Daeth yr ymgynghoriad i ben 19 Ebrill 2015.
Adolygu ymatebion
Mae'r ymatebion i'r ymgynghoriad hwn wrthi’n cael eu hadolygu. Pan fydd hyn wedi’i gwblhau, byddwn yn cyhoeddi'r canlyniad.
Ymgynghoriad gwreiddiol
Mae'r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn ar ein cynigion i gryfhau'r broses o reoleiddio darparwyr addysg uwch amgen er mwyn diogelu profiadau myfyrwyr a sicrhau defnydd effeithiol o arian cyhoeddus.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Rydym yn ceisio sylwadau yn ymwneud â gorchymyn ‘darparwyr amgen’ addysg uwch. Darparwyr amgen yw sefydliadau nad ydynt yn cael eu hariannu’n gyhoeddus sy’n cyflwyno cyrsiau addysg uwch (cyfeirir atynt hefyd fel darparwyr preifat neu ddarparwyr nad ydynt yn gyhoeddus).
Rydym yn bwriadu gweithredu newidiadau yn y modd y dynodir darparwyr amgen er mwyn:
- diogelu profiadau myfyrwyr drwy gynnal archwiliadau mwy trwyadl o sefydliadau sy’n gwneud cais am ddynodiad
- darparu mwy o sicrwydd y caiff arian cyhoeddus ei wario’n effeithiol.
