Dynodi dyfroedd ymdrochi: canllawiau i berchenogion tir preifat
Canllawiau ar gyfrifoldebau rheoleiddiol perchnogion tir preifat mewn perthynas â dyfroedd ymdrochi.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Y Rhaglen Dŵr Ymdrochi yng Nghymru
Nod y Rhaglen Dyfroedd Ymdrochi yw diogelu iechyd ymdrochwyr rhag llygredd bacteria a rhoi gwybodaeth i’r cyhoedd er mwyn iddyn nhw allu gwneud penderfyniadau sy'n seiliedig ar wybodaeth ynghylch ble a phryd i ymdrochi.
Bob blwyddyn, mae Llywodraeth Cymru yn derbyn ceisiadau i ddynodi mannau ymdrochi poblogaidd ledled Cymru fel dyfroedd ymdrochi o dan Reoliadau Dŵr Ymdrochi 2013 fel y’u diwygiwyd gan Reoliadau Dŵr Ymdrochi 2025 (y Rheoliadau). Mae unigolion, grwpiau, busnesau, awdurdodau lleol, neu drydydd partïon eraill yn cael cyflwyno cais. Mae’r Rheoliadau wedi pennu amodau ar gyfer dynodi dyfroedd ymdrochi, a rhaid eu bodloni er mwyn i gais gael ei ystyried. Mae’r amodau hyn yn sicrhau bod iechyd y cyhoedd a mesurau i warchod yr amgylchedd yn cael eu hystyried yn gytbwys.
Y prif amodau ar gyfer dynodi yw:
- Bod disgwyl y bydd nifer 'fawr' o ymdrochwyr. Mae diffiniad Llywodraeth Cymru o 'nifer fawr o ymdrochwyr' wedi'i nodi yn Canllawiau Dynodi Dyfroedd Ymdrochi. Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried bod ‘nifer fawr’ yn golygu o leiaf 100 o ymdrochwyr y dydd ar safleoedd ar yr arfordir a 50 ar safleoedd mewndirol (llynnoedd, pyllau dŵr, afonydd a chronfeydd). Rhaid i’r ymgeisydd gofnodi nifer yr ymdrochwyr ar o leiaf 20 diwrnod dros dymor ymdrochi Cymru. Yn y cyfnod hwn, rhaid bod o leiaf 100 o ymdrochwyr wedi’u cofnodi ar o leiaf 5 niwrnod ar safleoedd arfordirol, ac o leiaf 50 o ymdrochwyr wedi’u cofnodi ar o leiaf 5 niwrnod ar safleoedd mewndirol, yn ystod cyfnod prysur o 4 awr.
- Bydd dynodiadau’n ystyried a fydd nifer fawr o ymdrochwyr yn debygol o gael effaith andwyol arwyddocaol ar effeithiolrwydd unrhyw fesurau i warchod yr amgylchedd sydd yn eu lle mewn dŵr wyneb neu wrth ei ymyl.
- Dylid ystyried a yw’r safle yn peri risg arwyddocaol i ddiogelwch corfforol ymdrochwyr, yn enwedig y risgiau sy’n fwy na’r rheini sydd fel arfer yn gysylltiedig â nofio mewn dŵr agored. Mae’n bosib bod y risgiau’n cael eu hachosi gan nodweddion penodol ar y safle.
- Yn olaf, os bydd ansawdd dŵr y safle’n debygol o gael ei gategoreiddio fel gwael ac nad yw ei wella at safon ddigonol naill ai’n ymarferol neu’n costio’n anghymarus o uchel, gallai hynny effeithio ar addasrwydd y safle ar gyfer ei ddynodi.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn monitro ansawdd y dŵr mewn dyfroedd ymdrochi dynodedig yng Nghymru ar hyd y tymor ymdrochi. Bob blwyddyn ar ddiwedd y tymor ymdrochi, rhoddir dosbarth - 'rhagorol', 'da', 'digonol', neu 'wael' - i bob dŵr ymdrochi ar sail ansawdd ei ddŵr.
Mae'r ddogfen hon yn rhoi canllaw i berchenogion preifat safleoedd sy'n cael eu cynnig fel dyfroedd ymdrochi, neu sydd wedi'u dynodi fel dyfroedd ymdrochi. Pwysig - Rheoliadau Dŵr Ymdrochi 2013 fel y’u diwygiwyd gan Reoliadau Dŵr Ymdrochi 2025, mae "gweithredwr preifat" yn golygu person, ac eithrio awdurdod lleol, sy'n rheoli tir perthnasol y dŵr ymdrochi.
