Neidio i'r prif gynnwy

Mae Awdurdod Cynllun Masnachu Allyriadau'r DU (ETS) wedi cyhoeddi ymgynghoriad ar ehangu ETS y DU i gynnwys y sectorau ynni o wastraff a llosgi gwastraff.

Sut i ymateb

Ymgynghoriad yn cau:
18 Gorffennaf 2024
Lansiwyd yr ymgynghoriad ar:

Disgrifiad o'r ymgynghoriad

Mae’n ymdrin â sut y bydd UK ETS yn ehangu i gynnwys allyriadau CO2 ffosil o ynni o wastraff a llosgi gwastraff o 2028 ac mae’n cynnwys cynigion ar:

  • cwmpas, trothwyon cynhwysiant ac eithriadau
  • addasu cap ETS y DU
  • cymryd rhan yn UK ETS (MRV a gofynion rheoliadol)
  • effeithiau'r cynllun a lleihau risgiau andwyol
  • UK ETS a rhwydweithiau gwres

Gwybodaeth ychwanegol

Nid yw'r ymgynghoriad hwn wedi'i gyfyngu i randdeiliaid penodol; mae croeso i unrhyw sefydliad neu unigolyn ymateb.

Mae’r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â chynigion ynghylch UK ETS, sy’n gweithredu ledled Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae hwn yn ymgynghoriad ar y cyd, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban, ac Adran Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig Gogledd Iwerddon.

Mae'r ymgynghoriad hwn yn cael ei gynnal ar GOV.UK