Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates, wedi dweud y bydd Hinkley Point yn hwb sylweddol i gadwyn gyflenwi Cymru ac y dylid defnyddio dur y DU ar gyfer ei adeiladu.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Medi 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Deillia ei sylwadau o benderfyniad Llywodraeth y DU i fwrw ymlaen â Hinkley Point, sef y cyntaf mewn cyfres o brosiectau niwclear newydd ac arfaethedig gan Lywodraeth y DU. Y nod yw sicrhau bod cyflenwad digonol o drydan dibynadwy, fforddiadwy a charbon isel ar gael ar draws Prydain.

Mae Ysgrifennydd yr Economi wedi datgan bod yn rhaid manteisio ar y cyfle hwn yn awr i gefnogi’r diwydiannau gweithgynhyrchu a pheirianneg mawr yng Nghymru, gan gynnwys y diwydiant dur.

Dywedodd Ken Skates:

“Er ein bod wedi aros yn hir am y penderfyniad ynghylch Hinkley mae’n sicr yn newyddion ardderchog i’r sector niwclear ar draws y DU ac mae’n hwb sylweddol i’r gadwyn gyflenwi.  

“Gallai’r penderfyniad hefyd fod o gymorth mawr i ddiwydiant dur y DU, ac yn wir i Gymru gan fod llawer iawn o’r diwydiant wedi’i leoli yma. Rwy’n hewar Lywodraeth y DU i sicrhau y bydd yn defnyddio dur o Bort Talbot a dur gan gynhyrchwyr dur eraill yma yng Nghymru. Byddaf hefyd yn pwysleisio’r angen i sicrhau cymaint â phosibl o gyfleoedd ar gyfer cadwyn gyflenwi ehangach y DU.

“Bydd cymeradwyo Hinkley hefyd yn cynyddu hyder datblygwyr allweddol fel Horizon Nuclear Power,  NuGen a’u cadwyn gyflenwi Haen 1 i fuddsoddi yn y DU ac yng Nghymru. Dyma’n sicr newyddion gwych i’n heconomi.”


Ymhen amser bydd y prosiect gwerth £18 biliwn yn Hinkley Point yn cynhyrchu digon o drydan ar gyfer hew miliwn o gartrefi ac yn creu dros 25,000 o swyddi yn y DU.  

Ychwanegodd Ysgrifennydd y  Cabinet:

“Yn dilyn yr ansicrwydd sydd wedi deillio o ganlyniad refferendwm Ewrop rydym wedi pwysleisio dro ar ôl tro fod Cymru ar agor i fusnes o hyd ac na fydd hynny’n newid. Mae’n rhaid i Gymru elwa ar y penderfyniad hwn ynghylch Hinkley.

“Mae’n hollbwysig ein bod bellach yn manteisio ar gyfleoedd i ddatblygu gallu a chapasiti ein cwmnïau gweithgynhyrchu, peirianneg a gwasanaethau er budd cadwyn gyflenwi’r sector niwclear sifil.

“Rydym eisoes mewn cysylltiad rheolaidd â thîm Cadwyn Gyflenwi C Hinkley Point er mwyn trafod cyfleoedd ar gyfer cwmnïau Cymreig. Byddwn bellach yn mynd ati i adeiladu ar hyn, gan sicrhau bod holl gadwyn gyflenwi Cymru’n elwa ar y buddsoddiad enfawr yn Hinkley.”