Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r adroddiad hwn yn edrych ar ffactorau sy'n gysylltiedig â phobl yn teimlo bod modd iddynt ddylanwadu ar benderfyniadau sy'n cael effaith ar eu hardal leol ar gyfer Ebrill 2014 i Fawrth 2014.

Roedd pobl yn fwy tebygol o deimlo bod modd iddynt ddylanwadu ar benderfyniadau os oeddent:

  • wedi cael addysg hyd at lefel gradd neu uwch
  • mewn iechyd cyffredinol dda
  • yn byw yn ardaloedd Ynys Môn, Caerffili neu Abertawe, o gymharu â Sir Benfro a Blaenau Gwent
  • yn cytuno bod pobl yr ardal yn trin ei gilydd â pharch
  • yn teimlo mewn rheolaeth o fywyd bob dydd.

Ni welwyd cysylltiad rhwng y canlynol a theimlo bod modd dylanwadu ar benderfyniadau mewn ardal leol:

  • oedran
  • hunaniaeth genedlaethol
  • rhywedd; gwlad enedigol
  • crefydd
  • statws priodasol
  • bod ag anabledd neu salwch cyfyngus hirdymor
  • bod â mynediad at y rhyngrwyd ar yr aelwyd
  • byw mewn ardal drefol neu wledig
  • bod mewn amddifadedd materol
  • boddhad cyffredinol â bywyd
  • teimlo'n ddiogel yn yr ardal leol.

Adroddiadau

Pwy sy’n debygol o deimlo’u bod yn gallu dylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio ar eu hardal?, Ebrill 2014 i Fawrth 2015 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 413 KB

PDF
413 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.