Egwyddorion a chanllawiau ar gyfer datrysiadau y tu allan i'r llys i blant
Cyngor i helpu i gadw plant o dan 18 oed allan o'r system gyfiawnder ac atal troseddau pellach yng Nghymru.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Ynglŷn â'r canllawiau hyn
Cynhyrchwyd y canllawiau hyn gan MSG Consultancy ar gyfer Llywodraeth Cymru mewn cydweithrediad â:
- Plismona yng Nghymru
- Y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid
- Rheolwyr Timau Troseddau Ieuenctid Cymru
- Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent
- Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru
Cydnabyddiaeth
Hoffai MSG Consultancy ddiolch i bob un o'r unigolion a'r asiantaethau a gyfrannodd at y broses o gynhyrchu'r ddogfen hon, arweinwyr ffrwd waith dargyfeirio cyn achosion llys y Glasbrint ar gyfer Cyfiawnder Ieuenctid yng Nghymru, Eleri Thomas, Dirprwy Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu ar gyfer Gwent a Sian Rees, Cyfarwyddwr Cyfiawnder, Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru a'r grŵp gorchwyl a gorffen a sefydlwyd i fonitro hynt y darn hwn o waith.
Pan oedd yr Egwyddorion a'r Canllawiau wrthi'n cael eu datblygu, roeddem yn ymwybodol bod rhai o'r dogfennau a gaiff eu dyfynnu wrthi'n cael eu hadolygu a'u bod yn debygol o gael eu diweddaru a'u hailgyhoeddi. Gwnaethom ddefnyddio gwybodaeth gyfredol, arweiniad cyfredol a gwnaethom nodi ble roedd newidiadau'n debygol o ddigwydd hyd eithaf ein gwybodaeth. Mae rhai newidiadau wedi digwydd ers hynny, yn enwedig y newid yn y derminoleg Saesneg o Out of Court Disposals i Resolutions (Datrysiadau i Benderfyniadau y Tu Allan i'r Llys). Mae'r Egwyddorion a'r Canllawiau wedi'u newid i adlewyrchu hyn. Roedd y sylwadau am y Biwro yn gysylltiedig ag Arolygiaeth Prawf Ei Fawrhydi a gynhaliwyd rhwng mis Rhagfyr 2021 a 2022. Mae'r dirwedd y tu allan i'r llys yng Nghymru wedi newid yn dilyn hynny, ond mae'r gwersi a ddysgwyd o'r arolygiadau hynny yn werthfawr o hyd.
Cyflwyniad
Lluniwyd yr Egwyddorion a'r Canllawiau hyn ar gyfer ffrwd waith Dargyfeirio Cyn Achosion Llys y Glasbrint ar gyfer Cyfiawnder Ieuenctid yng Nghymru. Cawsant eu llunio drwy adolygu dogfennau sy'n ymwneud â datrysiadau y tu allan i'r llys, sydd bellach yn cael eu hadnabod fel Penderfyniadau y Tu Allan i'r Llys a gweithgarwch dargyfeirio yng Nghymru a Lloegr, pedwar gweithdy â'r Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid, yr heddlu, gwasanaethau i ddioddefwyr, plant a rhanddeiliaid eraill a thrafodaethau ag asiantaethau ac unigolion gan gynnwys grŵp Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Plant Cymru, Rheolwyr Timau Troseddwyr Ifanc Cymru a chynrychiolwyr yr heddlu sydd wedi'u lleoli o fewn Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid.
Nod yr Egwyddorion a'r Canllawiau yw llywio ymarfer drwy ymdrin â rhai o'r materion a godwyd fel materion pwysig wrth gasglu gwybodaeth ar gyfer y prosiect. Nid y nod yw ailadrodd canllawiau rheoli achosion y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid sy'n rhoi rhagor o wybodaeth am sut i weithio gyda phlant sy'n destun penderfyniadau y tu allan i'r llys (gan ymdrin â'r broses asesu ac ymyriadau), ond yn hytrach ystyried beth y dylai'r Egwyddorion a Chanllawiau i Gymru ei gynnwys er mwyn sicrhau y caiff plant ledled Cymru eu trin mewn ffordd deg ni waeth pa ardal heddlu neu Wasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid sy'n ymdrin â nhw.
Drwy'r ddogfen, cyfeirir at blant fel unigolion nad ydynt wedi cyrraedd 18 oed eto, yn unol â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP).
Rhan 1: egwyddorion
Mae Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998 yn nodi mai nod y system cyfiawnder ieuenctid yw atal troseddu, ond mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 hefyd yn rhoi dyletswydd ar Awdurdodau Lleol i ddarparu gwasanaethau ataliol i annog plant i beidio â chyflawni troseddau ac i leihau'r angen am achosion troseddol yn erbyn plant (Adran 15(2).
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn nodi gofynion er mwyn sicrhau y caiff gwasanaethau lleol eu darparu i atal plant rhag troseddu ac i'w helpu i gyflawni eu potensial, ni waeth beth fo'u sefyllfa, eu hamgylchiadau a'u cefndir economaidd-gymdeithasol. Mae ymarfer dargyfeiriol sy'n anelu at gadw plant allan o'r system gyfiawnder yn cefnogi'r nod hirdymor o atal unigolion rhag troseddu yn y dyfodol ac atal achosion o drosglwyddo arferion troseddu rhwng cenedlaethau.
Mae Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru yn dod ag amrywiaeth o bartneriaid cyfiawnder troseddol ynghyd i gydweithio i leihau achosion o droseddu ac i wella canlyniadau a phrofiadau'r rhai hynny sy'n ymuno â'r system cyfiawnder troseddol. Mae ei ffrydiau gwaith â phwyslais penodol wedi cynnwys ymyrryd yn gynnar ac atal, cydraddoldeb hiliol, dioddefwyr a thystion a phobl sy'n troseddu. Mae cynllun gwrth-hiliol Llywodraeth Cymru yn nodi camau gweithredu i leihau hiliaeth ym mhob agwedd ar fywyd. Ei nodau yw gweithio gyda'r heddlu a phartneriaid eraill ym maes cyfiawnder troseddol i greu system cyfiawnder troseddol wrth-hiliol yng Nghymru, mynd i'r afael ag achosion o hiliaeth systemig a lleihau achosion o wahaniaethu a chanlyniadau gwahanol i bobl o leiafrifoedd ethnig. Mae'r Cynllun Gwrth-hiliaeth Cyfiawnder Troseddol i Gymru yn nodi cyfres o gamau gweithredu i atal pobl ethnig leiafrifol rhag cael eu gorgynrychioli ymhlith nifer y bobl sydd wedi cyflawni trosedd. Mae'n cyfeirio'n benodol at fonitro lefelau ymgysylltu â gweithgarwch atal ac ymyrryd yn gynnar.
Mae'r risgiau i blant o dan rai amgylchiadau penodol hefyd yn berthnasol, er enghraifft, pan fyddant yn dioddef gwahanol fathau o gam-fanteisio ac ymddygiad niweidiol. Er mai ymddygiad troseddol sydd wedi eu dwyn at sylw'r heddlu, mae'n bosibl y bydd materion sylfaenol pwysig y bydd angen eu hystyried a allai ddylanwadu ar ganlyniadau. Nod Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 yw sicrhau bod ffocws ar atal achosion o gam-drin a thrais yn erbyn menywod a merched, amddiffyn dioddefwyr a rhoi cymorth i'r rhai hynny yr effeithir arnynt. Mae Gweithdrefnau Diogelu Cymru yn cydnabod y gall plant wynebu risg o wahanol fathau o niwed ni waeth beth fo'u hamgylchiadau. Mae Protocol Cymru Gyfan: lleihau nifer y plant ac oedolion ifanc â phrofiad o fod mewn gofal sy’n cael eu troseddoli yn nodi'r ymarfer gorau ar gyfer osgoi achosion lle bydd plant â phrofiad o fod mewn gofal yn cael eu troseddoli a lleihau nifer yr achosion o'r fath. Ceir ymwybyddiaeth gynyddol o effaith fyrdymor a hirdymor Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod. Gall dioddef trawma a straen yn ystod plentyndod gael dylanwad negyddol ar iechyd corfforol ac iechyd meddwl a gall fod yn gysylltiedig ag ymddygiadau sy'n niweidio iechyd, ac at ddod i gysylltiad â'r system cyfiawnder troseddol. Mae Fframwaith Trawma Cymru yn esbonio sut gall unigolion a sefydliadau nodi a chefnogi unigolion sydd wedi dioddef trawma.
Rhoi'r Plentyn yn Gyntaf a Dargyfeirio
Mae CCUHP yn nodi pam mae angen ystyried plant oherwydd y statws arbennig a roddir iddynt oherwydd eu hoedran. Mae'r Confensiwn yn cynnwys sawl erthygl gyffredinol sy'n berthnasol i bob plentyn. Maent yn nodi y dylai camau gweithredu fod er eu lles pennaf (Erthygl 3), na ddylent wahaniaethu (Erthygl 2), y dylent eu helpu i ffynnu a datblygu (Erthygl 6) ac y dylent alluogi plant i gymryd rhan yn y penderfyniadau sy'n effeithio'n uniongyrchol arnynt (Erthygl 12), gan gynnwys pan fyddant wedi dod i gysylltiad â'r system cyfiawnder troseddol. At hynny, mae Erthygl 40 yn nodi y dylid rhoi mesurau ar waith i ymdrin â phlant sy'n torri'r gyfraith heb ddefnyddio gweithrediadau barnwrol.