Cais i ddynodi dŵr ymdrochi a dynodiadau
Cais i ddynodi dŵr ymdrochi
Caiff unrhyw un wneud cais i ddynodi dŵr ymdrochi. Rydym yn annog perchenogion tir i gydweithio ag ymgeiswyr wrth iddynt baratoi cais. Os ydych yn cefnogi’r cais, ac yn credu bod y safle’n cael ei ddefnyddio gan nifer fawr o ymdrochwyr a’i fod yn yn bodloni’r amodau perthnasol, gallai’r ymgeisydd ofyn ichi am lythyr o gefnogaeth.
Mae Llywodraeth Cymru yn gofyn hefyd i ymgeiswyr ofyn barn perchennog y tir a oes nodweddion ar y safle’n debygol o beri risg arwyddocaol i ddiogelwch corfforol ymdrochwyr sy’n fwy na’r peryglon arferol sy’n gysylltiedig â nofio mewn dŵr agored ac a oes digwyddiadau wedi’u cofnodi gydag ymdrochwyr neu asesiadau risg wedi’u cynnal sy’n cyfeirio at ymdrochi. Os oes gwybodaeth o’r fath, dylid ei rhannu â’r ymgeisydd.
Wrth benderfynu ar gais i ddynodi safle’n ddŵr ymdrochi, bydd Llywodraeth Cymru’n gofyn i chi a ydych yn gwybod am y bwriad i wneud cais am ei ddynodi ac i chi fynegi’ch barn a yw’r wybodaeth yn y cais yn gywir, a lle gellwch, i ddarparu gwybodaeth ategol sydd gennych ynghylch a yw’r safle’n bodloni amodau dynodiad.
Mae gwarchod yr amgylchedd yn ystyriaeth ar gyfer dynodi. Ond os yw’ch safle mewn ardal warchodedig fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) neu Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA), bydd gennych ddyletswyddau eisoes fel perchennog y tir. Ni fyddant yn newid yn sgil ei ddynodi fel dŵr ymdrochi. Fe welwch ragor o wybodaeth isod.
Hysbysiad o'r posibilrwydd y caiff y dŵr ymdrochi ei ddynodi
Bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi gwybod yn ysgrifenedig i berchennog y tir pan fydd cais wedi dod i law i ddynodi dŵr ymdrochi ar safle ar ei dir.
Bydd Llywodraeth Cymru’n asesu pob cais. Os gwelir bod achos o blaid ei ddynodi ar sail yr wybodaeth gychwynnol a ddarperir, bydd Llywodraeth Cymru’n cynnal ymgynghoriad cyhoeddus a chaiff ei ganlyniadau ei ystyried gyda’r holl dystiolaeth arall. Bydd perchennog y tir yn cael ymateb i’r ymgynghoriad hwn.
Yn dilyn yr ymgynghoriad, bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi gwybod yn ysgrifenedig i berchennog y tir beth oedd y penderfyniad ynghylch dynodi’r safle’n ddŵr ymdrochi. Cyhoeddir y penderfyniad hwn ar wefan Llywodraeth Cymru hefyd.
Disgwyliadau perchennog y tir ar ôl dynodi'r dŵr ymdrochi
O dan Reoliadau CNC, rhoddir nifer o ddyletswyddau statudol ar ymgymerwyr carthffosiaeth, a'r Awdurdod Lleol perthnasol, y mae'n rhaid iddynt eu hysgwyddo mewn dyfroedd ymdrochi dynodedig. Os bydd safle sy'n eiddo preifat yn cael ei ddynodi’n ddŵr ymdrochi, mae'n bwysig bod perchennog y tir yn cydweithio â'r partïon hyn i sicrhau eu bod yn gallu gwneud eu dyletswyddau.
O dan y rheoliadau, yr Awdurdod Lleol sy'n gyfrifol am reoli dŵr ymdrochi os yw'r tir lle ceir y dŵr ymdrochi hwnnw yn ei ardal. Mae'n gyfrifol am sicrhau bod gwybodaeth am y dŵr ymdrochi ar gael i'r cyhoedd yn ystod y tymor ymdrochi. Rhaid i'r wybodaeth hon gael ei dangos ar arwydd wedi'i osod mewn lle amlwg a hawdd ei gyrraedd ger y dŵr ymdrochi.
Mae cyfrifoldebau statudol Awdurdodau Lleol mewn dyfroedd ymdrochi dynodedig wedi'u nodi yn y Canllawiau i Awdurdodau Lleol ar wefan Llywodraeth Cymru.
Mae'n ofyn cyfreithiol ar berchennog y tir i ganiatáu i gynrychiolwyr awdurdodedig CNC a'r awdurdod lleol fynd i'r dŵr ymdrochi er mwyn gwneud eu dyletswyddau statudol hy. gosod arwyddion, monitro ansawdd y dŵr a gwaith ymchwilio pellach pan fydd angen. Mae'n hanfodol cael mynd at y dŵr ymdrochi er mwyn cynnal profion a chodi samplau’n rheolaidd i asesu a yw'n cydymffurfio â'r safonau a osodir gan y Rheoliadau.
