Neidio i'r prif gynnwy

Gall busnesau micro, bach a chanolig yn y sectorau manwerthu, lletygarwch a hamdden nawr edrych i weld a ydyn nhw'n gymwys am gymorth gan Lywodraeth Cymru i'w helpu i leihau eu costau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Ebrill 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae grantiau o £5,000 i £10,000 ar gael trwy Gronfa Paratoi at y Dyfodol i helpu busnesau i fuddsoddi mewn technoleg ynni adnewyddadwy, gwella adeiladwaith eu busnesau neu brynu systemau neu beiriannau i leihau eu defnydd o ynni.

I wneud cais am grant, rhaid i’r busnes:

  • fod wedi'i leoli yng Nghymru ac yn cyflogi pobl yng Nghymru
  • cyflogi rhwng 1 a 249 o bobl
  • wedi bod yn masnachu ers cyn 5 Ebrill 2023
  • rhedeg safle ag iddo werth ardrethol o £6,001 i £51,000
  • naill ai'n berchen ar safle'r busnes neu'n ei lesio gyda les o 3 blynedd fan leiaf sy'n para tan ar ôl 4 Ebrill 2026.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a'r Gymraeg, Jeremy Miles:

"Rydyn ni'n gwneud popeth yn ein gallu i helpu busnesau i oroesi'r argyfwng costau byw a'r argyfwng costau rhedeg busnes ac i helpu busnesau i ffynnu trwy baratoi at y dyfodol a lleihau baich ac anwadalwch costau ynni ar filiau.

"Rwy'n annog pawb sy'n rhedeg microfusnes, neu fusnes bach neu ganolig yn y sectorau manwerthu, lletygarwch a hamdden i edrych a ydyn nhw'n gymwys am grant, cyn i'r cyfnod ymgeisio agor ym mis Mai."

Dywedodd y Gweinidog Manwerthu a Thwristiaeth, Hannah Blythyn:

"Mae hwn yn gyfle gwych i ystod eang o fusnesau micro, bach a chanolig i gael help i wneud newidiadau hirdymor, i fod yn fwy effeithlon ac i gadw biliau i lawr. Edrychwch i weld a ydych chi'n gymwys i gael yr help yma a'r diogelwch y gall ei roi fel y gallwch ganolbwyntio ar ddatblygu eich busnes, eich elw a’ch staff."

Gweler y gwiriwr cymhwystra: Cronfa paratoi at y dyfodol | Busnes Cymru (gov.wales)