Yn gynyddol, ystyrir mai Rhoi'r Plentyn yn Gyntaf yw'r dull y dylid ei fabwysiadu wrth ymdrin â phlant sy'n dod i gysylltiad â gwasanaethau cyfiawnder. Mae'r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid wedi datblygu diffiniad gweithredol Plentyn yn Gyntaf ac wedi nodi pedair elfen allweddol:
- Gweld plant fel plant.
- Datblygu hunaniaeth rag-gymdeithasol er mwyn sicrhau canlyniadau cadarnhaol i blant.
- Cydweithio â phlant.
- Hyrwyddo dulliau dargyfeirio. (newidiwyd i Dargyfeirio oddi wrth stigma yn dilyn hynny)
Mae hyrwyddo dulliau dargyfeirio yn anelu at hyrwyddo plentyndod heb gysylltiad â'r system gyfiawnder, gan ddefnyddio dulliau atal ymlaen llaw, dargyfeirio ac ymyrryd cyn lleied â phosibl. Mae'r holl waith yn lleihau'r stigma troseddolaidd rhag dod i gysylltiad â'r system10. Dylai dulliau dargyfeirio Rhoi'r Plentyn yn Gyntaf fod yn gysylltiedig â'r canlynol:
- Dargyfeirio plant o ymyriadau cyfiawnder ieuenctid ffurfiol cyn gynted â phosibl.
- Gosod datrysiadau ar y lefel briodol isaf.
- Rhoi prosesau hyblyg lle gellir arfer disgresiwn ar waith wedi'u llywio gan amgylchiadau'r drosedd a lles pennaf y plentyn.
- Galluogi mynediad i wasanaethau a chymorth prif ffrwd ac ataliol.
- Osgoi labelu plant mewn ffordd negyddol neu eu hamlygu i brosesau sy'n eu stigmateiddio sy'n cael effaith andwyol ar eu cyfleoedd bywyd.
- Rhoi'r un cyfleoedd i bob plentyn, ni waeth beth fo'i hil, ethnigrwydd, rhywedd a hunaniaeth.
Beth sy'n bwysig i blant?
Datblygwyd Egwyddorion Plismona sy'n Canolbwyntio ar y Plentyn gan ddefnyddio pedwar piler cyfiawnder gweithdrefnol a safbwyntiau plant yn seiliedig ar y CCUHP ac maent yn nodi bod Gallu Ymddiried, Tegwch, Parch a Llais yn bwysig iddynt. Mae'r egwyddorion yn cydnabod y gall fod gan blant gydberthynas anodd â'r heddlu a phan fyddant yn wynebu argyfwng (gan gynnwys o ganlyniad i droseddu) y dylent allu teimlo'n hyderus yn yr heddlu ac yn y prosesau a roddir ar waith.
Gofynnodd y Ganolfan Arloesi ym maes Cyfiawnder i blant am eu profiadau o brosesau dargyfeiriol a nodwyd sawl thema arwyddocaol. Roeddent yn cynnwys sicrhau y gall plant ddeall y broses cyfiawnder troseddol sy'n cael ei rhoi ar waith, pa fath o ddatrysiad roeddent wedi'i gael ac am ba hyd y byddai disgwyl iddynt weithio gyda'r Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid. Gallai plant gael eu llethu drwy gael gwybodaeth gan wahanol weithwyr proffesiynol. Roedd meysydd eraill o bryder yn cynnwys methu â deall a fyddai ganddynt gofnod troseddol ai peidio a goblygiadau hynny.
O'n gwaith ymgysylltu â phlant, gwnaethant nodi pan oeddent wedi rhyngweithio â'r heddlu, nad oeddent bob amser wedi cael gwybod y byddai'r Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid o bosibl yn cysylltu â nhw i holi a oedd angen unrhyw gymorth pellach arnynt (soniodd gweithwyr proffesiynol am y mater hwn hefyd). Roedd achosion lle roedd plant a'u teuluoedd wedi cael eu synnu pan gysylltodd y Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid â nhw, ar ôl dod i gysylltiad â'r heddlu, gan eu bod wedi credu mai dyna oedd diwedd y mater ac nad oeddent wedi sylweddoli y gallai fod gofynion pellach.
Rhan 2: canllawiau
Diffinio dargyfeirio
Un o elfennau sylfaenol dargyfeirio yw y caiff plant, lle y bo'n briodol, eu dargyfeirio o'r system cyfiawnder troseddol ac y rhoddir cefnogaeth a chymorth iddynt fyw bywydau heb droseddu. Nod penderfyniadau y tu allan i'r llys yw cynnig ymatebion amserol a chymesur i droseddu lefel isel a throseddu llai difrifol lle nad oes angen erlyniad yn y llys. Mae dargyfeirio yn osgoi effeithiau negyddol posibl prosesau cyfiawnder ffurfiol, labelu a stigma a'r effaith ar gyfleoedd bywyd plant.
Er mai'r heddlu a'r Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid yw'r prif asiantaethau sy'n ymwneud â phrosesau dargyfeirio, gall asiantaethau eraill gael eu cynnwys er mwyn darparu gwybodaeth i lywio'r penderfyniadau a wneir ar ganlyniadau priodol ar gyfer y plentyn ac i roi cymorth.
Dylai dogfennau partneriaeth (protocolau gyda'r heddlu ac asiantaethau eraill, canllawiau ymarfer ac ati) gynnwys yr un diffiniad o ddargyfeirio, er mwyn helpu pob asiantaeth sy'n rhan o'r broses i ddeall amcanion gweithgarwch dargyfeirio a'i rôl a'i swyddogaeth o'i fewn. Tynnwyd sylw at y pwynt hwn hefyd ym mhrosiect atal a dargyfeirio'r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid a nododd fudd gweledigaeth a dealltwriaeth a rennir. Mae'r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid wedi llunio diffiniad a allai gynnig sail ar gyfer trafodaethau â phartneriaid. Mae Pecyn Cymorth y Ganolfan Arloesi ym maes Cyfiawnder i Ymarferwyr yn cynnwys adran ar gyflwyno'r achos o blaid dargyfeirio pobl ifanc sydd hefyd yn ddefnyddiol ar gyfer cyfleu rhai o'r negeseuon allweddol.
Byddai'n ddefnyddiol i'r diffiniad gael ei ategu gan egwyddorion a ddatblygwyd ac y cytunwyd arnynt â phartneriaid, sy'n adlewyrchu bwriad gwaith dargyfeiriol. Lluniwyd yr egwyddorion hyn o'r wybodaeth a gasglwyd gan y prosiect hwn:
- Cymesur: Mae pob partner yn ymrwymedig i ddargyfeirio plant rhag dod i gysylltiad â'r system cyfiawnder troseddol ac i ymdrin â nhw ar y lefel isaf (gan gynnwys Dim Camau Pellach) sy'n briodol i amgylchiadau'r drosedd, y plentyn a'r dioddefwr.
- Cynhwysol: Caiff plant eu cysylltu â gwasanaethau'r Awdurdod Lleol a gwasanaethau ataliol a phrif ffrwd eraill, gan ystyried eu hanghenion penodol o ran diwylliant ac iechyd neu anghenion mewn perthynas â nodweddion gwarchodedig eraill, a all eu helpu i fyw bywydau hapus, iach a diogel.
- Amserol: Mae prosesau yn amserol o ran hysbysu, gwneud penderfyniadau a chyflwyno penderfyniadau y tu allan i'r llys. Gwneir ymdrechion i leihau achosion o oedi i'r plant.
- Cydraddoldeb: Rhoddir sylw i anghenion plant (gan gynnwys a ydynt yn siarad Cymraeg), amrywiaeth ac anghymesuredd. Caiff plant eu trin yn deg, ni chânt eu rhoi o dan anfantais am unrhyw reswm neu ragdybiaeth a chânt eu hannog i ddatblygu eu potensial a'u diddordebau.
- Cymryd Rhan: Ymgysylltir â phlant a'u teuluoedd er mwyn deall eu safbwyntiau, sicrhau eu bod yn deall beth sy'n digwydd, meithrin ymgysylltiad a chefnogi ymataliad. Mae hyn yn cynnwys defnyddio gwasanaethau cyfieithu lle bo angen.
- Amddiffyn: Cydnabyddir bod plant a dioddefwyr yn agored i niwed a lle bo angen camau diogelu i amddiffyn y plentyn neu eraill rhag niwed, cânt eu rhoi ar waith a'u monitro.
- Cydberthnasau: Caiff cysylltiadau cadarnhaol eu meithrin â phlant sy'n eu hannog ac yn eu galluogi i ymgysylltu â chymorth proffesiynol, meithrin ymddiriedaeth a theimlo eu bod yn cael gofal a chymorth.
- Cyfathrebu: Caiff plant gymorth i ddeall beth y bydd yn ei olygu os byddant yn cymryd rhan mewn gweithgareddau dargyfeirio, neu os na fyddant yn gwneud hynny, a chan ddibynnu ar y canlyniad, a fydd ganddynt gofnod troseddol.
Dylai'r egwyddorion gael eu hategu gan brosesau wedi'u diffinio'n glir sy'n esbonio'r canlynol:
- Y meini prawf cymhwyso ar gyfer pob math o benderfyniad a'r broses gwneud penderfyniadau sy'n berthnasol.
