Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae dyletswydd Rhan 1 – Adran 6 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn gosod gofynion i Lywodraeth Cymru ac awdurdodau cyhoeddus eraill gynnal a gwella bioamrywiaeth a hyrwyddo cydnerthedd ecosystemau. Mae'r ddyletswydd yn gwneud bioamrywiaeth yn rhan naturiol ac annatod o bolisïau a phrosesau gwneud penderfyniadau mewn awdurdodau cyhoeddus.

Nod ein polisïau yw:

  • Cynnal a gwella'r amgylchedd naturiol drwy reoli tir yn briodol er mwyn creu ecosystemau iach sy'n gweithio.
  • Codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd amgylchedd naturiol bioamrywiol gydag ecosystemau iach sy'n gweithio.
  • Cefnogi cydnerthedd ecosystemau, gan wneud yr amgylchedd yn fwy iach i fywyd gwyllt a phobl.
  • Gallu addasu i amgylchedd sy'n newid lle mae angen defnyddio adnoddau mewn modd effeithlon.

Rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol yn ystod y cyfnod adrodd o ran ymwreiddio bioamrywiaeth a phrosesau rheoli adnoddau naturiol. Isod ceir sampl enghreifftiol o rai o'r camau rydym wedi eu cymryd, wedi eu rhestru yn ôl amcan y Cynllun Gweithredu Adfer Natur (NRAP) y maent yn ei fodloni.

Amcan NRAP 1: Ennyn a chefnogi cyfranogiad a dealltwriaeth er mwyn i fioamrywiaeth ymwreiddio yn y broses benderfynu ar bob lefel

  • Cynllun Gweithredu Adfer Natur – Sef Strategaeth a Chynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Cymru fel sy'n ofynnol gan y Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol a luniwyd yn 2015 ac a ddiweddarwyd yn 2020 i ysgogi newid trawsffurfiol. Ei nod yw dylanwadu ar ymddygiad a phenderfyniadau ynghylch buddsoddi ac adeiladu rhwydweithiau ecolegol cydnerth er mwyn diogelu rhywogaethau a chynefinoedd, gan fynd i'r afael ag achosion sylfaenol colli bioamrywiaeth, a thargedu ymyriadau er mwyn helpu rhywogaethau i adfer lle bo angen. 
  • Y Tasglu Bioamrywiaeth – Fe'i sefydlwyd yn 2021 i brif ffrydio cyflawni ar gyfer bioamrywiaeth a chydnerthedd ecosystemau ym mhob rhan o Lywodraeth Cymru a'i phartneriaid. Canlyniadau allweddol – Rhoddwyd hyfforddiant bioamrywiaeth drwy’r cwrs Nabod Natur i 248 o bobl yn y sector cyhoeddus sydd wedi gwneud 798 o addewidion gweithredu bioamrywiaeth; datblygwyd rhaglen gyllido aml-flwyddyn a phrosiect cyllid arloesol. At hynny, lluniwyd dadansoddiad o'r ffordd roedd Dasgupta Review: the Economics of Biodiversity yn cyd-fynd â deddfwriaeth a strategaethau Cymru i lywio ein gwaith datblygu polisïau.
  • Yr Is-adran Tir – Datblygu safleoedd strategol i gynnwys gwerthusiadau ecolegol llawn a gynhelir ar safleoedd datblygu strategol i nodi cynefinoedd a rhywogaethau pwysig.  Wrth ymgymryd â dyletswyddau allweddol sy'n ymwneud â rheoli tir ac adeiladau presennol, cwblheir adolygiadau blynyddol ac asesiadau er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu rheoli'n briodol, er enghraifft, gofynion rheoli priodol ar gyfer cynefinoedd gwell a buddion i rywogaethau.
  • Strategaeth Drafnidiaeth Cymru – Mae Trafnidiaeth wedi llunio Cynllun Gweithredu Adfer Natur gan gynnwys ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol sy'n gosod blaenoriaethau allweddol ar gyfer gwella bioamrywiaeth ar y Rhwydwaith Ffyrdd Strategol.

