Neidio i'r prif gynnwy

Sut i dagio cynnwys a threfnu pynciau ar LLYW.CYMRU.

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Chwefror 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Beth yw diben y tacsonomeg

Mae’r tacsonomeg yn:

  • helpu defnyddwyr a pheiriannau i archwilio pynciau ar LLYW.CYMRU
  • cyfuno a strwythuro cynnwys ar LLYW.CYMRU
  • categoreiddio cynnwys sydd eisoes yn bodoli, yn unig
  • cael ei arddangos drwy dudalennau pynciau a mynegeion (er enghraifft cyhoeddiadau)

Helpu defnyddwyr a pheiriannau i archwilio pynciau ar LLYW.CYMRU

Caiff y tacsonomeg ei ddylunio i helpu defnyddwyr a pheiriannau i ddeall ac archwilio’r meysydd pwnc a gaiff eu cynnwys o fewn LLYW.CYMRU. Mae hefyd yn helpu i ddisgrifio ystyr y cynnwys.

Cyfuno a strwythuro cynnwys ar LLYW.CYMRU

Tacsonomeg yw’r brif ffordd i gategoreiddio cynnwys LLYW.CYMRU yn ôl pwnc. Mae hyn yn golygu ei bod yn haws i reoli a dod o hyd i gynnwys ar LLYW.CYMRU.

Mae’r tacsonomeg ond yn categoreiddio beth sydd eisoes ar LLYW.CYMRU neu beth fydd yn cael ei gyhoeddi cyn hir

Mae’r tacsonomeg ond yn disgrifio parth LLYW.CYMRU, sef yr holl gynnwys ar LLYW.CYMRU. Er enghraifft, dim ond pynciau cludiant sydd eisoes yn bodoli ac sy’n ymwneud â chynnwys LLYW.CYMRU y gellid eu gweld ym maes cludiant y tacsonomeg. Os nad oes cynnwys am geir hunan-yrru ar LLYW.CYMRU, ni fydd ‘ceir hunan-yrru’ yn bwnc yn y tacsonomeg.

Mae hyn yn helpu i wneud y tacsonomeg yn haws i’w reoli ac yn adlewyrchiad fwy cywir o beth sydd ar LLYW.CYMRU

Sut y mae’r tacsonomeg yn ymddangos

Tudalennau pwnc yw’r prif ffordd y mae defnyddwyr yn ymwneud â’r tacsonomeg. Gall defnyddwyr fynd i’r tudalennau pwnc drwy friwsion bara ar dudalennau cynnwys.

Gall defnyddwyr hefyd ddefnyddio pynciau i hidlo mynegeion cynnwys. Er enghraifft, hidlo rhestr hir o gyhoeddiadau yn ôl pwnc.

Dyluniad a strwythur y tacsonomeg

Mae’r tacsonomeg yn seiliedig ar bynciau

Mae’r tacsonomeg yn categoreiddio cynnwys yn ôl pwnc. Meysydd testun yw’r pynciau.

Nid ydynt yn:

  • asiantaethau nac adrannau’r llywodraeth
  • fformatau cynnwys
  • gwasanaethau neu dasgau
  • grwpiau defnyddwyr neu broffesiynau

Mae pynciau’n disgrifio’r cynnwys, nid eu bwriad yw disgrifio pwy sydd wedi cyhoeddi’r cynnwys, nac ar gyfer pwy y mae’r cynnwys.

Mae’r tacsonomeg yn hierarchaidd

Mae’r tacsonomeg yn cynnwys pynciau a’u his-gategorïau a elwir yn isbynciau. Gall isbynciau gynnwys rhagor o isbynciau eu hunain. Mae’r strwythur coeden hierarchaidd yn eu gwneud yn haws pori drwy’r tacsonomeg. Mae modd profi cryfder perthnasau hierarchaidd rhwng pynciau drwy ‘tree tests’ (ar Wikipedia). Os gall defnyddwyr ddod o hyd i bwnc yn hawdd drwy ddechrau ar dop y ‘goeden’ tacsonomeg, yna mae’r cydberthnasoedd hierarchaidd yn gryf.

Rydym yn cyfeirio at bynciau ac isbynciau gyda’i gilydd fel pynciau. Pan fo’n bwysig disgrifio’r hierarchaeth, rydym yn defnyddio pynciau ac isbynciau.

Dylai pwnc neu is-bwnc gael rhwng 2 a 12 is-bwnc (neu ddim un)

Mae modd gorlethu defnyddwyr (neu gyhoeddwyr) wrth ddangos gormod o bynciau neu isbynciau iddyn nhw ar unrhyw lefel o’r tacsonomeg. Yn ddelfrydol, ni ddylid cael mwy na tua 12 o isbynciau ar unrhyw lefel.

Gall pynciau neu isbynciau gyda dim ond un is-bwnc fynd i ormod o fanylder diangen. Yr isafswm o isbynciau y gall pwnc neu is-bwnc eu cael yw 2, neu ddim, os mai’r is-bwnc lefel isaf ydyw.

Enwi pynciau

Mae’n bwysig bod modd gwahaniaethu rhwng enwau pynciau ac isbynciau, fel bod defnyddwyr (cyhoeddwyr neu ddefnyddwyr terfynol) yn gwybod p’un i ddewis.

Dylem osgoi amwysedd rhwng categorïau tebyg mewn gwahanol rannau o’r tacsonomeg. Un ffordd o wneud hyn yw defnyddio cymhwysyddion, er enghraifft oren (ffrwyth) ac oren (lliw). Dylid defnyddio canllawiau arddull LLYW.CYMRU wrth enwi pynciau.