- Rolau perthnasol wrth wneud penderfyniadau a darparu gwasanaethau.
- Y ffordd y caiff disgresiwn ei gymhwyso a ble y caiff y rhesymeg dros y penderfyniad ei gofnodi a'i gyfiawnhau wrth wyro o Child Gravity Matrix Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu a ddefnyddir i gadarnhau a ddylai plant gael eu hystyried am benderfyniadau y tu allan i'r llys. Caiff amgylchiadau unigol eu hasesu'n llawn er mwyn gallu gwneud penderfyniadau effeithiol, gan gynnwys ar gyfer troseddau na fyddai o bosibl yn destun penderfyniad y tu allan i'r llys fel arfer yn seiliedig ar sgôr y Matrics Difrifoldeb.
- Y broses ar gyfer atgyfeirio penderfyniad y tu allan i'r llys yn ôl i'r heddlu os nad ystyrir ei fod yn briodol (gan ragdybio y caiff camau dargyfeirio eu cymryd fel arfer).
- Y broses ar gyfer achosion y gallai'r llysoedd eu rhoi ar fechnïaeth er mwyn ystyried penderfyniad y tu allan i'r llys.
- Dynodi'r trefniadau ar gyfer diogelwch plant a diogelwch eraill gan gynnwys dioddefwyr.
- Y prosesau a'r amserlenni ar gyfer adolygu achosion i'w cau.
- Proses uwchgyfeirio glir, ffurfiol ac effeithiol rhwng y Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid a'r heddlu ar gyfer achosion lle nad oes modd dod i gytundeb.
Mae'r broses o rannu gwybodaeth rhwng yr heddlu, Gwasanaeth Erlyn y Goron, Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid a'r llysoedd hefyd yn hanfodol yn enwedig yn ystod camau cynnar pennu cyfeiriad yr achos (dargyfeirio neu erlyn). Mae hyn er mwyn galluogi'r penderfyniadau cywir ar yr adeg gywir, osgoi achosion diangen o oedi i brosesau a sicrhau yr ymdrinnir â'r plentyn yn y ffordd fwyaf priodol mewn perthynas â'i amgylchiadau, y drosedd a gyflawnwyd, digwyddiadau blaenorol ac o ystyried safbwyntiau'r dioddefwr.
Mabwysiadu'r un derminoleg ledled Cymru ar gyfer penderfyniadau y tu allan i'r llys
Un o'r materion allweddol a ddeilliodd o'r prosiect hwn (ac astudiaethau blaenorol ar ddefnyddio penderfyniadau y tu allan i'r llys) yw'r anghysondeb rhwng y derminoleg a ddefnyddir ar gyfer penderfyniadau y tu allan i'r llys, yn arbennig Penderfyniadau Cymunedol y mae ganddynt enwau gwahanol ac y maent yn golygu gwahanol bethau mewn gwahanol ardaloedd. Mae canllawiau Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu (NPCC) ar Benderfyniadau Cymunedol (NPCC 2022) yn nodi y caiff Penderfyniad Cymunedol ei ddefnyddio i ddisgrifio'r math o benderfyniad isaf sydd ar gael i'r maes plismona. Gellir eu defnyddio gyda phlant a phobl ifanc lle; mae modd profi'r achos, bod y plentyn/person ifanc wedi'i nodi fel y troseddwr ac y derbynnir cyfrifoldeb neu lle y caiff euogrwydd ei gyfaddef. Nod y canllawiau yw rhoi mwy o eglurder i'r defnydd o Benderfyniadau Cymunedol. Cyfiawnder Adferol (term arall a ddefnyddir) yw'r fethodoleg a ddefnyddir i gyflawni'r canlyniad, ond nid y canlyniad ei hun. Mae canllawiau NPCC (2022) yn awgrymu y caiff Cyfiawnder Adferol ei ddefnyddio ochr yn ochr â phenderfyniad, yn hytrach na'i ddefnyddio ar ei ben ei hun.
Mae'r amrywiant hwn yn effeithio ar brosesau hysbysu, beth y rhoddir gwybod amdano, p'un a gaiff plant eu hasesu am gymorth ychwanegol ai peidio, sut y caiff canlyniadau eu monitro a pha anghysondeb sy'n bodoli ble ac am ba resymau. Er y gall fod yn heriol newid ymarfer lleol, byddai'n fuddiol iawn mabwysiadu dull gweithredu cyffredin ledled Cymru a sicrhau y caiff canllawiau Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu y cyfeirir atynt uchod eu dilyn. Dylid nodi fforwm priodol ar gyfer y drafodaeth hon er mwyn gallu ystyried y potensial ar gyfer newid yn llawn.
Mae'n werth nodi y bydd Dangosyddion Perfformiad Allweddol y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid a gyflwynwyd ar gyfer Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid ym mis Ebrill 2023, yn ei gwneud yn ofynnol cofnodi penderfyniadau y tu allan i'r llys pan fydd y Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid wedi cynnal asesiad a/neu wedi rhoi ymyriadau ar waith naill ai'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol. Mae'r penderfyniadau y tu allan i'r llys a gaiff eu monitro yn cynnwys Penderfyniadau Cymunedol ag ymyriadau gan y Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid, felly mae'n hanfodol sicrhau eglurder o ran beth y maent yn ymwneud ag ef er mwyn gallu adrodd yn gywir.
Dylai'r Heddlu roi gwybod i'r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid pan fydd Penderfyniad Cymunedol wedi'i gyhoeddi
Mae ansawdd cyfathrebu rhwng yr heddlu a'r Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid yn sail i waith dargyfeiriol. Mae amrywiaeth o brosesau hysbysu ar waith ledled Cymru gan yr heddlu i'r Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid pan fydd plentyn wedi dod at sylw'r heddlu ac wedi cael Penderfyniad Cymunedol. Dylid cytuno ar brosesau o ran yr hyn y bydd yr heddlu yn rhoi gwybod amdano, pryd ac o fewn pa derfynau amser. Mae canllawiau Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu ar Benderfyniadau Cymunedol yn nodi y dylid hysbysu o fewn 24 awr i roi'r Penderfyniad Cymunedol a phan fydd ail benderfyniad neu benderfyniad dilynol yn cael ei ystyried, dylid atgyfeirio'r achos at Wasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid cyn gynted â phosibl er mwyn gallu gwneud penderfyniadau ar y cyd. Derbynnir bod angen gwneud penderfyniadau cyflym ac i ymdrin â materion yn gyflym o safbwynt y plentyn, ond gall fod achosion lle y dylid cynnwys y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid cyn rhoi Penderfyniad Cymunedol cyntaf ac nid dim ond ar gyfer yr ail benderfyniad neu benderfyniadau dilynol. Yn ogystal, dylai fod gan Wasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid brosesau ar waith ar gyfer canfod beth sy'n digwydd i blant yn eu hardal a phwy sy'n dod at sylw'r heddlu am ba reswm.
Mae angen gwybodaeth gynhwysfawr ar Wasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid er mwyn deall amgylchiadau a hanes y plentyn, gan gynnwys pa ryngweithio a fu rhwng y plentyn a'r heddlu a beth sy'n cyfrannu at achosion mynych er mwyn helpu i bennu'r canlyniad mwyaf priodol a pha gymorth ac ymyriadau sydd eu hangen. Heb y wybodaeth hon, ni all Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid lunio barn wybodus.
Mae'r broses o rannu gwybodaeth rhwng yr heddlu a Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid yn dueddol o ddechrau â phenderfyniadau y tu allan i'r llys, ond er mwyn cael darlun cyflawn o'r hyn sy'n digwydd i blant ym mhob ardal a'r rhyngweithio rhyngddynt a'r heddlu, dylid ystyried sut y gellir rhannu data ar Stopio a Chwilio, Dim Camau Pellach a phlant a gaiff eu Rhyddhau Dan Ymchwiliad â Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid a'u monitro.
Ymhlith yr ystyriaethau pellach, dylid penderfynu a ddylai Paneli Craffu hefyd fonitro nifer y plant a gaiff eu Rhyddhau Dan Ymchwiliad, yn ogystal â'r amserlenni atgyfeirio gan yr heddlu i'r Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid er mwyn deall arferion lleol a'u heffaith ar blant yn well. Roedd hyn oherwydd nodwyd ei bod hi'n cymryd amser hir i atgyfeirio rhai plant a bod cymryd rhan mewn prosesau dargyfeiriol yn dod yn llai ystyrlon wrth i amser fynd heibio.
Police Notifications of Concern
Mae Hysbysiadau Diogelu'r Cyhoedd yn hysbysiadau gan yr heddlu i'r Awdurdod Lleol pan fydd pryderon am blentyn. Mae hyn yn cynnwys plant y mae risg y byddant yn troseddu neu sydd ar fin troseddu yn ogystal â hysbysiadau am resymau diogelu. Fodd bynnag, mae cryn amrywiaeth o ran y ffactorau sy'n sbarduno hysbysiadau o'r fath. Roedd yr enghreifftiau a ddarparwyd yn cynnwys rhoi Cardiau Melyn (am ymddygiad gwrthgymdeithasol yng Ngogledd Cymru) ac mewn ardaloedd eraill pan oedd plentyn wedi'i gadw yn y ddalfa, er y nodwyd hefyd na fyddai plant a oedd wedi cytuno o'u gwirfodd i gael cyfweliad gan yr heddlu o reidrwydd yn cael eu hystyried yn yr un ffordd. Gellir gwneud hysbysiadau drwy Ffurflen Atgyfeirio Amlasiantaethol (ar gyfer Help Cynnar neu wasanaethau gofal cymdeithasol) neu ffurflenni CID16 (ffurflen asesu ac atgyfeirio gyfun sy'n cael ei chwblhau os bydd gan yr heddlu bryderon am blentyn). Fodd bynnag, nid yw'n ymddangos bod dull gweithredu cyson o ran y ffactorau sy'n ysgogi'r hysbysiad (ar wahân i faterion diogelu) lle gallai cymorth cynnar atal achosion o droseddu nac o ran sut y bydd yr Awdurdod Lleol yn ymdrin â'r hysbysiad. Mae angen eglurhad a dull gweithredu mwy cyson.