Amcan NRAP 2: Diogelu rhywogaethau a chynefinoedd sydd o'r pwys mwyaf a'u rheoli'n well

  • Rhaglen Rhwydweithiau Natur – Rhaglen gyllido tair blynedd a lansiwyd yn 2021, gyda'r nod o wella cyflwr a chysylltedd y rhwydwaith safleoedd daearol a morol gwarchodedig, gan greu rhwydweithiau ecolegol cydnerth a fydd yn caniatáu i’n cynefinoedd a’n rhywogaethau sydd mewn perygl mwyaf ffynnu.
  • Trafnidiaeth – Mae'r rhwydwaith ffyrdd strategol yn cynnwys 3000ha. Ymysg y gweithgarwch sy'n targedu rhywogaethau a chynefinoedd penodol mae prosiectau sydd ar y gweill i wella mannau croesi i fywyd gwyllt, darparu hibwrnacwla a blychau ystlumod, a chreu pyllau i fywyd gwyllt.
  • Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd gyda'r nod o adfer ecosystemau mawndiroedd gyda tharged blynyddol o 600-800ha y flwyddyn. Cafodd swm o tua £1.9m ei wario yn 2020/21 a chafodd 650ha o fawndiroedd eu hadfer. Cafodd swm o tua £2m ei wario yn 2021/22 a chafodd 1000ha o fawndiroedd eu gwella.
  • Rheoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig – Yn cefnogi'r Rhwydwaith Ardaloedd Morol Gwarchodedig drwy nodi mesurau priodol i wella rhywogaethau a nodweddion gwarchodedig a'u rhoi ar waith. Ymysg y gweithgarwch mae ymchwil i fygythiadau seiliedig ar yr hinsawdd ac ymchwil i ddeall sut mae sbwriel môr yn lledaenu ac yn symud, a'i effaith.

Amcan NRAP 3: Gwneud ein hamgylchedd naturiol yn fwy cydnerth drwy adfer cynefinoedd sydd wedi'u diraddio a chreu cynefinoedd

  • Symudodd y rhaglen Tirweddau Cynaliadwy, Lleoedd Cynaliadwy i gyfnod cyflawni tair blynedd. Ar gyfer y cyfnod 2022-25 mae prosiectau gwerth cyfanswm o £4.9 miliwn sy'n ymwneud â mynd i’r afael â cholli bioamrywiaeth a gwella cynefinoedd. Ymhlith y prosiectau ar raddfa fawr mae £1.173m ar gyfer adfer mawndiroedd, a phob Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, sy'n darparu prosiectau adfer natur ar raddfa'r dirwedd gwerth rhwng £128k a £470k. 
  • Coedwig Genedlaethol Cymru – Creu coetir newydd a datblygu rhwydwaith cysylltiedig ledled Cymru er mwyn helpu i adfer a chynnal rhai o goetiroedd hynafol Cymru. Cafodd 25 o brosiectau cymunedol eu cyllido hefyd i greu neu i wella coetiroedd i gymunedau lleol.
  • Cyllid Creu Coetiroedd – Bydd hyn yn ein helpu i gyrraedd ein targed o blannu 43,000 o hectarau o goetir newydd erbyn 2030. Bydd hefyd yn helpu ffermwyr i baratoi ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd. Bydd coetir a gaiff ei greu nawr yn cyfrannu at y weithred sylfaenol arfaethedig o sicrhau bod gan ffermwyr 10% o orchudd coed o leiaf ar eu ffermydd.
  • Cadw – Yn comisiynu cyfres o werthusiadau o arferion rheoli tir ar gyfer 2022-23, a fydd yn cynnig argymhellion ar gyfer gwella arferion rheoli safleoedd er lles bioamrywiaeth.
  • Menter Coridorau Gwyrdd – Y nod yw darparu amrywiaeth o fuddion gan gynnwys gwarchod natur drwy blannu coed a llwyni cynhenid ar hyd ein rhwydwaith ffyrdd strategol.

