Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgyrch sy’n annog pobl ifanc sydd mewn perygl o fod yn ddigartref neu sydd eisoes yn ddigartref i ffonio Llinell Gymorth Cyngor ar Dai Shelter Cymru a Llamau, sy’n rhad ac am ddim.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Ionawr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bellach yn ei hail flwyddyn, mae'r ymgyrch ar atal digartrefedd ymhlith pobl ifanc yn tynnu sylw at broblem digartrefedd cudd ymhlith pobl ifanc – gan godi ymwybyddiaeth o'r ffaith nad yw digartrefedd bob amser yn golygu byw ar y strydoedd.

Mae digartrefedd cudd yn fwyaf cyffredin ar ffurf symud o 'soffa i soffa' yn nhai ffrindiau neu aelodau o’r teulu, ond gall hefyd gynnwys aros rhywle dros dro fel hostel neu lety wely a brecwast, neu rywle sy'n anniogel neu'n anaddas.

Mae'r cam hwn o'r ymgyrch hefyd yn canolbwyntio ar bobl a allai fod mewn perygl o fod yn ddigartref oherwydd y pandemig; gallai’r bobl hyn fod wedi colli eu swyddi'n ddiweddar neu fod ar ffyrlo ac, o ganlyniad, efallai eu bod yn ei chael hi'n anodd i gadw eu cartrefi.

Yn ogystal â helpu'r bobl hyn i gydnabod y gallent fod mewn perygl o ddigartrefedd neu eu bod eisoes yn ddigartref, mae'r ymgyrch hefyd yn cynghori eu ffrindiau, eu teulu a'u cydweithwyr ar sut i adnabod arwyddion digartrefedd cudd.

Gofynnir i unrhyw un sy'n profi'r materion hyn ffonio'r Llinell Gymorth Cyngor ar Dai am ddim, sy'n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru a'i rhedeg gan Shelter Cymru – gan  gynnwys cymorth y tu allan i oriau gan Llamau.

Dywedodd Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol:

Mae'r Coronafeirws wedi gorfodi llawer o bobl i drothwy digartrefedd. Bydd llawer o bobl ifanc yn cael trafferth gyda'r mathau hyn o faterion am y tro cyntaf; ac efallai bod eraill wedi bod yn cael trafferth cyn i'r pandemig daro.

Mae'n rhaid inni hefyd gydnabod nad yw digartrefedd bob amser yn golygu byw ar y strydoedd, a bod rhai pobl ifanc wedi bod yn cysgu ar soffa eu ffrindiau neu eu teulu drwy gydol y pandemig hwn.

Ein neges i'r bobl ifanc hynny a'r rhai o'u cwmpas yw ffonio'r Llinell Gymorth Cyngor ar Dai ar unwaith. Mae cynghorwyr arbenigol o Shelter Cymru wrth law yn ystod oriau arferol, ac y tu allan i’r oriau hynny mae cynghorwyr arbenigol o Llamau wrth law. Maen nhw ar gael i siarad â chi am y materion hyn, a'ch cynghori ar yr hyn y gallwch chi ei wneud – dyw hi byth yn rhy hwyr nac yn rhy gynnar i gael help.

Dywedodd Ruth Power, Prif Swyddog Gweithredol Shelter Cymru:

Mae Shelter Cymru yn croesawu'r ymrwymiad newydd hwn gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â digartrefedd ymhlith pobl ifanc.

Mae angen cartref ar bob person ifanc lle gallan nhw fyw eu bywyd, a bod yn ddiogel a ffynnu, a dyna pam mae hi mor bwysig bod unrhyw un sy'n ddigartref ar hyn o bryd neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref yn ymwybodol o'u hawliau, ac yn ymwybodol y gallan nhw ddod aton ni i gael help.

Dywedodd Frances Beecher, Prif Swyddog Gweithredol Llamau:

Byddwn i’n annog unrhyw berson ifanc nad yw'n gwybod ble y byddan nhw’n treulio'r nos heno, yfory, neu’r wythnos nesaf, i'n ffonio a chael y cyngor a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnyn nhw. Mae'r pandemig wedi gwaethygu llawer o'r materion a oedd eisoes yn gadael cynifer o bobl ifanc ar drothwy digartrefedd ac rydyn ni’n awr yn gweld cynifer mwy o bobl ifanc heb le diogel i alw'n gartref. Nid cysgu ar y strydoedd yn unig yw digartrefedd. Pan nad ydych chi’n gwybod ble y byddwch chi'n cysgu neu’n aros gyda ffrind neu ffrind i ffrind, dyna sut mae digartrefedd yn dechrau.

Gwyddom fod profiadau cyntaf llawer o bobl o ddigartrefedd yn digwydd pan fyddan nhw’n ifanc. Felly mae'n hanfodol ein bod ni'n gweithio i roi terfyn ar ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc er mwyn rhoi terfyn ar ddigartrefedd yn gyffredinol. Mae mor bwysig bod pobl ifanc, a'r rhai sy'n eu hadnabod, yn cael cymorth cyn gynted ag y bydd ei angen arnyn nhw.

Mae atal digartrefedd ymhlith pobl ifanc yn flaenoriaeth hirsefydlog i Lywodraeth Cymru. Dyna pam, yn ogystal ag ariannu'r llinell gymorth hon, y darparwyd £3.7miliwn ar gyfer rhaglenni ymyrryd ac atal yn gynnar drwy'r Grant Cymorth Ieuenctid. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid yn y gwasanaeth ieuenctid i helpu i ddod o hyd i bobl ifanc sydd mewn perygl o fod yn ddigartref er mwyn rhoi cymorth addas ar waith.

Am gyngor a chymorth ffoniwch y Llinell Gymorth Cyngor ar Dai ar 08000 495 495 neu ewch i wefan Shelter Cymru.