Neidio i'r prif gynnwy

Cefndir

Mae'r rheoliadau cymorth i fyfyrwyr yn nodi'r gofynion rheoliadol ar gyfer dynodi cwrs israddedig neu ôl-raddedig, a ddarperir gan sefydliad neu ddarparwr arall, at ddibenion cymorth statudol i fyfyrwyr cymwys sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru.

Dyma’r rheoliadau cymorth i fyfyrwyr:

Mae dau fath o ddynodiad cwrs:

i) dynodiad awtomatig
ii) dynodiad penodol

Mae'r wybodaeth isod yn nodi'r amodau ar gyfer dynodi cwrs addysg uwch yn awtomatig. Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am ddynodiad penodol a sut i wneud cais, gweler SFWIN 08/2020 Polisi ar gyfer dynodi cwrs penodol.

Dynodir cwrs yn awtomatig (at ddibenion cymorth statudol i fyfyrwyr) dim ond os yw'r sefydliad neu'r darparwr arall yn bodloni'r gofyniad a grynhoir yn yr adran Sefydliadau a darparwyr eraill (lle bo'n berthnasol) ac yn bodloni'r amodau perthnasol a nodir yn yr adran cyrsiau dynodedig.

Gallai’r trefniadau ar gyfer dynodi cyrsiau newid yn y dyfodol o ganlyniad i Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022.

Sefydliadau a darparwyr eraill

Er mwyn gallu gwneud cais am Gymorth Myfyrwyr Statudol Llywodraeth Cymru, rhaid i'r myfyriwr fod yn mynychu Cwrs Dynodedig.

Mae angen i sefydliadau a darparwyr eraill sydd am i'w cyrsiau addysg uwch gael eu dynodi'n awtomatig, fel y gall eu myfyrwyr gael mynediad at gymorth myfyrwyr, gael cynllun ffioedd a mynediad ar waith a gymeradwyir gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (gan y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil o 1 Awst 2024). Nid yw hyn yn cynnwys cyrsiau ôl-raddedig nad ydynt yn ddarostyngedig i gynllun ffioedd a mynediad o dan Ddeddf Addysg Uwch (Cymru). Hefyd, nid yw cyrsiau rhan-amser yn ddarostyngedig i drefniadau cynllun ffioedd a mynediad ar hyn o bryd.

O dan adran 2 o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015 ("Deddf 2015"), caiff corff llywodraethu sefydliad yng Nghymru sy'n darparu addysg uwch, ac sy'n elusen, wneud cais i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru i gymeradwyo cynllun ffioedd a mynediad arfaethedig sy'n ymwneud â'r sefydliad.

Serch hynny, gall darparwyr addysg uwch nad ydynt yn ystyried eu hunain yn "sefydliad" o dan Ddeddf 2015 neu sy'n ansicr ynghylch eu statws fel "sefydliad", ddymuno i'w cyrsiau addysg uwch gael eu dynodi gan reoliadau cymorth i fyfyrwyr. Gallant wneud cais i Weinidogion Cymru am gael eu dynodi'n sefydliad at ddiben gwneud cais i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ar gyfer cymeradwyo cynllun ffioedd a mynediad. Mae rhagor o wybodaeth am y broses ymgeisio i ddarparwyr gael eu dynodi'n 'sefydliad' yn y Canllawiau i ymgeiswyr sy'n dymuno cael eu dynodi'n sefydliadau at ddibenion Deddf Addysg Uwch (Cymru) 2015.

Cyrsiau dynodedig

Cyrsiau israddedig: amodau

Mae cwrs yn gwrs dynodedig os yw’n bodloni pob un o’r amodau canlynol:

  • Mae’r cwrs yn un o’r canlynol:
    • cwrs gradd gyntaf
    • cwrs ar gyfer y Diploma Addysg Uwch 
    • cwrs Diploma Cenedlaethol Uwch (HND) neu Dystysgrif Genedlaethol Uwch (HNC) a ddyfernir naill ai gan y Cyngor Addysg Busnes a Thechnoleg (BTEC) neu Awdurdod Cymwysterau'r Alban (SQA)
    • cwrs ar gyfer y Dystysgrif Addysg Uwch
    • cwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol i athrawon
    • cwrs o hyfforddiant pellach i weithwyr ieuenctid a chymunedol
    • cwrs i baratoi at arholiad proffesiynol o safon sy’n uwch na’r canlynol:

      • arholiad safon uwch ar gyfer y Dystysgrif Addysg Gyffredinol neu arholiad lefel uwch ar gyfer Tystysgrif Addysg yr Alban
      • arholiad ar gyfer y Dystysgrif Genedlaethol neu'r Diploma Cenedlaethol a ddyfernir gan BTEC neu SQA

      cyn belled nad yw gradd gyntaf (neu gymhwyster cyfatebol) fel arfer yn ofynnol ar gyfer mynediad i’r cwrs.

    • cwrs sy’n darparu addysg (p’un a yw i baratoi at arholiad ai peidio) y mae ei safon yn uwch na safon cwrs a grybwyllir uchod ond nad yw’n uwch na safon cwrs gradd gyntaf, ac nad oes angen gradd gyntaf (neu gymhwyster cyfatebol) fel arfer i gael mynediad iddo
  • Mae'r cwrs naill ai'n gwrs llawnamser, yn gwrs rhyngosod, neu'n gwrs rhan-amser
  • Mae hyd y cwrs yn un flwyddyn academaidd o leiaf
  • Os yw'r cwrs yn un llawnamser a ddechreuodd cyn 1 Awst 2019,a chaiff ei ddarparu:
    • gan sefydliad a reoleiddir yng Nghymru, darparwr Seisnig gwarchodedig, sefydliad a gyllidir gan yr Alban neu sefydliad a gyllidir gan Ogledd Iwerddon (p’un ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd â sefydliad sydd y tu allan i'r Deyrnas Unedig)
    • gan elusen ar ran sefydliad a reoleiddir yng Nghymru
    • ar ran darparwr Seisnig gwarchodedig gan sefydliad a oedd yn sefydliad a ariennid gan arian cyhoeddus cyn 1 Awst 2019
  • Os yw'r cwrs yn un llawnamser sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2019, a chaiff ei ddarparu gan:
    • sefydliad a reoleiddir yng Nghymru, sefydliad a reoleiddir yn Lloegr, sefydliad a gyllidir gan y Alban neu sefydliad a gyllidir gan Ogledd Iwerddon (p’un ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd â sefydliad sydd y tu allan i'r Deyrnas Unedig)
    • elusen ar ran sefydliad a reoleiddir yng Nghymru (drwy drefniant is-gontractio)
    • sefydliad cofrestredig yn Lloegr ar ran darparwr cynllun yn Lloegr (drwy drefniant is-gontractio)
  • Os yw'r cwrs yn un rhan-amser a ddechreuodd cyn 1 Awst 2019, a chaiff ei ddarparu gan sefydliad a oedd yn sefydliad a ariennid yn gyhoeddus cyn 1 Awst 2019 (p’un ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd â sefydliad sydd y tu allan i’r Deyrnas Unedig)
  • Os yw'r cwrs yn un rhan-amser sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2019, a chaiff ei ddarparu gan:
    • sefydliad a gyllidir gan Gymru, sefydliad a gyllidir gan yr Alban, sefydliad a gyllidir gan Ogledd Iwerddon neu sefydliad a reoleiddir yn Lloegr (p’un ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd â sefydliad sydd y tu allan i'r Deyrnas Unedig)
    • sefydliad cofrestredig yn Lloegr ar ran darparwr cynllun yn Lloegr (drwy drefniant is-gontractio)
  • Mae o leiaf hanner yr addysgu a goruchwyliaeth sy’n ffurfio’r cwrs yn cael ei ddarparu yn y Deyrnas Unedig
  • Mae'r cwrs yn arwain at ddyfarniad a ddyfernir neu sydd i'w ddyfarnu gan gorff sy'n dod o fewn cwmpas adran 214(2)(a) neu (b) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988 oni bai bod y cwrs yn Ddiploma Cenedlaethol Uwch neu'n Dystysgrif Genedlaethol Uwch a ddyfernir gan BTEC/SQA, neu'n gwrs hyfforddiant cychwynnol i athrawon