Cysylltiadau â gweithgarwch ataliol a dargyfeiriol arall
Bydd y llwybr y daw plant at sylw'r Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid yn dibynnu ar beth sydd wedi digwydd a'r ymateb iddynt, boed hynny oherwydd ymddygiad gwrthgymdeithasol, atgyfeiriad at wasanaethau ataliol neu droseddu lefel isel. Dylid cynnig yr un cyfleoedd i bob plentyn newid ei ymddygiad a gallu manteisio ar yr amrywiaeth lawn o wasanaethau a ddarperir gan y Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid a/neu ddarpariaeth yr Awdurdod Lleol a chael cymorth i ddefnyddio gwasanaethau prif ffrwd eraill mewn ffordd gefnogol nad yw'n achosi stigma. Er bod y protocolau sydd ar waith rhwng Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid a'r heddlu yn canolbwyntio ar y broses o wneud penderfyniadau y tu allan i'r llys, dylai strategaethau adlewyrchu rôl camau dargyfeirio mewn perthynas â gweithgareddau eraill sydd ar waith i gefnogi plant a'u hamddiffyn nhw ac eraill rhag niwed.
Gall hyrwyddo ymwybyddiaeth y gall troseddu fod yn sgil-gynnyrch profiadau andwyol helpu partneriaid i feithrin eu dealltwriaeth o bwysigrwydd dargyfeirio a pham mae ei angen. Mae'r camau gweithredu sy'n cefnogi hyn yn cynnwys y canlynol:
- Ymateb i ymddygiad gwrthgymdeithasol a diogelwch cymunedol gan ganolbwyntio ar atal a blaenoriaethu mesurau nad ydynt yn gosbol a dulliau ataliol. Mae hyn yn cynnwys sicrhau nad oes unrhyw wrthdaro rhwng y defnydd o benderfyniadau y tu allan i'r llys a mesurau ymddygiad gwrthgymdeithasol, a all gael effaith andwyol amhriodol ar y plentyn drwy ei gynnwys yn y ddwy broses a rhoi statws uwch i'w droseddu.
- Rôl gwaith ieuenctid a gwaith ymgysylltu â phobl ifanc wrth helpu plant i gymryd rhan mewn gweithgareddau cadarnhaol yn eu cymuned.
- Deall rôl gwasanaethau atal Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid a'r gydberthynas rhwng y gwasanaethau hyn a gweithgarwch dargyfeiriol.
- Dargyfeirio plant i mewn i wasanaethau cefnogol sy'n eu symud allan o'r system cyfiawnder troseddol.
- Nodi risgiau, gan ystyried iechyd emosiynol ac iechyd meddwl, aeddfedrwydd gwybyddol a datblygiadol, cyd-destun y risgiau, a phryderon diogelu cyfredol a hanesyddol er mwyn sicrhau y caiff anghenion plant eu cydnabod yn briodol, ac y caiff camau priodol eu cymryd.
- Sicrhau cysylltiadau da rhwng swyddogion yr heddlu mewn ysgolion a'u cydweithwyr yn y Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid, er mwyn sicrhau dull gweithredu cyson mewn perthynas ag ymdrin â materion sy'n ymwneud ag ysgolion. Wrth i Raglen Graidd Cyswllt Ysgolion Cymru Gyfan ddod i ben ym mis Mawrth 2024, mewn ymgynghoriad â'i randdeiliaid, lansiodd Heddlu De Cymru Raglen Ymgysylltu â Phobl Ifanc newydd er mwyn cynnal y gwaith partneriaeth rhwng yr heddlu a'i bartneriaid yn yr amgylchedd ysgolion. Mae Swyddogion Ymgysylltu â Phobl Ifanc yn gweithio mewn partneriaeth er mwyn diogelu plant a phobl ifanc trwy ymyriadau cynnar i ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, camddefnyddio sylweddau, atal trais, camfanteisio a diogelwch ar-lein ac all-lein.
- Nodi plant y mae risg y byddant yn cymryd rhan mewn gweithgarwch sy'n cynnwys trais difrifol ymhlith pobl ifanc.
- Mae plant sy'n rhan o'r system gofal wedi'u gorgynrychioli yn y system cyfiawnder ieuenctid. Mae'n bwysig sicrhau na chaiff plant â phrofiad o ofal eu troseddoli er mwyn gwneud yn siŵr na fydd plant yn cael cosb am ddigwyddiad na fyddai wedi cael ei ystyried yn drosedd pe bai wedi digwydd mewn lleoliad domestig. Dylai prosesau dargyfeiriol sicrhau bod ymatebion cymesur i weithredoedd ac ymddygiad plant â phrofiad o ofal.
- Deall effaith Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod a thrawma a all ddylanwadu ar ymddygiad ac arwain at ddod i gysylltiad â'r system cyfiawnder troseddol.
- Cydnabod a oes risgiau i blant ac a oes unrhyw bryderon diogelu. Er y byddant o bosibl wedi dod at sylw'r awdurdodau o ganlyniad i droseddu, mae'n bosibl y byddant hefyd wedi dioddef amrywiol fathau o gam-fanteisio, y byddant yn ymddwyn mewn ffordd sy'n peri risg iddynt ac y gallai eu statws fel 'dioddefwr' fod yn fwy o destun pryder na'u troseddu.
- Cydnabod y gall plant gyflawni gweithredoedd niweidiol i eraill ac er bod y datrysiad (penderfyniad y tu allan i'r llys) ar lefel isel, y gall fod pryderon o ran niwed i eraill y mae angen cadw llygad arnynt. Mae Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid yn meddu ar yr arbenigedd i wneud hyn a byddant yn atgyfeirio plant at y cyfarfodydd/paneli priodol sy'n asesu ac yn monitro risgiau. Dylai hyn gynnig rhywfaint o sicrwydd y caiff eu sefyllfa a'u hamgylchiadau eu rheoli'n ofalus ac y cedwir llygad arnynt.
- Mae hawliau plant yn bwysig. Caiff dull rhoi Plentyn yn Gyntaf ei ddylunio i dynnu plant o fod yn rhan ddiangen o'r system cyfiawnder troseddol; fodd bynnag mae gan ddioddefwyr hawliau hefyd ac mae'r Siarter Dioddefwyr yn bodoli i gefnogi'r hawliau hynny a'r angen i wneud penderfyniadau cytbwys.
Adolygu proses gwneud penderfyniadau'r Biwro
Dylai fod proses ar waith ym mhob ardal leol ar gyfer gwneud penderfyniadau am achosion sy'n destun penderfyniadau y tu allan i'r llys. Yng Nghymru, defnyddiwyd panel gwneud penderfyniadau o'r enw'r Biwro yn y rhan fwyaf o ardaloedd, sy'n cynnwys o leiaf yr heddlu a'r Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid, ac mewn rhai achosion, gwirfoddolwyr cymunedol. Roedd arolygiadau a gynhaliwyd gan Arolygiaeth Prawf EF (HMIP) yng Nghymru yn beirniadu proses y Biwro am ganolbwyntio'n ormodol ar gyfiawnder troseddol ac adlewyrchu'r dulliau gweithredu sy'n gysylltiedig â Gorchmynion Atgyfeirio. Cyflwynwyd y Biwro i ddechrau yn 2008 a chynhaliodd Prifysgol Abertawe werthusiad annibynnol ohono wedi hynny. Cafwyd sylwadau cadarnhaol am sawl un o'i nodweddion yn Arolygiad ar y Cyd Cyfiawnder Troseddol, Gwaith gwaredu achosion y tu allan i'r llys mewn timau troseddau ieuenctid yn 2018. Fodd bynnag, nododd arolwg o wasanaethau cyfiawnder ieuenctid gan y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid yn 2022 fod ymarfer y Biwro yn amrywio ledled Cymru ac nad oedd bob amser yn adlewyrchu'r model gwreiddiol. O ystyried adborth HMIP a threfniadau gweithredu amrywiol y Biwro, dylai pob Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid â Biwro gynnal adolygiad o'i drefniadau gweithredu. Lle roedd gan Wasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid gynlluniau i adolygu'r Biwro a phrosesau cysylltiedig, roedd yr ystyriaethau yn cynnwys y canlynol:
- Gwneud y broses yn fwy addas i blant ac yn fwy ystyriol o drawma.
- Gweithio mewn ffordd fwy ataliol drwy ddull amlasiantaethol.
- Penderfynu a ellir brysbennu'r plentyn yn ystod cam cynharach, gan ddim ond fynd at banel gwneud penderfyniadau'r Biwro pan fo angen.
