Neidio i'r prif gynnwy

Fe wnes i gyfarfod fy nghariad yn y brifysgol, ac i ddechrau roedd pethau'n grêt, ond ar ôl i ni fod gyda'n gilydd am 18 mis, fe ddechreuodd fy rheoli i.

Dros amser, fe lwyddodd i fy ynysu i'n llwyr oddi wrth fy ffrindiau a'm teulu. Weithiau roedd yn gwneud hyn drwy anfon negeseuon uniongyrchol atyn nhw yn esgus mai fi oedd yn siarad, neu drwy greu helynt pan oedden ni'n cymdeithasu. Cyn bo hir doedden ni ddim yn cael ein gwahodd i fynd allan.

Roedd yn cadw llygad i weld ble'r oeddwn i'n mynd drwy roi ap ar fy ffôn. Os oeddwn i'n diffodd hwnnw, byddai'n cysylltu ar unwaith ac yn bygwth gwneud bob math o bethau i fi.

Roedd yn chwarae triciau arna i. Doedd gen i ddim syniad ar y pryd, ond dyma maen nhw'n ei alw'n 'gaslighting'. Byddai'n fy nghyhuddo o beidio dweud pethau wrtho, er fy mod yn gwybod mod i wedi dweud, neu byddai'n awgrymu mod i'n cofio pethau'n anghywir. Yn raddol, dechreuais ei gredu. Fe ddywedodd fy mod i'n dioddef o iselder, fy mod i'n colli fy meddwl, fy mod i'n wan. Dywedodd bod angen help meddygol arna i, ac fe orfododd fi i wneud apwyntiadau gyda'r meddyg a seiciatryddion. Daeth gyda fi i bob apwyntiad, gan siarad ar fy rhan tra mod i'n edrych ar y llawr, methu dweud gair. Ar brydiau, roedd yn ymddangos fel petai'n poeni am fy lles, ac yn edrych ar fy ôl i. Doedd neb yn cwestiynu hynny, ac o ganlyniad fe gefais bresgripsiwn am feddyginiaeth oedd yn fy nhawelu ac yn fy llethu.

Byddai'n fy anwybyddu am ddiwrnodau ar y tro, ond pan fyddwn yn cysgu, byddai'n fy ngham-drin yn rhywiol. Doedd dim modd i fi ddianc. Pwy fyddai'n fy nghredu petawn i'n dweud fy mod i'n cael fy nhreisio, a finnau mewn perthynas heb unrhyw dystiolaeth?

Yn y diwedd, fe gefais i help ar ôl cyfarfod i gael cyngor am dai a chyllid gyda Chyngor ar Bopeth. Roedd fy atebion yn peri pryder i'r staff, ac fe ofynnwyd i fi am y tro cyntaf os oeddwn i'n cael fy ngham-drin, ac angen help. Dyma'r tro cyntaf i fi siarad am fy mhrofiadau, a gan fod rhywun yn gwrando arna i ac yn fy nghredu, fe gefais y cryfder i ofyn am help a gadael.

Er hynny, fe wnaeth barhau i geisio fy rheoli ar ôl i fi symud allan – fe gadwodd fy nogfennau, fy mhasbort, tystysgrif geni ac eitemau personol, hyd yn oed gwybodaeth microsglodyn fy nghath. Mynnu cael rhai o'r rhain yn ôl oedd y cam cyntaf i symud ymlaen gyda'm bywyd.

Rwy' nawr wedi ymrwymo i addysgu a helpu eraill sydd o bosib yn dioddef yr un math o broblemau. Rwy'n credu'n gryf bod angen codi ymwybyddiaeth o'r gwahanol fathau o gam-drin, gan gynnwys rheolaeth drwy orfodaeth, ac mai trais yw trais hyd yn oed o fewn perthynas. Fe gollodd sawl person gyfle i helpu pan oeddwn i'n dioddef camdriniaeth. Rwy'n credu bod angen systemau diogel i helpu yn ogystal â mwy o wybodaeth am yr arwyddion – mae gofyn i rywun os yw'n iawn mewn camgymeriad yn well na pheidio gofyn a pheryglu bywyd.

Oes rhywbeth fel hyn yn digwydd i chi?

Mae pob math o gamdriniaeth yn anghywir a byth yn dderbyniol. Os ydych chi neu rywun sy'n agos atoch yn cael eich rheoli mewn perthynas, mae cymorth ar gael. Gallwch gysylltu â Llinell Gymorth Byw Heb Ofn ar 0808 80 10 800 neu siarad ar y we 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.
 
Gall unrhyw un sydd angen cymorth gysylltu â'r llinell gymorth neu sgwrsio ar-lein ar unrhyw adeg i gael cyngor a chymorth.

Fodd bynnag, os ydych chi neu rywun sy'n agos atoch mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch yr Heddlu ar 999.

*Mae enwau a manylion personol wedi cael eu newid er mwyn amddiffyn y person sy'n rhannu ei hanes.  

Siaradwch â ni nawr

Os ydych chi newu rywun rydych yn ei adnabod yn dioddef rheolaeth drwy orfodaeth, gallwn ni roi cyngor i chi.

Cysylltwch â Byw Heb Ofn am ddim drwy ffonio, sgwrsio ar-lein neu e-bost.