Neidio i'r prif gynnwy

Yn berthnasol i: Cymru a Lloegr

Yr awdurdodau cymwys yw:

  • cyrff cyhoeddus, megis yr awdurdod lleol, Asiantaeth yr Amgylchedd, Coedwigaeth Lloegr ac Awdurdodau Pysgodfeydd a Chadwraeth y Glannau
  • y cyrff cadwraeth natur statudol – Natural England a Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC)
  • ymgymerwyr statudol, megis cwmni dŵr, awdurdod porthladd, darparwr ynni
  • gweinidogion neu adrannau llywodraeth
  • unrhyw un sy’n dal swydd gyhoeddus, fel aelodau pwyllgorau cynllunio neu gynghorwyr

Mae’r canllaw hwn yn gymwys i’r safleoedd Ewropeaidd canlynol:

  • Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (AGA)
  • Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA)

Mae’n cynnwys eu dyfroedd glannau o fewn 12 milltir forol i’r arfordir.

Dewch o hyd i’r safleoedd hyn ar y map hud.

Dyletswydd i warchod safleoedd Ewropeaidd

Fel awdurdod cymwys, mae gennych ddyletswydd i helpu i ddiogelu, gwarchod ac adfer safleoedd Ewropeaidd. Mae’r ddyletswydd yn berthnasol pan fyddwch:

  • yn rheoli safle rydych yn berchennog neu’n ddeiliaid arno
  • yn gwneud penderfyniadau a allai effeithio ar safle
  • yn cael cais gan drydydd parti i ddefnyddio’ch pwerau i ddiogelu safle
  • yn cyflawni eich gwaith statudol sy’n effeithio ar safle

Os gallwch weithredu ond yn penderfynu peidio â gwneud hynny, dylech allu rhoi rhesymau clir a phriodol pam rydych wedi gwneud y penderfyniad hwnnw. Mae’n bosibl y bydd y corff cadwraeth natur statudol, y llywodraeth neu’r trydydd parti yn gofyn i chi roi rhesymau.

Mae gennych ddyletswydd i ystyried sut y gallwch helpu:

  • i ddiogelu, gwarchod neu adfer nodweddion dynodedig y safle i gyflawni eu hamcanion cadwraeth 
  • i atal dirywiad cynefinoedd y safle rhag gweithgarwch dynol neu newidiadau naturiol, gan gynnwys cynefinoedd sy’n cefnogi rhywogaethau dynodedig
  • i atal tarfu sylweddol ar rywogaethau dynodedig y safle rhag gweithgarwch dynol neu newidiadau naturiol

Gweithio gydag awdurdodau cymwys eraill

Mae’n bosibl y bydd angen i chi weithio gydag awdurdodau cymwys eraill yn eich ardal a chydlynu’r defnydd o’ch pwerau i ddiogelu, gwarchod neu adfer safle.

Dyletswydd o ran Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig

Bydd safleoedd Ewropeaidd ar dir hefyd yn Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA). Pan fydd y safle, neu unrhyw ran ohono, yn SoDdGA, mae gennych ddyletswyddau eraill tuag at y safle hefyd. Darllenwch y canllawiau ar gyfrifoldebau cyrff cyhoeddus tuag at SoDdGA.

Pan mae angen i chi wneud Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd

Os yw cynllun neu brosiect yn gallu effeithio ar nodweddion safle Ewropeaidd, rhaid i chi gynnal Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (ARhC). Mae’r ARhC yn eich helpu i benderfynu a all cynllun neu brosiect fynd rhagddo ai peidio. Mae’n berthnasol i’ch cynigion eich hun, a’r cynigion y mae angen i chi eu hawdurdodi. Darllenwch y canllaw ar sut i gynnal ARhC.

Bodloni amcanion cadwraeth

Disgwylir i chi helpu i gyflawni amcanion cadwraeth safle Ewropeaidd.

Mae’r cyrff cadwraeth natur statudol wedi cyhoeddi amcanion cadwraeth ar gyfer pob safle:

Rhaid i chi ystyried amcanion cadwraeth y safle pan fyddwch:

  • yn datblygu, cynnig neu asesu gweithgaredd, cynllun neu brosiect a allai effeithio ar y safle
  • yn nodi mesurau i ddiogelu a gwarchod y safle

Rhaid i chi hefyd ystyried unrhyw gyngor atodol a chyngor sy’n benodol i achos a roddir gan y corff cadwraeth natur statudol.

Mae amcanion cadwraeth y safle yn eich helpu i ddeall beth sydd angen i chi ei wneud:

  • i warchod y safle
  • i adfer y safle
  • i atal dirywiad neu darfu sylweddol ar ei nodweddion cymhwyso

Drwy gyflawni’r amcanion, bydd y safle’n cyfrannu at Statws Cadwraeth Ffafriol (SCFf) ar gyfer y math hwnnw o rywogaeth neu gynefin ar lefel y DU.

Mae statws cadwraeth cynefin naturiol yn ffafriol pan:

  • mae ei amrywiaeth naturiol a’i arwynebedd yn sefydlog neu’n cynyddu
  • mae’r prosesau sy’n cynnal strwythur a swyddogaeth y cynefin yn debygol o barhau ar sail hirdymor
  • mae ei rywogaethau nodweddiadol yn sefydlog neu’n gwella

Mae statws cadwraeth rhywogaeth yn ffafriol pan:

  • mae’r boblogaeth yn cynnal ei hun ar sail hirdymor
  • mae ystod naturiol y rhywogaeth yn sefydlog neu’n gwella
  • mae ei gynefin yn sefydlog neu’n gwella ac yn gallu cynnal y rhywogaeth ar sail hirdymor.