Fodd bynnag, un o'r heriau wrth gadarnhau pa benderfyniad y tu allan i'r llys y dylai plentyn ei gael, yw bod gwahanol ganllawiau yn nodi gwahanol safbwyntiau o ran a ddylai'r heddlu wneud penderfyniad ar ei ben ei hun neu a ddylid gwneud penderfyniad ar y cyd â'r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid ac yn ystod pa gam y dylai hyn ddigwydd. Er enghraifft, mae tystiolaeth o adroddiadau HMIP a gyhoeddwyd ar arolygiadau o Wasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid yn awgrymu y dylid gwneud penderfyniad ar y cyd, ac mae Standards for Children in the Youth Justice System y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid hefyd yn nodi y dylid ‘gallu gwneud penderfyniadau ar y cyd’ ar gyfer penderfyniadau y tu allan i'r llys. Fodd bynnag, mae canllawiau gweithredol yr heddlu yn datgan yn glir mai'r heddlu ddylai fod yn gyfrifol am rai camau gweithredu. Mae hyn yn cyfrannu at ddiffyg cysondeb o fewn ardaloedd yr heddlu ac ar draws yr ardaloedd hynny ac o ran y gwahanol ffyrdd y mae Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid yn rhyngweithio â'r heddlu. Mae'n faes allweddol lle mae angen eglurder.
Pa broses y dylid ei dilyn ar gyfer plant sy'n gymwys ar gyfer penderfyniad y tu allan i'r llys?
Mae angen llunio proses ar gyfer penderfynu beth fydd yn digwydd pan fydd plentyn wedi cael Penderfyniad Cymunedol neu beth fydd yn digwydd pan fydd plentyn yn gymwys i gael penderfyniad y tu allan i'r llys, ond nad yw wedi cael un eto ac a ddylid defnyddio panel gwneud penderfyniadau neu roi proses ar gyfer dyrannu achosion yn uniongyrchol ar waith.
Mewn un Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid, ceir pwynt mynediad unigol i bob plentyn, sy'n penderfynu ble i ddyrannu achosion, er enghraifft i wasanaethau ataliol, i'w hystyried ar gyfer penderfyniad y tu allan i'r llys ac ati. Mae'r broses hon yn ystyried y canlyniad priodol i'r plentyn a pha wasanaeth ddylai ddarparu'r cymorth a'r ymyriad. Mewn ardaloedd eraill, ymddengys bod dau brif ddull ar waith:
- Mae'r plentyn yn cael Penderfyniad Cymunedol, y caiff y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid ei hysbysu amdano, gwneir asesiad gan y Gwasanaeth (yn y rhan fwyaf o achosion) i benderfynu a oes angen iddo gymryd camau pellach, ac os bydd angen, caiff y camau hynny eu cymryd yn syth heb broses â phanel.
- Caiff y plentyn ei atgyfeirio at y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid gan yr heddlu, i ystyried a oes angen Penderfyniad Cymunedol. Wedyn caiff y plentyn ei drafod yn ystod panel gwneud penderfyniadau. Gall y plentyn fod yn bresennol neu ddim.
Mae rhywfaint o amrywiad yn y ffordd y caiff Penderfyniadau Cymunedol eu cau at ddibenion cofnodi. Mewn rhai achosion, caiff y Penderfyniad Cymunedol ei gau ar ddechrau cyfranogiad y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid, mewn achosion eraill caiff ei gau ar y diwedd pan fydd yr ymyriad (gwirfoddol) wedi'i gwblhau ac y bydd y plentyn wedi cydymffurfio ag ef. Mae canllawiau Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu yn nodi y caiff achosion o'r fath eu cofnodi fel Dim Camau Pellach (Canlyniad 8) ar ôl eu cau (p'un a gydymffurfiwyd â nhw ai peidio). Dywedodd Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid nad oes dull safonol ar gyfer cofnodi a gafodd y Penderfyniad Cymunedol ei gwblhau'n llwyddiannus ai peidio.
Beth yw diben y panel gwneud penderfyniadau?
Mae Standards for Children in the Youth Justice System y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid yn nodi yn Safon 1, Datrysiadau y Tu Allan i'r Llys, y dylid bod ymarfer y cytunwyd arno'n lleol ar gyfer penderfyniadau y tu allan i'r llys a ffordd addas o wneud penderfyniadau ar y cyd. Defnyddiwyd y Biwro fel y broses gwneud penderfyniadau ledled y rhan fwyaf o Gymru ers cryn amser, er ei fod wedi gweithredu mewn sawl gwahanol ffordd, fel y nodwyd yn flaenorol.
Un o'r materion pwysig a ddeilliodd o ganfyddiadau arolygiadau oedd p'un a ddylid creu panel gwneud penderfyniadau ar y cyd ai peidio i ystyried plant sy'n gymwys i gael penderfyniadau y tu allan i'r llys er mwyn cadarnhau pa ddatrysiad y dylent ei gael, ar ba ffurf, pwy y dylid ei gynnwys, pa fath o benderfyniadau y tu allan i'r llys y dylid eu hystyried ac a fydd plant a'u teuluoedd yn bresennol ai peidio.
Yr opsiynau i'w hystyried yw a fydd y panel gwneud penderfyniadau:
- Yn gwneud pob penderfyniad y tu allan i'r llys (gan gynnwys Dim Camau Pellach).
- Yn edrych ar rai ond nid eraill e.e. Rhybuddiadau Ieuenctid a Rhybuddiadau Ieuenctid Amodol ac ail Benderfyniadau Cymunedol a Phenderfyniadau Cymunedol dilynol a gaiff eu hatgyfeirio ar gyfer penderfyniad ar y cyd29 neu a ddylid dyrannu Penderfyniadau Cymunedol mewn rhai achosion yn uniongyrchol i'r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid ar gyfer asesiad/ymyriad.
- Dim ond yn trafod Rhybuddiadau Ieuenctid a Rhybuddiadau Ieuenctid Amodol a pha gymorth a ddarperir i'r plentyn ar sail wirfoddol neu orfodol gan y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid.
Yn ail, ai proses un cam neu broses dau gam yw'r broses gwneud penderfyniadau. Er enghraifft, y cam cyntaf ar ffurf cyfarfod cyn cynnal y panel gwneud penderfyniadau lle caiff gwybodaeth ei rhannu ymhlith gweithwyr proffesiynol er mwyn sicrhau bod yr holl wybodaeth a'r holl opsiynau sydd ar gael wedi'u darparu i'r sawl sy'n gwneud y penderfyniad, gan gynnwys sut y caiff y risgiau sy'n gysylltiedig â diogelwch a llesiant y plentyn ac eraill eu rheoli a safbwynt y dioddefwr mewn perthynas â'r broses. Mae p'un a yw'r plentyn yn cyfaddef ei fod yn euog neu'n derbyn cyfrifoldeb ai peidio hefyd yn berthnasol; mae'n bosibl na fydd yn gymwys i gael Penderfyniad Cymunedol, ond y gellid ystyried Dim Camau Pellach (Canlyniad 22). Mae hyn yn cynnwys ai cyfarfod amlasiantaethol â chyfraniad gan weithwyr proffesiynol sy'n adnabod y plentyn a'i deulu er mwyn rhoi gwybodaeth, rhoi cyngor a nodi gweithgarwch i gefnogi'r datrysiad (gan gynnwys Dim Camau Pellach) ydyw neu a ddylid cymryd unrhyw gamau eraill e.e. a fyddai atgyfeiriad at wasanaethau ataliol eraill yn fwy priodol. Os mai proses dau gam ydyw, a gaiff y cam cyntaf ei ddilyn gan benderfyniad terfynol gan yr heddlu a'r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid heb fod unrhyw wasanaethau neu asiantaethau eraill yn bresennol.
Dylid hefyd ystyried a yw rheolwr yr achos (neu gynrychiolydd o'r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid ar ran rheolwr yr achos) yn bresennol i drafod y plentyn gan mai'r unigolyn hwnnw fydd yn meddu ar y wybodaeth fwyaf manwl.
Er mwyn rhoi mwy o bwyslais ar weithredu ar y cyd yn ystod cyfarfodydd gwneud penderfyniadau, dylid hefyd ystyried a ddylid eu cadeirio ar y cyd rhwng yr heddlu a'r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid. Dylid sicrhau eglurder hefyd o ran cydbwysedd y broses gwneud penderfyniadau a phwy sy'n gyfrifol am y broses honno, ai'r heddlu ar ei ben ei hun, neu ar y cyd â'r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid, a nodi'r broses uwchgyfeirio os ceir anghytundeb, er mwyn sicrhau cydweithio, penderfyniadau cytbwys ac na fydd plant o dan anfantais oherwydd y canlyniadau. Mae rhywfaint o densiwn rhwng y gwahanol ganllawiau sy'n awgrymu mai'r heddlu ar ei ben ei hun sy'n gwneud y penderfyniad terfynol a'r rhai eraill sy'n awgrymu bod penderfyniadau yn cael eu gwneud â'r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid (fel y nodir uchod, mae'r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid yn cyfeirio at brosesau ar y cyd). Mae angen egluro hyn mewn protocolau a chanllawiau ymarfer, yn ogystal â'r prosesau uwchgyfeirio. Mae HMIP yn nodi bod angen sicrhau proses herio iach, ond os bydd un sefydliad yn chwarae mwy o ran wrth wneud penderfyniadau na sefydliad arall, mae'n anodd gweld sut y gall prosesau uwchgyfeirio fod yn effeithiol.