Darperir diffiniad o sefydliadau yn Atodiad A. At ddibenion yr amodau uchod:

  • mae cwrs yn cael ei ddarparu gan sefydliad os yw’n darparu’r addysgu a’r oruchwyliaeth sy’n ffurfio’r cwrs, p’un a yw’r sefydliad wedi ymrwymo i gytundeb â’r myfyriwr i ddarparu’r cwrs ai peidio
  • bernir bod prifysgol, ac unrhyw goleg cyfansoddol mewn prifysgol, neu sefydliad cyfansoddol sydd o natur coleg mewn prifysgol, yn sefydliad addysgol cydnabyddedig os yw naill ai’r brifysgol neu’r coleg neu’r sefydliad cyfansoddol yn sefydliad addysgol cydnabyddedig
  • nid yw sefydliad yn cael ei ystyried yn sefydliad a ariennir yng Nghymru neu'n sefydliad a ariennir yn gyhoeddus dim ond oherwydd bod y sefydliad, os dechreuodd y cwrs cyn 1 Awst 2019, yn sefydliad cysylltiedig (yn ystyr adran 65(3B) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992) a dderbyniodd daliad perthnasol cyn y dyddiad hwnnw, neu bod y sefydliad, os yw’r cwrs yn dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2019 yn sefydliad cysylltiedig sy'n derbyn taliad perthnasol. Mae taliad perthnasol yn daliad o’r cyfan neu ran o unrhyw grant, benthyciad neu daliad arall gan gorff llywodraethu sefydliad a ddarperir i’r sefydliad cysylltiedig yn unol ag adran 65(3A) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992

Fodd bynnag, nid yw cwrs yn gwrs dynodedig os yw'n:

  • gwrs a ddilynir fel rhan o gynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth (a ddiffinnir mewn rheoliadau cymorth i fyfyrwyr)
  • gwrs lle mae corff llywodraethu ysgol a gynhelir wedi trefnu i’r cwrs gael ei ddarparu i un o ddisgyblion yr ysgol

Cyrsiau meistr ôl-raddedig: amodau

Mae cwrs meistr ôl-raddedig yn gwrs dynodedig os yw’n bodloni pob un o’r amodau canlynol:

  • Mae’r cwrs yn arwain at ddyfarniad a ddyfernir neu sydd i‘w ddyfarnu gan gorff sy’n dod o fewn adran 214(2)(a) neu (b) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988 ac mae'r addysgu a'r oruchwyliaeth sy'n ffurfio'r cwrs wedi'u cymeradwyo gan y corff hwnnw
  • Mae’r cwrs yn un o’r canlynol:
    • cwrs llawnamser am flwyddyn neu ddwy flynedd academaidd
    • gwrs rhan-amser y gellir ei gwblhau fel arfer mewn hyd at pedair blynedd academaidd
  • Mae’r cwrs wedi'i ddarparu gan:
    • sefydliad a gyllidir gan Gymru, sefydliad a gyllidir gan yr Alban, sefydliad a gyllidir gan Ogledd Iwerddon neu sefydliad a reoleiddir yn Lloegr (pa un ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd â sefydliad sydd o fewn neu y tu allan i’r Deyrnas Unedig)
    • sefydliad cofrestredig yn Lloegr ar ran darparwr cynllun yn Lloegr (drwy drefniant is-gontractio)
  • Mae o leiaf hanner yr addysgu a’r oruchwyliaeth sy’n ffurfio’r cwrs yn cael eu darparu yn y Deyrnas Unedig

At ddibenion yr amodau uchod:

  • mae cwrs yn cael ei ddarparu gan sefydliad os yw’n darparu’r addysgu a’r goruchwylio sy’n ffurfio’r cwrs, p’un a yw’r sefydliad wedi ymrwymo i gytundeb â’r myfyriwr i ddarparu’r cwrs ai peidio
  • ystyrir prifysgol ac unrhyw goleg neu sefydliad cyfansoddol yn natur coleg prifysgol yn sefydliad a ariennir gan Gymru, sefydliad a ariennir gan yr Alban, sefydliad a ariennir yng Ngogledd Iwerddon, sefydliad a reoleiddir yn Lloegr, sefydliad cofrestredig yn Lloegr, neu ddarparwr cynllun yn Lloegr, os yw'r brifysgol neu'r coleg neu'r sefydliad cyfansoddol yn sefydliad o'r fath
  • ni fernir bod sefydliad yn sefydliad a gyllidir gan Gymru dim ond am ei fod yn cael cyllid gan gorff llywodraethu sefydliad addysg uwch fel sefydliad cysylltiedig yn unol ag adran 65(3A) a (3B) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992

