Neidio i'r prif gynnwy

O Brentis i Bennaeth – Dŵr Cymru yn dangos beth sy'n bosib.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Mai 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

A hithau'n ddechrau Wythnos Dysgu yn y Gwaith, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a'r Gymraeg, Jeremy Miles, yn annog busnesau ledled Cymru i helpu eu gweithwyr i fanteisio ar gyfleoedd i "ddysgu ac ennill" yn y gweithle er mwyn datblygu'r sgiliau newydd sydd eu hangen i ffynnu yn y dyfodol.

Mae Llywodraeth Cymru eisoes yn buddsoddi mewn nifer fawr o raglenni, gan sicrhau bod gan gyflogwyr weithlu medrus, a bod gan unigolion y wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen i lwyddo yn y gweithle.

  • Mae prentisiaethau'n rhan hollbwysig o Warant Llywodraeth Cymru i Bobl Ifanc, sy'n helpu pobl ifanc dan 25 oed yng Nghymru i gael lle mewn addysg neu hyfforddiant, dod o hyd i swydd neu i fynd yn hunangyflogedig. Mae Llywodraeth Cymru wedi addo pecyn cymorth gwerth miliynau o bunnau i gynnal prentisiaethau o safon.
  • Nod rhaglen arloesol Twf Swyddi Cymru + yw creu cyfleoedd i bobl sydd ddim mewn addysg, gwaith na hyfforddiant i newid eu bywydau.
  • Mae Biwros Cyflogaeth a Menter yn gweithredu ym mhob coleg yng Nghymru ac yn dysgu sgiliau cyflogadwyedd a menter i fyfyrwyr a'u helpu i gamu dros y bont i fyd gwaith.
  • Mae Cyfrifon Dysgu Personol wedi'u creu er lles pobl sydd eisoes â gwaith, ond sydd am wella'u sgiliau neu dysgu sgiliau newydd a gwneud y gorau o'r cyfleoedd y mae sectorau a thechnolegau newydd yn eu cynnig.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet, Jeremy Miles: 

Mae'r byd gwaith yn newid yn fwy nag y mae wedi'i wneud ers degawdau ac rwyf am i Gymru fod y lle gorau posibl i weithio, byw a buddsoddi ynddo.

Wrth i ni ddechrau Wythnos Dysgu yn y Gwaith, hoffwn weld ceiswyr gwaith, cyflogwyr a gweithwyr fel ei gilydd yn manteisio ar y cyfoeth o gyfleoedd sydd ar gael ledled Cymru i ddysgu wrth ennill cyflog - a harneisio a datblygu sgiliau newydd ac i fod yn barod ar gyfer y dyfodol, gan ysgogi'n gweithluoedd a'u gwneud yn fwy amrywiol.

Edrychwch pa help sydd ar gael ichi wneud y gorau o'ch potensial a gadewch i ni helpu ein gilydd i ddatgloi ein potensial ar y cyd wrth i ni adeiladu economi wydn, flaengar a llewyrchus lle nad oes neb yng Nghymru yn teimlo ei fod yn cael ei adael ar ôl.

Dechreuodd Peter Perry fel prentis yn Dŵr Cymru a diolch i'r hyfforddiant a'r help a gafodd o'r dechrau, mae e bellach yn Bennaeth ar y cwmni ac yn gyfrifol am weithlu o 3,000 o bobl. Meddai: 

Trwy brofi agweddau theoretig ac ymarferol ar beirianneg, cefais weld y byd gwaith go iawn, ond gyda chymorth y gefnogaeth yn yr ystafell ddosbarth. Hanfod prentisiaeth yw dod i ddeall sut mae busnes yn gweithio ar draws sawl disgyblaeth, a chael golwg unigryw o fanylion sefydliad a mynd o dan ei groen.

Roedd cael y profiad o weld y busnes o'i seiliau o fudd mawr, yn enwedig wrth i mi ddringo ysgol fy ngyrfa. Mae'r ffaith fy mod i wedi'i weld a'i wneud, ar bob lefel, yn golygu bod gen i empathi a dealltwriaeth ddofn o'r busnes. Dwi'n troi atyn nhw bob dydd wrth wneud penderfyniadau fel Pennaeth.

Yn Dŵr Cymru, rydym yn cynnig ystod amrywiol o gyfleoedd dysgu seiliedig ar waith ar draws gwahanol feysydd a setiau sgiliau. Byddwn yn argymell busnesau o bob maint a sector i gynnal prentisiaethau.

Mae'r wythnos Dysgu yn y Gwaith yn cael ei chynnal rhwng 13 i 17 Mai 2024, i dynnu sylw at bwysigrwydd a manteision dysgu a datblygu parhaus.