Neidio i'r prif gynnwy

Dylai lleisiau menywod gael eu clywed ac ni ddylent gael eu gorfodi i ddioddef eu poen, dyna addewid Gweinidog Iechyd Menywod cyntaf Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Gorffennaf 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:
  • uwchgynhadledd iechyd menywod yn mynd i'r afael â phoen a llais y claf yn GIG Cymru
  • clinigwyr, ymchwilwyr a menywod â phrofiad byw yn dod at ei gilydd i ysgogi newid
  • fframwaith newydd i sicrhau bod lleisiau menywod yn siapio'r Cynllun Iechyd Menywod

Dylai lleisiau menywod gael eu clywed ac ni ddylent gael eu gorfodi i ddioddef eu poen, dyna addewid Gweinidog Iechyd Menywod cyntaf Cymru.

Dywedodd Delyth Jewell ei bod yn benderfynol o fynd i'r afael â’r arfer o normaleiddio poen mewn gofal iechyd menywod a'i bod hi eisiau sicrhau bod pobl yn gwrando ar leisiau menywod.

Wrth siarad yn ystod yr Uwchgynhadledd ar Iechyd Menywod yn y Deml Heddwch, dywedodd: 

Am gyfnod rhy hir, mae iechyd menywod wedi cael ei drin fel eilbeth. Ni ddylai unrhyw fenyw fod ofn siarad am ei phoen neu rywbeth nad yw'n teimlo'n iawn.

Dylai menywod gael eu credu pan fyddan nhw’n siarad am eu cyrff, ac rwy'n benderfynol o newid y diwylliant sydd wedi gadael gormod o fenywod i lawr.

Ychwanegodd:

Lleisiau menywod sydd wedi helpu i greu'r Cynllun Iechyd Menywod. Nawr ry'n ni'n gwneud yn siŵr bod y lleisiau hynny'n parhau i siapio'r hyn sy'n dod nesaf.

Daeth yr uwchgynhadledd â chlinigwyr, ymchwilwyr a menywod â phrofiad byw at ei gilydd i fynd i'r afael â normaleiddio poen mewn gofal iechyd, gan gwmpasu gweithdrefnau clinigol a chyflyrau hirdymor, ac i nodi sut y gall lleisiau menywod siapio gwasanaethau'r GIG yn well.

Yn dilyn yr uwchgynhadledd, bydd safonau gofynnol ar gyfer ymgysylltu â defnyddwyr gwasanaeth yn cael eu drafftio i sicrhau bod lleisiau menywod yn parhau i ddylanwadu ar gyflawni'r Cynllun Iechyd Menywod yn y dyfodol, a'i blaenoriaethau.

Bydd gwaith hefyd yn dechrau i adnewyddu a chryfhau'r cynllun, gan gynnwys casglu adborth yn uniongyrchol gan fenywod ledled Cymru.