Amcan NRAP 4: Mynd i'r afael â'r prif bwysau ar rywogaethau a chynefinoedd

  • Gweithgarwch Mwy nag Ailgylchu – Yn nodi'r camau allweddol y byddwn yn eu cymryd er mwyn pontio i economi gylchol, gan gynnwys datblygu seilwaith ychwanegol i gasglu ac ailgylchu deunyddiau tŷ nad ydynt yn cael eu hailgylchu'n eang ar hyn o bryd.
  • Ymgyrch Gweledigaeth Werdd – Yn helpu busnesau i ddysgu mwy am effeithlonrwydd adnoddau a dod i'w ddeall yn well. Mae'r ymgyrch yn annog busnesau i gymryd camau i liniaru'r effaith y maent yn ei chael ar y newid yn yr hinsawdd ac yn cefnogi gweledigaeth Llywodraeth Cymru tuag at economi sero net.
  • Busnes Cymru – Yn cynnig amrywiaeth eang o gyngor a chymorth ar bolisïau gwyrdd, arferion ac effeithlonrwydd adnoddau, yn ogystal â gweithdai i fusnesau ledled Cymru.
  • Strategaeth Rhywogaethau Estron Goresgynnol Prydain Fawr – Yn gweithredu i leihau'r risg o gyflwyno a sefydlu rhywogaethau estron goresgynnol a lleihau effeithiau negyddol rhywogaethau o'r fath drwy ddull partneriaeth cadarn. Ymhlith y prosiectau penodol sydd ar y gweill mae prosiect i fynd i'r afael â rhywogaethau pysgod goresgynnol megis Llyfrothen uwchsafn, sydd wedi arwain at ddileu'r rhywogaeth o chwe safle yn Ne-orllewin Cymru.
  • Cynllun Ailgylchu Cenedlaethol ar gyfer offer pysgota – Cafodd y cynllun ei dreialu mewn chwe phorthladd ledled y wlad. Cafodd 1.2 tunnell o offer eu casglu a'u hanfon i'w hailgylchu wedyn yn ystod blwyddyn gyntaf y cynllun.
  • Trafnidiaeth – Yn mynd i'r afael â rhywogaethau estron goresgynnol drwy'r Fenter Coridorau Gwyrdd.

Amcan NRAP 5: Gwella ein tystiolaeth, ein dealltwriaeth a'n gwaith monitro

  • Rhaglen cymorth Newid Hinsawdd i Lywodraeth Leol – Darparwyd cyllid gwerth £1.5m drwy CLlLC i annog awdurdodau lleol i weithredu “unwaith i Gymru” er mwyn gwneud y defnydd gorau o adnoddau a lleihau unrhyw ddyblygu.
  • Adnodd Effaith Carbon – Yn datblygu adnodd i alluogi awdurdodau lleol i chwilio eu daliadau tir a gweld yr effaith carbon (boed yn bositif neu'n negatif) sy'n deillio o unrhyw newid a gynigir yn y ffordd y cânt eu defnyddio.
  • Platfform Monitro a Modelu Materion Gwledig a'r Amgylchedd – Mae'r bartneriaeth hon â'r Ganolfan Ecoleg a Hydroleg yn cynnig swyddogaethau monitro gallu cenedlaethol a gallu monitro strategol i Gymru. Mae hyn wedi arwain at nifer o adroddiadau strategol allweddol gan gynnwys y pecyn Tystiolaeth Coedwigoedd Cenedlaethol sy'n darparu dadansoddiad o wahanol opsiynau Coedwigoedd Cenedlaethol o ran bioamrywiaeth.
  • FABLE – Defnyddiwyd y model hwn i ymchwilio i bedwar llwybr tuag at gyrraedd Cymru sero net ac i wrthdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth.
  • Y Môr a Physgodfeydd – Cynhaliwyd asesiad o effaith gwahanol fathau o offer pysgota ar nodweddion gwarchodedig yn y rhwydwaith Ardaloedd Morol Gwarchodedig.

