Neidio i'r prif gynnwy

Mae Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2023 [“y Rheoliadau diwygio”] wedi diwygio cymhwystra o ran dyrannu llety tai a chymorth tai a ddarperir gan awdurdodau lleol i bobl yr effeithir arnynt gan y cynnydd mewn trais yn Sudan ar 15 Ebrill 2023. Roedd y Rheoliadau diwygio yn sicrhau bod y prawf preswylfa fel arfer yn cael ei ddatgymhwyso ar gyfer:

Pobl sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo, gan gynnwys personau:

  • a oedd yn preswylio yn Sudan cyn 15 Ebrill 2023 ac a adawodd Sudan mewn cysylltiad â’r trais a waethygodd yn gyflym ar 15 Ebrill 2023 yn Khartoum ac ar draws Sudan
  • sydd wedi cael caniatâd yn unol â’r rheolau mewnfudo
  • nad yw eu caniatâd yn ddarostyngedig i amod sy’n ei gwneud yn ofynnol iddynt gynnal eu hunain a lletya eu hunain, ac unrhyw berson sy’n dibynnu arnynt, heb ddibynnu ar gronfeydd cyhoeddus
  • na roddwyd eu caniatâd iddynt o ganlyniad i ymgymeriad y byddai noddwr yn gyfrifol am gynhaliaeth a llety’r personau

Fodd bynnag, bydd personau a noddir yn gymwys i gael cymorth tai os yw’r ymgeiswyr wedi bod yn preswylio yn yr Ardal Deithio Gyffredin am bum mlynedd ers y dyddiad y daethant i mewn i’r wlad (neu ddyddiad yr ymgymeriad noddi, pa ddyddiad bynnag yw’r diweddaraf) neu os yw eu noddwr/noddwyr wedi marw.

Pobl nad ydynt yn ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo, gan gynnwys personau:

  • a oedd yn preswylio yn Sudan cyn 15 Ebrill 2023 ac a adawodd Sudan mewn cysylltiad â’r trais a waethygodd yn gyflym ar 15 Ebrill 2023 yn Khartoum ac ar draws Sudan

Daeth y Rheoliadau diwygio i rym ar 8 Mehefin 2023, gan roi’r hawl i’r rhai yr effeithir arnynt allu gwneud cais am lety tai cymdeithasol neu gymorth tai.