Mae ymarfer Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid yn amrywio o ran pa adnoddau asesu a ddefnyddir a pha wybodaeth a gaiff ei pharatoi ar gyfer y panel gwneud penderfyniadau. Mae'r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid wedi datblygu adnodd Offeryn Asesu Atal a Dargyfeirio, i'w ddefnyddio ar gyfer penderfyniadau y tu allan i'r llys, ac fe'i cyflwynwyd ym mis Ebrill 2024. Dylid hefyd ystyried a ddylid hysbysu'r panel gwneud penderfyniadau am gasgliad unrhyw ymyriadau (gwirfoddol a gorfodol ar gyfer Rhybuddiadau Ieuenctid Amodol) a sut y dylid ei hysbysu ac a oes ganddo unrhyw rôl o ran bod yn rhan awtomatig o'r broses adolygu ar gyfer yr achosion hynny sydd ar agor o hyd ar ôl 12 wythnos.
Pwy arall sy'n rhan o'r broses gwneud penderfyniadau a beth yw eu rôl?
Roedd un feirniadaeth a gafwyd am y Biwro yn ymwneud â'i aelodaeth a'r rhan y mae'r aelodau yn ei chwarae yn y broses. Nid oes gan bob un o baneli gwneud penderfyniadau'r Biwro wirfoddolwr cymunedol. Os oes aelod o'r fath, ei rôl, fel y'i deellir yn gyffredinol, yw cynrychioli'r gymuned a siarad â'r plentyn am effaith y niwed y mae wedi'i achosi ar yr unigolyn yr effeithiwyd arno a'r gymuned ehangach.
Codwyd amheuon ynghylch rôl y gwirfoddolwr cymunedol fel aelod o banel gwneud penderfyniadau'r Biwro, yn wahanol i'r Arolygiad Cyfiawnder Troseddol ar y Cyd yn 2018 lle ystyriwyd ei bod yn ‘sensible and positive to apply an independent voice to the decision-making, thereby supporting public oversight and transparency of the process’ (2018: 33). Mae'r gwahaniaeth barn yn awgrymu y dylid adolygu rôl a swyddogaeth y gwirfoddolwr cymunedol a pha werth y dylai ei ychwanegu.
Ceir mater hefyd o ran sut mae prosesau lleol yn edrych a sut y byddant yn cael eu cyflwyno, yn enwedig mewnbwn asiantaethau eraill i roi gwybodaeth am y plentyn, ei deulu a'i amgylchiadau a chynnig cymorth ac ymyriadau trwy waith dargyfeiriol ac ataliol nad yw'n gysylltiedig â chyfiawnder troseddol a lle mae hyn yn eistedd yn y prosesau cyffredinol. Er enghraifft, gallai hyn fod mewn penderfyniadau dyrannu achosion (lle y gallai ystod o wasanaethau gael eu hystyried) neu wrth baratoi ar gyfer paneli gwneud penderfyniadau lle y gallai mewnbwn cynghori gwasanaethau eraill yn y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid gael ei ddarparu e.e. Iechyd ac Addysg. Mae'r amrywiaeth o asiantaethau sy'n darparu mewnbwn wedi'i ehangu mewn rhai meysydd i gynnwys Iechyd, Addysg, Help Cynnar, cyfraniad therapyddion lleferydd, iaith a chyfathrebu, gweithwyr camddefnyddio sylweddau, gweithwyr cyfiawnder adferol a Swyddogion Ymgysylltu â Dioddefwyr i ddarparu safbwyntiau'r dioddefwr. Mewn un ardal, mae'r gweithiwr iechyd meddwl hefyd yn hyrwyddwr trawma ac mae'n cyflwyno'r safbwynt ehangach hwnnw a dealltwriaeth o ymddygiad y Plentyn.
Un o arsylwadau HMIP oedd y dylid sicrhau gwell cydbwysedd o fewn prosesau dargyfeirio rhwng asiantaethau cyfiawnder troseddol a'r rhai hynny sy'n canolbwyntio ar ddiogelu a lles. Mae hyn yn cynnwys Gwasanaethau Plant ac a ddylai cynrychiolydd fynychu pob cyfarfod gwneud penderfyniadau (fel aelod sefydlog) er mwyn sicrhau y caiff mynediad at wasanaethau ehangach yr awdurdod lleol bob amser ei ystyried neu a ddylai fynychu ar gyfer achosion penodol e.e. os oes gan y plentyn brofiad o ofal neu os yw'r Gwasanaethau Plant yn ymwybodol ohono am resymau eraill. Caiff gwybodaeth gan y Gwasanaethau Plant ei chasglu a'i bwydo i brosesau gwneud penderfyniadau, ond nid yw bob amser yn glir a gaiff y Gwasanaethau Plant eu cynnwys wrth drafod mynediad at wasanaethau ataliol yr Awdurdod Lleol a allai helpu'r plentyn a'i deulu (a phenderfynu ai Dim Camau Pellach neu Benderfyniad Cymunedol sydd fwy priodol). Dylid ystyried ymarferoldeb cynnwys y Gwasanaethau Plant fwy mewn gweithgarwch dargyfeirio ac ym mha rinwedd y dylid gwneud hynny.
A ddylai plant (a'u teuluoedd) fynychu paneli gwneud penderfyniadau?
Un o'r materion a godwyd gan HMIP yw p'un a ddylai plant fynychu paneli gwneud penderfyniadau sy'n trafod eu canlyniadau. Y rheswm dros hyn yw bod y ffordd y mae Biwros yn gweithredu yn rhy debyg i brosesau cyfiawnder troseddol ac y dylid gwahaniaethu mwy rhwng systemau sy'n gweithredu ar gyfer plant nad ydynt yn rhan o'r system cyfiawnder troseddol a'r rhai y mae'n rhaid iddynt fod yn rhan ohonynt.
Yn ôl gwaith ymchwil gan y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid i drefniadau gweithredu'r Biwro, nid yw pob panel gwneud penderfyniadau yn ei gwneud yn ofynnol i blant fynychu (yn enwedig yng Ngogledd Cymru). Fodd bynnag, mae CCUHP yn nodi'n glir y dylai plant allu cymryd rhan yn y penderfyniadau sy'n effeithio arnynt (erthygl 12) ac y dylent felly fod yn ymwybodol o bwy sy'n gwneud y penderfyniadau hynny.
Fodd bynnag, mae'r ‘cydbwysedd pŵer’, agwedd y gweithwyr proffesiynol yn y cyfarfod gwneud penderfyniadau, eu dull gweithredu e.e., dull ‘gwrthwynebus’ yn hytrach na dull cadarnhaol sy'n seiliedig ar gryfderau yn debygol o fod ymhlith y ffactorau sydd wedi codi pryderon ynghylch presenoldeb plentyn. At hynny, gall gallu plant i ryngweithio a chyfathrebu ddylanwadu ar eu canlyniadau, a hynny mewn ffordd gadarnhaol neu negyddol. Nid yw'r plentyn yn gwneud unrhyw benderfyniadau, felly gellid dadlau nad oes llawer o ddiben iddo allu dylanwadu ar ganlyniadau. Mae hyn yn awgrymu nad oes angen helpu plant i ddeall canlyniadau ac effaith fel rhan o'r broses gwneud penderfyniadau, ond yn hytrach, fel rhan o'r broses asesu a'r broses ddilynol o roi ymyriadau (gwirfoddol) ar waith. Dylid hefyd ystyried a yw dwyn y plentyn i gyfrif am ei weithredoedd mewn cyfarfod ag amrywiaeth o weithwyr proffesiynol (gan gynnwys gwirfoddolwr cymunedol) yn ymateb cymesur i'w troseddu, o ystyried na fwriadwyd i brosesau gwneud penderfyniadau ar Benderfyniadau y tu allan i'r llys weithredu ar ffurf prosesau cyfiawnder troseddol ffurfiol a bod tystiolaeth yn awgrymu po fwyaf o brosesu a wneir, y mwyaf tebygol y bydd y plentyn o barhau i droseddu.
Gan fod gwahanol safbwyntiau o ran a ddylai plant a'u teuluoedd fynychu, dylid ystyried yr opsiynau canlynol:
- Ai cyfarfod i weithwyr proffesiynol yn unig yw'r broses gwneud penderfyniadau.
- Sut y gellir helpu plant i ddeall pa benderfyniadau sy'n cael eu gwneud a sut y byddant yn effeithio arnynt.
- Sut y caiff llais y plentyn ei glywed a'i ystyried yn y broses gwneud penderfyniadau, a oes angen iddo fod yn bresennol yn gorfforol, neu a all roi ei farn mewn ffordd arall e.e. drwy ei reolwr achos neu drwy rôl eirioli.
- Os bydd y plentyn yn mynychu (p'un a oes rhagdybiaeth yn hyn o beth), sicrhau bod y broses yn llai gwrthwynebus, gyda'r plentyn yn cael cymorth gan ei reolwr achos i'w helpu i ddeall ac i gymryd rhan yn y broses.
- P'un a ddylid rhoi'r dewis i'r plentyn fynychu ai peidio, gan ystyried beth sy'n addas ar ei gyfer fesul achos a rhoi'r cyfle iddo gyfarfod â'r bobl sy'n gwneud penderfyniadau amdano.
- Os bydd y plentyn (a'i rieni/gofalwyr) yn mynychu, sicrhau ei fod yn brofiad cadarnhaol a chynhwysol sydd o fantais iddynt.
