Neidio i'r prif gynnwy

Poeni am berson ifanc?

Mae’n bosib nad yw pobl ifanc a phlant yn eu harddegau wedi cael digon o brofiad o berthynas iach i wybod bob tro beth sy'n ymddygiad arferol a beth sy'n anarferol.

Mae'n bwysig i ni drafod ymddygiad derbyniol mewn perthynas gyda'r plant a’r bobl ifanc sy’n agos atom, ymhlith ein teulu, ein ffrindiau, neu’r rhai rydym yn eu cefnogi yn ein rôl yn y byd addysg neu wasanaethau cymorth eraill. Rhaid i ni wneud yn siŵr eu bod yn ymwybodol o'r hyn sy'n cyfrif fel perthynas iach a chariad, a sut i adnabod camdriniaeth. 

Mae ceisio rheoli rhywun drwy fygwth a dychryn yn 'rheolaeth drwy orfodaeth', ac mae'n cyfrif fel cam-drin domestig. 

Os ydych chi'n rhiant, yn warcheidwad neu’n agos at berson ifanc, rhaid i chi ddeall a chadw llygad ar agor am arwyddion o reolaeth drwy orfodaeth.

Gall fod yn anodd adnabod yr arwyddion a gwybod y gwahaniaeth rhwng gofal a rheoli; rhaid i chi edrych ar batrymau ymddygiad.

Mae'n bosibl bod partner eich plentyn yn rheoli os yw'n:

  • anfon negeseuon testun, ffonio ac e-bostio yn ddi-baid 
  • ynysu eich plentyn rhag ffrindiau a theulu
  • eisiau gweld eich plentyn a sgwrsio o hyd
  • atal eich plentyn rhag gweithio neu fynd i'r ysgol/coleg/prifysgol
  • cynhyrfu os bydd eich plentyn yn anfon neges neu'n treulio amser gyda rhywun arall
  • cyhuddo eich plentyn o fflyrtio neu chwarae o gwmpas o hyd
  • rhoi pwysau ar eich plentyn i wneud rhywbeth nad yw am ei wneud, fel gwneud rhywbeth rhywiol cyn teimlo'n barod i wneud hynny, neu rannu lluniau noeth ar-lein
  • monitro neu reoli cyfrifon cyfryngau cymdeithasol eich plentyn 
  • cadw llygad ar leoliad eich plentyn drwy GPS
  • gwthio'r berthynas yn rhy gyflym
  • dweud pethau fel "Taset ti'n fy ngharu i, mi faset ti'n..."

Arwyddion bod eich plentyn mewn perthynas nad yw'n iach 

  • Bydd yn camu yn ôl oddi wrth y teulu neu ddigwyddiadau teuluol 
  • Bydd yn ceisio esgusodi ymddygiad y partner 
  • Byddwch yn sylwi ar newid sydyn mewn ymddygiad neu ymarweddiad 
  • Byddwch yn sylwi ar farciau neu gleisiau nad oes esboniad amdanynt 
  • Bydd yn bryderus neu'n poeni os nad yw'n ymateb i negeseuon ar unwaith 
  • Bydd yn mynegi ofn am ymateb posib y partner mewn sefyllfa benodol.

Gwyliwch ein ffilm am yr ymgyrch i weld enghreifftiau o ymddygiad sy'n rheoli:

Sut i helpu person ifanc

O ran eich plentyn

  • Gwnewch yn siŵr bod gennych berthynas onest, agos ac agored gyda'ch plentyn – dywedwch yn glir bod modd siarad â chi am unrhyw beth. 
  • Dysgwch eich plentyn sut i ddygymod â sefyllfaoedd niweidiol – magu hyder yw un o'r ffyrdd gorau o osgoi mynd i berthynas gamdriniol.
  • Gosodwch esiampl gadarnhaol drwy ryddhau eich hun o unrhyw berthynas niweidiol a chamdriniol.
  • Anogwch eich plentyn i adeiladu system gefnogaeth gadarn o bobl y gellir ymddiried ynddynt.
  • Codwch hunan-barch eich plentyn drwy ganmol llwyddiannau, annog i fod yn realistig am ddelwedd y corff a lluniau annaturiol o berffaith o enwogion, a phwysleisio nad yw'n dderbyniol i unrhyw un ei fychanu. 
  • Gwnewch yn siŵr bod eich plentyn yn deall bod gan bawb hawl i ddweud na, ac y dylai unrhyw un sy'n eu caru barchu hynny.
  • Gwnewch yn siŵr bod eich plentyn yn gwybod nad oes bai arno. Nid bai'r dioddefwr ydyw BYTH.
  • Mae'n bwysig i'ch plentyn wybod nad ydych yn feirniadol; bod eich cariad yn ddiamod a bod modd troi atoch am gymorth bob amser.
  • Cynyddwch eich dealltwriaeth eich hun am berthynas nad yw’n iach, gwnewch yn siŵr eich bod yn adnabod yr arwyddion a’r effaith ar eich plentyn. Peidiwch ag ofni dweud eich bod yn pryderu, a’ch bod ar gael pan fydd yn barod i siarad.
  • Cadwch gofnod o unrhyw ymddygiad/patrymau sy’n peri pryder.
  • Byddwch yn barod; sicrhewch bod gennych fanylion asiantaethau cymorth neu linellau cymorth priodol wrth law, edrychwch i weld pa wasanaethau sydd ar gael yn lleol. 
  • Cofiwch y gallai fod yn anodd i’ch plentyn drafod perthynas nad yw’n iach gyda chi, os oes angen gallech gynnig oedolyn priodol arall i siarad â nhw (modryb, ewythr, ffrind i’r teulu, athro, gweithiwr ieuenctid, gweithiwr cymorth).
  • Gall gadael perthynas gamdriniol fod yn gyfnod peryglus iawn, peidiwch â gwthio, gwnewch gynlluniau gydag asiantaeth arbenigol neu linell gymorth Byw Heb Ofn.
  • Os oes perygl uniongyrchol o niwed, galwch yr heddlu.

Gallwn ni i gyd

  • adeiladu hunan-barch person ifanc drwy ganmol llwyddiannau, annog i fod yn realistig am ddelwedd y corff a lluniau annaturiol o berffaith o enwogion, a phwysleisio nad yw'n dderbyniol i unrhyw un ei fychanu.
  • gwneud yn siŵr eu bod yn deall bod gan bawb hawl i ddweud na, ac y dylai unrhyw un sy'n eu caru barchu hynny.
  • sicrhau eu bod yn gwybod nad oes bai arnynt. Nid bai’r dioddefwr ydyw BYTH.

Mae rheolaeth drwy orfodaeth yn drosedd. Os yw eich partner chi yn ceisio eich rheoli, neu os yw hyn yn digwydd i aelod o'r teulu neu ffrind, gallwch gysylltu â Llinell Gymorth Byw Heb Ofn am gyngor a chymorth 24 awr yn rhad ac am ddim, drwy sgwrsio byw ar-lein neu ffonio 0808 8010 800.

Siaradwch â ni nawr

Os ydych chi newu rywun rydych yn ei adnabod yn dioddef rheolaeth drwy orfodaeth, gallwn ni roi cyngor i chi.

Cysylltwch â Byw Heb Ofn am ddim drwy ffonio, sgwrsio ar-lein neu e-bost.