Egwyddorion ar gyfer enwi pynciau

Rhaid i bynciau:

  • fod yn feysydd pwnc (nid tasgau, mathau o gynulleidfa, enwau adrannau, mentrau’r llywodraeth, neu mathau o gynnwys)
  • disgrifio’n gywir y cynnwys a gaiff ei dagio iddo
  • gwneud synnwyr ar eu pennau eu hunain heb gyd-destun
  • cael eglurhad os oes mwy nag un pwnc â’r un enw - ychwanegu testun cymwys mewn cromfachau er enghraifft oren (ffrwyth) ac oren (lliw).
  • cael eu hysgrifennu mewn Saesneg clir, osgoi jargon, termau technegol iawn, atalnodi, symbolau a rhifau lle y bo’n bosibl
  • adlewyrchu iaith defnyddwyr lle y bo’n bosibl, cyfeirio at dermau chwilio yn Google Analytics neu Google Trends
  • peidio â defnyddio acronymau, oni bai bod yr acronym yn fwy adnabyddus na’r term llawn, er enghraifft MOTs
  • defnyddio priflythyren ar ddechrau’r gair cyntaf yn unig (heblaw pan fo’r pwnc yn cynnwys enw swyddogol)
  • peidio â bod yn ymadroddion neu frawddegau

Mae’r tacsonomeg wastad yn esblygu a chaiff cyhoeddwyr eu hannog i roi adborth

Mae’r tacsonomeg yn hyblyg. Gall pynciau gael eu:

  • hychwanegu (os daw maes pwnc newydd i’r amlwg)
  • dileu, os nad oes eu hangen mwyaf
  • ailenwi
  • uno
  • rhannu i isbynciau

Gall cyhoeddwyr awgrymu pynciau newydd, neu newid pynciau sy’n bodoli eisoes. Defnyddiwch yr egwyddorion enwi fel canllaw wrth wneud awgrymiadau.

Tagio i’r tacsonomeg pwnc

Fel arfer, dylai’r cynnwys ymddangos ar dudalen yr is-bwnc. Os nad ydych am i’r cynnwys ymddangos mewn is-bwnc, dylech drafod hyn gyda’r Tîm Digidol Corfforaethol. Dylech ddal i ddewis is-bwnc, fel bod modd dod o hyd i’r cynnwys yn haws, er enghraifft wrth ddefnyddio hidlwyr chwilio.

Tagiwch y cynnwys ar sail beth y mae’n sôn amdano. Mae hyn yn helpu defnyddwyr i ddeall ystyr y cynnwys ar LLYW.CYMRU ac mae defnyddio’r tacsonomeg pwnc yn sicrhau cysondeb.

Tagiwch eich cynnwys i gynifer o isbynciau ag sy’n berthnasol, er enghraifft, mae Gwella ansawdd aer ar ffyrdd yn rhan o Lygredd Aer a Prosiectau gwella ffyrdd presennol.

Ystyriwch y tacsonomeg cyfan wrth dagio cynnwys, nid dim ond y pynciau y byddech fel arfer yn eu cysylltu â’ch sefydliad. Ni ddylai fod angen i ddefnyddwyr ddeall strwythur llywodraeth i allu rhyngweithio â’r llywodraeth.

Edrych ar dudalennau’r isbynciau i wneud yn siŵr bod ganddynt y cynnwys disgwyliedig (ac os nad oes, tagio cynnwys sydd ar goll).

Dylid adolygu isbynciau sydd â gormod neu dim digon o eitemau i weld a oes angen rhannu neu uno isbynciau.

Gwneud cais am bwnc newydd neu i newid pwnc

Os credwch fod angen pwnc newydd ar gyfer eich cynnwys, cysylltwch â’r Tîm Digidol Corfforaethol.

Bydd angen i chi roi gwybod i ni:

  • pam fod angen pwnc newydd ar LLYW.CYMRU
  • am esiamplau o gynnwys i dagio i'r pwnc newydd
  • ble fydd y pwnc newydd yn bodoli yn y strwythur pynciau

Os ydych am wneud newidiadau i bwnc, er enghraifft, ei symud neu ei ailenwi, cysylltwch a ni.

Bydd angen i chi roi gwybod i ni pam eich bod chi am wneud y newid, a sut fydd yn gwella profiad y defnyddwyr.

Newid trefn cynnwys isbynciau

Dylech drefnu’r cynnwys mewn pynciau fel bod:

  • y pethau pwysicaf yn gyntaf
  • pethau cysylltiedig gyda’i gilydd

Er mwyn trefnu’r cynnwys:

  1. Dewiswch Manage.
  2. Dewiswch Structure.
  3. Dewiswch Order sub-topic node listing.
  4. Dewiswch yr is-bwnc yr hoffech eu haildrefnu.
  5. Dewiswch y symbol 4 saeth sydd wrth deitl y cynnwys yr ydych am ei symud a'i dynnu i safle newydd. Os nad ydych yn gallu gweld y symbol 4 saeth dewiswch Hide row weights.

Ychwanegu dolen boblogaidd

Dylai’r dolenni hyn dynnu sylw at y canlynol:

  • tudalennau sy’n diwallu anghenion mwyaf cyffredin y defnyddiwr
  • tudalennau pwysig a fydd yn manteisio o gael lle mwy amlwg

Rhaid rhestru tudalennau a amlygir yn is-bwnc y testun y maent yn cael eu hychwanegu ato.

Nid yw dolenni poblogaidd yn cael eu hychwanegu at isbynciau nad ydynt yn cynnwys isbynciau. Yn yr achos hwn tynnwch sylw at y cynnwys drwy newid y drefn.

Os hoffech ychwanegu neu newid dolen boblogaidd, cysylltwch â’r Tîm Digidol Corfforaethol.