Fodd bynnag, nid yw cwrs meistr ôl-raddedig yn gwrs dynodedig os caiff ei gydnabod fel cwrs dynodedig o dan unrhyw un o'r rheoliadau cymorth myfyrwyr eraill.

Cyrsiau doethurol ôl-raddedig: amodau

Mae cwrs doethurol ôl-raddedig yn gwrs dynodedig os yw’n bodloni pob un o’r amodau canlynol:

  • Nid yw hyd y cyfnod cofrestru arferol ar gyfer y cwrs yn llai na thair blynedd academaidd nac yn fwy nag wyth mlynedd academaidd
  • Os dechreuodd y cwrs cyn 1 Awst 2019, mae’n cael ei ddarparu gan sefydliad a oedd cyn 1 Awst 2019 yn sefydliad a gyllidir yn gyhoeddus (p’un ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd â sefydliad arall o’r fath a gyllidir yn gyhoeddus neu sefydliad sydd y tu allan i’r Deyrnas Unedig)
  • Os yw'r cwrs yn dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2019, mae’n cael ei ddarparu gan:
    • sefydliad a gyllidir gan Gymru, sefydliad a gyllidir gan yr Alban, sefydliad a gyllidir gan Ogledd Iwerddon neu sefydliad a reoleiddir yn Lloegr (p’un ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd â sefydliad sydd o fewn neu y tu allan i’r Deyrnas Unedig)
    • sefydliad cofrestredig yn Lloegr ar ran darparwr cynllun yn Lloegr
  • Mae'r cwrs yn cael ei ddarparu i raddau helaeth yn y Deyrnas Unedig
  • Mae'r cwrs yn arwain at radd ddoethuriaeth a ddyfernir neu sydd i'w ddyfarnu gan gorff sy'n dod o fewn cwmpas adran 214(2)(a) neu (b) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988, ac mae'r addysgu a'r oruchwyliaeth wedi'u cymeradwyo gan y corff hwnnw

At ddibenion yr amodau uchod:

  • mae cwrs yn cael ei ddarparu gan sefydliad os yw’n darparu’r addysgu a’r oruchwyliaeth sy’n ffurfio’r cwrs, p’un a yw’r sefydliad wedi ymrwymo i gytundeb â’r myfyriwr i ddarparu’r cwrs ai peidio
  • mae cwrs yn cael ei ddarparu i raddau helaeth yn y Deyrnas Unedig pan fo o leiaf hanner yr addysgu a’r oruchwyliaeth sy’n ffurfio’r cwrs yn cael eu darparu yn y Deyrnas Unedig
  • bernir bod prifysgol ac unrhyw goleg neu sefydliad cyfansoddol sydd o natur coleg prifysgol yn cael eu cyllido’n gyhoeddus os yw naill ai’r brifysgol neu’r coleg neu’r sefydliad cyfansoddol yn cael ei chyllido neu ei gyllido’n gyhoeddus
  • nad yw sefydliad yn cael ei ystyried yn sefydliad a ariennir yn gyhoeddus neu'n sefydliad a ariennir yng Nghymru dim ond oherwydd bod y sefydliad, os dechreuodd y cwrs cyn 1 Awst 2019, yn sefydliad cysylltiedig a dderbyniodd daliad perthnasol cyn y dyddiad hwnnw, neu bod y sefydliad os yw’r cwrs yn dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2019, yn sefydliad cysylltiedig sy'n derbyn taliad perthnasol
  • ni fernir bod cwrs yn cael ei ddarparu ar ran sefydliad addysgol a gyllidir yn gyhoeddus pan fo rhan o’r cwrs yn cael ei darparu gan sefydliad preifat

Fodd bynnag, nid yw cwrs doethuriaeth ôl-raddedig yn gwrs dynodedig os caiff ei gydnabod fel cwrs dynodedig o dan unrhyw un o'r rheoliadau cymorth myfyrwyr eraill.

