Neidio i'r prif gynnwy

Adroddiad ar ganfyddiadau yn ymwneud â COVID-19 a’i effaith ar grwpiau cymunedol Cymraeg, a sut y gwnaethon nhw weithredu.

I ddarganfod sut mae COVID-19 a'i gyfyngiadau wedi effeithio ar grwpiau cymunedol Cymraeg, cynhaliwyd arolwg ar-lein rhwng 14 Medi a 9 Hydref  2020.

Derbyniodd Llywodraeth Cymru help gan y Mentrau Iaith i weinyddu’r arolwg. Fe wnaethon adnabod grwpiau oedd yn darparu cyfleoedd i gymdeithasu, gwirfoddoli a chymryd rhan mewn gweithgareddau drwy gyfrwng y Gymraeg yn eu hardaloedd lleol. Gofynnwyd i’r grwpiau a’u hadnabyddir i gwblhau’r arolwg, oedd yn casglu tystiolaeth ar sut roedd y grwpiau wedi gweithredu cyn y pandemig, os oedden nhw wedi gallu gweithredu ers cychwyn y cyfnod clo cyntaf ym mis Mawrth 2020 a beth oedd eu disgwyliadau ar gyfer y dyfodol. Cafwyd 1,092 ymateb i’r arolwg.

Prif ganfyddiadau

Cyn y pandemig

Roedd dros hanner o’r grwpiau wnaeth ymateb i’r arolwg yn cael eu rhedeg gan wirfoddolwyr yn unig, gyda nifer ohonynt yn dibynnu ar 20 o wirfoddolwyr neu fwy. Gweithgareddau cymdeithasol dan-do oedd fwyaf tebygol o gael eu cynnal. Yn gyffredinol, merched a’r rheiny rhwng 50 a 69 mlwydd oed oedd fwyaf tebygol o gymryd rhan mewn gweithgareddau wedi eu trefnu gan grwpiau cymunedol. 

Dim ond 2% o'r grwpiau a ymatebodd a adroddodd eu bod yn cynnal unrhyw weithgareddau ar-lein cyn diwedd mis Mawrth 2020. Mae hyn yn awgrymu cam mor sylweddol oedd hi i rai o'r grwpiau hyn addasu eu gweithgareddau yn sgil y pandemig.

Yn ystod y pandemig

Roedd pumed o’r grwpiau (20%) wedi gallu addasu eu gweithgareddau er mwyn gweithredu mewn rhyw ffordd ers dechrau'r cyfnod clo ym mis Mawrth. Efallai bod yr 80% arall wedi cadw mewn cysylltiad â'u grŵp, ond heb barhau i weithredu. O’r rhain:

  • nododd 93% mai’r rheswm dros beidio â gweithredu oedd nad oedd ‘yn ymarferol i barhau o dan gyfyngiadau a rheoliadau COVID-19’
  • nododd 28% fod eu haelodau'n teimlo yn ‘ofni neu ddim yn ddiogel’; grwpiau cymdeithasol a partneriaethau cymunedol, grwpiau crefyddol a changhennau Merched y Wawr oedd fwyaf tebygol o nodi mae dyma’r rheswm dros beidio â gweithredu

Ar gyfer yr holl weithgareddau a oedd fel arfer yn cael eu cyflawni gan grwpiau cymunedol cyn y pandemig, roedd dros ddwy ran o dair (68%) ohonynt heb gael eu cynnal o gwbl ers dechrau'r cyfnod clo.

  • Tripiau wedi eu trefnu, gwyliau/eisteddfodau, ymgyrchoedd codi arian, perfformiadau ac ymarferion cerddorol oedd y gweithgareddau oedd fwyaf tebygol o fod wedi peidio â digwydd.
  • Gweithgareddau dysgu (er enghraifft, gweithgareddau ar gyfer plant neu'r rheiny oedd yn dysgu Cymraeg) oedd y gweithgareddau mwyaf tebygol o fod wedi eu cynnal ar-lein (31% wedi eu cynnal ar-lein) a gwirfoddoli yn y gymuned oedd fwyaf tebygol o fod wedi cael ei addasu ond heb ddigwydd ar-lein (wedi digwydd yn yr awyr agored fel arfer).
  • Roedd grwpiau cymunedol lle roedd y trefnwyr yn derbyn cyflog yn fwy tebygol o fod wedi llwyddo i weithredu o’u cymharu â grwpiau a oedd yn dibynnu ar wirfoddolwyr yn unig.

Disgwyliadau ar gyfer y dyfodol

Dywedodd 62% o'r grwpiau y byddent yn parhau i fodoli fel grŵp hyd yn oed pe bai’r rheolau am gadw pellter cymdeithasol yn parhau i fodoli mewn blwyddyn. Y papurau bro, Mentrau Iaith a chynghorau cymuned oedd fwyaf tebygol o deimlo y byddent yn gallu parhau, tra roedd clybiau am yr ardal, corau, grwpiau cymdeithasol a grwpiau perfformio yn llai tebygol o barhau yn y dyfodol.

Gan feddwl am y dyfodol, gofynnwyd i’r grwpiau sut y bydden nhw’n gweithredu pe na bai rheolau cadw pellter cymdeithasol yn bodoli. Yr ateb mwyaf cyffredin i’r cwestiwn hwn oedd y bydden nhw’n gwneud newidiadau bach, ond ar y cyfan yn parhau yn yr un ffordd ag yr oeddent wedi gweithredu cyn y pandemig. Dywedodd 31% o’r grwpiau y bydden nhw’n mynd yn ôl i weithredu yn union fel yr oeddent wedi gweithredu cyn y pandemig.

Pan ofynnwyd iddynt am y mathau o bethau a fyddai’n eu cynorthwyo i lwyddo yn y dyfodol nododd rhan fwyaf y grwpiau y mater o sicrhau diogelwch aelodau. Dywedodd nifer o grwpiau hefyd y byddai cymorth i ddatblygu eu defnydd o dechnoleg; cymorth i uwchsgilio eu haelodau i gael mynediad i weithgareddau ar-lein; cyllid ychwanegol neu gyllid parhaus, a chymorth i hysbysebu neu godi ymwybyddiaeth am eu grŵp yn eu helpu i lwyddo yn y dyfodol.

Adroddiadau

Effaith COVID-19 ar grwpiau cymunedol Cymraeg: canfyddiadau arolwg , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 4 MB

PDF
4 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Lisa Walters

Rhif ffôn: 0300 025 6282

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.