Os gwelir ffynonellau llygredd sy'n cyfrannu at ansawdd dŵr gwael yn y dyfroedd ymdrochi dynodedig, o dan y Rheoliadau bydd gofyn i'r person sy'n rheoli'r safle gydweithio i ddelio â'r ffynonellau hyn os ydyn nhw ar dir y mae'n berchen arno. Gallai hyn gynnwys dilyn yr arferion rheoli gorau i leihau llygredd neu gydweithio â rhanddeiliaid eraill i liniaru'r effeithiau ar yr amgylchedd.
Os ceir diffyg cydymffurfio, darllenwch yr adran isod ar Orfodi.
Ymrwymiadau perchnogion tir mewn dyfroedd ymdrochi o fewn ardaloedd gwarchodedig
Rhaid i berchennog y tir fod yn ymwybodol o'i ymrwymiadau statudol os yw'r dŵr ymdrochi ar dir sydd wedi'i ddynodi i ddiogelu'r amgylchedd. Y ddau brif ddynodiad amgylcheddol yw:
- Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig: a ddynodwyd o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981
- Ardaloedd Cadwraeth Arbennig: a ddynodwyd o dan Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017.
Ardaloedd eraill y gallai fod angen eu hamddiffyn yw safleoedd Ramsar, Ardaloedd Gwarchod Arbennig ac Ardaloedd Cadwraeth Morol.
Safleoedd o o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA)
Nid peth anghyffredin yw cael dyfroedd ymdrochi o fewn SoDdGA. Mae'r safleoedd yn cael eu gwarchod i ddiogelu ystod, ansawdd ac amrywiaeth y cynefinoedd, y rhywogaethau a'r nodweddion daearegol sy'n rhan o dreftadaeth naturiol Cymru.
Mae gan bob SoDdGA restr o Weithrediadau sy'n Debygol o Niweidio'r nodweddion / rhywogaethau o Ddiddordeb Gwyddonol (rhestr OLDSI). Bydd rhestrau OLDSI fel arfer yn cynnwys gweithgareddau hamdden fel nofio, ymdrochi a dipio. Mae rhestr OLDSI pob SoDdGA yng Nghymru ar gael ar wefan CNC yma. Efallai y bydd gan safleoedd hŷn restr o weithrediadau a allai fod yn niweidiol (PDO) yn hytrach na rhestr OLDSI.
Os yw hamdden wedi'i gynnwys ar restr OLDSI, rhaid i berchennog y tir roi Hysbysiad o Fwriad (NOI) i CNC ar gyfer y gweithgareddau hyn cyn iddynt ddigwydd a fydd yn sbarduno'r broses gydsynio. Bydd CNC wedyn yn gallu asesu effaith y gweithgareddau hyn ac ystyried a allent effeithio'n andwyol ar gynefinoedd a rhywogaethau pwysig y mae'r SoDdGA wedi'i ddynodi i'w gwarchod. Gall CNC, fel rhan o'i gydsyniad, roi amserlen o fesurau lliniaru rhesymol i berchennog y tir fel amodau i ddiogelu nodweddion y SoDdGA. Bydd CNC yn rhoi'r amserlen hon yn uniongyrchol i berchennog y tir. Ni chodir tâl am hyn.
Os nad oes cydsyniad penodol wedi'i roi i gynnal gweithgareddau hamdden ar y safle ac nad yw CNC wedi rhoi cydsyniad ar gyfer ymdrochi, mae'n dal yn bosib ei ddynodi'n ddŵr ymdrochi os oes digon o dystiolaeth bod yna nifer fawr o ymdrochwyr i fodloni'r meini prawf. Cyfrifoldeb perchennog y tir yw cymryd mesurau neu osod amodau rhesymol i atal ymdrochi ar y safle e.e. cyfyngiadau amser a/neu arbennig.
Nid yw’r dyletswyddau hyn yn newid am ei fod wedi’i ddynodi’n ddŵr ymdrochi. Ond o dan Reoliadau Dyfroedd Ymdrochi 2013 fel y’u diwygiwyd gan Reoliadau Dyfroedd Ymdrochi 2025 (y Rheoliadau), bydd Llywodraeth Cymru’n ystyried a fydd nifer fawr o ymdrochwyr yn debygol o gael effaith andwyol arwyddocaol ar effeithiolrwydd mesurau i warchod yr amgylchedd.
Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA)
Mae pob ACA afon yng Nghymru hefyd yn SoDdGA. Mae ACAau yn ardaloedd gwarchodedig sydd wedi'u dewis am eu bod yn gwneud cyfraniad pwysig at warchod cynefinoedd a'r rhywogaethau sy'n byw yno.
