Neidio i'r prif gynnwy

Mae'n rhaid inni i gyd fod yn rhan o'r ateb ac i ymrwymo i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd, meddai Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig mewn galwad i bawb yn Nghynhadledd Newid Hinsawdd yn Neuadd y Ddinas heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Hydref 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi adleisio ei galwad i weithredu ar y cyd ac wedi amlinellu yr hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud wedi datgan argyfwng hinsawdd.  

Bydd Richard Parks, yr athletwr gwytnwch corfforol a chyn chwaraewr rygbi Cymru yn siarad yn y gynhadledd ynghylch y newidiadau i'r amgylchedd y mae wedi'u gweld yn ystod ei deithiau o amgylch y byd, a phwysigrwydd gweithio fel tîm wrth geisio goresgyn heriau sy'n ymddangos yn amhosibl.

Nod y gynhadledd flynyddol gyntaf, sy'n cael ei chynnal fel rhan o ymrwymiad yn y cynllun 'Ffyniant i Bawb: Cymru Carbon Isel' a gyhoeddwyd yn gynharach eleni, yw ymateb i'r argyfwng hinsawdd a dod â phobl at ei gilydd. 

Bydd y cyflwynydd tywydd ar ITV Ruth Wignall yn arwain y digwyddiad yn ystod y dydd, a dyma fydd dechrau y paratoadau ar gyfer Cynhadledd y Partïon y Cenhedloedd Unedig (COP 26) yn Glasgow 2020 a 'Chynllun Cyflenwi Cymru Gyfan' yn 2021.

Bydd cais i sefydliadau sy'n bresennol yn y gynhadledd ymrwymo i sut y byddant yn gwneud eu rhan i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd ac i ymuno â'r ymateb ar y cyd i'r argyfwng hinsawdd.

Ar gyfer pawb fydd yn bresennol yn y gynhadledd, bydd coeden yn cael ei phlannu yn Mbale, Dwyrain Uganda, fel rhan o raglen Cymru o blaid Affrica Llywodraeth Cymru.

Bydd y ffermwr Nimrod Wambette, o Mbale, yn areithio yn y gynhadledd ynghylch sut y mae ei ardal ef gartref eisoes yn teimlo effaith y newid yn yr hinsawdd. Bydd yn egluro sut y mae'r gwaith y mae'n ei wneud drwy'r rhaglen yn helpu iddo ef a'i gymdogion nid yn unig addasu i'r newid yn yr hinsawdd ond i wella eu bywoliaeth.

Bydd cynrychiolwyr o Extinction Rebellion yn bresennol i rannu rhywfaint o'u syniadau ynghylch sut y dylem ymateb i'r argyfwng hinsawdd

Wyth peth rydyn ni'n ei wneud i daclo'r Argyfwng Hinsawdd yng Nghymru:

  1. Gosod targedau uchelgeisiol ar gyfer lleihau allyriadau carbon.
  2. Ei gwneud yn haws i bobl beidio â defnyddio'u ceir.
  3. Gwahardd rhai eitemau plastig untro.
  4. Mynd i'r afael â'r Argyfwng ym myd Natur trwy greu Coedwig Genedlaethol
  5. Buddsoddi yn yr Economi Gylchol.
  6. Mwy o fannau gwefru Cerbydau Trydan.
  7. Sefydlu diwydiannau adnewyddadwy sy'n arwain y byd.
  8. Addo i gadw'r sgwrs i fynd.

Meddai Lesley Griffith, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig:

Efallai bod Cymru yn genedl fechan, ond mae gennym uchelgais fawr i fod yn rhan o'r ateb i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd ac i sicrhau ein bod yn gwarchod ein hamgylchedd am genedlaethau i ddod. Dwi am fynd â neges gref i Glasgow y flwyddyn nesaf, yn dangos bod Cymru yn barod i chwarae ei rhan ac yn galw ar eraill i weithredu gyda ni.

Rydyn ni yn hynod falch o fod y senedd gyntaf i ddatgan argyfwng hinsawdd, ond dim ond y cam cyntaf yw hyn ac rydyn ni angen i bawb chwarae eu rhan ac ymuno yn yr ymateb ar y cyd.

Ychwanegodd:

Nid yw mynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd yn rhywbeth y gallwn ei adael i unigolion nac i'r farchnad rydd. Rhaid wrth weithredu ar y cyd, ac mae gan y llywodraeth ran ganolog i'w chwarae i wneud hynny yn bosibl.

Dyna pam ein bod yn cynnal y gynhadledd hon ac yn annog pawb - gan gynnwys busnesau, y sector cyhoeddus, cymunedau a phobl ifanc - i ymrwymo i weithredu i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd ym mha ffordd bynnag y gallant.

Dywedodd y Prif Weinidog  Mark Drakeford:

Rydy ni'n benderfynol i Gymru fod yn genedl sy'n cael ei phŵer o ffynonellau ynni adnewyddadwy, wrth inni ymdrechu i leihau allyriadau a chyrraedd ein targedau datgarboneiddio.

Rydyn ni wedi bod yn flaenllaw yn y chwyldro gwyrdd - gan fuddsoddi mewn ynni gwynt, tonnau a ffynonellau ynni dŵr - ac rydyn ni'n edrych ymlaen at sicrhau ynni glân yn y dyfodol."Dwi'n gobeithio y bydd y gynhadledd hon yn dod â phawb ar draws y sector at ei gilydd, fel y gallwn rannu yr hyn rydyn ni wedi ei ddysgu cyn Cynhadledd y Partïon y Cenhedloedd Unedig y flwyddyn nesaf a chyhoeddi ein Cynllun Cyflawni Cymru Gyfan yn 2021.

Meddai'r athletwr gwytnwch corfforol eithriadol a chyn chwaraewr rygbi Cymru, Richard Parks:

O'r Antartica i yma yng Nghymru, rwyf wedi bod ar deithiau ledled y byd.

Gan imi weld drosof fy hun yr effaith a gaiff y newid yn yr hinsawdd ar ein byd, mae bellach yn amser hollbwysig i warchod ein planed ar gyfer ein plant.

Dwi'n falch o'r arweiniad gan ein Senedd wrth fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd, ond mae ein dyfodol yn galw arnom i wneud ein rhan cyn ei bod yn rhy hwyr. Dwi'n obeithiol gan ein bod bob amser wedi gwneud mwy na'r disgwyl yma yng Nghymru, ac rwy'n teimlo'n gyffrous i fod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru cyn cynhadledd y Cenhedloedd Unedig yn Glasgow.