Neidio i'r prif gynnwy

Egwyddorion ar gyfer addysgu iaith a llythrennedd yng Nghymru

Mae'r egwyddorion hyn yn nodi'r elfennau sylfaenol y dylai pob ysgol eu hymgorffori wrth addysgu iaith a llythrennedd ar gyfer dysgwyr 3 i 16 oed. Maent yn seiliedig ar ymrwymiad i ddathlu, hyrwyddo ac annog llythrennedd dwyieithog ac amlieithog. Mae'r egwyddorion wedi cael eu llywio gan dystiolaeth, maent yn canolbwyntio ar ymarfer addysg, a’u nod yw:

  • llywio disgwyliadau clir ar gyfer addysgu iaith a llythrennedd i bob dysgwr, gan gynnwys dysgwyr sydd angen cymorth ychwanegol i ddatblygu'r sgiliau hyn yn effeithiol
  • cefnogi mwy o gysondeb a gwelliant ar gyfer iaith a llythrennedd ar draws y system
  • arwain y gwaith o ddatblygu rhaglen dysgu proffesiynol genedlaethol i sicrhau bod gan bob ymarferydd fynediad at ddysgu proffesiynol, cymorth a strategaethau o ansawdd uchel i addysgu ac asesu sgiliau iaith a llythrennedd dysgwyr
  • llywio rhaglenni addysg gychwynnol i athrawon i sicrhau bod pob ymarferydd newydd yn deall sut i addysgu ac asesu sgiliau iaith a llythrennedd yn effeithiol
  • cefnogi'r adolygiad o'r Fframwaith Llythrennedd

Mae'r Panel Arbenigol Llythrennedd wedi nodi pum egwyddor ar gyfer addysgu iaith a llythrennedd yng Nghymru:

  1. Mae sylfaen gref mewn iaith lafar yn hanfodol er mwyn datblygu iaith a llythrennedd dysgwyr yn llwyddiannus ar bob cam.
  2. Dylai’r dull addysgu llythrennedd fod yn systematig, yn strwythuredig ac yn benodol.
  3. Mae creu cysylltiadau rhwng gwrando, siarad, darllen ac ysgrifennu yn hanfodol er mwyn cefnogi dysgwyr i ddysgu, cyfathrebu a chreu ystyr.
  4. Mae addysgu iaith a llythrennedd yn effeithiol yn galluogi dysgwyr i brofi mwynhad, llwyddiant a chymhelliant.
  5. Mae asesu pwrpasol yn hanfodol i gefnogi addysgu iaith a llythrennedd mewn ffordd wybodus ac ymatebol. 

Ceir rhagor o wybodaeth am bob egwyddor isod, gyda datganiadau ategol i ddisgrifio’r hyn maent yn ei olygu i ysgolion a lleoliadau.

Sut gall ysgolion a lleoliadau roi'r egwyddorion ar waith

1. Mae sylfaen gref mewn iaith lafar yn hanfodol er mwyn datblygu iaith a llythrennedd dysgwyr yn llwyddiannus ar bob cam

Dylai ysgolion a lleoliadau:

  • ddarparu amgylcheddau dysgu sy'n llawn iaith a llythrennedd lle mae’r Gymraeg a'r Saesneg yn cael eu defnyddio’n ystyrlon ar gyfer cyfathrebu, creadigrwydd a dysgu
  • cefnogi cyfathrebu a lleferydd dysgwyr drwy fodelu iaith yn benodol, gan gynnwys defnyddio iaith rythmig
  • defnyddio amrywiaeth o gyd-destunau go iawn a dychmygus, y tu mewn a’r tu allan, i ddatblygu ac ymestyn gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau dysgwyr
  • addysgu sgiliau gwrando a siarad yn benodol
  • darparu cyfleoedd rheolaidd, wedi'u cynllunio a'u strwythuro, i ddysgwyr ddatblygu eu gwybodaeth am eirfa a’u dealltwriaeth ohoni, fel rhan annatod o ddysgu iaith
  • sicrhau bod cysyniadau a sgiliau yn cronni’n raddol i gefnogi datblygu iaith a llythrennedd dysgwyr yn llwyddiannus
  • gweithio gyda theuluoedd, cymunedau ac asiantaethau allanol i ddeall yr amrywiaeth eang o ffactorau, gan gynnwys cyd-destunau ieithyddol a diwylliannol, sy’n dylanwadu ar ddatblygiad iaith a llythrennedd plant

2. Dylai’r dull addysgu llythrennedd fod yn systematig, yn strwythuredig ac yn benodol

Dylai ysgolion a lleoliadau:

  • ddefnyddio hyfforddiant systematig a phenodol i roi i ddysgwyr yr amrywiaeth o wybodaeth, sgiliau a strategaethau y mae arnynt ei hangen i ddatblygu defnydd effeithiol o iaith
  • datblygu ymwybyddiaeth ffonolegol, megis trwy ganeuon a rhigymau
  • sicrhau bod pob dysgwr yn gwybod sut i fynd ati i ddadgodio geiriau nad ydynt yn eu gwybod yn effeithiol drwy addysgu ffoneg mewn ffordd systematig, strwythuredig a phenodol
  • cydnabod y dulliau addysgegol gwahanol sy'n ofynnol ar gyfer pob iaith, a chynllunio ar eu cyfer, gan gynnwys gwahaniaethau mewn cyfatebiaeth sain-symbol, morffoleg a chystrawen
  • datblygu gallu dysgwyr i ddarllen yn rhugl gyda goslef a chyflymder priodol i gyfleu ystyr testun wrth ddarllen yn uchel
  • datblygu sgiliau dysgwyr o ran casglu, canfod, dadansoddi, dehongli, gwerthuso, crynholi, syntheseiddio, chymharu a gwerthfawrogi testunau
  • cefnogi datblygiad sgiliau ysgrifennu dysgwyr drwy fynd ati’n benodol i addysgu sut i ffurfio llythrennau, llunio brawddegau, atalnodi a sillafu mewn cyd-destunau ystyrlon
  • defnyddio dull systematig a strwythuredig o addysgu sillafu
  • defnyddio dulliau sy'n cael eu llywio gan dystiolaeth i ddatblygu iaith a llythrennedd, gan integreiddio strategaethau sydd wedi dangos effaith gadarnhaol ar gynnydd dysgwyr

I gefnogi'r gwaith hwn, mae'r Panel wedi ysgrifennu Datganiad o fwriad ar addysgu sgiliau darllen cynnar, gan gynnwys addysgu ffoneg.

