Neidio i'r prif gynnwy

Mae dysgu a rhannu ffyrdd o weithio yn helpu i feithrin sgiliau llythrennedd carbon.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Mawrth 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:
Trydaneiddio rheilffyrdd

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwmni dielw a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru, ac sy’n eiddo’n llwyr iddi i wireddu’r weledigaeth o deithio diogel, hygyrch a chynaliadwy ledled Cymru.

Ar hyn o bryd, mae’n bwrw ymlaen â rhaglen sylweddol i wella gwasanaethau, sy’n cynnwys buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd i drawsnewid llinellau’r Cymoedd a rhedeg 29% yn fwy o wasanaethau bob dydd o’r wythnos dros y blynyddoedd i ddod.

Y nod yw cyflawni nodau a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) (2015): gyrru ffyniant ledled Cymru, gwella cydlyniant cymunedau Cymru a'r Gororau, a chyfrannu at Gymru iachach a mwy cyfartal.

Hayley Warrens yw Rheolwr Newid Hinsawdd Trafnidiaeth Cymru ac mae ei rôl yn ddeublyg. Mae’n gweithio tuag at ddatgarboneiddio gweithrediadau uniongyrchol Trafnidiaeth Cymru a lleihau newid hinsawdd ymhellach. Ond mae Hayley hefyd yn cefnogi ymateb y cwmni i’r argyfwng hinsawdd a’r gwaith o ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth diogel a dibynadwy yn wyneb tywydd eithafol yn y dyfodol:

"Rhaid i ni ymgorffori cynaliadwyedd ym mhopeth a wnawn. Mae’n elfen gyffredinol o’n holl weithrediadau."

Wedi’i phenodi ym mis Awst 2022, tasg gyntaf Hayley fu sefydlu adroddiadau carbon:

"Pan ddechreuais i, roedd adroddiadau carbon wedi bod ond nid oeddent yn ddigon cynhwysfawr i ddeall ein hôl troed carbon yn llawn. Ar yr un pryd, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Chanllaw Sector Cyhoeddus Cymru ar gyfer Adrodd ar Garbon Sero-Net canllaw i’r sector cyhoeddus yng Nghymru amcangyfrif ein hôl troed carbon net, gan gynnwys allyriadau uniongyrchol ac anuniongyrchol.

"Mae’r canllaw yn benodol i’r gweithgareddau y mae angen i ni adrodd arnynt ac rydym wedi datblygu Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth fel bod y timau perthnasol sydd â'r data am weithgareddau'n gwybod beth i’w ddarparu ac ym mha fformat."

Mae gwaith Hayley hefyd wedi canolbwyntio ar weithio gyda’r tîm datblygu meddalwedd mewnol i greu dangosfwrdd rhyngweithiol, gweledol o holl adroddiadau carbon Trafnidiaeth Cymru, a fydd yn gallu darparu adroddiadau hawdd eu defnyddio, amser real a gwell rheolaeth ar garbon:

"Byddwn mewn gwell sefyllfa i ddeall pam ein bod wedi defnyddio mwy o ynni a sut y gallwn wneud gwelliannau. Bydd yn ein helpu i lywio sut rydym yn blaenoriaethu ein hatebion datgarboneiddio."

Mae wedi cyflwyno’r gwaith i'r sector cyhoeddus yng Nghymru ac yn mynnu ei bod yn hapus i gefnogi sefydliadau eraill sy’n mynd i’r afael â map trywydd strategol ar gyfer cyflawni sero net:

"Os ydych chi am wrthbwyso eich allyriadau gweddilliol, mae angen i chi wybod beth yw eich allyriadau gweddilliol yn y lle cyntaf a sut olwg sydd ar eich ôl troed."

Er hynny, mae Hayley’n esbonio bod cyflawni sero net i Trafnidiaeth Cymru yn her:

"Yn ddealladwy, mae Llywodraeth Cymru eisiau gweld newid dulliau teithio. Mae am weld mwy ohonom yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn hytrach na cherbydau preifat ac rydym wedi ymrwymo i hynny. Byddai’n cael effaith aruthrol ar leihau allyriadau’r genedl. Mae hynny’n golygu bod angen i ni ddarparu gwasanaethau ychwanegol a fydd yn gweld ein hôl troed carbon sefydliadol yn cynyddu, ond rydym yn archwilio opsiynau arloesol i ddatgarboneiddio ein gwasanaethau a’n gweithgareddau corfforaethol."

Rhan o’r gwaith hwnnw yw trydaneiddio 172 cilometr o drac ar draws rhwydwaith y Cymoedd, wedi’i bweru gan ynni adnewyddadwy, a bydd cyfran sylweddol ohono’n dod o Gymru. Mae Trafnidiaeth Cymru hefyd yn archwilio’r potensial i ddefnyddio ynni adnewyddadwy wrth ymyl y llinell i bweru trydaneiddio uwchben yn y Cymoedd.

