Nod yr adroddiad yw archwilio graddau'r gefnogaeth ymhlith darparwyr a rhanddeiliaid dros gonsortiwm e-ddysgu estynedig.
Y cyhoeddiad diweddaraf
I ymchwilio i faterion adnoddau ac i gyflwyno nifer o fodelau gwahanol ar gyfer datblygiad posib y Bartneriaeth.
Comisiynwyd yr ymchwil hon gan gyn Gyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant (ELWa) i archwilio'r posibilrwydd o sefydlu consortiwm e-hyfforddiant wedi'i ffurfioli o ddarparwyr ôl-16 yng Ngogledd Cymru - yng nghyd-destun y Rhwydwaith e-Hyfforddiant cyfredol o Sefydliadau Addysg Bellach neu Sefydliadau Addysg Uwch.
Cyd-destun
Mae strategaeth e-Ddysgu Cymru yn diffinio e-ddysgu fel 'Defnyddio technoleg electronig i gefnogi, gwella neu ddarparu dysg'.
Mae ei amcanion yn cynnwys:
- creu rhwydwaith e-ddysgu integredig cenedlaethol
- darparu seilwaith darparu o ansawdd uchel
- galluogi rhaglenni e-ddysgu o ansawdd uchel i gael eu hadeiladu'n lleol neu eu caffael yn genedlaethol.
Mae'r modd y mae Lloegr a'r Alban yn mynd ati yn ffafrio datblygu dysgu cyfunol fel y dull mwyaf effeithiol o weithredu e-ddysgu - cefnogi dulliau addysgu traddodiadol yn hytrach na thrawsnewid y colegau neu'r prifysgolion presennol i fod yn sefydliadau ar-lein yn unig.
Mae mwyafrif y prosiectau cyfredol yn cynnwys cydweithredu wrth ddosbarthu gwybodaeth a phrin yw'r enghreifftiau o gydweithredu o ran cynnwys a chwricwlwm.
Sefydlwyd y Rhwydwaith E-Hyfforddiant Gogledd Cymru (NWETN) cyfredol ym mis Gorffennaf 2003, ac fe'i cyllidwyd drwy'r Gronfa Datblygu Gwybodaeth (KEF). Ym mis Hydref 2003, cyflwynodd y NWETN gais am gymorth KEF pellach i ddatblygu ei weithgareddau ymhellach. Fodd bynnag, collodd y Bartneriaeth fomentwm yn sgil yr holl oedi wrth brosesu cais KEF.
Canfyddiadau o waith maes
Roedd y gwaith maes yn cynnwys cyfweliadau ansoddol gyda darparwyr a rhanddeiliaid yn y rhanbarth.