Mae cymorth busnes gan y Gwasanaeth Ynni wedi galluogi Egni Co-op, i gryfhau ei fodel busnes ‘ynni fel gwasanaeth’.
Crynodeb
Mae Egni Co-op, grŵp ynni cymunedol, wedi gosod dros 4.8 MW o solar ffotofoltäig ar bron i 100 o doeau yn ne Cymru. Yn 2023 i 2024, cefnogwyd Egni gan y Gwasanaeth Ynni i fireinio modelu refeniw ar draws ei bortffolio ynni adnewyddadwy, gan gryfhau hyfywedd ei fodel busnes 'ynni fel gwasanaeth'.
Ein cefnogaeth
Modelu ariannol strategol, dadansoddi portffolio, a chefnogaeth gyda cheisiadau cyllid ar gyfer gosodiadau solar parhaus.
Datrysiad technoleg
- Amcangyfrifir bod gwerth 240 kWp o solar ffotofoltäig wedi'i osod yn 2023 i 2024.
- Prosiect parhaus gwerth £2.3 miliwn a gefnogir gan £990,000 gan Grant Ynni Lleol Llywodraeth Cymru.
- Gosodiadau solar ar y to ar ysgolion, adeiladau cymunedol, a safleoedd cyhoeddus.
Buddsoddiad
- £2.3 miliwn yw cyfanswm gwerth y prosiect, gyda £990,000 yn cael ei ariannu gan Grant Ynni Lleol Llywodraeth Cymru.
Effaith
- 230 MWh amcangyfrifiedig o gapasiti cynhyrchu o osodiadau 2023 i 2024; yn codi i 1.89 GWh pan fydd pob safle yn weithredol.
- Arbedion amcangyfrifiedig o 930 tCO₂e wedi'u rhagweld dros oes y prosiect.
- Rhagamcanir enillion ecwiti o £470,000 i'w hail-fuddsoddi mewn rhagor o brosiectau ynni cymunedol a chymorth addysgol i ysgolion.
