵr mewndirol awyr agored. Mae'r arolwg yn archwilio arferion nofio a safbwyntiau ar ddynodiad.

Roedd y rhan fwyaf o'r ymatebwyr i'r arolwg wedi nodi eu bod wedi nofio mewn un neu fwy o afonydd, llynnoedd neu gronfeydd dŵr (dyfroedd mewndirol awyr agored).

Yn gyffredinol, roedd pwysigrwydd ansawdd dŵr yn thema gyson trwy gydol yr arolwg. Gwnaeth y rhan fwyaf o’r ymatebwyr nodi mai ansawdd dŵr yw'r ffactor pwysicaf wrth ddewis ble i nofio. Yn ogystal, pryderon ynghylch ansawdd dŵr oedd y rhwystr mwyaf i’r rhan fwyaf o’r ymatebwyr o ran nofio mewn dyfroedd mewndirol awyr agored.

Roedd gan y rhan fwyaf o'r ymatebwyr ddiddordeb mewn gweld mwy o safleoedd dŵr mewndirol awyr agored yn cael eu dynodi fel dŵr ymdrochi.

Roedd cymysgedd o safbwyntiau yn ymwneud â pha gyfleusterau ddylai fod ar gael ar safleoedd, gyda bron i hanner yr ymatebwyr yn ffafrio dim cyfleusterau.

Cyswllt

Aimee Marks

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.