"Rydym hefyd yn dadansoddi sut y gallwn ddatgarboneiddio ein gorsafoedd ar linellau craidd y Cymoedd ac rydym yn edrych ar welliannau effeithlonrwydd ynni fel goleuadau LED a gosod paneli solar. Mae gennym yr her o statws adeilad rhestredig ar lawer o safleoedd ond rydym yn archwilio beth allwn ni ei wneud."

Yn y cyfamser, mae cynlluniau i ddyluniadau adeiladau ac adeileddau newydd orfod cael asesiad carbon oes gyfan. Mae carbon gydol oes yn mesur yr holl allyriadau carbon sy’n deillio o’r deunyddiau craidd a brynwyd i’r gwaith adeiladu a’r defnydd o adeilad:

"Gallwn ddadansoddi ein hallyriadau carbon gydol oes yn y cam dylunio a dewis deunyddiau carbon is fel dur a gallwn fod yn fwy moesol gyfrifol am leihau carbon ym mhopeth a wnawn."

Wrth gwrs, wrth i wasanaethau gynyddu ledled Cymru, felly hefyd bydd cyfleoedd gwaith. Mae Trafnidiaeth Cymru yn amcangyfrif y bydd darparu gwasanaethau ychwanegol yn creu cannoedd o swyddi newydd, gan gynnwys staff gwasanaethau cwsmeriaid ar y trên a phrentisiaid peirianyddol.

Ac mae’r ymgyrch i sero net yn gofyn am newidiadau sylfaenol mewn gweithrediadau a dyna pam mae Trafnidiaeth Cymru wedi ymuno â Cynnal Cymru i ddarparu hyfforddiant llythrennedd carbon pwrpasol i gydweithwyr:

"Mae sero net a risgiau yn sgil yr hinsawdd yn hanfodol i bopeth a wnawn, felly mae angen i ni gefnogi pobl i feddwl yn fwy cynaliadwy ac am yr effaith amgylcheddol ehangach. Mae hwn yn faes gwaith newydd ac esblygol, felly rydym yn cydnabod ein cyfrifoldeb i uwchsgilio ein staff."

Mae Hayley a'r tîm hefyd yn trefnu rhaglen o sesiynau Cinio a Dysgu fel y gall staff ddechrau deall sut i gynnal asesiad o risgiau newid hinsawdd a sut i ddefnyddio'r dangosfwrdd rhyngweithiol ar gyfer adrodd ar garbon.

Fel y gallech ddisgwyl, mae tîm Hayley yn tyfu gyda recriwtiaid newydd yn dechrau mewn rolau newydd sbon yn ddiweddar.

"Rwy’n teimlo’n ffodus fy mod wedi gweithio yn y maes hwn ers nifer o flynyddoedd, hyd yn oed pan nad oedd llawer o swyddi. Bu galw esbonyddol am sgiliau ym maes gwyddor yr amgylchedd ond y gwir amdani yw bod bwlch sgiliau a gall fod yn her recriwtio. Wrth symud ymlaen, rwy’n credu y gallai prentisiaethau fod yn allweddol i ddod o hyd i dalent newydd gan fod angen pobl â phrofiad ymarferol yn ogystal â’r wybodaeth ddamcaniaethol arnom."

Rhodri Thomas yw Pennaeth Datblygu a Hyfforddiant Cynnal Cymru:

"Gwnaethom ddarparu hyfforddiant llythrennedd carbon i Trafnidiaeth Cymru ym mis Mawrth 2022. Gan ddefnyddio ein cwrs ardystiedig 'Llythrennedd Carbon yn y Gweithle', gwnaethom hwyluso 20 o beirianwyr, rheolwyr prosiect, a swyddogion diogelwch ac ymgysylltu o Trafnidiaeth Cymru, a’i bartneriaid Amey a Siemens, i nodi’r allyriadau nwyon tŷ gwydr sy’n gysylltiedig â datblygu Metro De Cymru, y mesurau lliniaru oedd ar gael, yr anghenion addasu, a'r dulliau gorau o ysgogi newidiadau ymddygiad yn y gweithlu.

"Cafodd y broses hon o ymholi a dysgu mewn grŵp gyda chymheiriaid ei gwreiddio yng nghyd-destun polisi Llywodraeth Cymru ar ddatgarboneiddio a chynaliadwyedd ehangach. Cefnogwyd y cyfranogwyr i archwilio realiti hinsawdd sy'n cynhesu a’r goblygiadau llym i Gymru a’r sector, ac yna i nodi ac ymrwymo i gamau gweithredu CAMPUS ymarferol i’w datblygu fel unigolion ac fel cydweithwyr sy’n cydweithio. Cwblhaodd deg cyfranogwr ffurflenni gweithredu i’w hasesu ac o ganlyniad cawsant eu tystysgrif Llythrennedd Carbon."

Cynnal Cymru yw partner swyddogol y Prosiect Llythrennedd Carbon yng Nghymru ac mae’n cefnogi unigolion a sefydliadau o’r sector cyhoeddus, preifat a gwirfoddol i ddeall pam a sut y gallant weithredu ar gyfer dyfodol cynaliadwy. Er mwyn darganfod mwy am ei gyrsiau, ewch i Hyfforddiant – Cynnal Cymru – Sustain Wales.