Nodi pan fydd angen i chi weithredu

Rhaid i chi ystyried sut y gallwch ddefnyddio eich pwerau statudol i helpu safleoedd Ewropeaidd i gyflawni eu hamcanion cadwraeth. Gelwir y camau hyn yn fesurau cadwraeth.

Pan fyddwch chi’n ystyried pa fesurau cadwraeth a allai fod yn angenrheidiol, mae angen i chi:

  • ragweld y niwed tebygol y gallai gweithgaredd ei wneud i safle, boed yn weithgarwch dynol neu brosesau naturiol
  • chwilio am dystiolaeth o ddirywiad neu darfu
  • ystyried sut y gallai eich penderfyniadau eich hun effeithio ar amcanion cadwraeth safle

Ni ddylech aros nes bod safle’n cael ei niweidio i roi mesurau cadwraeth ar waith.

Rhagweld niwed tebygol

Gall gweithgareddau yn y gorffennol neu’r presennol gael effaith negyddol ar safle nawr neu yn y dyfodol. Er enghraifft, pysgota, amaethyddiaeth neu weithgareddau hamdden. Mae’n bosibl y bydd angen i chi ddefnyddio’ch pwerau i gyfyngu, atal neu newid y gweithgareddau hynny. Gall hynny gynnwys gweithgareddau sy’n digwydd ar y safle a thu hwnt i ffin safle.

Dylech geisio atal niwed i safle rhag trychinebau naturiol. Er enghraifft, ystyriwch beth allwch chi ei wneud i leihau:

  • perygl llifogydd yn sgil glaw trwm
  • perygl tân mewn cyfnodau o sychder

Gall newidiadau naturiol effeithio ar safle. Er enghraifft, coed a phrysgwydd yn goresgyn rhostir, glaswelltir neu dwyni tywod. Mae’n bosibl y bydd angen i chi atal hyn rhag digwydd os yw’n niweidio nodweddion dynodedig safle sydd dan eich rheolaeth chi neu y gallwch helpu i’w rheoli.

Gallech gael cyngor gan:

  • ecolegydd i’ch helpu i ragweld niwed tebygol
  • y corff cadwraeth natur statudol am y risg o newidiadau niweidiol a sut y gallech helpu i ddiogelu’r safle

Edrych am arwyddion o ddirywiad neu darfu

Mae angen i chi chwilio am arwyddion o ddirywiad neu darfu ar safleoedd Ewropeaidd rydych yn gyfrifol amdanynt.

Gall dirywiad safle:

  • achosi iddo golli ei nodweddion ecolegol hanfodol
  • lleihau maint neu ansawdd ei gynefinoedd
  • gwanhau ei allu i gynnal ei rywogaethau dynodedig, fel yr amodau ar gyfer bridio

Gall tarfu ar safle achosi:

  • dirywiad ei rywogaethau
  • gostyngiad yn yr amrywiaeth o rywogaethau

Gallech gael cyngor ecolegol neu ofyn i’r corff cadwraeth natur statudol roi gwybod i chi am unrhyw arwyddion o ddirywiad neu darfu ar eich safleoedd.

Rhoi mesurau cadwraeth ar waith

Rhaid i chi ystyried cyflwyno mesurau cadwraeth priodol os ydych:

  • yn gallu helpu i warchod neu adfer safle
  • wedi canfod dirywiad neu darfu, neu berygl y bydd yn digwydd

Bydd y mesurau hyn yn eich helpu i ddiogelu a gwarchod y safle a bodloni’r amcanion cadwraeth.

Mae’n bosibl y bydd angen i chi gymryd camau cadwraeth y tu hwnt i ffin y safle, neu ar draws mwy nag un safle. Er enghraifft:

  • pan mae pysgota’n effeithio ar safleoedd morol
  • pan mae rhywogaethau ar safle, fel adar a mamaliaid, yn symud o gwmpas a defnyddio cynefinoedd y tu allan i’r safle

Rhaid i fesurau cadwraeth fod yn hyblyg er mwyn ymateb i newidiadau mewn amodau, megis:

  • newidiadau dros amser i statws cynefinoedd neu rywogaethau gwarchodedig ar y safle
  • bygythiadau newydd i nodweddion y safle
  • gwybodaeth ecolegol newydd am y safle
  • anghenion diwylliannol, cymdeithasol ac economaidd lleol

Rhaid i fesurau cadwraeth fod:

  • yn fesurau cadarnhaol a rhagweithiol
  • yn seiliedig ar ofynion ecolegol nodweddion dynodedig y safle
  • yn gallu aros ar waith cyhyd ag y bo’u hangen

Gallwch ddefnyddio eich pwerau i lunio mesurau cadwraeth, er enghraifft:

  • newid sut mae gweithgaredd yn cael ei wneud ar y safle neu’n agos ato
  • newid neu ddirymu caniatâd neu drwyddedau rydych wedi’u rhoi ar y safle
  • cymryd camau gorfodi yn erbyn rhywun sy’n cyflawni gweithgaredd niweidiol
  • atgyweirio unrhyw ddifrod a achosir i safle

Pan fyddwch yn ystyried cyflwyno mesurau cadwraeth, dylech ddefnyddio’r canlynol:

Cymorth a chyngor

Gall y cyrff cadwraeth natur statudol roi cyngor ar sut i ddiogelu, gwarchod ac adfer safleoedd Ewropeaidd.

Cysylltwch â Natural England am help yn Lloegr.

Cysylltwch â CNC am help yng Nghymru.