Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau ar sut mae IEPAW yn penderfynu pa gyflwyniadau i flaenoriaethu.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Ebrill 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Mae Asesydd Interim Diogelu’r Amgylchedd Cymru yn derbyn llawer o gyflwyniadau drwy gydol y flwyddyn ac ni all ymrwymo i lunio adroddiad ynglŷn â phob un ohonynt, hyd yn oed pan fyddant o fewn cwmpas proses yr Asesydd. Wrth benderfynu pa gyflwyniadau i’w blaenoriaethu, bydd Asesydd Interim Diogelu’r Amgylchedd Cymru yn ystyried yr egwyddorion canlynol:

Yr effaith

Nod Asesydd Interim Diogelu’r Amgylchedd Cymru yw canolbwyntio’i hadnoddau lle byddant yn ychwanegu’r gwerth mwyaf. Gan hynny, rhoddir blaenoriaeth i bryderon lle gallai newid yn y gyfraith arwain at welliannau sylweddol i’r amgylchedd. Pan fydd Asesydd Interim Diogelu’r Amgylchedd Cymru o’r farn bod effaith ei hargymhellion yn debygol o fod yn gyfyngedig, mae’n llai tebygol y gellir cyfiawnhau llunio adroddiad.

Y cyd-destun ehangach

Bydd Asesydd Interim Diogelu’r Amgylchedd Cymru yn ystyried ai dyma’r corff gorau i ymateb i gyflwyniad, neu a allai fod yn well i gorff gwahanol ymdrin â’r mater, megis rheoleiddiwr amgylcheddol. Wrth ystyried a ddylid llunio adroddiad, ystyrir hefyd a yw corff arall (e.e. un o bwyllgorau’r Senedd) eisoes yn cymryd camau tebyg, neu wedi’u cymryd yn ddiweddar. Mewn achosion o’r fath, gall Asesydd Interim Diogelu’r Amgylchedd Cymru ddewis peidio ag ysgrifennu adroddiad, neu fe all ddewis teilwra’i hymateb mewn ffordd sy’n ategu gwaith y corff arall, yn hytrach na’i ddyblygu.

Y risg

Bydd Asesydd Interim Diogelu’r Amgylchedd Cymru yn ceisio canolbwyntio’i hadnoddau ar ddiffygion yn y gyfraith sy’n debygol o gael effaith sylweddol ar yr amgylchedd os nad ymdrinnir â nhw. Mae materion sydd a’r potensial i gael effaith isel yn llai tebygol o gael eu datblygu ymhellach, hyd yn oed os yw’n ymddangos bod diffygion yn y ddeddfwriaeth. Yn yr un modd, mae materion sy’n cael effaith drawsffiniol neu ar draws Cymru gyfan yn fwy tebygol o fod yn destun adroddiad na’r rheini lle mae’r effaith yn fwy lleol.  

Adnoddau

Ni fydd Asesydd Interim Diogelu’r Amgylchedd Cymru yn ceisio ymchwilio i faterion ond pan fydd yn gymesur gwneud hynny. Mae faint o adnoddau sydd eu hangen yn debygol o fod yn wahanol ar gyfer materion gwahanol, a bydd y buddion posibl sy’n deillio o’r argymhellion mae Asesydd Interim Diogelu’r Amgylchedd Cymru yn eu gwneud yn amrywio yn yr un modd. Wrth benderfynu a ddylid cynnal ymchwiliad, bydd Asesydd Interim Diogelu’r Amgylchedd Cymru yn ystyried costau tebygol yr ymchwiliad a pha mor hir mae’n debygol o barhau, ynghyd â’r effaith y gall hyn ei chael ar yr adnoddau sydd ar gael ar gyfer gwaith arall.

Pan fydd Asesydd Interim Diogelu’r Amgylchedd Cymru yn penderfynu peidio â llunio adroddiad ar fater penodol, bydd fel arfer yn parhau i adolygu’r penderfyniad rhag ofn y ceir rhagor o gyflwyniadau ynghylch y mater neu rhag ofn bod tystiolaeth newydd yn dod i’r amlwg yn y dyfodol. Er enghraifft, mae’n bosibl y bydd Asesydd Interim Diogelu’r Amgylchedd Cymru yn penderfynu llunio adroddiad ar fater yr oedd wedi’i ddiystyru’n flaenorol ar ôl dod yn ymwybodol o dystiolaeth o niwed amgylcheddol sylweddol a ddaeth i law yn ddiweddarach.