Neidio i'r prif gynnwy

Mae adroddiad ar oblygiadau Brexit i’r gweithlu gofal cymdeithasol a gofal plant yng Nghymru, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, wedi’i groesawu gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan.

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Mawrth 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dywedodd y Dirprwy Weinidog:

“Bydd y canfyddiadau yn rhoi sicrwydd ac yn helpu i lywio paratoadau’r sector a Llywodraeth Cymru ar gyfer Brexit.”

Mae’r ymchwil yn amcangyfrif bod tua 6.4% o’r bobl sy’n gweithio mewn lleoliadau gofal cymdeithasol cofrestredig a 4.5% o’r bobl sy’n gweithio mewn lleoliadau gofal plant cofrestredig yng Nghymru yn wladolion yr Undeb Ewropeaidd nad ydynt o’r DU. 

Dangosodd yr adroddiad mai’r her fwyaf sy’n wynebu’r sector yw recriwtio pobl newydd. Cadarnhaodd 58% o’r ymatebwyr ym maes gofal cymdeithasol cofrestredig a 47% o’r ymatebwyr ym maes gofal dydd i blant eu bod wedi cael anawsterau recriwtio yn y flwyddyn ddiwethaf. 

Yn y flwyddyn ddiwethaf roedd problemau cadw staff yn llai cyffredin, ond er hyn rhoddodd chwarter o’r gwasanaethau gofal cymdeithasol cofrestredig wybod am broblemau. Mewn lleoliadau gofal dydd i blant, rhoddodd 10% wybod bod cadw staff yn haws tra roedd 12% yn credu ei fod yn fwy anodd.  

Roedd gwasanaethau gofal cymdeithasol cofrestredig ychydig yn fwy tebygol o roi gwybod am heriau wrth recriwtio a chadw nyrsys cofrestredig y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth.  

Rhoddodd y gwasanaethau gofal cymdeithasol a’r gwasanaethau gofal plant wybod mai ychydig iawn o newid a fu o ran yr anawsterau wrth gadw staff o’r Undeb Ewropeaidd, nad ydynt o’r DU, yn y flwyddyn ddiwethaf.  

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan: 

“Mae gwladolon yr Undeb Ewropeaidd nad ydynt o’r DU yn rhan fechan ond pwysig o’n gweithlu gofal cymdeithasol a gofal plant.

“Mae’n bwysig ein bod yn sicrhau bod y bobl hynny o wledydd yr Undeb Ewropeaidd a gwledydd y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd yn dal i deimlo bod croeso iddynt fyw a gweithio yng Nghymru.

“Rydym yn sylweddoli bod y sector eisoes yn wynebu heriau wrth recriwtio a chadw gweithwyr a dyma pam yr ydym yn cefnogi’r Ymgyrch ‘Gofalwn.Cymru’ newydd. Ymgyrch i ddenu, cadw a recriwtio gweithwyr yw hon, dan arweiniad Gofal Cymdeithasol Cymru, sy’n tynnu sylw at yr amrywiaeth o gyfleoedd sydd ar gael mewn gofal cymdeithasol a gofal plant.”