Neidio i'r prif gynnwy

Y broses benderfynu, y gofynion o ran tystiolaeth a’r amserlen ar gyfer dynodi a dad-ddynodi dŵr ymdrochi

Bydd Llywodraeth Cymru yn croesawu argymhellion ynghylch dynodi a dad-ddynodi gan unrhyw un, unrhyw dro. Rydym yn awgrymu eich bod yn cysylltu â’ch awdurdod lleol a pherchennog y tir cyn gynted â phosibl ac ymhell cyn cyflwyno ffurflen gais i Lywodraeth Cymru. Yn aml, bydd ganddynt wybodaeth ddefnyddiol ynghylch y dŵr ymdrochi ac maent hefyd yn gyfrifol am fodloni’r gofynion amrywiol yn unol â Rheoliadau Dyfroedd Ymdrochi 2013.

Er mwyn sicrhau y gallwn ystyried y ceisiadau a geir yn llawn, yn ogystal â chwblhau’r prosesau angenrheidiol, gofynnwn i chi hefyd gysylltu â Changen Dŵr Llywodraeth Cymru pan fyddwch yn ystyried gwneud cais ar gyfer dynodiadau a dad-ddynodiadau. Dyma’r cyfeiriad e-bost: dwr@llyw.cymru.

Wrth wneud cais am ddynodi neu ddad-ddynodi dŵr ymdrochi, mae’n bwysig cynnwys cymaint o dystiolaeth a gwybodaeth ag sy’n bosibl am nifer yr ymdrochwyr, a lle bo modd, tystiolaeth a gwybodaeth am gyfleusterau yn yr ardal ynghyd â barn y gymuned leol.

Nifer yr ymdrochwyr yw’r prif faen prawf y bydd Llywodraeth Cymru yn ei ddefnyddio wrth ystyried a yw’n briodol dynodi neu ddad-ddynodi dŵr ymdrochi. 

Dynodi

Rydym yn chwilio am dystiolaeth o nifer mawr o ymdrochwyr ar safleoedd yn ystod y cyfnod rhwng 15 Mai a 30 Medi.

Diffinnir ‘nifer mawr’ yn nifer y mae’r awdurdod cymwys (Llywodraeth Cymru yn yr achos hwn) yn ei ystyried yn fawr o ran tueddiadau’r gorffennol, seilwaith neu’r cyfleusterau a ddarperir, neu ddulliau eraill a ddefnyddir er mwyn hybu ymdrochi. Mae’r ffurflen gais yn cynnwys rhagor o wybodaeth am y math o dystiolaeth y dylid ei darparu.

Dad-ddynodi

Rydym yn chwilio am dystiolaeth o ddiffyg defnydd neu ddefnydd isel gan ymdrochwyr yn ystod y cyfnod rhwng 15 Mai a 30 Medi. Mae’r ffurflen gais yn cynnwys rhagor o wybodaeth am y math o dystiolaeth y dylid ei darparu.  
 
Ni fydd ceisiadau am ddad-ddynodi ar sail ansawdd dŵr yn cael eu cymeradwyo.
 

Y broses a’r amserlen

Bydd pob cais a thystiolaeth a anfonir at Lywodraeth Cymru yn cael eu cydnabod gan lythyr neu e-bost.

Bydd tystiolaeth yn cael ei hasesu gan Lywodraeth Cymru ac os bydd yn bodloni gofynion Rheoliadau Dyfroedd Ymdrochi 2013, bydd yn cael ei rhoi ar wefan Llywodraeth Cymru er mwyn cynnal ymgynghoriad.

Os na fydd y dystiolaeth a roddwyd yn bodloni’r gofynion, bydd yn cael ei dychwelyd a bydd y cais yn cael ei atal dros dro. Byddwn yn ysgrifennu at yr ymgeisydd i esbonio pa wybodaeth bellach sydd ei hangen.
 
Bydd Llywodraeth Cymru yn ysgrifennu’n ffurfiol at Cyfoeth Naturiol Cymru a’r cwmni dŵr priodol i gael gwybodaeth am y cais dŵr ymdrochi penodol.
 
Bydd penderfyniad terfynol Llywodraeth Cymru yn cael ei gyhoeddi cyn pen 6 wythnos ar ôl i’r ymgynghoriad ddod i ben. 

Ar unrhyw adeg yn ystod y broses, gall Llywodraeth Cymru ofyn i’r ymgeisydd ddarparu rhagor o wybodaeth. Yn y sefyllfa hon ac ar ôl cael y dystiolaeth, efallai y bydd angen ailddechrau’r ymgynghoriad cyhoeddus.

Rolau a chyfrifoldebau

Y prif faen prawf ar gyfer dynodi a dad-ddynodi yw nifer yr ymdrochwyr. Nid ydym wedi pennu ffigur o ran nifer yr ymdrochwyr gan fod pob safle dŵr ymdrochi’n wahanol ac efallai na fyddai un ffigur yn addas ar gyfer pob safle. Rydym yn chwilio am dystiolaeth ynghylch nifer y nofwyr a phobl sy’n padlo ar lan y dŵr. Ystyriwn fod unrhyw un sy’n nofio neu’n padlo yn y dŵr yn ymdrochwr.

Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am ddynodi a dad-ddynodi dŵr ymdrochi yng Nghymru. Bydd yn seilio penderfyniadau ar y dystiolaeth a roddwyd yn unol â’r meini prawf a bennwyd ar gyfer dynodi a dad-ddynodi fel y’u nodir yn Rheoliadau Dyfroedd Ymdrochi 2013.

Bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod enwau unrhyw sefydliadau, neu unigolion sy’n cynrychioli sefydliad neu grŵp sy’n argymell dynodi neu ddad-ddynodi yn hysbys yn ystod y broses ymgeisio. Byddwn yn diogelu gwybodaeth bersonol aelodau’r cyhoedd sy’n argymell a ddylid dynodi neu ddad-ddynodi.
 

Rhoi gwybod ynghylch penderfyniadau

Bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi gwybod i’r ymgeisydd, i’r awdurdod lleol perthnasol ac i’r Cwmni Dŵr priodol am y penderfyniad a wnaed o ran dynodi neu ddad-ddynodi.
Bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi gwybod i Cyfoeth Naturiol Cymru a fydd yn datblygu proffil dŵr ymdrochi ar gyfer y safle yn ogystal â rhoi cynlluniau ar waith o ran monitro a diogelu’r dŵr ymdrochi dynodedig.
 
Bydd crynodeb o’r penderfyniad yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru.