Dynodi Dŵr Ymdrochi 2026: Pont Droi Llandeilo
Ymgynghoriad dilynol ynghylch dynodi'r Bont Droi yn Llandeilo yn Ddŵr Ymdrochi.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Rhif: WG53958
Llywodraeth Cymru
Dogfen Ymgynghori
Lansiwyd yr ymgynghoriad ar: 2 Chwefror 2026
Ymgynghoriad yn cau: 23 Chwefror 2026
Trosolwg
Rhaid i Weinidogion Cymru nodi dyfroedd ymdrochi poblogaidd yng Nghymru, monitro ansawdd eu dŵr a darparu gwybodaeth ar gyfer ymdrochwyr. Mae’r tymor ymdrochi’n para o 15 Mai tan 30 Medi.
Bob blwyddyn, mae'n ofynnol i Weinidogion Cymru adolygu a chyhoeddi'r rhestr o ddyfroedd ymdrochi dynodedig. Yn 2025, cynhaliwyd ymgynghoriad chwe wythnos ynghylch dynodi'r Bont Droi yn Llandeilo yn ddŵr ymdrochi. Roedd ymatebion i'r ymgynghoriad a barn rhanddeiliaid yn codi pryderon ynghylch a yw'r cais yn adlewyrchu niferoedd ymdrochwyr yn gywir – maen prawf allweddol o dan y Rheoliadau.
Yn seiliedig ar dystiolaeth yr ymgeisydd ac adborth yn yr ymgynghoriad, nid oedd yn bosibl dod i'r casgliad bod y prawf rheoleiddiol, sef bod nifer fawr o ymdrochwyr, wedi cael ei fodloni. Felly, rhoddwyd y cais o dan adolygiad er mwyn caniatáu i dystiolaeth ychwanegol gael ei chyflwyno.
Dim ond ynghylch yr wybodaeth wedi’i diweddaru a gyflwynwyd am niferoedd ymdrochwyr ar gyfer y cynnig i ddynodi'r Bont Droi yn Llandeilo yn ddŵr ymdrochi ar gyfer tymor 2026, o dan Reoliadau Dyfroedd Ymdrochi 2013, y mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio gwybodaeth.
Sut i ymateb
Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 23 Chwefror 2026.
Ymatebwch i'r ymgynghoriad hwn drwy lenwi'r holiadur neu ateb y cwestiynau yn y ffurflen ymateb. Gellir cyflwyno ffurflenni ymateb drwy:
E-bost:water@gov.wales
Neu Drwy'r post:
Y Gangen Dŵr (Ymgynghoriad Dŵr Ymdrochi)
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Mae'r ymgynghoriad a'r holiadur ar gael ar wefan Llywodraeth cymru
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr ymgynghoriad hwn, anfonwch e-bost at water@gov.wales
Rhagor o wybodaeth a dogfennau cysylltiedig
Mae fersiynau print bras a Braille o'r ddogfen hon ar gael ar gais ynghyd â chopïau mewn ieithoedd eraill.
Mae’r ddogfen hon hefyd ar gael yn Saesneg / This document is also available in English : to be updated when live
Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU)
Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a roddir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddan nhw'n dibynnu arnyn nhw i brosesu’r data personol hwn, a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut maen nhw'n arfer eu swyddogaethau cyhoeddus. Bydd unrhyw ymateb a anfonwch aton ni yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw, neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Pan fydd Llywodraeth Cymru yn gwneud rhagor o waith dadansoddi ar ymatebion i ymgyngoriadau, mae'n bosibl y bydd trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) yn cael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwnnw. Dim ond o dan gontract yr ymgymerir â gwaith o'r fath. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o’r fath yn cynnwys gofynion llym ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel.
Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi cael ei gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, cyhoeddir enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu'r sefydliad a anfonodd yr ymateb gyda'r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i’ch enw a’ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio eich manylion cyn cyhoeddi eich ymateb.
Dylech fod yn ymwybodol hefyd o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth.
Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, yna caiff yr adroddiadau hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd unrhyw ddata arall sydd gan Lywodraeth Cymru amdanoch yn cael ei gadw am fwy na thair blynedd.
Eich hawliau
O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawliau canlynol:
- i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'i weld
- i ofyn inni gywiro unrhyw ddata anghywir
- i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data (o dan rai amgylchiadau)
- i’ch data gael ei ‘ddileu’ (o dan rai amgylchiadau)
- cludadwyedd y data (o dan rai amgylchiadau)
- cyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.
I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw a’r ffordd y mae’n cael ei defnyddio, neu os hoffech arfer eich hawliau o dan GDPR y DU, gweler y manylion cyswllt isod:
Swyddog Diogelu Data:
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ
E-bost: Swyddogdiogeludata@llyw.cymru
Dyma fanylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth:
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire SK9 5AF
Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113
Gwefan: https://cy.ico.org.uk/
Cyflwyniad
Diben yr Ymgynghoriad
Rhaid i Weinidogion Cymru nodi dyfroedd ymdrochi poblogaidd yng Nghymru, monitro ansawdd eu dŵr a darparu gwybodaeth ar gyfer ymdrochwyr. Mae’r tymor ymdrochi’n para o 15 Mai tan 30 Medi.
Bob blwyddyn, mae'n ofynnol i Weinidogion Cymru adolygu a chyhoeddi'r rhestr o ddyfroedd ymdrochi dynodedig. Yn 2025, cynhaliwyd ymgynghoriad chwe wythnos ynghylch dynodi'r Bont Droi yn Llandeilo yn ddŵr ymdrochi. Roedd ymatebion i'r ymgynghoriad a barn rhanddeiliaid yn codi pryderon ynghylch a yw'r cais yn adlewyrchu niferoedd ymdrochwyr yn gywir – maen prawf allweddol o dan y Rheoliadau.
Yn seiliedig ar dystiolaeth yr ymgeisydd ac adborth yn yr ymgynghoriad, nid oedd yn bosibl dod i'r casgliad bod y prawf rheoleiddiol, sef bod nifer fawr o ymdrochwyr, wedi cael ei fodloni. Felly, rhoddwyd y cais o dan adolygiad er mwyn caniatáu i dystiolaeth ychwanegol gael ei chyflwyno.
Dim ond ynghylch yr wybodaeth wedi’i diweddaru a gyflwynwyd am niferoedd ymdrochwyr ar gyfer y cynnig i ddynodi'r Bont Droi yn Llandeilo yn ddŵr ymdrochi ar gyfer tymor 2026, o dan Reoliadau Dyfroedd Ymdrochi 2013, y mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio gwybodaeth.
Y sefyllfa bresennol
Mae Cyfarwyddeb Dŵr Ymdrochi 2006/7/EC, sy'n rhoi rhwymedigaeth ar waith i nodi dyfroedd ymdrochi yn y DU, yn rhan o gyfraith yr UE a dargedwir yng Nghymru. Mae Rheoliadau Dyfroedd Ymdrochi 2013 yn nodi'r gofynion statudol sy'n gysylltiedig â rheoli dyfroedd ymdrochi yng Nghymru.
Mae'r Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru nodi ardaloedd ymdrochi poblogaidd yng Nghymru bob blwyddyn. Amcan y Rheoliadau yw diogelu iechyd ymdrochwyr a hysbysu ymdrochwyr am beryglon iechyd posibl sy'n gysylltiedig ag ansawdd dŵr gwael.
Ar hyn o bryd mae 112 o ddyfroedd ymdrochi dynodedig yng Nghymru. Ar ôl i ddŵr ymdrochi gael ei ddynodi, mae ansawdd y dŵr yn cael ei brofi gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i gefnogi'r tymor ymdrochi, sy'n para o 15 Mai i 30 Medi. Mae dyfroedd ymdrochi dynodedig yn cael eu categoreiddio yn rhagorol, yn dda, yn ddigonol neu'n wael yn dibynnu ar ganlyniadau samplu ansawdd dŵr. Mae'r categorïau ansawdd dŵr ymdrochi yn seiliedig ar ddau baramedr microbiolegol: enterococci'r coluddyn ac E.coli.
Cyhoeddir canlyniadau dyfroedd ymdrochi dynodedig unigol yng Nghymru ar wefan Llywodraeth Cymru.
Mae dyfroedd ymdrochi yn werthfawr am y cyfleoedd hamdden y maen nhw'n eu darparu i bobl Cymru, i'r economi leol ac i dwristiaeth. Mae Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i ddechrau dynodi dyfroedd mewndirol Cymru ar gyfer hamdden, gan atgyfnerthu monitro ansawdd dŵr er mwyn galluogi dyfroedd mewndirol i gyrraedd yr un safonau uchel wedi'u cyflawni gan draethau Cymru.
Ffurflen Ymateb i’r Ymgynghoriad
Eich enw:
Sefydliad (os yw’n berthnasol):
Cyfeiriad e-bost / rhif ffôn:
Eich cyfeiriad:
Mae'n bosibl y caiff yr ymatebion i'r ymgynghoriad eu cyhoeddi. Bydd eich ymateb yn ddienw.
Fodd bynnag, os hoffech i'ch enw gael ei gyhoeddi ochr yn ochr â'ch ymateb, rhowch x yn y blwch.
☐ Rwy'n cytuno y gellir cyhoeddi fy enw ochr yn ochr â'm hymateb i'r ymgynghoriad hwn.
Cais i ddynodi Pont Droi Llandeilo yn ddŵr ymdrochi
Derbyniwyd cais gan aelod o'r cyhoedd, ar ran Ymdrochwyr Afon Tywi, i Bont Droi Llandeilo (Cyfeirnod Grid Cenedlaethol SN634225) gael ei hystyried i'w dynodi'n ddŵr ymdrochi ar gyfer y tymor ymdrochi nesaf.
Cynhaliwyd ymgynghoriad chwe wythnos llawn ynghylch y cynnig hwn yn gynnar yn 2025. Dim ond ynghylch y dystiolaeth wedi’i diweddaru a gyflwynwyd am niferoedd ymdrochwyr ar gyfer y cynnig i ddynodi'r Bont Droi yn Llandeilo yn ddŵr ymdrochi ar gyfer tymor 2026, o dan Reoliadau Dyfroedd Ymdrochi 2013, y mae’r ymgynghoriad dilynol hwn yn ceisio gwybodaeth.
Tystiolaeth wedi’i diweddaru a gyflwynwyd i gefnogi'r cais am ddynodiad
Niferoedd ymdrochwyr
Cynhaliodd yr ymgeisydd arolwg defnyddwyr yn ystod tymor ymdrochi 2024 ac arolwg arall yn ystod tymor 2025. Yn unol â'r canllawiau cyhoeddedig, cafodd y ddau arolwg eu hategu gan dystiolaeth ffotograffig i ddangos gweithgareddau ymdrochi a niferoedd ymdrochwyr.
Yn 2024, cofnododd yr arolwg 720 o nofwyr dros 20 diwrnod. Codwyd pryderon yn ystod yr ymgynghoriad cyhoeddus ynghylch cywirdeb y data hwn, ac felly gofynnwyd i'r ymgeisydd ailadrodd yr arolwg yn 2025, gyda rhanddeiliaid hefyd yn cael eu gwahodd i ddarparu unrhyw dystiolaeth a oedd yn herio faint mae'r safle'n cael ei ddefnyddio.
Yn 2025, cofnododd arolwg newydd yr ymgeisydd 753 o ymdrochwyr dros 20 diwrnod, gyda dros 50 o ymdrochwyr wedi'u cofnodi ar ddeg diwrnod, gan ddangos bod y lefelau defnyddio'n fras ar yr un lefelau â'r flwyddyn flaenorol. Cyflwynwyd ffotograffau i ategu canfyddiadau'r arolwg. Mae'r dystiolaeth a gyflwynwyd yn dangos bod y safle'n cael ei ddefnyddio'n gyson a bod y meini prawf cymhwysedd lleiaf ar gyfer dynodi wedi cael eu bodloni.
Tystiolaeth bellach wedi’i chyflwyno
Cyfleusterau – Roedd y cais yn cyflwyno gwybodaeth am gyfleusterau gerllaw y safle, gan gynnwys, toiledau cyhoeddus, parcio cyfagos a chaffis.
Tystiolaeth o gefnogaeth – Cyflwynwyd tystiolaeth o ymgynghori lleol a chefnogaeth i'r dynodi arfaethedig gan unigolion a grwpiau lleol. Cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus lleol ar 23 Awst 2023 a fynychwyd gan fwy na 100 o bobl, ac roedd y cyfarfod yn cefnogi'r cais.
Cwestiwn 1
A ydych yn credu bod y data ynghylch niferoedd ymdrochwyr a gyflwynwyd yn rhoi darlun cywir o sut mae'r safle yn cael ei ddefnyddio?
☐ Cytuno
☐ Anghytuno
Cwestiwn 2
Yn seiliedig ar eich ateb i Gwestiwn 1, esboniwch pam rydych yn cytuno neu'n anghytuno â'r data a gyflwynwyd ynghylch niferoedd ymdrochwyr . Os oes gennych unrhyw dystiolaeth ategol, dylech ei chyflwyno.
Cwestiwn 3
A ydych yn cytuno bod y dystiolaeth a gyflwynwyd yn yr ymgynghoriad sy'n ymwneud â chyfleusterau a chefnogaeth yn y gymuned yn gywir ac yn darparu sail ddigonol i ddynodi'r safle hwn yn ddŵr ymdrochi ar gyfer tymor 2026? Os ydych yn anghytuno, eglurwch pam.
Cwestiwn 4
Pa dystiolaeth a mesurau rydych wedi'u gweld sy'n nodi ac yn hyrwyddo ymdrochi ar y safle? (e.e. nifer yr ymdrochwyr, arwyddion, gwefan, cyfryngau cymdeithasol ac ati). Os ydych yn anghytuno â'r dystiolaeth a gyflwynwyd yn yr ymgynghoriad, esboniwch pam a chynnwys unrhyw dystiolaeth ategol.
Cwestiwn 5
Beth yw eich barn chi ar y cynnig, a beth yw'r rhesymeg y tu ôl i'ch barn?
Cwestiwn 6
Rydyn ni wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os hoffech godi unrhyw faterion cysylltiedig nad ydyn ni wedi rhoi sylw penodol iddyn nhw, defnyddiwch y lle hwn i'w nodi.
Y Gymraeg
Cwestiwn 7
Hoffen ni wybod eich barn ynghylch effeithiau posibl y cynigion ar y Gymraeg, yn enwedig ynglŷn â chyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg a sicrhau nad yw'r iaith yn cael ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg.
Pa effeithiau rydych yn eu rhagweld a sut y gellid addasu'r cynigion hyn i wella effeithiau cadarnhaol neu liniaru unrhyw effeithiau negyddol ar y Gymraeg?
Y camau nesaf yn dilyn yr ymgynghoriad
Bydd yr holl ymatebion i'r ymgynghoriad hwn yn cael eu dadansoddi a'u hystyried a bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion.
