Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths, wedi cyhoeddi y bydd dros £158m yn cael ei rannu gan dros 15,600 o ffermydd ledled Cymru wrth i'r rhagdaliadau o dan Gynllun y Taliad Sylfaenol (BPS) 2023 gael eu dyrannu yfory (dydd Iau 12 Hydref).

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Hydref 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r cyhoeddiad yn golygu y bydd dros 96 y cant o hawlwyr yn derbyn rhagdaliad BPS sy'n werth tua 70% o werth amcangyfrifol eu hawliad
Eleni, am y tro cyntaf, bydd Taliadau Gwledig Cymru (RPW) yn dyrannu rhagdaliadau BPS yn ystod cyfnod talu.

Bydd y cyfnod talu newydd yn agor yfory ac yn parhau hyd 15 Rhagfyr. Bydd unrhyw fusnes fferm nad yw'n derbyn rhagdaliad yfory, ond y bydd ei hawliad yn cael ei ddilysu cyn 15 Rhagfyr, yn derbyn y taliad.

Mae hyn yn golygu y bydd rhagor o fusnesau fferm nawr yn elwa ar dderbyn rhagdaliadau BPS.

Unwaith eto, bydd gweddill taliadau BPS 2023 yn cael eu gwneud yn llawn o 15 Rhagfyr, yn amodol ar ddilysu yn llawn yr hawliad BPS.

Rwy'n disgwyl y bydd pob hawliad BPS heblaw am y rhai mwyaf cymhleth yn cael eu dilysu'n llawn, ac y bydd taliadau'n cael eu gwneud cyn diwedd y cyfnod talu ar 30 Mehefin 2024.

Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths:

Rwy'n falch ein bod yn gallu darparu rhagdaliadau BPS i filoedd o ffermydd ledled Cymru.

Mae'r newidiadau rydym wedi'u gwneud hefyd yn golygu y bydd mwy o fusnesau fferm yn elwa ar ragdaliad yn ystod y cyfnod talu.

Bydd Taliadau Gwledig Cymru yn gweithio'n galed i sicrhau bod taliadau llawn a thaliadau olaf yn cael eu dyrannu mor gynnar â phosibl o 15 Rhagfyr.