Ar gyfer y SoDdGAau hyn sydd hefyd yn ACAau, dylai perchennog y tir gysylltu ag CNC i weld a oes angen Asesiad Rheoleiddio Cynefinoedd (HRA). Gall yr asesiad hwn hefyd arwain at fesurau lliniaru cymesur i ddiogelu amgylchedd y safle. Gall canlyniad yr HRA arwain at CNC yn gwrthod cydsyniad ar gyfer yr Hysbysiad o Fwriad.
Cael cydsyniad CNC
Er mwyn cychwyn y broses gydsynio a HRA, bydd gofyn i berchennog y tir roi gwybod i CNC cyn i'r ymdrochi ddigwydd.
Bydd gofyn i CNC ymateb i’r hysbysiad o fewn 4 mis. Os na fydd CNC wedi gwneud penderfyniad ynghylch y cydsyniad o fewn 4 mis, ystyrir ei fod wedi gwrthod rhoi'r cydsyniad.
CNC sy'n cynnal y broses gydsynio heb godi unrhyw dâl ar berchennog y tir. O dan y broses hon, bydd CNC yn ystyried dim ond effaith ymdrochi ar yr amgylchedd. Nid yw CNC yn ystyried nac yn rhoi caniatâd na hawliau i’r cyhoedd fynd ar y safle nac i nofio neu ymdrochi. Dim ond perchennog y tir sydd â'r hawliau hyn.
Cewch ragor o wybodaeth am y broses gydsynio ar wefan CNC.
Atebolrwydd perchennog y tir mewn dyfroedd ymdrochi
Mae'r hyn y mae perchennog y tir yn atebol amdano yn cael ei nodi mewn dwy Ddeddf Seneddol. Mae Deddf Atebolrwydd Meddianwyr 1957 yn nodi bod yn rhaid i berchennog y tir gymryd gofal rhesymol i sicrhau bod ymwelwyr a wahoddir neu a ganiateir i ddefnyddio'r tir yn rhesymol o ddiogel wrth wneud beth bynnag y gwahoddir nhw neu y caniateir iddynt ei wneud ar ei dir. Mae Deddf Atebolrwydd Meddianwyr 1984 yn estyn y ddyletswydd gofal i'r rhai nad ydynt wedi'u gwahodd, gan gynnwys tresmaswyr.
Os oes gan berchennog y tir bryderon, gall ofyn ar ei gost ei hun i gorff achrededig gynnal asesiad risg ffurfiol.
Mae'r Rheoliadau Dŵr Ymdrochi yn caniatáu monitro a rheoli ansawdd y dŵr mewn mannau ymdrochi lle ceir nifer fawr o ymdrochwyr i sicrhau bod y mannau hynny’n bodloni safonau penodol o ran iechyd y cyhoedd. Nid yw'r Rheoliadau yn symud, addasu nac yn trosglwyddo unrhyw rwymedigaethau sy'n bodoli eisoes o dan Ddeddf 1957 neu 1984.
Os nad yw perchennog y tir yn glir beth yw ei gyfrifoldebau cyfreithiol am safleoedd penodol, dylai ofyn barn cynghorydd cyfreithiol proffesiynol.
Y broses orfodi
O dan y Rheoliadau, rhoddir pwerau i Weinidogion Cymru gymryd camau gorfodi os yw person sy'n rheoli dŵr ymdrochi yn rhwystro awdurdod lleol rhag cyflawni ei rwymedigaethau ar ôl i’r dŵr ymdrochi gael ei ddynodi. Mae'r rhwymedigaethau hyn ar awdurdodau lleol yn gofyn eu bod yn cael mynd at y dŵr i fonitro ansawdd dŵr, arddangos gwybodaeth iechyd y cyhoedd neu ddelio â risgiau llygredd.
Yn ogystal, gall Gweinidogion Cymru ddwyn camau gorfodi os yw awdurdod lleol yn methu â chyflawni ei gyfrifoldebau.
Rhagor o wybodaeth
I gael rhagor o wybodaeth am ddŵr ymdrochi penodol, ewch i Dod o hyd i ddŵr ymdrochi. Mae hyn yn cynnwys canlyniadau profion diweddaraf a gwybodaeth arall sy'n cael ei diweddaru'n flynyddol.
Am ragor o help, cysylltwch â'r canlynol:
- Y broses ddynodi: cysylltwch â Llywodraeth Cymru ar dwr@llyw.cymru
- Diogelu'r amgylchedd: cysylltwch â Cyfoeth Naturiol Cymru yn: waterqualitypolicyteam@naturalresourceswales.gov.uk
