Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw awdurdod cyhoeddus adran 6

Mae adran 6(9) (ar legislation.gov.uk) ac adran 6(10) (ar legislation.gov.uk) o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn rhestru'r amrediad eang o awdurdodau cyhoeddus y mae'r ddyletswydd yn adran 6(1) yn gymwys iddynt, sy'n cynnwys Gweinidogion Cymru, cyrff cyhoeddus, deiliaid swyddi cyhoeddus ac ymgymerwyr statudol.

Mae'r ddyletswydd adran 6 yn berthnasol i awdurdodau cyhoeddus sy'n arfer swyddogaethau mewn perthynas â Chymru, megis awdurdodau lleol, cynghorau tref a chymuned, byrddau iechyd lleol, ymddiriedolaethau iechyd gwladol ac awdurdodau parciau cenedlaethol. Mae hefyd yn cynnwys y rhai nad ydynt efallai wedi'u lleoli yng Nghymru yn unig, ond sy'n arfer swyddogaethau mewn perthynas â Chymru, megis Ystâd y Goron ac asiantaethau Llywodraeth y DU fel y DVLA, Tŷ'r Cwmnïau a'r Swyddfa Eiddo Deallusol. 

Mae'n bwysig nodi mai cyfrifoldeb pob sefydliad yw sicrhau eu bod yn deall eu dyletswyddau cyfreithiol eu hunain a gwybod a ydynt yn awdurdod cyhoeddus at ddibenion adran 6 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Mae'r ddogfen hon yn ganllaw i ddarparu rhywfaint o gymorth ond, os oes unrhyw amheuaeth ynghylch sefydliad, rhaid iddynt geisio eu cyngor cyfreithiol annibynnol eu hunain.

Y diffiniad o awdurdod cyhoeddus adran 6

Mae adran 6(9) a (10) yn nodi'r sefydliadau sy'n ddarostyngedig i'r ddyletswydd, naill ai drwy eu henwi'n benodol neu drwy eu categoreiddio'n ehangach. 

Er mwyn helpu i benderfynu a yw eich sefydliad yn ddarostyngedig i'r ddyletswydd adran 6, dylech wirio'r awdurdodau cyhoeddus a enwir wedi'u rhestru yn Adran A isod ac, os nad yw'n cael ei restru, gwirio a yw'n dod o fewn y categorïau o awdurdodau cyhoeddus a restrir yn Adran B isod.

Os yw sefydliad neu berson yn arfer swyddogaethau mewn perthynas â Chymru ac o fewn un o'r diffiniadau isod, mae'n ddarostyngedig i ddyletswydd adran 6(1).

Adran A

Awdurdodau cyhoeddus a enwir yn benodol

  • Gweinidogion Cymru
  • Prif Weinidog Cymru
  • Cwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cymru
  • Gweinidog y Goron
  • adrannau'r llywodraeth
  • awdurdod lleol, sef cyngor sir, cyngor bwrdeistref sirol neu gyngor cymuned yng Nghymru
  • awdurdod cynllunio lleol
  • cyd-bwyllgor corfforedig

Adran B

Categorïau o awdurdodau cyhoeddus

  • corff cyhoeddus
  • deiliad swydd:
    • o dan y goron
    • a grëwyd neu sy’n parhau i fodoli o ganlyniad i Ddeddf gyffredinol gyhoeddus gan Senedd Cymru neu Senedd y DU, neu
    • swydd y mae'r tâl cydnabyddiaeth yn cael ei dalu ag arian a roddir gan Senedd Cymru neu Senedd y DU
  • ymgymerwr statudol 

Diffiniad adran 6(10) o "ymgymerwr statudol " yw: 

Sylwer, pan fydd dolen wefan i restr o sefydliadau, dim ond y rhai sy'n bodloni un o ddiffiniadau adran 6 ac sy'n arfer swyddogaethau mewn perthynas â Chymru y mae'n ofynnol iddynt gydymffurfio â'r dyletswyddau yn adran 6 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.