Amcan NRAP 6: Rhoi fframwaith llywodraethu a chymorth ar waith i gyflawni’r amcanion

  • Archwiliad Dwfn Bioamrywiaeth – Fe'i cynhaliwyd er mwyn datblygu cyfres o gamau ar y cyd i helpu natur i adfer yn seiliedig ar y targed 30x30 o warchod a rheoli'n effeithiol o leiaf 30% o'n dyfroedd croyw mewndirol a'n moroedd ar gyfer natur erbyn 2030.  Aeth grŵp o arbenigwyr ac ymarferwyr ati i nodi themâu allweddol, gan gyhoeddi wyth argymhelliad ar gyfer camau penodol y dylid bwrw ymlaen â nhw. Mae'r argymhellion hyn yn datblygu ymrwymiadau presennol, ac yn cynnig cymysgedd o gamau newydd y gellir eu cymryd ar unwaith, gwaith i uwchraddio a chyflymu cynlluniau sydd eisoes ar y gweill, a chamau i'w cymryd yn y tymor hwy.
  • Grant Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant – Mae mwy na 50 o brosiectau wedi cael cymorth. Nod y prosiectau hyn yw darparu atebion er mwyn gwella cynefinoedd a bioamrywiaeth ynghyd â sicrhau bod mannau gwyrdd naturiol lleol ar gael at lesiant pobl.
  • Y Cynllun Rheoli Cynaliadwy – Mae hyn yn cefnogi gweithgarwch ar reoli adnoddau naturiol ledled Cymru. Mae'n cyllido’n uniongyrchol weithgarwch i fynd i'r afael â'r dirywiad mewn bioamrywiaeth ar raddfa'r dirwedd ac i ddatblygu ein rhwydwaith safleoedd gwarchodedig a'n rhywogaethau gwarchodedig. Mae hefyd yn cefnogi gweithgarwch ar y bygythiadau i fioamrywiaeth megis lleihau llygredd amaethyddol a gwella iechyd pridd ac ansawdd dŵr.
  • Prosiectau EU LIFE – Chwe phrosiect sy'n canolbwyntio ar gyflwr a chysylltedd y rhwydwaith safleoedd gwarchodedig.
  • Cynllun Busnes Eiddo – Mae'r cynllun yn adlewyrchu'r ffaith nad yw cyflawni yn golygu twf economaidd ac eiddo i fusnesau yn unig, ond mae hefyd yn ymwneud â lleihau allyriadau a gwella cydnerthedd yr amgylchedd naturiol, megis ansawdd aer a lleihau gwastraff er mwyn gwrthsefyll y tuedd i gydnerthedd leihau mewn ecosystemau. 
  • Polisi Cynllunio Cymru 11 – Mae hyn yn ymwreiddio ystyriaethau bioamrywiaeth yn y broses gynllunio. Mae'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cynllunio geisio cynnal a gwella bioamrywiaeth wrth arfer eu swyddogaethau. Mae hyn yn golygu na ddylai datblygu arwain at unrhyw golled sylweddol o ran cynefinoedd na phoblogaeth rhywogaethau, yn lleol nac yn genedlaethol, a bod rhaid iddo ddarparu budd net i fioamrywiaeth.
  • Cynllun Gweithredu i'r Tasglu Pryfed Peillio – Ymhlith y partneriaid mae Llywodraeth Cymru, llywodraeth leol, asiantaethau, unigolion a sefydliadau sydd â diddordeb mewn cadwraeth, gwenyna a materion cymdeithasol, a'i nod yw cyfnewid syniadau a rhannu arferion gorau.