- Os bydd plentyn (a rhieni/gofalwyr) yn mynychu, cael adborth am eu profiadau a'i ddefnyddio i sicrhau bod y broses yn gweithio'n dda iddynt.
- Sicrhau bod paneli yn gweithredu mewn ffordd hyblyg o ran y lleoliad, y lleoliad daearyddol a'r dull (wyneb yn wyneb neu rithwir) er mwyn i'r unigolion allu mynychu ac o bosibl leihau'r gwahaniaeth pŵer.
Sawl penderfyniad y tu allan i'r llys y gellir ei roi i blentyn
Un o egwyddorion dargyfeirio yw y dylid sicrhau hyblygrwydd a disgresiwn wrth benderfynu ar y canlyniad i'r plentyn. Un o'r meysydd sy'n anodd ymdrin ag ef yw sawl ‘cyfle’ y dylid ei roi i'r plentyn o ran nifer y penderfyniadau y tu allan i'r llys y bydd yn eu cael. Mae Toolkit for Practitioners y Ganolfan Arloesi ym maes Cyfiawnder yn ymdrin â hyn drwy gydnabod nad yw'r dystiolaeth yn glir o ran sawl cyfle y dylid ei roi i unigolyn. Mae'r Ganolfan yn awgrymu y dylid nodi lefelau cysurus y partneriaid perthnasol, na ddylai nifer y cyfleoedd fod yn rhy gyfyngol ac y dylid adlewyrchu'r dull gweithredu y cytunir arno mewn polisïau a chanllawiau. Mae trafodaethau â Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid yn nodi bod nifer y cyfleoedd a roddir yn rhywbeth a gaiff ei ystyried fel arfer ar sail achosion unigol o fewn cyd-destun ymddygiad ac amgylchiadau blaenorol a phresennol y plentyn. Mae'n bosibl mai dyma'r ymateb mwyaf pragmatig gan y bydd rhai sefyllfaoedd lle y bydd angen esbonio i'r dioddefwr neu randdeiliaid eraill pam bod y plentyn wedi cael cyfleoedd ychwanegol. Dylid monitro'r elfen hon o ymarfer drwy brosesau sicrhau ansawdd mewnol (o fewn y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid a chan y Bwrdd Rheoli) a thrwy ddefnyddio Paneli Craffu.
Dioddefwyr
Er bod y ddogfen hon wedi canolbwyntio i raddau helaeth ar y plentyn fel rhan o brosesau dargyfeiriol, dylid hefyd ystyried dioddefwyr. Mae'r Cod Ymarfer ar gyfer Dioddefwyr yn nodi'r gwasanaethau a'r safonau gofynnol y mae'n rhaid eu darparu i ddioddefwyr troseddau. Pan fydd plant yn cyflawni troseddau, dylid ystyried safbwyntiau dioddefwyr wrth benderfynu ar y canlyniad. Mae hyn yn cynnwys deall yr effaith arnynt, yr hyn yr hoffent iddo ddigwydd ac ystyried cyfleoedd ar gyfer cyfiawnder adferol uniongyrchol neu anuniongyrchol. Mae hawl gan ddioddefwyr i gael gwybodaeth am hynt yr achos sy'n cynnwys y penderfyniadau cysylltiedig a wneir, er enghraifft a yw'r plentyn yn gymwys i gael penderfyniad y tu allan i'r llys a pham y gwneir y penderfyniad hwnnw. Mae'r heriau yn cynnwys helpu'r dioddefwr i ddeall prosesau cyfiawnder troseddol a'r canfyddiad posibl nad oes cyfiawnder wedi'i wneud os na fydd yr achos yn mynd i'r llys, gan arwain at anfodlonrwydd mewn perthynas â'u profiad o'r system.
Mae gwaith ymchwil wedi dangos y gallai'r broses o weinyddu'r penderfyniad y tu allan i'r llys (a'r prosesau cyfathrebu cysylltiedig) fod yr un mor bwysig â'r penderfyniad ei hun, gyda phrosesau ymgysylltu da ac ymdrechion i sicrhau y caiff dioddefwyr eu hysbysu'n rheolaidd drwy gydol y broses yn cyfrannu at brofiad mwy boddhaol.
Matrics Difrifoldeb Plant
Cafodd Matrics Difrifoldeb Plant Cymdeithas Prif Swyddogion yr Heddlu 2013 ei ddisodli gan y Matrics Difrifoldeb Plant yn 2025. Defnyddir y matrics fel canllaw wrth gadarnhau pa benderfyniad y tu allan i'r llys y gallai'r plentyn fod yn gymwys i'w gael gan ddibynnu ar ddifrifoldeb y drosedd a'r amgylchiadau gwaethygol a lliniarol cysylltiedig. Fodd bynnag, nid yw defnyddio'r matrics hwn ar ei ben ei hun yn ddull Plentyn yn Gyntaf gan nad yw'r dangosydd difrifoldeb ar ei ben ei hun yn darparu'r wybodaeth gyd-destunol i bennu'r canlyniad mwyaf priodol. Bwriedir i'r Matrics gael ei ddefnyddio fel canllaw yn hytrach na safbwynt pendant heb ddeall amgylchiadau llawn y plentyn, cyd-destun y drosedd, buddiannau'r dioddefwr a'r gymuned a gallu cymhwyso disgresiwn lle y bo'n briodol.
Un o'r meysydd mwyaf heriol yw troseddau sy'n gysylltiedig â chyllyll ac arfau ymosodol. Mae'r Matrics Difrifoldeb Plant yn nodi y gall dargyfeiriad fod yn bosibilrwydd, gan ddibynnu ar oedran ac unrhyw ffactorau gwaethygol. Mae hefyd yn nodi y dylai'r rhesymau dros wyro oddi wrth y canllawiau cenedlaethol gael eu cofnodi'n llawn gan y penderfynwr. Nod y dosbarthiadau risg yw helpu i wneud penderfyniadau. Ni ddylid eu hystyried fel canllaw pendant a dylid eu pwyso a'u mesur yn erbyn ystyriaethau eraill. Mae hyn yn awgrymu y byddai dealltwriaeth o statws y canllawiau yn helpu o ran sut y cânt eu defnyddio a'u cymhwyso.
Y maes arall a all achosi gwahaniaeth barn yw a ellir ystyried troseddau sy'n gysylltiedig â thraffig ar gyfer penderfyniadau y tu allan i'r llys, gan nad oes system ar gyfer rhoi cymeradwyaeth. Fodd bynnag, mae'r Matrics Difrifoldeb Plant yn nodi y gellir ystyried dargyfeirio, yn dilyn asesiad o holl amgylchiadau pob achos unigol. Mae gan y tri Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid yng Ngwent gytundeb lleol lle y gellir rhoi Penderfyniad Cymunedol i blentyn am drosedd moduro (os yw'n addas ar gyfer camau dargyfeirio) ar yr amod y bydd yn cytuno i ymgymryd â rhaglen addysgol yn canolbwyntio ar foduro, sef The Road to Learning, ac yn cwblhau'r rhaglen honno. Gellid mabwysiadu'r dull hwn mewn ardaloedd eraill.
Manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd dargyfeirio (ac i ddefnyddio Canlyniad 22)
Mae hierarchaeth o benderfyniadau y tu allan i'r llys y gellir eu cymhwyso gan ddibynnu ar amgylchiadau a difrifoldeb y drosedd a hanes blaenorol ac ati, sef:
- Penderfyniadau Cymunedol sef ‘datrysiadau stryd’ (heb unrhyw ddisgwyliad y bydd Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid yn rhan o'r broses ar wahân i hysbysu'r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid).
- Ail Benderfyniad Cymunedol neu Benderfyniad Cymunedol dilynol y dylid bob amser rhoi gwybod i'r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid amdano, a fydd yn arwain at
- Asesiad, ond ni nodir bod angen unrhyw ymyriad.
- Asesiad lle y cynigir ymyriad.
- Rhybuddiad Ieuenctid ag ymyriad gwirfoddol.
- Rhybuddiadau Ieuenctid Amodol ag ymyriad gorfodol.
Gall yr heddlu hefyd ohirio penderfyniad i erlyn a defnyddio Canlyniad 22. Nod hyn yw rhoi'r cyfle i'r plentyn gymryd rhan mewn gweithgaredd dargyfeiriol, addysgol neu ymyriadol ac mae'n golygu y caiff statws Dim Camau Pellach ei gofnodi ar Gyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu (PNC). Caiff Canlyniad 22 ei gofnodi pan fydd y gweithgaredd wedi'i gwblhau. Os na chaiff ei gwblhau, gellir ystyried dewisiadau amgen. Gellir defnyddio'r Canlyniad hyd yn oed os na fydd y plentyn wedi cyfaddef ei fod yn euog (yn wahanol i'r opsiynau a ddisgrifir uchod). Fe'i cyflwynwyd ym mis Ebrill 2019 er mwyn cynyddu'r cyfleoedd dargyfeirio, mewn ymateb i ganfyddiadau adroddiad Lammy bod pobl o wahanol leiafrifoedd ethnig wedi'u gorgynrychioli a bod rhagfarn tuag atynt. Er mai dyma oedd y rheswm dros gyflwyno Canlyniad 22, nid oes cyfyngiadau ar y defnydd ohono yn hyn o beth. Mae canllawiau Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu yn nodi nad yw ei ddefnyddio yn golygu bod yn rhaid i'r heddlu a'r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid wneud penderfyniadau ar y cyd ond yn cydnabod y byddai penderfyniadau/trafodaethau ar y cyd yn golygu y gellid asesu anghenion y plentyn a'i atgyfeirio at gymorth a gweithgareddau priodol a ddarperir gan y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid, yr Awdurdod Lleol neu asiantaeth berthnasol arall.