3. Mae creu cysylltiadau rhwng gwrando, siarad, darllen ac ysgrifennu yn hanfodol er mwyn cefnogi dysgwyr i ddysgu, cyfathrebu a chreu ystyr

Dylai ysgolion a lleoliadau:

  • annog cydweithio ar draws addysgu Cymraeg, Saesneg ac amlieithog i ddarparu cyfleoedd teg a phwrpasol a sicrhau cysondeb o ran disgwyliadau a llwybrau cynnydd
  • helpu dysgwyr i gysylltu'r hyn maent yn ei glywed a'i ddarllen â'u profiadau eu hunain ac adeiladu gwybodaeth gefndirol yn systematig er mwyn dyfnhau eu dealltwriaeth
  • cynllunio cyfleoedd systematig i ddatblygu gallu dysgwyr i siarad a’u meistrolaeth ar iaith ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd a dibenion, gan gynnal deialog â nhw i’w hannog i feddwl am sut maent yn cyfathrebu a sut gallant wella
  • defnyddio modelu ac arddangosiadau i ddatblygu gallu dysgwyr i ddeall a defnyddio iaith yn effeithiol
  • addysgu dysgwyr i gynllunio, drafftio, adolygu a mireinio eu syniadau llafar ac ysgrifenedig, ac ysgwyddo'r cyfrifoldeb am wirio, cywiro ac ailddrafftio eu gwaith ysgrifenedig fel eu bod yn cyfleu syniadau a gwybodaeth yn gydlynol ac yn effeithiol
  • galluogi dysgwyr i ddeall gwahanol ffurfiau a genres
  • cynllunio cyfleoedd pwrpasol i ddysgwyr ddatblygu a defnyddio eu sgiliau iaith a llythrennedd ar draws ac o fewn y Meysydd Dysgu a Phrofiad

4. Mae addysgu iaith a llythrennedd yn effeithiol yn galluogi dysgwyr i brofi mwynhad, llwyddiant a chymhelliant

Dylai ysgolion a lleoliadau:

  • greu diwylliant o ddisgwyliadau uchel a herio pwrpasol i gymell dysgwyr a meithrin hyder wrth ddatblygu sgiliau iaith a llythrennedd
  • annog cymhelliant drwy ddylunio a dewis adnoddau, profiadau a gweithgareddau o ansawdd uchel i ennyn diddordeb dysgwyr
  • cydbwyso gweithgareddau dan gyfarwyddyd oedolion â dysgu annibynnol, gan ddatblygu ymreolaeth drwy ganiatáu i ddysgwyr ddewis pynciau a thestunau ar gyfer astudio’n unigol neu mewn grŵp
  • datblygu sgiliau iaith a llythrennedd disgyblaethol i gryfhau cymhelliant ac ymgysylltiad dysgwyr ar draws eu pynciau
  • cefnogi dysgwyr i fyfyrio'n rheolaidd ar y strategaethau maent yn eu defnyddio a'r cynnydd maent yn ei wneud
  • datblygu diwylliant o ddarllen sy'n meithrin darllen er pleser, sy’n cynnwys cyfleoedd rheolaidd i wrando ar oedolion yn darllen yn uchel, ac sy’n hyrwyddo arferion darllen cadarnhaol
  • cefnogi dysgwyr i ddatblygu ymdeimlad o berthyn a hunaniaeth ddiwylliannol drwy eu defnydd o iaith

5. Mae asesu pwrpasol yn hanfodol i gefnogi addysgu iaith a llythrennedd mewn ffordd wybodus ac ymatebol

Dylai ysgolion a lleoliadau:

  • ddefnyddio asesu parhaus i nodi cryfderau ac anghenion dysgwyr, addasu’r ddarpariaeth a darparu cymorth wedi’i dargedu
  • rhoi adborth manwl ac anogaeth i ddysgwyr yn rheolaidd, yn briodol i'w cam datblygu, er mwyn arwain a chymell gwelliant pellach mewn sgiliau iaith a llythrennedd
  • sicrhau bod dulliau asesu yn briodol yn ddatblygiadol, yn gynhwysol ac yn cyd-fynd ag egwyddorion y Cwricwlwm i Gymru
  • defnyddio strategaethau addysgu ac ymyrraeth sy’n ymateb i broffiliau iaith dysgwyr, gan gynnwys y rhai ag anghenion dysgu ychwanegol, Saesneg fel iaith ychwanegol, ac anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu
  • defnyddio modelau cymorth hyblyg, gan gynnwys darpariaeth un-i-un ac mewn grwpiau bach, i ddiwallu anghenion amrywiol dysgwyr yn effeithiol
  • cefnogi ymarfer sy'n seiliedig ar ymholi, lle mae ymarferwyr yn gwerthuso effaith eu strategaethau addysgu ar ganlyniadau dysgwyr ac yn addasu ar sail tystiolaeth