Dynodi dyfroedd ymdrochi yng Nghymru: nodyn canllaw
Sut i wneud cais i ddynodi dŵr ymdrochi.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Dynodi dŵr ymdrochi
Mae dyfroedd ymdrochi dynodedig yn cael eu monitro gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn ystod pob tymor ymdrochi (15 Mai – 30 Medi) ar gyfer e.coli ac enterococci y coluddyn, dau fath o facteria sy'n peri perygl i iechyd pobl.
Ar ddiwedd tymor ymdrochi pob blwyddyn, mae'r dyfroedd ymdrochi yn cael eu dosbarthu yn seiliedig ar eu canlyniadau monitro dŵr ymdrochi sef rhagorol, da, digonol, neu wael. Drwy gydol y tymor, mae CNC yn cyhoeddi canlyniadau monitro ansawdd dŵr ymdrochi.
Mae hyn yn hysbysu ymdrochwyr am yr ansawdd dŵr y gallant ddisgwyl ei weld wrth ymweld â'u dŵr ymdrochi.
Gall unrhyw un wneud cais i ddynodi dŵr ymdrochi.
Mae'r canllaw hwn wedi'i gynllunio i helpu ymgeiswyr i baratoi a chwblhau'r ffurflen gais dyfroedd ymdrochi yn effeithiol, gan gynnwys darparu gwybodaeth ategol berthnasol.
Addasrwydd y safle
Gall y cwestiynau canlynol eich helpu i benderfynu a ddylid gwneud cais am ddynodiad dŵr ymdrochi:
A oes nifer fawr o ymdrochwyr yn nofio yn y safle ar hyn o bryd?
Y prawf ar gyfer dynodi o dan y rheoliadau dyfroedd ymdrochi yw a oes disgwyliad o nifer fawr o ymdrochwyr. Bydd angen i chi ddarparu data arolwg sy'n dangos yn glir bod y safle eisoes yn cael ei ddefnyddio'n aml gan nifer fawr o ymdrochwyr, ynghyd â thystiolaeth i gefnogi bod disgwyl i'r lefel hon o ddefnydd barhau yn y blynyddoedd i ddod. Bydd angen gwirio'r data hyn. Bydd yn cefnogi eich cais os gallwch ddangos bod rhanddeiliaid gwybodus eraill, er enghraifft yr awdurdod lleol, yr RNLI (os yw'n gweithredu ar y safle), y tirfeddiannwr neu bobl eraill sydd yn adnabod y safle, yn cytuno â'ch data arolwg. Mae rhagor o wybodaeth am sut y bydd angen i chi wneud hyn wedi'i nodi yn y ffurflen gais a'r adrannau isod.
A oes cyfleusterau a seilwaith ar gyfer ymdrochwyr?
Bydd y cyfleusterau sydd ar gael yn rhan o ystyriaeth Llywodraeth Cymru ynghylch a ellir disgwyl nifer fawr o ymdrochwyr ar y safle. Gall cyfleusterau perthnasol gynnwys parcio, cyfleusterau newid, toiledau, cyngor diogelwch, achubwyr bywydau, arwyddion dŵr ymdrochi neu finiau sbwriel, a rhwyddineb mynediad i'r dŵr ac allan o'r dŵr.
A fydd yr awdurdod lleol yn darparu llythyr o gefnogaeth?
A yw'r awdurdod lleol yn cefnogi'r cais, ac yn cytuno bod nifer fawr o ymdrochwyr yn defnyddio'r safle?
A fydd y tirfeddiannwr yn darparu llythyr o gefnogaeth?
A yw'r tirfeddiannwr yn cefnogi'r cais, ac yn cytuno bod nifer fawr o ymdrochwyr yn defnyddio'r safle? Gall y tirfeddiannwr hefyd fod â dyletswyddau os yw'r safle wedi'i ddynodi ar gyfer cadwraeth natur. Ni ddylech gymryd yn ganiataol bod gennych fynediad i unrhyw dir neu ddŵr heb ganiatâd y tirfeddiannwr.
A yw'r safle yn cael ei hysbysebu neu ei hyrwyddo fel lle i ymdrochi?
Er enghraifft, trwy arwyddion, ar wefannau swyddogol, y cyfryngau cymdeithasol neu sesiynau archebadwy.
Y cais
1. Manylion yr ymgeisydd
Gall unrhyw unigolyn neu sefydliad wneud cais i safle gael ei gydnabod fel dŵr ymdrochi. Mae angen i ni gael manylion yr ymgeisydd arweiniol a manylion unrhyw ymgeisydd cefnogol (fel unigolion sy'n helpu i gwblhau'r arolwg ymdrochi) ar gyfer unrhyw ohebiaeth neu ddilysiad sy'n ymwneud â'r cais. Ni fydd eich manylion yn cael eu rhannu â'r cyhoedd ar unrhyw adeg yn y broses ddynodi.
2. Nodi eich dŵr ymdrochi arfaethedig
Gwnewch yn siŵr bod enw'r safle yn unol â'r enw cyfredol y mae pobl yn gwybod amdano neu sy'n cael ei ddefnyddio'n lleol i adnabod y lleoliad. Mae hyn i sicrhau y rhoddir negeseuon cyson a bod modd adnabod dyfroedd ymdrochi yng Nghymru yn hawdd.
Yn eich cais, rhowch y wybodaeth ganlynol i nodi eich safle enwebedig:
- Enw’r dŵr ymdrochi arfaethedig:
- Cyfeiriad, gan gynnwys cod post agosaf: Gellir dod o hyd i hyn ar wefan y Post Brenhinol Postcode Finder - Dod o hyd i gyfeiriad │ Royal Mail Group Ltd
- Cyfeirnod Grid Cenedlaethol.
- Mae angen i chi hefyd gynnwys map gyda'ch cais. Mae angen i hyn gynnwys yr ardal rydych chi'n gwneud cais i gael ei chydnabod fel dŵr ymdrochi, ynghyd â'r fan lle mae disgwyl y rhan fwyaf o ymdrochwyr yn gyffredinol.
3. Manylion yr Awdurdod Lleol
Mae Rheoliadau Dyfroedd Ymdrochi 2013 yn rhoi dyletswyddau penodol ar yr awdurdod lleol gan gynnwys gosod arwyddion ac ymateb i achosion llygredd dŵr a allai effeithio ar ansawdd y dŵr ymdrochi. Oherwydd hyn, mae cefnogaeth eich awdurdod lleol yn hanfodol ar gyfer rheoli dŵr ymdrochi yn dda. Gofynnwn i chi roi cadarnhad o gefnogaeth gan rywun sydd ag awdurdod addas o fewn yr Awdurdod Lleol gyda'ch cais. Ceir rhagor o wybodaeth yn adran 5.
Bydd angen i Lywodraeth Cymru hefyd ymgynghori â'r awdurdod lleol ynglŷn â'r cais, felly gofynnwn i chi gynnwys manylion cyswllt perthnasol i gefnogi'r ymgysylltiad hwn.
4. Manylion y tirfeddiannwr
O dan Reoliadau CNC, rhoddir nifer o ddyletswyddau statudol i ymgymerwyr carthffosiaeth, a'r Awdurdod Lleol perthnasol, y mae'n rhaid iddynt eu cyflawni mewn dyfroedd ymdrochi dynodedig. Os bydd safle sy'n eiddo preifat yn cael ei ddynodi fel dŵr ymdrochi, mae'n bwysig bod y tirfeddiannwr yn cydweithio â'r partïon hyn i sicrhau eu bod yn gallu cyflawni eu dyletswyddau.
Mae gofyniad cyfreithiol ar y tirfeddiannwr i ganiatáu i gynrychiolwyr awdurdodedig o CNC a'r awdurdod lleol gael mynediad i'r dŵr ymdrochi at ddibenion ymgymryd â dyletswyddau statudol, hy. gosod arwyddion, monitro ansawdd dŵr a gwaith ymchwilio pellach pan fo angen. Mae'r mynediad hwn yn hanfodol ar gyfer cynnal profion a samplu yn rheolaidd i asesu cydymffurfiaeth â'r safonau a osodir gan y Rheoliadau.
Os nodir ffynonellau llygredd sy'n cyfrannu at ansawdd dŵr gwael yn y dŵr ymdrochi dynodedig, o dan y Rheoliadau, byddai'n ofynnol i'r person sy'n rheoli'r dŵr ymdrochi gydweithredu i fynd i'r afael â'r ffynonellau hyn. Gallai hyn gynnwys gweithredu arferion rheoli gorau i leihau llygredd neu gymryd rhan mewn ymdrechion cydweithredol â rhanddeiliaid eraill i liniaru effeithiau amgylcheddol.
Felly, mae cefnogaeth y tirfeddianwyr yn hanfodol ar gyfer rheoli dŵr ymdrochi yn dda ac rydym yn gofyn i gadarnhad o gefnogaeth gael ei gynnwys gyda'ch cais.
Bydd angen i Lywodraeth Cymru hefyd roi gwybod i'r tirfeddiannwr ynglŷn â'r cais, felly gofynnwn i chi gynnwys manylion cyswllt perthnasol i gefnogi'r ymgysylltiad hwn. Ceir rhagor o wybodaeth yn adran 5.
5. Nifer yr ymdrochwyr
Dyma ran bwysicaf eich cais.
Rhaid i geisiadau am ddynodi dyfroedd ymdrochi ddangos yn glir bod disgwyl i'r safle dderbyn nifer fawr o ymdrochwyr.
Rydym yn ystyried tystiolaeth o nifer y nofwyr a'r padlwyr yn ystod y tymor ymdrochi diweddaraf. Rydym hefyd yn ystyried a yw niferoedd yr ymdrochwyr yn debygol o aros yn sefydlog neu gynyddu ar ôl dynodiad yn y blynyddoedd i ddod. Er nad yw'n ofynnol, gellir darparu data hanesyddol sy'n dangos faint mae'r safle wedi cael ei ddefnyddio yn y gorffennol, a bydd hynny yn cael ei ystyried fel tystiolaeth ategol.
Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried ymdrochwyr fel person (oedolyn neu blentyn) sy'n rhoi ei gorff yn y dŵr, hy. nofio neu badlo'n fwriadol. Mae padlwr at ddibenion cyfrif ymdrochwyr yn rhywun sy'n sefyll, yn eistedd neu'n chwarae mewn dŵr bas. Nid yw defnyddwyr dŵr hamdden eraill fel pobl sy’n defnyddio padlfwrdd, canŵ, ceufad, neu'n syrffio yn cael eu hystyried yn ymdrochwyr at ddibenion dynodi dyfroedd ymdrochi.
I wneud cais i'ch safle gael ei gydnabod, rhaid i chi allu tystio bod disgwyl i'r safle dderbyn nifer fawr o ymdrochwyr. Darperir rhagor o wybodaeth am y diffiniad o nifer fawr o ymdrochwyr isod.
Arolwg ymdrochwyr
Yn ystod y tymor ymdrochi (15 Mai i 30 Medi) rhaid i chi gynnal arolwg strwythuredig ar 20 diwrnod o leiaf i ddarparu tystiolaeth bod eich safle yn cael ei ddefnyddio gan o leiaf y nifer canlynol o ymdrochwyr:
Ar gyfer safleoedd arfordirol:
- Nifer arferol o ymdrochwyr mewn diwrnod: Cynhaliwch arolygon ymdrochwyr am bedair awr ar 20 diwrnod o leiaf, i sefydlu patrwm defnydd dibynadwy ac osgoi anghysondebau untro a
- Diwrnodau â'r nifer uchaf o ymdrochwyr: Ar 5 neu fwy o wahanol ddiwrnodau trwy gydol y tymor ymdrochi, rhaid i'ch arolwg ddangos bod y safle yn cael ei ddefnyddio gan o leiaf 100 o ymdrochwyr mewn unrhyw bedair awr.
Ar gyfer safleoedd mewndirol
- Nifer arferol o ymdrochwyr mewn diwrnod: Cynhaliwch arolygon ymdrochwyr am bedair awr ar 20 diwrnod o leiaf i sefydlu patrwm defnydd dibynadwy ac osgoi anghysondebau untro.
- Y dyddiau â'r nifer uchaf o ymdrochwyr: ar 5 neu fwy o wahanol ddiwrnodau trwy gydol y tymor ymdrochi, bod o leiaf 50 o ymdrochwyr mewn unrhyw bedair awr.
Sylwch fod hon yn cynrychioli'r wybodaeth leiaf sy'n ofynnol i Lywodraeth Cymru ystyried dynodi dŵr ymdrochi. Nid yw bodloni'r gofynion hyn yn gwarantu y bydd dynodiad yn cael ei wneud, ac ni ddylid ei ystyried fel targed neu ddisgwyliad cymeradwyaeth.
Dylai eich arolwg:
- Gynnwys yr holl wybodaeth angenrheidiol, darperir templed arolwg i'ch helpu yn Atodiad A.
- Cael ei lenwi gan berson addas, nid oes rhaid iddo fod yr un person ar bob achlysur. Dylid nodi unrhyw newid yn y person sy'n arolygu yn glir.
- Dangos yn glir amser, dyddiad, a nifer yr ymdrochwyr yn ystod pob arolwg.
- Cael ei gynnal ar 20 diwrnod o leiaf dros y tymor ymdrochi (15 Mai i 30 Medi). Nid oes rhaid i'r dyddiau hyn fod yn olynol a dylent gynnwys dyddiau'r wythnos a phenwythnosau i ddal amrywiadau. Dyma'r disgwyliad lleiaf i'ch safle gael ei ystyried.
- Rhaid i'ch arolwg gynnwys niferoedd yr ymdrochwyr a gofnodwyd yn ystod y 4 awr o bob diwrnod a arolygwyd, nid oes angen i'r oriau fod yn olynol a dylai gynrychioli eich safle orau.
- Fod wedi eu dilysu gyda ffotograffau sydd ag amser a dyddiad arnynt, y mae'n rhaid eu cynnwys gyda'ch cais. Gweler yr adran isod am arweiniad ar y ffotograffau.
- Anogir arolygon sydd wedi'u cynllunio i ddal grwpiau nofio rheolaidd.
- Gallwch gynnwys defnyddwyr dŵr hamdden eraill i roi darlun llawn o'r defnydd o ddŵr, ond mae'n rhaid cyfrif y rhain ar wahân i ymdrochwyr.
Ni ddylai eich arolwg:
- Gynnwys digwyddiadau arbennig sy'n digwydd yn achlysurol yn unig. Fodd bynnag, mae croeso i chi gynnwys y wybodaeth hon fel gwybodaeth ategol ychwanegol wedi'i labelu'n glir.
Gall rhanddeiliaid ddarparu data cefnogol ychwanegol, fel defnyddwyr traeth, achubwyr bywyd, busnesau lleol, grwpiau nofio a swyddfeydd twristiaeth i ddilysu data eich arolwg a phenderfynu ar nifer yr ymdrochwyr canfyddedig.
Rhowch wybod a yw'r tirfeddiannwr a'r awdurdod lleol yn ymwybodol o'ch bwriad i geisio dynodi'r safle, eu barn ar y cais, a lle bo hynny ar gael, unrhyw wybodaeth ategol sydd ganddynt ynghylch a yw'r safle yn bodloni'r prawf rheoleiddiol fel y nodir yn adran addasrwydd y safle. Os oes unrhyw ran o'r cais sy'n cael ei herio, rhowch fanylion pellach.
Canllawiau ffotograffau
Rhaid cynnwys ffotograffau gyda'ch cais i ddilysu'r arolwg ymdrochi. Rhaid i ffotograffau:
- Fod wedi eu cymryd yn ddigon pell i ffwrdd fel na ellir adnabod pobl.
- Dangos tystiolaeth o ymdrochi a/neu badlo yn y dŵr.
- Dangos yr ardal gyfan lle mae'r rhan fwyaf o bobl yn ymdrochi.
- Fod wedi eu marcio gyda'r dyddiad, yr amser a'r lleoliad.
- Cynnwys o leiaf tri llun y dydd a arolygir.
- dechrau a diwedd pob arolwg a chael eu cymryd yn ystod y cyfnod prysuraf.
Cymerwch fesurau i sicrhau nad yw aelodau o'r cyhoedd yn cael eu hadnabod yn eich lluniau.
6. Cyfleusterau
Dylai ceisiadau ar gyfer dynodi dyfroedd ymdrochi hefyd gynnwys gwybodaeth am gyfleusterau ar gyfer ymdrochwyr ar y safle neu gerllaw. Er enghraifft:
- mynediad rhesymol i'r dŵr ac allanfa o'r dŵr ee. a oes angen dringo dros rwystrau?
- cyfleusterau parcio.
- trafnidiaeth gyhoeddus
- mynediad i'r safle (gan gynnwys mynediad i bobl anabl).
- toiledau / cyfleusterau newid. Os yw'r cyfleusterau toiledau ar safle busnes, cynhwyswch gadarnhad gan berchennog y busnes y gall ymdrochwyr ddefnyddio'r toiledau.
- achubwyr bywyd.
- clybiau nofio, athrawon nofio, hyfforddwyr neu dywyswyr.
- cyfleusterau cymorth cyntaf.
- biniau sbwriel/biniau budr.
- caffis, siopau neu giosgau.
7. Tystiolaeth o fesurau i hyrwyddo ymdrochi
A yw'r safle yn cael ei hyrwyddo ar hyn o bryd fel rhywle ar gyfer ymdrochi? Er enghraifft, trwy arwyddion, taflenni, caniatâd mynediad, gwefannau swyddogol, y cyfryngau cymdeithasol neu sesiynau archebadwy. Os cynllunnir mesurau newydd, dylid cynnwys manylion hefyd.
8. Ystyried diogelu'r amgylchedd
Mae'n bwysig eich bod yn ymwybodol o fesurau diogelu'r amgylchedd sydd ar waith o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 a Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017.
Efallai y bydd safleoedd sydd â mesurau diogelu'r amgylchedd yn eu lle yn dal i fod yn addas ar gyfer ymdrochi, ond dylech nodi a yw'ch safle wedi'i leoli o fewn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) neu Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA). Os ydyw, efallai y bydd angen i chi gysylltu â CNC i ddeall a ydynt wedi rhoi caniatâd i ymdrochi yn yr ardal warchodedig. Mae'r broses ganiatâd yn galluogi i CNC asesu effaith bosibl ymdrochi ar y safle a sicrhau nad yw'n effeithio'n andwyol ar gynefinoedd a rhywogaethau pwysig.
Os nad yw CNC eisoes wedi rhoi caniatâd ar gyfer ymdrochi, efallai y bydd angen i chi gysylltu â'r tirfeddiannwr i gychwyn y broses ganiatâd.
Mae rhagor o wybodaeth ynglŷn â SoDdGA ar gael ar wefan CNC.
9. Gwaharddiad ar ymdrochi neu gyngor yn erbyn ymdrochi
Nid yw dynodiad dŵr ymdrochi yn awgrymu bod safle yn fwy diogel nag unrhyw gorff dŵr arall. Mae'r cyfrifoldeb am ddiogelwch personol yn y dŵr yn parhau gyda'r unigolyn. Yn ogystal â hynny, nid yw dynodiad yn newid unrhyw rwymedigaethau presennol; mae'r rheoliadau yn canolbwyntio'n unig ar sicrhau bod y safle yn cael ei fonitro'n briodol ar gyfer ansawdd dŵr.
Ni fyddai ceisiadau am ddynodi dŵr ymdrochi yn cael eu hystyried pan fo'r risg ffisegol mor sylweddol fel bod yr Awdurdod Lleol, tirfeddiannwr, neu gorff cymwys fel yr RNLI wedi rhoi mesurau ar waith i wahardd neu gynghori yn erbyn ymdrochi yn barhaol.
Os nad ydych yn siŵr a ganiateir ymdrochi, cysylltwch â'r Awdurdod Lleol neu'r tirfeddiannwr perthnasol.
10. Ymgynghori â rhanddeiliaid
Dylai ceisiadau ddal a dogfennu barn cynrychiolwyr lleol. Mae hyn yn helpu i sicrhau bod y broses ymgeisio yn parhau i fod yn gynhwysol ac yn dryloyw, tra'n ystyried pryderon, barn a safbwyntiau'r gymuned leol. Mae’r rhain yn cynnwys y canlynol, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt:
- Ymdrochwyr a defnyddwyr eraill dŵr ymdrochi, gan gynnwys clybiau/grwpiau nofio;
- Perchnogion a gweithredwyr busnesau cyfagos, ee. caffis a siopau.
- Cyrff Iechyd y Cyhoedd – ee. Iechyd Cyhoeddus Cymru, bwrdd iechyd lleol.
- CNC.
- Grwpiau cymdogaeth a chymunedol.
- Grwpiau amgylcheddol a dinesig lleol.
- Cynrychiolwyr amaethyddol.
- Cynghorau Lleol a Sir.
- Swyddfa dwristiaeth leol neu gorff twristiaeth lleol arall;
- Siambr Fasnach Leol.
- Swyddfa adfywio leol neu gorff adfywio lleol arall.
- Y cyhoedd.
- Cadwch Gymru'n Daclus (sy'n gweinyddu Gwobrau'r Faner Las).
- Y tirfeddiannwr perthnasol a'r Awdurdod Lleol.
- Yr ymgymerwr carthion statudol perthnasol.
Gwnewch yn siŵr bod pawb rydych chi'n ymgynghori â nhw yn ymwybodol y bydd eu hymateb yn cael ei gynnwys yn eich cais. Peidiwch â nodi enwau sefydliadau, busnesau ac unigolion sy'n gofyn i aros yn ddienw.
11. Llofnod
Mae'n ofynnol i ymgeiswyr arweiniol a chefnogol lofnodi'r cais i gadarnhau bod y wybodaeth a ddarperir yn gywir. Mae'r llofnod hwn yn sicrwydd ffurfiol bod y manylion a gyflwynwyd yn wirioneddol ac yn ddibynadwy, gan helpu i gynnal uniondeb y broses ymgeisio. Mae hefyd yn sicrhau atebolrwydd, gan fod pob parti yn cadarnhau eu cyfrifoldeb dros gywirdeb y wybodaeth, sy'n hanfodol ar gyfer gwneud penderfyniadau gwybodus a theg lle bydd arian cyhoeddus yn cael ei ddyrannu.
Cyflwyno eich cais
Cyflwynwch eich ffurflen gais a'ch gwybodaeth ategol ar gyfer y tymor ymdrochi presennol erbyn 31 Hydref er mwyn i'r safle gael ei ystyried ar gyfer dynodiad.
Gall ceisiadau dyfroedd ymdrochi amrywio o ran cymhlethdod ac fesul achos. Ar gyfer ceisiadau penodol, gall Llywodraeth Cymru ofyn am wybodaeth ychwanegol gan ymgeiswyr neu gynnal ymchwiliadau estynedig a allai olygu oedi cyn gwneud penderfyniad ar ddynodiad. Bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi gwybod i ymgeiswyr os oes angen rhagor o wybodaeth neu os yw canlyniad yn cael ei adolygu.
Gellir cyflwyno ceisiadau:
- drwy e-bost: dwr@llyw.cymru
- drwy'r post:
Y Gangen Ddŵr,
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Ar ôl cyflwyno eich cais
Bydd unrhyw geisiadau a thystiolaeth a dderbynnir gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cydnabod drwy lythyr neu e-bost.
Bydd pob cais yn cael ei asesu gan Lywodraeth Cymru. Os yw'r cais yn bodloni'r meini prawf fel y nodir uchod, bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus i geisio barn ynghylch a ddylid dynodi'r safle fel dŵr ymdrochi. Os nad yw'r cais yn bodloni'r meini prawf, bydd ymgeiswyr yn cael eu hysbysu trwy lythyr neu e-bost.
Bydd penderfyniad terfynol yn cael ei gyhoeddi ynghyd ag ymateb i ymgynghoriad cyn dechrau'r tymor ymdrochi nesaf (15 Mai).
Efallai y bydd eich cais yn cael ei ddal yn ôl ac y byddwn yn gofyn am fanylion pellach. Os bydd eich cais yn cael ei ddal yn ôl, bydd penderfyniad ynghylch a fydd y safle yn cael ei ddynodi yn cael ei wneud erbyn 31 Hydref y flwyddyn honno.
Os gwrthodir cais, bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi gwybod i'r ymgeisydd ac yn esbonio'r rhesymau dros y penderfyniad. Mae croeso i ymgeiswyr ail-ymgeisio ar gyfer y tymor ymdrochi canlynol.
Manylion Cyswllt
Am gymorth pellach, cysylltwch â'r canlynol:
- Y broses ymgeisio neu ddynodi: cysylltwch â Llywodraeth Cymru ar dwr@llyw.cymru
- Diogelu'r amgylchedd / SoDdGA: cysylltwch â Chyfoeth Naturiol Cymru yn: enquiries@naturalresourceswales.gov.uk
I ddod o hyd i ragor o wybodaeth am yr Awdurdod Lleol neu'r tirfeddiannwr perthnasol:
- Manylion tirfeddiannwr: cael gwybodaeth am eiddo a thir [GOV.UK]
- Manylion Awdurdod Lleol: dod o hyd i'ch awdurdod lleol.