Mae'r adborth a ddaeth i law ar gyfer y prosiect hwn yn awgrymu nad yw Canlyniad 22 bob amser yn cael ei ddefnyddio mewn ffordd weithredol gan heddluoedd yn Lloegr ac mai anaml y caiff ei ddefnyddio yng Nghymru. Gallai'r ffaith nad yw'n cael ei ystyried fel 'cam gweithredu cadarnhaol' yng nghofnodion yr heddlu fod yn dylanwadu ar hyn (er y gallai hyn newid). Fodd bynnag, mae canllawiau Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu yn nodi lle cafodd ei ddefnyddio, y cafwyd effeithiau cadarnhaol i blant ac mae'n ei nodi'n glir fel opsiwn dargyfeiriol y gellid ei ddefnyddio fel ymyriad cynnar gan ei fod yn cynnig cyfle i atal achosion o droseddoli, ymdrin ag ymddygiad troseddol a rhoi cymorth.
Mae hyn yn awgrymu y dylai Dim Camau Pellach (Canlyniad 22) fod yn opsiwn i'w ystyried wrth bennu'r canlyniad mwyaf priodol i'r plentyn gan fod mwy o gyfle i gynnwys asiantaethau eraill wrth gyflwyno gweithgareddau dargyfeiriol neu addysgol, neu weithgareddau eraill. Caiff y defnydd o Ganlyniad 22 ei fonitro drwy Ddangosyddion Perfformiad Allweddol y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid.
Gellir defnyddio Dim Camau Pellach hefyd pan fydd plant wedi bod yn rhan o'r broses o greu delweddau rhywiol a gafodd eu rhannu ('secstio’, yr arfer o anfon lluniau neu negeseuon rhywiol anweddus drwy ffôn symudol). Er bod y plentyn wedi torri'r gyfraith, y bwriad yw ymateb mewn ffordd gymesur a pheidio â'i droseddoli, ar yr amod bod y delweddau wedi cael eu rhannu mewn ffordd gydsyniol, ac nad oes unrhyw ffactorau gwaethygol, fel tystiolaeth o gamfanteisio, meithrin perthynas amhriodol, rhannu'n eang neu mewn ffordd amhriodol neu ymddygiad parhaus. Yn yr achosion hyn, mae'n bosibl nad ystyrir y byddai erlyn y plentyn o fudd i'r cyhoedd ac y bydd yr heddlu yn cofnodi Dim Camau Pellach fel Canlyniad 21. Mae hefyd yn creu'r cyfle, os bydd pryderon, i blant ddysgu am ymddygiadau a pherthnasoedd iach ac i ystyried camau diogelu yn hytrach nag ymateb o safbwynt cyfiawnder troseddol.
Monitro canlyniadau
Nid oedd unrhyw faterion sylweddol mewn perthynas â monitro ac eithrio'r angen i sicrhau bod y broses mor gynhwysfawr â phosibl:
- Mae angen sicrhau dull gweithredu cyson er mwyn cael darlun cywir o'r defnydd o benderfyniadau y tu allan i'r llys yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol ledled Cymru. Mae terminoleg, a godwyd yn flaenorol, yn bwydo i mewn i hyn. Mae gwaith ymchwil a dadansoddi gan HMIP yn tynnu sylw at y diffyg data cyhoeddedig sydd ar gael ar ddefnyddio Penderfyniadau Cymunedol, ond bydd ehangu'r trefniadau ar gyfer monitro penderfyniadau y tu allan i'r llys drwy Ddangosyddion Perfformiad Allweddol y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid o bosibl yn helpu yn hyn o beth.
- Mae angen i amrywiaeth ac anghymesuredd fod yn rhan o'r pecyn monitro safonol, gan gynnal gwaith dadansoddi a'i rannu â phartneriaid. Dylai hyn gynnwys effaith amrywiaeth ar blant â nodweddion gwarchodedig, ag anghenion penodol, â phrofiad o ofal ac yn ôl rhywedd, ethnigrwydd, difrifoldeb y drosedd a'r canlyniad. Gellid monitro ystyriaethau pellach yn erbyn yr egwyddorion a nodir yn y ddogfen hon ac mewn perthynas â'r holl weithgarwch atal ac ymyrryd yn gynnar (fel yr awgrymir gan y Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth Cyfiawnder Troseddol i Gymru) a fyddai'n cynnwys dargyfeirio a defnyddio penderfyniadau y tu allan i'r llys.
- Monitro ymyriadau gwirfoddol a gynigir, cyfraddau cwblhau, rhesymau dros beidio â chwblhau, hyd yr ymyriad, pryd y caiff ymyriadau eu cau a chychwyn adolygiadau awtomatig ar gyfer ymyriadau sy'n cyrraedd 12 wythnos a'r camau nesaf, gan gynnwys strategaethau ymadael ar gyfer y plentyn.
- Pa gyfran o'r plant sydd wedi cael ymyriad ataliol neu sydd wedi ymddwyn mewn ffordd wrthgymdeithasol sydd wedi troseddu ac wedi cael penderfyniad y tu allan i'r llys neu euogfarn.
- A ddylai data ar achosion o Stopio a Chwilio sy'n ymwneud â phlant ac olrhain y rhai hynny a gaiff eu Rhyddhau Dan Ymchwiliad ddod yn rhan o setiau data.
- Gyda phwy y caiff gwybodaeth ei rhannu e.e. byrddau rheoli, paneli craffu ac aelodau o baneli gwneud penderfyniadau ar gyfer penderfyniadau y tu allan i'r llys. O ran yr un olaf, nododd adborth nad oedd y rhai hynny a oedd yn ymwneud yn y ffordd fwyaf uniongyrchol â'r broses gwneud penderfyniadau bob amser yn ymwybodol o gynnydd a chyfraddau cwblhau ac effaith eu penderfyniadau.
Paneli craffu ar gyfer achosion pobl ifanc
Mae pob ardal yr heddlu yn cynnal Panel Craffu (â chadeirydd annibynnol) sy'n cynnwys partneriaid cyfiawnder troseddol gan gynnwys yr heddlu, Gwasanaeth Erlyn y Goron, Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF (y mae gan bob un ohonynt gyfrifoldeb dros ardal yr heddlu) a rheolwr Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid sy'n cynrychioli'r holl Wasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid yn yr ardal heddlu honno. Nod y Panel yw gwella cysondeb, tryloywder a hyder y cyhoedd yn y defnydd o benderfyniadau y tu allan i'r llys a sicrhau bod polisïau lleol a chenedlaethol yn cael eu dilyn. Caiff achosion eu trafod er mwyn sicrhau bod penderfyniadau yn briodol ac yn gyson â pholisïau cenedlaethol a lleol, sicrhau y caiff dioddefwyr eu hystyried yn briodol, deall unrhyw fylchau o ran gwasanaethau, a nodi tueddiadau lleol.
Dylid hysbysu'r gwneuthurwyr penderfyniadau am y canfyddiadau er mwyn helpu i ddatblygu ymarfer da a chyfleoedd dysgu.
Fel arfer, bydd Paneli Craffu yn hapsamplu cyfran o achosion yn erbyn thema benodol. Fodd bynnag, mae'n bosibl mai dim ond nifer bach o achosion pobl ifanc y bydd yn eu trafod ar draws ardal yr heddlu, sef cyfran fach o achosion y Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid o bosibl, gan fwrw amheuon dros y graddau y gall y paneli gyflawni eu nod. Dylid rhoi digon o amser i baneli roi ystyriaeth ddigonol i achosion. Dylai fformat y wybodaeth a faint o wybodaeth a ddarperir gefnogi hyn ac yn ddelfrydol, dylai fod yn gyson ar draws Paneli. Nododd rhai Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid y byddent yn croesawu'r cyfle i drafod mwy o achosion pobl ifanc. Er mwyn i hyn fod yn effeithiol, mae angen digon o amser i'w trafod, sy'n awgrymu y gall fod angen trefnu Panel Craffu ar wahân i drafod achosion pobl ifanc mewn rhai ardaloedd. Argymhellwyd hyn gan Gymdeithas yr Ynadon yn ei hadroddiad ar ddefnyddio penderfyniadau y tu allan i'r llys. Dylid cefnogi paneli drwy ddarparu cylch gorchwyl perthnasol, gan gynnwys nodi cynrychiolwyr o wahanol sefydliadau sy'n arbenigo mewn pobl ifanc. Dylid adolygu'r cylch gorchwyl yn rheolaidd er mwyn sicrhau ei fod yn adlewyrchu materion cyfredol a materion polisi ac ymarfer. Mae'r cyfrifoldeb dros roi adborth i'r gwasanaethau ar y canlyniadau a'r gwersi a ddysgwyd o'r Paneli Craffu yn rhan annatod o fynychu'r paneli, ond mae angen ei wella hefyd gan mai un o'r nodau yw cynnal a datblygu ymarfer da. Opsiwn arall fyddai ystyried a yw Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid yn yr un ardaloedd heddlu yn cynnal eu hadolygiadau eu hunain o ganlyniadau er mwyn edrych ar gysondeb ac ymarfer ar draws yr ardal heddlu y maent yn rhan ohoni.
