Neidio i'r prif gynnwy

Mae Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2023 ["y Rheoliadau Diwygio"] wedi diwygio cymhwysedd ar gyfer dyrannu tai a cymorth tai a ddarperir gan awdurdodau lleol i bobl sy'n gadael Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza, Dwyrain Jerwsalem, Ucheldiroedd Golan neu Libanus mewn cysylltiad ag ymosodiad terfysgol Hamas yn Israel ar 7  Hydref 2023 neu'r trais a waethygodd yn gyflym yn y rhanbarth yn  dilyn yr ymosodiad.  Mae'r rheoliadau diwygio yn sicrhau y bydd y prawf preswylio arferol yn cael ei ddatgymhwyso ar gyfer:

  • Pobl sy'n destun rheolaeth fewnfudo:
    • person a oedd yn preswylio yn Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza, Dwyrain Jerwsalem, Ucheldiroedd Golan neu Libanus yn union cyn 7 Hydref 2023 ac a adawodd Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza, Dwyrain Jerwsalem, Ucheldiroedd Golan neu Libanus mewn cysylltiad ag ymosodiad terfysgol Hamas yn Israel ar 7 Hydref 2023 neu’r trais a wnaeth ddwysáu yn gyflym yn y rhanbarth yn dilyn yr ymosodiad.
       
    • bod y person hwnnw wedi cael caniatâd i adael yn unol â'r rheolau mewnfudo;
       
    • nad yw gadael yn ddibynnol ar amod sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r person hwnnw gynnal a chanfod llety eu hunain, ac unrhyw berson sy'n ddibynnol arnynt, heb ddefnyddio cronfeydd cyhoeddus; a
       
    • na roddwyd y caniatâd i adael o ganlyniad i ymgymeriad y byddai noddwr yn gyfrifol am eu cynnal a’u cadw a darparu llety.

Fodd bynnag, bydd person a noddwyd yn gymwys am gymorth tai os yw'r person hwnnw wedi bod yn byw yn yr Ardal Deithio Gyffredin am 5 mlynedd ers y dyddiad mynediad (neu ddyddiad yr ymgymeriad i noddi, pa un bynnag sydd hwyraf) neu fod eu noddwyr/noddwyr wedi marw.

  • Pobl sydd ddim yn destun rheoli mewnfudo:
    • person a oedd yn preswylio yn Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza, Dwyrain Jerwsalem, Ucheldiroedd Golan neu Libanus yn union cyn 7 Hydref 2023 ac a adawodd Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza, Dwyrain Jerwsalem, Ucheldiroedd Golan neu Libanus mewn cysylltiad ag ymosodiad terfysgol Hamas yn Israel ar 7 Hydref 2023 neu’r trais a wnaeth ddwysáu yn gyflym yn y rhanbarth yn dilyn yr ymosodiad.

Daeth y Rheoliadau diwygio i rym ar 16 Tachwedd 2023, gan gynnwys y rhai yr effeithiwyd arnynt i allu gwneud cais am dai cymdeithasol neu gymorth tai.