System Rheoli Cyrsiau

Mae sefydliadau neu ddarparwyr eraill sydd am i fyfyrwyr ar eu cyrsiau addysg uwch allu gwneud cais am gymorth statudol i fyfyrwyr yn gyfrifol am sicrhau bod cyrsiau perthnasol yn cael eu dynodi yn unol â'r rheoliadau cymorth i fyfyrwyr cyn eu lanlwytho i System Rheoli Cyrsiau y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr.

Mae'r System Rheoli Cyrsiau yn gyfeiriadur diogel o ddarparwyr addysg uwch a'r cyrsiau israddedig ac ôl-raddedig llawnamser a rhan-amser y mae pob un ohonynt yn eu darparu. Mae'r System yn rhan annatod o broses ymgeisio Cyllid Myfyrwyr Cymru, ac mae'n caniatáu i fyfyrwyr ddewis eu cwrs dewisol o'r rhestr o gyrsiau sydd wedi'u lanlwytho at ddibenion asesu eu cymhwystra i gael cymorth statudol i fyfyrwyr.

Nodyn pwysig

Os nad yw'r cyrsiau'n bodloni'r meini prawf dynodi ond eu bod wedi'u lanlwytho i'r System Rheoli Cyrsiau, bydd hyn yn arwain at dynnu'r holl hawliau cyllid myfyrwyr yn ôl ar gyfer y myfyrwyr hynny sydd wedi cysylltu eu cais am gyllid myfyriwr â chyrsiau o'r fath. Bydd hyn yn rhoi myfyrwyr mewn sefyllfa ariannol anodd, efallai y gofynnir iddynt ad-dalu unrhyw arian a dalwyd iddynt ac fe allent, o ganlyniad, dynnu'n ôl o'r cwrs.

Ceir rhagor o wybodaeth am y System Rheoli Cyrsiau a sut i lanlwytho cwrs dynodedig ar wefan Gwasanaethau i Ddarparwyr Addysg Uwch (HEP) y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr.

Atodiad A

Diffiniadau o sefydliadau

Sefydliad a gyllidir gan Gymru

Sefydliad a gynhelir neu a gynorthwyir gan grantiau rheolaidd o gyllid a ddarperir gan Weinidogion Cymru.

Sefydliad a reoleiddir yng Nghymru

Sefydliad sydd â chynllun ffioedd a mynediad a gymeradwywyd gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru o dan adran 7 Deddf Addysg Uwch (Cymru) 2015 tra mae'r cynllun hwnnw yn parhau mewn grym.

Darparwr Saesnig gwarchodedig

Sefydliad a gynhaliwyd neu a gynorthwywyd gan grantiau rheolaidd yn unol ag adran 65 Deddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 ar neu ar ôl 1 Awst 2018, ond cyn 1 Awst 2019, ac nad yw'n sefydliad a gynhaliwyd neu a gynorthwywyd gan grantiau rheolaidd gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.

Sefydliad cofrestredig yn Lloegr

Sefydliad a gofrestrwyd gan y Swyddfa Fyfyrwyr.

Sefydliad a reoleiddir yn Lloegr

Sefydliad cofrestredig yn Lloegr sy'n ddarostyngedig i derfyn ffioedd o dan adran 10 Deddf Addysg Uwch ac Ymchwil 2017.

Darparwr cynllun yn Lloegr

Sefydliad cofrestredig yn Lloegr sydd â chynllun mynediad a chyfranogiad a gymeradwywyd gan y Swyddfa Fyfyrwyr o dan adran 29 Deddf Addysg Uwch ac Ymchwil 2017 ac sy'n parhau mewn grym.

Sefydliad a gyllidir gan yr Alban

Sefydliad a gynhelir neu a gynorthwyir gan grantiau rheolaidd o gyllid a ddarperir gan Weinidogion yr Alban.

Sefydliad a gyllidir gan Ogledd Iwerddon

Sefydliad a gynhelir neu a gynorthwyir gan grantiau rheolaidd o gyllid a ddarperir gan Weithrediaeth Gogledd Iwerddon.